Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Wyth Mlynedd Cyntaf Y Diwygiad

Oddi ar Wicidestun
Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/William Williams, Pantycelyn Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

gan John Morgan Jones

Y Gymdeithasfa

PENOD VIII

WYTH MLYNEDD CYNTAF Y DIWYGIAD.

Cynydd cyflym y diwygiad yn y Deheudir—Y Gogledd, gyda’r eithriad o Sir Drefaldwyn, yn elynol i'r symudiad—Y diwygiad Methodistaidd yn gyffelyb i ddiwygiad yr oes apostolaidd—Yr Ymeilldiwyr ar y cyntaf yn cydweithredu, ond gwedi hynny yn peidio—Y Methodistiaid yn debygol o gael eu hesgymuno o'r Eglwys—Eu safle yn anamddiffynadwy — Ymgais at drefn—Y cynghorwyr cyntaf—Cyfarfodydd o'r arweinwyr ar cynghorwyr yn dechreu cael eu cynnal yn 1740—Yr angenrheidì'wydd am Gymdeithasfa—Rheolau cyntaf y seiadau.

DECHREUODD y diwygiad Methodistaidd yn 1735. Gwael a diolwg iawn oedd yr offerynnau a ddefnyddiwyd i roddi bod iddo; nid amgen cuwrad tlawd, na fu ei gyflog erioed dros ddeg punt y flwyddyn, mewn dyffryn gwledig yn Sir Aberteifi; a dyn ieuanc, na wnelai yr esgob roddi urddau sanctaidd iddo, wrth draed mynyddoedd Brycheiniog. Gellir ychwanegu atynt ddyn ieuanc arall yn nghanolbarth Penfro. Yn niwedd 1742, sef yn mhen llai nag wyth mlynedd wedi y cychwyniad cyntaf, yr oeddynt wedi gosod Cymru oll, o Gaergybi i Gaerdydd, yn wenfflam. Am y Deheudir, prin y mae yn ormod dweyd i'r garw gael ei dori yn ystod y cyfnod byr hwn. Nid oedd braidd unrhyw gymydogaeth, pa mor wledig ac anhygyrch bynnag ei safle, lle na fuasai y Diwygwyr yn pregethu. Gwir mai Howell Harris oedd y mwyaf egnïol gyda hyn. Y mae yn anmhosibl rhoddi syniad cywir am gyflymder ei wibdeithiau; yr oedd ar y cyfrwy, neu ynte yn cyhoeddi efengyl gras i bechaduriaid, o doriad y wawr hyd fachlud haul. Pregethai nid yn unig yn y trefydd, ac yn y man bentrefydd yn y cymoedd unig, ond hefyd tan gysgod coeden, pa le bynag yr ymgasglai pobl, er na fyddai tai yn agos. Ceir traddodiad am dano yn mhob ardal braidd. Flynyddoedd lawer yn ôl cerddai Mr. Daniel Davies, Ton, Rhondda, o Glanbran, ger Llanymddyfri, tua'r Sugar Loaf, sef y mynydd uchel a wahana rhwng Siroedd Caerfyrddin a Frycheiniog. Ar ei daith pasiodd fwthyn Aberwyddon, lle y preswyliai hen wraig o'r enw Kitty Parry, a anesid yn y flwyddyn 1775.

Wrth fod Mr. Davies yn ei holi am hen gofion y gymydogaeth, dangosai iddo goeden yr ochr arall i'r nant, a dywedai: "Fe fu Howell Harris yn pregethu dan y pren yna pan oedd yn ddyn ifanc; " ac nid oes na llan na phentref yn agos. Ceir cofion cyffelyb yn mhob rhan o'r wlad yn mron. Teithiai Rowland, hefyd, a Williams, Pantycelyn, lawer iawn; ac nid oedd Howell Davies heb wneyd teithiau hirion.

Mewn canlyniad, yr oedd cymdeithasau crefyddol wedi cael eu sefydlu dros y wlad, o Lanandras i Dyddewi. Mewn tai anedd yr oeddent eto; ac nid oeddent yn lluosog; ond yr oedd zêl yr aelodau yn fawr. Meddianesid Sir Faesyfed o gwr i gwr. Darllenwn am Howell Harris droiau yn Llanybister, ac ymddengys fod y moliannu a'r gorfoleddu yno agos yn gyffelyb i'r hyn a gymerai le yn Llangeitho. Ysgrifena James Ingram at Howell Harris:

[1]"Y mae yr Arglwydd yn bendithio y brawd William Evans yn rhyfedd. Y mae y tân a gyneuwyd ganddo yn Llanybister o'r un natur a thân Llangeitho, ac yn llawn mor gryf mewn wyth neu ddeg o aelodau y seiad. Bum yno yn ddiweddar, a phrin y clywid fy llais gan eu llefau. Yr oedd rhai dan argyhoeddiad o'u cyflwr colledig yn dweyd eu bod wedi eu damnio; eraill o fawr lawenydd wrth ddarganfod iachawdwriaeth yn Nghrist, a waeddent: ' Gogoniant! gogoniant! gogoniant i Dduw yn oes oesoedd am Iesu Grist.' Parhaodd hyn o gwmpas pedair awr." William Evans, yr hen gynghorwr o Nantmel, yw "y brawd" y cyfeirir ato. Cawn seiadau wedi eu sefydlu yn Nantmel, Llanybister, Llandrindod, Claerwy, Aberedw, Dyserth, Glascwm, Llansantffraid, a lleoedd eraill yn Sir Faesyfed, Yr oedd cymdeithasau, hefyd, yn britho Sir Fynwy o Blaenau Gwent i Gasnewydd, ac o afon Rhymney yn y gorllewin hyd afon Wy yn y dwyrain. Yr ydym yn enwi y ddwy sir hon am iddynt gwedi hyn gael eu colli, agos yn hollol, i Fethodistiaeth. Yr oedd seiadau hefyd, a ystyrid o fewn cylch y Diwygwyr Cymreig, wedi cael eu sefydlu yn yr Amwythig, Llwydlo, Llanllieni, ac yn swyddi Caerloyw, Wilts, a Henffordd. Ychydig ar ôl hyn dywed Thomas Jones,[2] un o'r arolygwyr, fod seiat hefyd, cynwysedig o bymtheg o bersonau wedi cael ei sefydlu yn nhref Henffordd; o ba rai yr oedd amryw wedi eu cyfiawnhau, ac eraill yn ceisio yn hyfryd. Yr oedd yn y dref eraill drachefn yn awyddus am wrando. Am Siroedd Brycheiniog, Morganwg, Caerfyrddin, Aberteifi, a Phenfro, yr oedd seiadau, rhai yn fychain a rhai yn fawrion, wedi cael eu plannu ynddynt o gwr i gwr.

Rhaid addef mai ychydig o afael a gawsai y diwygiad eto ar y Gogledd. Er fod ymweliadau Howell Harris wedi creu gryn gyffro, nid yw yn ymddangos fod nemawr o seiadau wedi cael eu sefydlu yno trwy ei offerynoliaeth. Dywed yn ei ddyddlyfr fod y drws yn Ngwynedd fel pe yn cael ei gadw yn nghau yn ei erbyn. Yr unig eithriad i hyn oedd Sir Drefaldwyn. Yr oedd y sir hon yn agos iddo, ac ymwelai yntau a hi yn fynych, yn enwedig y rhannau hynny o honni a ffiniai ar Frycheiniog a Maesyfed. Cawn fod cymdeithasau wedi cael eu sefydlu yn Llanbrynmair, Llanfair, Llanllugan, Mochdre, Llangurig, a Llandinam. Yr oedd yr achos yn Llandinam yn nodedig o lewyrchus, fel y dengys yr adroddiad a anfonwyd i Gymdeithasfa Trefecca, Mehefin, 1743. "A mae yma," ebai yr arolygwr, "tua deugain o aelodau, a phedwar cynghorwr anghyoedd. Ein hanwyl Arglwydd sydd yma yn Emmanuel. Y mae yn dwyn ei waith yn mlaen yn rhagorol, er gwaethaf llawer o rwystrau." Nid oedd gwahaniaeth rhwng Sir Drefaldwyn a siroedd y Deheudir gyda golwg ar ymdrechion y Diwygwyr, a'r llwyddiant a ddilynai eu llafur. Ond am y gweddill o Wynedd, ychydig o argraff a wnaethid arni. Ar yr un pryd, rhaid i ni gofio fod Lewis Rees yn llafurio gyda graddau o lwyddiant yn Llanbrynmair, a'i fod yn ymweled yn bur fynych a rhannau o Feirionydd. Yr oedd Jenkin Morgan, hefyd, un o ysgolfeistri Griffith Jones, yn cadw ysgol, ac yn pregethu, hyd y goddefid iddo, yn Sir Gaernarfon.

Yn ystod y cyfnod hwn hefyd trechwyd yr yspryd erlidgar i raddau mawr. Ar y dechreu, terfysgid y cyfarfodydd gan y werinos ddifeddwl, y rhai a gyffroid gan yr offeiriaid a'r boneddigion; a deuai y swyddogion gwladol yn mlaen i fygwth dirwy a charchar. Ond diflannodd hyn yn y De agos yn hollol, yn ystod yr wyth mlynedd cyntaf. Nid na chawn esiamplau o erlid gwedi hyn, ond y maent yn anaml, ac yn fwy o gynnyrch damwain nag o ragfwriad. Yr oedd dau reswm am hyn. Un, fod nifer o ddynion dylanwadol yn mhob sir braidd wedi eu henill at y diwygiad, megys Marmaduke Gwynn; Price, yr ustus; yr Yswain Jones, Ffonmon; Howell Griffiths, Tref-feurig, ac eraill Gosodai y rhai hyn eu hofn ar y rhai a hoffent derfysgu, fel na feiddient roddi rhaff i'w teimlad. Yn ychwanegol, yr oedd opiniwn y cyhoedd wedi troi yn gryf o blaid y Diwygwyr. Gwelai y bobl eu bugeiliaid priodol yn ddifater am eu heneidiau, a llawer o honynt yn arwain bucheddau anfoesol cyhoeddus; teimlent fod Harris a Rowland, a'u cyd-lafurwyr, yn ddynion o ddifrif, ac yn awyddus am eu hachub rhag distryw. Ac os oedd y seiadau yn fychain eu rhif, yr oedd cynulleidfaoedd anferth wedi cael eu codi i wrando; byddai clywed fod Rowland neu Harris yn dyfod trwy ryw ranbarth o'r wlad yn ei chyffroi drwyddi, ac ymgasglai miloedd i glywed, fel nad oedd unrhyw adeilad a ddaliai y torfeydd. Efallai mai nifer gymharol fychan fyddai yn cael eu hachub, ond yn bur aml ysgydwid yr holl gynulleidfa, a deffroid eu cydwybodau, nes y byddai eu holl enaid yn cael ei ennill o blaid y gwirionedd. Yn ngwyneb y teimlad hwn anmhosibl oedd cyffroi erledigaeth. Dywedai Whitefield fod cannoedd ar hyd a lled y wlad yn barod i roddi eu bywydau i lawr dros Howell Harris. Nid amheuwn fod yn mysg y rhai hyn lawer o ddynion anfoesol, meddwon mewn tafarndai, y rhai na fedrent ymwrthod a'u blysiau, ond oeddynt ar yr un pryd yn gwbl argyhoeddedig fod y Diwygwyr yn ddynion Duw. Ymddengys y diwygiad Methodistaidd i ni fel yn dwyn cyffelybrwydd nodedig i ddiwygiad yr oes apostolaidd. Yn un peth, drylliai y man reolau oeddent mewn arferiad, gan ddwyn i mewn ddulliau newyddion o weithredu. Gwin newydd oedd Methodistiaeth, ac mor gryf oedd ei ymweithiad fel yr aeth yr hen gostrelau yn gandryll. Bywyd ydoedd, ac fel pob bywyd, mynnodd lunio corff iddo ei hun. Er yr ymlynai y Diwygwyr wrth Eglwys Loegr, ac y teimlent annhueddrwydd mawr i adael ei chymundeb, rhaid addef eu bod yn rhedeg yn ngwddf holl draddodiadau a defodau yr Eglwys. Fel esiamplau o hyn gallwn gyfeirio at y weinidogaeth deithiol, yr hon oedd yn ngwrthwyneb i'r dosparthiad eglwysig o'r wlad yn blwyfydd; at y weinidogaeth leygol, yr hon, trwy genhadu i ddynion diurddau fyned o gwmpas i bregethu, a ymddangosai fel yn diystyru ordeiniad esgobol; at y cynulliadau mewn tai anedd, ac ar y maes agored, y rhai a droseddent y ddefod gyda golwg ar gysegriad; ac at ffurfiad y seiadau, yn y rhai y cynghorai pobl gymharol anwybodus. Ffurfiau newyddion ar fywyd crefyddol oedd y rhai hyn oll; rhoddwyd bod iddynt gan yr ynni a'r brwdfrydedd ysprydol oedd yn y Diwygwyr, a'u hawyddfryd i gyfarfod amgylchiadau y wlad ar y pryd. Ni honnent fod yr hyn a wnelent yn rheolaidd; yn unig dadleuent fod eu gwaith yn angenrheidiol yn ngwyneb cyflwr Cymru. Achub eneidiau oedd eu pwnc 'nawr; wrth wneyd hynny ni ofalent pa reolau o osodiad dynol a sathrent dan draed; ac fel y maent yn cerdded rhagddynt, clywir trwst y traddodiadau, o gwmpas pa rai yr ymgasglasai mwswgl henafiaeth, yn myned yn deilchion dan eu gwadnau. Yn nesaf, tueddai i wneyd defnydd o bob dawn o fewn yr eglwys er cario y gwaith yn mlaen. Y mae am ryw awgrymiadau yn llythyrau Howell Harris ei fod am wneyd defnydd o llafur benywaidd, fel y gwnaed yn Nghyfundeb y Wesleyaid ar ôl hyn; nid i bregethu yr efengyl, ond i arolygu ac i gynghori yn y seiadau. Mewn llythyr at Mrs. James, o'r Fenni, a ddaeth ar ol hyn yn Mrs. Whitefield, ceisia ganddi ysgrifennu at y gwahanol gymdeithasau i'w cyffroi a'u cadarnhau. Dywed: "Cynhyrfwch bawb dros Dduw; gwnewch yn amlwg eich bod yn proffesu ei enw; profwch hwynt hyd adref. Pan yn ysgrifennu gadewch allan o ystyriaeth mai Mrs. J s ydych, a pha beth a fydd syniad y byd am danoch; ond yn hytrach (ystyriwch) beth fydd eich syniad chwi am bethau pan fyddoch yn rhoddi y tabernacl hwn heibio; na ymddangosed unrhyw beth i chwi yn anffasiynol, anmhriodol, neu yn anweddaidd. Sonia St. Paul am wragedd anrhydeddus a'i cynorthwyent yn ei waith. Gall yr Yspryd Glan anadlu ynoch lythyrau i fod yn ddefnyddiol i eneidiau, yr un fath ag y medr fendithio geiriau." Nid oes unrhyw amheuaeth ei fod yma yn cymell Mrs. James i lafur mwy neu lai cyhoeddus. Yr oedd hithau yn ddynes nodedig iawn, a haedda ei choffadwriaeth fwy o sylw nag y mae wedi gael. Dangosai letygarwch diderfyn i'r cynghorwyr o bob gradd; yr oedd yn llawn o fwyneidd-dra doethineb, ac ar yr un pryd yn hollol ddi-ofn. Gwedi priodi Mr. Whitefield, pan yr oeddent ill dau yn croesi y môr i Georgia, bygythiwyd y llong, yn mha un yr hwylient, gan elyn. Gwnaed parotoadau i frwydr, gan sicrhau yr hwylbren a dwyn y magnelau yn mlaen. Addefai Whitefield ei fod ef yn naturiol lwfr, a'i fod yn crynu gan ofn; ond am ei briod, yr oedd hi yn ddiwyd yn gwneuthur ergydion (cartridges), ac yn trefnu ar gyfer yr ymladdfa. Dro arall, ymgasglodd y werinos o gwmpas Whitefield pan y pregethai; lluchid ceryg ato o bob cyfeiriad; pan oedd yn tueddu i roddi fyny ac i ffoi, tynnodd hi wrth ei wisg, gan ddweyd gyda gwroldeb diderfyn: "Yn awr, George, chwareuwch y dyn dros Dduw." Tybiai Howell Harris fod yn y wraig ardderchog yma ddefnydd diacones, a chymhellai hi i'w gyflwyno i wasanaeth Mab Duw. Ceir rhai awgrymiadau i'r un cyfeiriad yn ei lythyrau at "Chwaer o Sir Fynwy," ac at yr "Anwyl Chwaer, Paul" Nis gwyddom beth a rwystrodd defnyddio llafur benywaidd; efallai fod rhai o'r Diwygwyr eraill yn amheus am ei briodoldeb. Ond hyd y medrid yr oedd pob math ar ddawn yn cael ei ddwyn yn gaeth at Grist; zêl a thalent ymadroddi y cymharol anwybodus; callineb a gallu trefniadol yr hwn a fyddai yn safndrwm a thafodrwm fel Moses; nid oedd neb o fewn unrhyw gymdeithas i fod yn segur, nac unrhyw ddawn i gael ei esgeuluso.

Yn ychwanegol, yn ei ddechreuad cyntaf, darfu i'r diwygiad at-dynu iddo ei hun holl grefyddolder a difrifwch y Dywysogaeth. Nid oedd yn adnabod na sect na phlaid. Deuai personau perthynol i wahanol enwadau, a arferent edrych ar eu gilydd gyda rhagfarn ddiderfyn, yn mlaen i gydweithio yn galonnog. Deffroi y wlad, cael eneidiau at y Gwaredwr, a'u hadeiladu yn y gwirionedd, oedd yr amcan mawr; yn ymyl hynny na nid oedd enwadaeth ond dibwys. Ar y naill law, gwelwn nifer o offeiriaid perthynol i'r Eglwys Sefydledig yn cyfranogi yn y deffroad; dy wedir fod o leiaf ddeg o'r cyfryw yn cael eu hadnabod fel Methodistiaid yr adeg hon; ac y mae lle i gasglu fod eraill, er na ddeuent allan yn gyhoeddus, yn dirgelaidd gydymdeimlo. Taflent ymaith eu rhagfarnau eglwysig, ac ymunent yn y gorchwyl o ysgwyd Cymru. O'r ochr arall, cawn yr holl weinidogion Ymneillduol, pa beth bynag fyddai eu golygiadau wahaniaethol, a feddent unrhyw radd o ddifrifwch yspryd, yn croesawu y diwygiad gyda breichiau agored. Y mae tegwch hanesyddol, a chyfiawnder a'u coffadwriaeth, yn hawlio i ni goffau hyn. Derbyniasant- Howell Harris a Daniel Rowland fel anghenion; gwahoddasant hwy i'w cymydogaethau i bregethu, a gwnaethant bob peth o fewn eu gallu i gadarnhau eu dwylaw. Adnabyddasant y diwygiad ar unwaith fel bys Duw, fel anadliad oddiwrth y pedwar gwynt ar yr esgyrn sychion; a mawr fu eu llawenydd oblegyd ei ddyfodiad. Y mae hyn yn wir yn unig am y rhai o olygiadau uniawngred. Gwrthwynebai yr Arminiaid; ond buan y darfu i'r diwygiad ysgubo ymaith Arminiaeth anefengylaidd, fel yr ysguba chwythwm o wynt lonaid dyffryn niwl ac o darth i ffwrdd; ac ni welwyd mo honno mwy yn Nghymru, oddigerth mewn ychydig gonglau, lle yr ymddadblygodd yn ol ei natur yn Ariaeth, ac yn Sosiniaeth.

Cydweithredai y Bedyddwyr yn gystal a'r Annibynwyr; ac os hoffent ddwyn bedydd i amlygrwydd gormodol, yn ol barn a theimlad y Tadau Methodistaidd, hawdd maddeu iddynt, gan eu bod hwythau yn awyddus am wneyd yr hyn a fedrent yn mhlaid yr efengyl. Yr ydym am bwysleisio ar y ffaith, ddarfod i holl weinidogion difrifol Cymru, perthynol i bob enwad a phlaid, yn mron yn ddieithriad, ddyfod allan ar y cyntaf i bleidio y diwygiad. Talodd y nefoedd yn ol iddynt hwythau yn ehelaeth; bedyddiwyd hwy yn ddwys a'r un a'r unrhyw ysprydiaeth; gwnaed hwythau yn gymylau dyfradwy i ddyhidlo y gwlaw graslawn ar y tir sychedig; ac ymledodd y diwygiad y tuallan i derfynau Methodistiaeth. Y mae dylanwad y diwygiad i'w ganfod ar bob enwad crefyddol uniawngred yn Nghymru y dydd hwn.

Ond am amser byr y parhaodd y brawdgarwch a'r cydweithrediad cyffredinol hwn. Nid oedd rhagfarn wedi marw eto, er iddi fod mewn trwmgwsg am dymor. Cawn Edmund Jones, Pont-y-pŵl, y cyntaf i wahodd Howell Harris i Fynwy, ac i'r hwn am beth amser yr ymddiriedai Harris seiadau y rhan honno o'r wlad, yn ngwres ei zêl broselytiol yn ceisio ffurfio eglwysi Annibynol o'r dychweledigion, a hyny heb unrhyw gydymgynghoriad a'r rhai a fuasai yn offerynnau i'w hargyhoeddi. Gwnaeth hyny yn y Brychgoed, ger Defynog, yn Nghastellnedd, mewn lle yn swydd Wills, ac hyd yn nod yn nghymydogaeth Trefecca. Yr ydym wedi cyfeirio yn barod at lythyr Howell Harris ato mewn canlyniad; llythyr boneddigaidd, rhyddfrydig, a chatholig ei yspryd; ond a dramgwyddodd Edmund Jones i'r fath raddau fel ag i beidio cydweithredu mwy. Yn dyner, beia Harris ef am ei fod trwy ei ymddygiad yn gwanhau dwylaw y Diwygwyr, gan beri i'w gelynion edrych arnynt fel rhai awyddus am ffurfio plaid, tra yr oeddynt hwythau wedi datgan o'r cychwyn nad oedd hyny yn amcan ganddynt; am y perai i'w gwrthwynebwyr gredu am danynt eu bod yn rhagrithwyr, yn cyhoeddi eu ymlyniad wrth yr Eglwys, ac ar yr un pryd yn gosod i fynnu sect arall mewn gwrthwynebiad i'r Eglwys, ac felly mewn ystyr yn tynnu dan ei sail; ac am ei fod yn dwyn i mewn gyfnewidiad pwysig, nad oedd un prawf fod yr Arglwydd yn foddlon iddo, gan mai fel yr oeddynt yn faenorol y daethai Duw at y Methodistiaid, gan eu bendithio. Eglura Harris, hefyd, y cyfarwyddiadau a roddir ganddo i'r holl ddychweledigion gyda golwg ar wrando y Gair, sef, ar iddynt fyned (i) lle y pregethir yr efengyl fwyaf pur; (2) lle y cyffyrddir ddwysaf a'u calonnau; (3) lle y mae yr Arglwydd yn gweithio gryfaf ar eu heneidiau; (4) lle y maent yn cael eu cymell yn mlaen, eu harwain, eu porthi, eu cadw rhag cysgadrwydd, a'u hanog i gynyddu ar ddelw Crist fwyaf. Gyda golwg ar y cymun, cynghora bawb i aros lle yr oeddynt, bydded eglwys neu gapel, er mwyn heddwch. Ni syrthiai Edmund Jones i mewn a golygiadau Howell Harris; cawn y Diwygiwr yn achwyn arno oblegyd ei zêl enwadol mewn amryw o'i lythyrau, a darfyddodd pob cydweithrediad rhyngddynt. Nid oedd Edmund Jones yn bresennol yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford. Yn gyffelyb y gweithredai David Williams, Pwllypant. Er mai efe a wahoddasai Harris gyntaf i Forganwg, ac iddo ddiolch i'r nefoedd am yr effeithiau rhyfedd a gynhyrchwyd trwy ei weinidogaeth, yr oedd yntau erbyn hyn wedi cloffi, ac yn Nghymdeithasfa Watford y mae yn amlwg trwy ei absenoldeb. Yr oedd rheswm arall am gloffni David Williams. Dechreuasai ollwng ei afael ar yr athrawiaethau efengylaidd; yn raddol, collodd gydymdeimlad yr adran oreu o'i enwad ei hyn, a chyn ei farw, yr oedd wedi cofleidio Pelagiaeth os nad Ariaeth. Ymddengys fod teimlad diflas at Howell Harris wedi ei enyn yn y rhan fwyaf o'r gweinidogion Ymneillduol y pryd hwn. Meddai, gyda golwg arnynt: "Ar y cyntaf hoffent fi yn fawr, gan fy mod yn annog y bobl i fyned i unrhyw fan i wrando, lle yr oedd Crist yn cael ei bregethu, a lle y derbynient fwyaf o fudd. A phan y cawsant fod eu capelau yn cael eu gorlenwi trwy hyn, yr oeddwn am beth amser yn fawr fy mharch gan bob plaid, ac nid oeddwn heb gefnogaeth i ymuno a hwy." Ond yn fuan cododd rhagfarn ei phen. Taranai Harris yn erhyn oerni, deddfoldeb, a diffyg dysgyblaeth yr Ymneillduwyr, lawn mor groch ag y gwnaethai yn flaenorol yn erhyn anfoesoldeb a difaterwch Eglwys Loegr. Ac yr oedd ei ymlyniad wrth yr Eglwys yn faen tramgwydd. Cyfeiriai yr Ymneillduwyr at fywyd penrydd yr offeiriaid a'r bobl yn yr Eglwys, ac at wrthwynebiad pendant y rhai oeddynt mewn awdurdod i'r diwygiad; dadleuent nad iawn annog y dychweledigion i gymuno gyda'r cyfryw; nas gallai fod yn wir eglwys pan y goddefid y fath bethau o'i mewn; fod aros ynddi fel ceisio y byw yn mysg y meirw, ac mai dyledswydd y Methodistiaid oedd ei gadael. A phan na welai Harris a'i frodyr eu ffordd yn rhydd i gydsynio, aed i edrych arnynt yn gilwgus, ac i wrthod cydweithio.

Yn wir, trodd yr Ymneillduwyr mewn rhai lleoedd yn erlidwyr, mor bell ag yr oedd eu gallu yn cyrhaedd. Mewn llythyr o eiddo William Richards,[3] cynghorwr yn Sir Aberteifi, at Howell Harris, dyddiedig Medi 12, 1742, ceir a ganlyn: "Y mae y cymdeithasau yn Blaenporth a Phenbryn wedi ymuno ag eiddo Howell Davies yn Llechryd, gyda'r eithriad o un aelod, yr hwn sydd wedi uno a'r Bedyddwyr, ac nid yw yn dod yn agos atom. Y mae y diafol wedi cyffroi y Dissenters yn ein herbyn, fel y cyffroa y gwynt y coed. Y maent yn gwyrdroi ein geiriau a'n hymddygiadau, gan dynnu y casgliadau mwyaf dychrynllyd oddiwrthynt. Y mae ein hanwyl chwaer, Betti Thomas, yn cael ei blino yn fawr ganddynt; bygythiant ei hesgymuno, os nad ydynt wedi gwneyd hyny yn barod, am ei bod yn derbyn y Methodistiaid i'w thŷ. Y mae yn dyfod i'n seiat breifat; ac nis gwyddant beth i'w wneyd o honni (y seiat). Dywedant mai drws agored i Babyddiaeth ydyw, a llawer o bethau eraill poenus a chableddus." Prawf y llythyr hwn fod yr Ymneillduwyr mewn rhai mannau wedi ymuno a'r digrefydd a'r erlidgar i gamddarlunio y seiat brofiad, trwy awgrymu weithiau eu bod yn dwyn cyffelybrwydd i gyffesu pechodau yn yr Eglwys Babaidd; ac weithiau, fel yr awgryma y gair "cableddus," trwy honni fod gweithredoedd pechadurus ac aflan yn cael eu cyflawni ynddi, ac mai dyna y rheswm paham ei dygid yn mlaen yn breifat. Addefa y Parch. Thomas Rees, D.D., [4]ddarfod i bob cydweithrediad o eiddo yr Ymneillduwyr a'r diwygiad Methodistaidd ddarfod gwedi y flwyddyn 1741, ac o hyny allan mai yr unig weinidogion a ymgyfathrachent a Howell Harris oeddynt y Parch. Henry Davies, Bryngwrach, a'r Parch. Benjamin Thomas, a darfod i'r diweddaf droi yn Fethodist proffesedig.

O'r ochr arall, gwnâi yr awdurdodau Eglwysig eu goreu i darfu y Diwygwyr. Dan gochl esgusodion gau, nacaodd yr esgob ordeinio Harris ei hun, a gwrthododd lawn urddau i Williams, Pantycelyn. Dywed Howell Harris hefyd ddarfod i amryw o ddynion ieuainc talentog, yn meddu cymhwysderau diamheuol ar gyfer y weinidogaeth, ond oeddynt wedi bwrw eu coelbren yn mysg y Methodistiaid, apelio am ordeiniad esgobol, a chael eu gwrthod heb gymaint ag arholiad. Parodd hyn i eraill o gyffelyb nodwedd ddigalonni, a pheidio myned i mewn am ordeiniad, gan y credent mai ofer fyddai eu cais. Cyfododd cri yn mysg y Methodistiaid eu hunain mewn canlyniad am adael yr Eglwys. A phan na chydsyniai yr arweinwyr, ymadawodd amryw o'r cynghorwyr, gan gymeryd eu hurddo yn ol trefn yr Ymneillduwyr, a dilynwyd hwy gan rai canoedd o bobl. Rhydd Howell Harris y rhesymau canlynol dros ei ymddygiad: Nad oedd y prophwydi gynt yn annog y duwiolion i gefnu ar yr eglwys Iddewig, er ei bod wedi ymlygru yn ddirfawr; fod Iesu Grist ei hun yn addoli yn y deml ac yn y synagog fel aelod o gynulleidfa Israel, er fod yr offeiriaid yn anfoesol ac yn rhagrithiol; na throdd yr apostolion, gwedi adgyfodiad yr Iesu, eu cefnau ar y synagog hyd nes iddynt gael eu gyrru allan; nad oedd rhinwedd y sacramentau yn dibynnu o gwbl ar dduwioldeb neu annuwioldeb yr hwn a'u gweinyddai, ond ar ffydd y derbynnydd; mai eu dyledswydd hwy oedd, nid cefnu ar yr hyn oedd yn ddiffygiol, ond ei ddiwygio, a dyfod yn eu perthynas ag ef yn halen y ddaear; fod llawer o greaduriaid truain yn derbyn lles trwyddynt, oedd mor llawn o ragfarn o blaid yr Eglwys, fel na wrandawent ar neb perthynol i gyfundeb arall; mai fel yr oeddynt y bendithiasai yr Arglwydd hwy, ac mai eu dyledswydd hwythau oedd peidio gwneyd unrhyw gyfnewidiad o bwys, hyd nes y caent brawf diamheuol o arweiniad dwyfol. Credwn mai y diweddaf oedd y prif reswm. Protestia Harris drosodd a throsodd nad dallbleidiaeth oedd yn ei gadw i mewn. Yr ydym yn ei gael yn ddiweddar yn cyfeirio droiau at "yr Eglwys dywyll hon." ofni symud heb fod y golofn yn myned o'u blaenau oedd ar y Diwygwyr. Y mae yn sicr fod y posibilrwydd o gael ei yrru allan gan amgylchiadau wedi tori yn gryf ar feddwl Harris y pryd hwn. Pan y datgana ei benderfyniad, yn ystod ei daith yn Sir Benfro, i beidio gadael Eglwys Loegr, nid yw ofid mynegu ei deimlad yn ngwyneb amgylchiadau oedd fel yn ei drechu yn hollol. Anfonasai Whitefield lythyr at y Diwygwyr, diwedd y flwyddyn 1741, yn mha un y mynegai fod ymwahaniad oddiwrth yr Eglwys yn rhwym o gymeryd lle. Y mae y llythyr mor nodedig, yn neillduol gan ei fod yn dyfod oddiwrth glerigwr, fel yr hoffem ei ddifynu oll. Meddai Mr. Whitefield: "Medd gwahanol bersonau wahanol ddoniau. Y mae rhai wedi eu galw i ddeffroi, eraill i sefydlu ac i adeiladu. Medd rhai ddawn poblogaidd, cymwys ar gyfer cynulleidfaoedd mawrion; symuda eraill mewn cylchoedd cyfyngach, a gallant fod yn dra defnyddiol yn y seiadau preifat. Yr wyf yn credu am y rhai a alwyd i fod yn gyhoeddus, y dylent ymroddi yn gyfangwbl i'r gwaith, gan fyned allan heb bwrs nac ysgrepan. Gwna y Meistr ddwyn y draul. Am eraill, y rhai na allant ond ymweled yn anghyoedd, dylent barhau i ddilyn eu galwedigaethau. Y mae rhai o honnoch yn weinidogion perthynol i Eglwys Loegr; ond os ydych yn ffyddlon, nid wyf yn meddwl y gellwch barhau ynddi yn hir. Modd bynnag, peidiwch myned allan hyd nes y bwrir chwi allan; ac yna, pan wedi eich bwrw allan er mwyn Iesu, peidiwch ofni pregethu yn y caeau."Yna, wedi cyfeirio at amryw drefniadau, dywed: "Gellir gwneyd hyn oll heb ymadawiad ffurfiol oddiwrth Eglwys Loegr, yr hyn, yr wyf yn gredu, nad yw Duw yn galw am dano yn bresennol." Dyna yn hollol deimlad y Diwygwyr Cymreig gyda golwg ar yr Eglwys; tybient mai ymadawiad oedd o'u blaenau; ond dewisent gael eu hesgymuno o honni, yn hytrach na myned allan eu hunain; byddent felly yn sicr mai ewyllys Duw oedd iddynt ymffurfio yn blaid, oblegyd ni chafodd y syniad am roddi y gwaith i fyny le yn eu meddyliau, naddo am awr.

Y pryd presennol, yr oedd gwaith y clerigwyr yn Sir Benfro, yn nghyd a chlerigwyr Brycheiniog, yn cael eu harwain gan Ficer Talgarth, yn gwrthod y sacrament i'r rhai oeddynt yn aelodau gyda'r Methodistiaid, yn dwyn pethau i argyfwng difrifol. Ni ddylid beio gormod ar Mr. Price Davies. Gweithredai ef a'i frodyr yn hollol onest, yn ôl y goleuni oedd ganddynt. Rhaid addef fod agwedd y Methodistiaid ar y pryd yn un hollol eithriadol ac anghyson. Meddai y Parch. David Lloyd, offeiriad yn Sir Frycheiniog, yn y ddadleuaeth alluog a gariodd yn mlaen a Howell Harris: "Yr ydych yn achwyn fod y sacrament yn cael ei wrthod i rai personau. Yr wyf yn gobeithio nad oes yr un clerigwr yn ei wrthod i'w blwyfolion heb resymau digonol. Yr wyf yn gobeithio hefyd na fynnech i unrhyw offeiriad gamarfer y peth sanctaidd, trwy ei roddi i rai nad ydynt yn perthyn i'w gynulleidfa, y rhai a ymwahanant oddiwrtho dan glogyn awydd am burdeb mwy; nac i'r rhai sydd yn condemnio ein haddoliad a'n hathrawiaeth. A fedrwch chwi gyfrif y rhai na ddeuant i'n cynulleidfaoedd yn eu heglwysydd plwyfol ond ar ddyddiau y sacrament, ac a safant allan y pryd hwnnw hyd nes y byddo gwasanaeth y cymyn wedi dechreu, fel yn perthyn i'n cymundeb ni, ac a ant yn hwyr y dydd drachefn i dai cyrddau, ac nas gwyddom pa leoedd? Ai nid oes dim yn cael ei wneyd yn iawn yn ein heglwys? Ai gweinyddiad y sacrament yw yr oll o'n haddoliad? A ydych yn tybio fod dyfod i'r eglwys, a derbyn y sacrament, unwaith y mis, yn ddigon i beri i ddyn gael ei ddynodi yn aelod o Eglwys Loegr? Y mae genych syniadau chwithig. Ai nid gwneyd y sacrament yn glogyn i ragrith a sism yw peth fel hyn? Ai nid camddefnydd o gorph a gwaed Crist ydyw? Ai nid twyllo pobl ydyw cymeryd arnoch eich bod yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig, tra ar yr un pryd yr ydych yn ymdrechu ei dinystrio wreiddyn a changen, gan ddal yr athrawiaethau mwyaf penboeth, ie, athrawiaethau cythreuliaid, oddiwrth ba rai yr wyf yn gweddïo Duw ar iddo waredu pawb dynion?" Yr oedd David Lloyd a Howell Harris yn ddadleuwyr glewion, bob un o ddifrif, a'r naill yn deilwng o ddur y llall. Ar rai pwyntiau, yn arbennig hawl dyn heb ei ordeinio i fyned o gwmpas, dan amgylchiadau neillduol, i gynghori pechaduriaid i ffoi rhag y llid a fydd, Harris yn ddiau oedd y buddugwr; ond gyda golwg ar anghysondeb y Methodistiaid yn disgwyl cael y sacramentau yn yr eglwysydd plwyfol, heb dywyllu eu drysau ar unrhyw adeg arall, gan y Parch, David Lloyd yr oedd pen praffaf y ffon. Y gwir yw, nas gellid, gydag unrhyw degwch, alw corph y Methodistiaid, hyd yn nod mor foreu a hyn, yn Eglwyswyr; glynai yr arweinwyr wrthi, gan benderfynu peidio ei gadael heb arweiniad pendant; ond am y cyffredin bobl, ni feddent unrhyw barch iddi. Ni aent y tu fewn i'w muriau ond ar Sul cymundeb; y pryd hwnnw nid aent i'r gwasanaeth cyffredin, nac i'r bregeth, os byddai yno rywbeth o'r fath; gwyddent na fedrai yr offeiriad bregethu efengyl Crist, ac mai baldorddi y ffregod fwyaf ynfyd a wnelai, neu ynte felldithio y bobl a elent o gwmpas i gynghori heb awdurdod oddiwrth yr esgob; felly safent allan o gwmpas y drysau hyd nes y dechreuai gwasanaeth y cymun, ac yna aent at yr allor i gyfranogi o'r elfennau. Rhaid addef fod eu hymddygiad yn anghyson; braidd nad oedd yn anweddaidd; ac ar un olwg nid yw yn rhyfedd fod llawer o'r offeiriaid wedi dod i'r penderfyniad i wrthod y sacrament iddynt. Canlyniad yr anghysondeb hwn oedd fod y Methodistiaid yn anghymeradwy gan Eglwyswyr ac Ymneillduwyr. Meddai Howell Harris: "Y mae pob plaid fel yn ymuno i'n gwrthwynebu." Nid ydym yn sicr na chamgymerodd Rowland a Harris arwyddion yr amserau, ac nad oeddynt yn crefu am arwydd mwy pendant nag yr oedd ganddynt hawl i'w ddisgwyl; dywed y Parch. T. Rees, D.D., pe y buasent yn gadael yr Eglwys Wladol yr adeg hon, y buasai Cymru yn mron oll yn Fethodistaidd. Yr un pryd, y mae yn bosibl fod rhwystrau yn amlwg iddynt hwy, nas gallwn ni sydd yn barnu eu hymddygiad, gant a hanner o flynyddoedd gwedi, gael unrhyw syniad am danynt.

Yn ystod y cyfnod o 1735 hyd ddiwedd 1742, yr oedd cryn lawer wedi cael ei wneyd tuag at gynhyrchu trefn. Y mae yn ddiau y bodolai cydweithrediad rhwng Rowland a Harris er pan ddarfu iddynt gyfarfod gyntaf yn Eglwys Defynog, haf 1737; dallent afael ar bob cyfleustra i gydymgynghori, ac i gydgynllunio gyda golwg ar ddwyn y gwaith mawr yn mlaen; ymholent a'r Diwygwyr Seisnig, perthynol i bob plaid, fel yr oedd y trefniadau a wnelent i raddau mawr yn gynnyrch barn aeddfed. Yn raddol, daeth yr ymgynghoriadau hyn, a gymerent le yn achlysurol pan y byddai rhyw achosion pwysig yn galw, i gael eu trefnu yn mlaen llaw, nes dyfod yn gyfarfodydd rheolaidd. Ar y wynebddalen a flaenora y Trevecca Minutes ceir y nodiad a ganlyn yn llawysgrif Howell Harris ei hun: "Cyfarfyddai y brodyr yn Nghymru am ragor na dwy flynedd cyn dyddiad y Llyfr hwn (sef Ionawr, 1743), unwaith y mis, ac unwaith bob dau fis yn 1740, gan arholi llawer o'r cynghorwyr, a chwilio i geisio lle pob un. Ond ni ddeuwyd i unrhyw drefniant sefydlog (settled agreement) hyd ddyddiad y Llyfr hwn, pan yr anfonwyd am Mr. Whitefield. Ac ymddangosai mai ewyllys Duw, fel ei hamlygid yn ngoleuni unol yr holl frodyr, wedi dysgwyl yn ddyfal wrth yr Arglwydd, a dadleu yr holl fater, oedd: Mai arolygwyr a chynghorwyr anghyoedd oedd y drefn i fod yn mysg y brodyr diurddau; fod y brawd Harris i'w harolygu oll, a'r gweinidogion ordeiniedig i fyned o gwmpas gymaint ag a fyddo posib i; fod yr arolygwyr i gael adran o wlad (district), a'r cynghorwyr anghyoedd i arolygu cymdeithas neu ddwy, gan ddilyn eu goruchwylion arferol, tra yr oedd rhyw ychydig, ag yr oedd eu doniau a'r fendith a brofid trwyddynt yn ymddangos yn eu cymhwyso at hynny, i fod yn gynorthwywyr i'r arolygwyr, mewn modd mwy cyffredinol." Y mae y nodiad hwn o'r pwys mwyaf. Dengys ddarfod i ymgynghoriadau y Diwygwyr ddechreu cymeryd ffurf reolaidd yn y flwyddyn 1740; mai tuag unwaith bob dau fis y cyfarfyddent yn ystod y flwyddyn honno; iddynt ddyfod yn ymgynghoriadau misol yn 1741, a pharhau felly dros y flwyddyn ddilynol; ac mai prif fater yr ymdrafodaeth oedd profi cymhwysderau y cynghorwyr. Mewn cydgordiad hollol a hyn, ceir llythyr o eiddo Mr, Whitefield, a gyhoeddwyd yn yr Evangelical Magazine am 1826, wedi ei gyfeirio at gadeirydd un o'r cynulliadau yma, a'i ddyddio, Bristol, 28, 1741. Yn y llythyr, o ba un yr ydym wedi difynu yn barod, dywed fod y materion oedd i ddyfod tan sylw o'r pwysigrwydd mwyaf, a'i fod yn gofidio na fedrai fod yn bresenol gyda hwynt. Yna mynega ei farn yn rhydd ar amryw o'r pethau oeddynt i fod yn destynau ymdriniaeth. Y mae lawn mor amlwg oddiwrth y nodiad mai cymharol ddiawdurdod yr ystyrid y cyfarfodydd hyn; yr hyn a wneyd ynddynt oedd trefnu a chynghori; nid oeddynt yn pasio penderfyniadau sefydlog, gan hawlio awdurdod i'w gosod mewn grym, ac i orchymyn i'r brodyr eu cario allan. Yr oedd sefydliad y Gymdeithasfa, ddechreu y flwyddyn 1743, yn symudiad hollol newydd, ac er mwyn rhoddi arbenigrwydd ar y cam pwysig a gymerid, yn gystal ag er mwyn cael cymorth gŵr o ddoniau mor ddysglaer, yr hwn oedd yn cydweled a hwy lygad yn llygad ar bob pwnc o athrawiaeth, y gwahoddwyd Whitefield i fod yn bresenol ac i gymeryd y gadair ar yr amgylchiad. Cadarnheir hyn gan dystiolaeth Howell Harris, mewn crynodeb o hanes ei fywyd sydd ar gael yn awr yn Nhrefecca. Fel hyn yr ysgrifenna: " Yr haf hwn (1740), gan fod llawer yn sefyll i fyny i lefaru, mewn gwahanol leoedd yn Nghymru, tybiodd rhai o'r gweinidogion mai gwell fyddai gwneyd rhyw ymgais i drefnu pethau, er rhwystro anhrefn, ac fel na fyddai i bersonau anghyfaddas gymeryd y gwaith mewn llaw. Yna anogwyd pawb a lefarent yn y modd hwn i gyfarfod, i siarad am eu profiad parthed gwaith gras ar eu calonnau, fel y gallent adnabod y naill y llall, er cael undeb a chymundeb fel brodyr yn mlaenaf oll. Yna i amlygu eu cymhellion, beth a barodd iddynt ymgymeryd a'r gwaith, a pha resymau a allai pob un roddi fel profion ei fod wedi cael ei alw iddo, ac yna i gyflwyno y cwbl i farn yr oll. Eto ni feddyliem ein bod wedi cael ein galw i ffurfio ein hunain yn enwad ar wahân; ni chymerasom arnom ychwaith i arholi neb gydag awdurdod i roddi i'r cyfryw genhadaeth; yn unig tybiem ein bod yn cael ein gorfodi i fyned mor bell a hynyna, os oeddym am ymffurfio yn gymdeithas, yr hon na fedr fodoli heb ryw fath o reolau." Teifl y difyniad hwn ffrwd o oleuni ar natur y cyfarfodydd trefniadol blaenorol i sefydliad y Gymdeithasfa. Gwelwn (i) Fod pawb a fyddent yn myned o gwmpas i gynghori yn cael eu gwahodd iddynt; (2) Mai gwrando profiad personol y cynghorwyr, ynghyd a'u cymhellion i'r gwaith cyhoeddus, oedd eu prif orchwyl; (3) Nad oeddynt yn honni unrhyw awdurdod ar y cynghorwyr, trwy ar y naill law roddi hawl iddynt i fyned o gwmpas, nac ar y llaw arall, eu hatal; yr oll a wnelent oedd datgan barn, a rhoddi cyngor, gan adael rhyngddynt hwy a gweithredu yn ol y cyfryw. Ond erbyn 1742 gwelai y Diwygwyr, os oedd yr annheilwng i gael ei rwystro i ymgymeryd a gwaith na feddai gymhwysder ar ei gyfer, ac felly i gael ei gadw rhag dwyn yr efengyl a'r diwygiad i anfri, fod yn rhaid iddynt yn eu cyfarfodydd trefniadol gymeryd mwy o awdurdod i'w dwylaw. Dyma un o'r prif resymau dros fyned yn y blaen i sefydlu y Gymdeithasfa.

Yr oedd y cynghorwyr, at ba rai yr ydys wedi cyfeirio yn barod, yn perthyn i Fethodistiaeth o'r cychwyn. Daethant i fod, nid trwy unrhyw benderfyniad dynol, ond trwy alwad o'r nefoedd. Nid gormod dweyd fod y swydd, os priodol galw swydd arni, yn greadigaeth uniongyrchol yr Yspryd. Un rheswm paham yr ymledodd y diwygiad mor gyflym, ac y darfu iddo gymeryd ffurf barhaol, oedd cyfodiad dynion diurddau i gynghori eu cydfforddolion yn ngwahanol rannau y wlad. Oni bai am danynt hwy cawsai y seiadau bychain drengu o ddiffyg ymgeledd. Cymylau mawrion, cyfoethog o wlaw, oedd Daniel Rowland, Howell Harris, a'r prif Ddiwygwyr; pa le bynag yr aent pistyllent eu cynnwys ar y sychdir diffrwyth, fel pe byddai ystorm o wlaw taranau wedi ymdorri ar y fangre; ond wedi gwlychu y tir am y tro, aent hwy yn eu blaenau i dywallt y cyffelyb wlaw bras ar ranau eraill y wlad; a buasai y gwahanol leoedd wedi gwywo gan sychder, yn absenoldeb y cymylau mawrion, oni buasai i'r Arglwydd godi y cynghorwyr, y rhai a fuont dan fendith Duw fel gwlith dyfrhaol i'r eglwysi. Dechreuasant yn hynod syml. Yn y cymdeithasau, oblegyd cymhwysder naturiol a phrofiad dyfnach o waith gras yn eu calonnau, gelwid arnynt i ddarllen a gweddïo yn gyhoeddus, ac i roddi gair o gyngor oddiwrth yr hyn a ddarllenid. Yn raddol darfu i rai o honynt ddadblygu dawn arbenig at hyn; aeth y gair o gyngor yn rhywbeth cyffelyb i bregeth; aeth y son am danynt i'r gymdeithas fechan nesaf, a galwyd hwy i egluro Gair Duw ac i roddi gair o gyngor yno, nes yn ddiarwybod iddynt eu hunain y deuwyd i edrych arnynt fel rhai yn ffurfio math o swyddogaeth ar wahân. Nid oeddynt yn cefnu ar eu galwedigaethau; ni dderbynient ond ychydig dal am eu llafur; dyoddefent lawer o wawd a chamdriniaeth oddiar ddwylaw y drygionus a'r ffug-grefyddol; ond arhosodd eu bwa yn gryf er pob peth trwy rymus ddwylaw Duw Jacob. Amrywient yn ddirfawr parthed safle gymdeithasol, eangder gwybodaeth, dawn ymadrodd, a phrofiad ysprydol. Ceid yn eu mysg rai o safle barchus, wedi cael dygiad i fynnu, ac addysg dda, yn cael eu hystyried fel yn perthyn i fonedd y tir, ond a ddewisent ddirmyg Crist gyda y Methodistiaid yn hytrach na rhodres a pharch bydol. Perthynai eraill o honynt i ysgolfeistri Griffith Jones. Rhaid y meddent, fel cymhwysder i swydd ysgolfeistr, raddau helaeth o gydnabyddiaeth a'r Ysgrythyr; arferent yn feunyddiol gyfarch eu hysgoleigion, a'u harholi yn y catecism; felly, cam byr iddynt oedd myned i ddweyd ychydig yn gyhoeddus wrth eu cyd-ddynion. Cawn amryw o'r prif gynghorwyr yn perthyn i'r dosparth hwn. Ond yr oedd llawer o'r cynghorwyr yn dlawd eu hamgylchiadau, ac nid yn unig yn annysgedig, ond yn gymharol anwybodus yn athrawiaethau crefydd. Eithr cawsent olwg ar Grist croeshoeliedig fel Ceidwad holl ddigonol; tywynasai ei ogoniant ar eu heneidiau gyda thanbeidrwydd gorchfygol; llanwesid eu calonau a chariad diderfyn ato; ac er na wyddent ryw lawer yn ei gylch, teimlent reidrwydd i fynegu yr ychydig hyny i bawb o'u cwmpas. Fel Ahimaas gynt, yr oeddynt yn llawn awydd am redeg dros y Brenin; ac os nad oedd ganddynt genadwri gryno ar y cychwyn, cawsant hi cyn rhedeg nemawr. Ychychg a wyddai y wraig o Samaria am yr Iesu; ond gwedi i'w eiriau gyffwrdd a'i chalon, gadawodd yr ystên ar lan y ffynnon er mynegu i'w chyd-ddinasyddion am y Person rhyfedd a gyfarfyddasai. Yn gyffelyb am y cynghorwyr Methodistaidd, ymroddasant fel yr oeddynt i'r gwaith, a seliodd Duw eu llafur a bendith. Arferiad y byd yw gwawdio llafur personau diurddau, a chyfeirio gyda dirmyg at eu galwedigaethau bydol. Meddai Dr. South am y Puritaniaid: "Gallant yn llythyrenol daro yr hoel ar ei chlopa. Medrant osod pwlpud wrth ei gilydd cyn pregethu ynddo." Yn ngolwg Dr. South, yr oedd medr saernïol yn anghymwysder hanfodol i'r weinidogaeth. Fel y sylwa awdwr Methodistiaeth Cymru: "Hen ddull o watwar pregethwr da gynt oedd gofyn, 'Onid hwn yw y saer?' Ond yn nghyfrif Duw yr oedd i'r Saer hwnnw barch mawr; fe dderbyniodd gan Dduw Dad barch a gogoniant." Nid amheuwn fod cyfarchiadau rhai o'r cynghorwyr Methodistaidd yn dra anhrefnus; efallai fod eu hiaith yn sathredig, eu cymariaethau yn gartrefol os nad yn arw, eu hystumiau yn annaturiol, a'u traddodiad yn gwbl amddifad o ddlysni araethyddol. Ond yr oeddynt yn llawn o zêl; profasent argyhoeddiad dwfn eu hunain, a chyfranogasent yn helaeth o felusder yr efengyl mewn canlyniad. Gwyddent beth oedd cael eu clwyfo a'u meddyginiaethu; os na feddent gymhwysder dysg, meddent gymhwysder profiad; a bendithiodd Duw eu gwaith. Nid annhebyg mai fel hyn yr oeddynt fwyaf cymwys. Gallent fyw ar ymborth gwael wrth deithio; medrent ddyoddef gerwinder tywydd heb fod eu cyfansoddiadau yn cael eu hamharu; a chan mai A dynion anniwylliedig y byddent yn ymwneyd gan mwyaf, yr oedd eu diffygion yn troi yn fanteision iddynt, ac yn eu galluogi i fyned yn fwy agos at y bobl. A chododd Duw o'r dosbarth hwn bregethwyr ddarfu ysgwyd Cymru; rhai ag yr oedd arucheledd eu doniau, a nerth eu hareithyddiaeth yn ysgubo y cwbl o'u blaen, ac y mae eu henwau yn eiriau teuluaidd yn Nghymru hyd y dydd hwn. Dywedir fod tua deugain o gynghorwyr yn bodoli rhwng pob rhan o'r wlad adeg y Gymdeithasfa gyntaf. Ar yr un pryd, rhuthrai rhai i'r gwaith o gynghori heb unrhyw gymhwysder ar ei gyfer. Disgynasai ar y cyfryw awydd am hynodrwydd a sylw, fel ar Simon Magus gynt, ac aent o gwmpas gwlad o'r naill gymdeithas i'r llall, gan wneyd mwy o niwed nac o les, nes peryglu cymeriad y diwygiad. Un o brif amcanion y Gymdeithasfa oedd dwyn y cynghorwyr i drefn, drwy gefnogi y cymhwys, ac atal yr anghymwys. Yr oedd amcan arall, llawn mor bwysig, i'r Gymdeithasfa, sef dwyn y seiadau i ffurf. Yn flaenorol, yr oedd y cymdeithasau hyn yn hollol annibynol ar eu gilydd; ni feddent unrhyw rwymyn allanol o undeb; yr unig gysylltiad rhyngddynt oedd eu bod oll yn cyfranogi i raddau mwy neu lai o yspryd y diwygiad, a'u bod yn meddu parch diderfyn i Rowland, a Harris, a Howell Davies, y rhai a ystyrid ganddynt fel eu tadau yn Nghrist. Sail bersonol oedd i'r ufudd-dod a roddent i gyfarwyddiadau eu harweinwyr. Pe buasai rhyw gymdeithas yn myned ar gyfeiliorn mewn athrawiaeth, neu yn goddef o'i mewn y rhai drwg, nid oedd unrhyw allu i'w galw i gyfrif, ac i adfer pethau, ond dylanwad personol un o'r Diwygwyr blaenaf. Gwelwyd angenrhaid yn fuan am uno yr eglwysi yn un cyfansoddiad cryf, er mwyn i ddylanwad y diwygiad gael ei barhau, ac er mwyn ei gadw rhag rhedeg yn wyllt. Tua dechreu y flwyddyn 1742, tynasid allan gyfres o reolau ar gyfer y cymdeithasau. ond ni cheisiwyd eu huno mewn trefniant cyffredinol hyd gyfarfyddiad y Gymdeithasfa yn Watford. Y mae yn sicr na chymerwyd y cam pwysig hwn heb lawer o ragfeddwl a rhag ymgynghoriad; ac y mae lawn mor sicr mai i Howell Harris yr ydym yn ddyledus am gynlluniad a gweithiad allan yr hyn a ellir ei alw yn sail y cyfansoddiad Methodistaidd. Efe yn anad un o'r Tadau oedd y trefnydd; yr oedd ei feddwl ffrwythlawn ar waith yn wastad yn cynllunio; ac yn y cyfwng hwn yr oedd wedi bod mewn cydymgynghoriad ag amryw bersonau y tu allan i Gymru, yn gystal ag a'i frodyr yn y Dywysogaeth. Un y bu mewn gohebiaeth ag ef ar y mater oedd Mr. Oulton, gweinidog y Bedyddwyr yn Llanllieni (Leominster). Yr oedd Mr. Oulton yn ddyn gwir dduwiol, yn llawn o yspryd y diwygiad, ond yn Fedyddiwr cryf. Mewn llythyr ato dywedai Harris fod yn anhawdd iddynt oll ddyfod i gydweled gyda golwg ar y rhanau hyny o'r Beibl a gyfeiriant at ffurflywodraeth eglwysig, adeg a dull bedydd, a rhyw ychydig o gyffelyb allanolion ydynt .yn fuan i ddarfod; a bod undeb yn anmhosibl hyd nes y cydunent i beidio gwneyd dim yn amod aelodaeth, amgen adnabyddiaeth achubol o'r Arglwydd Iesu, a ffydd fywiol yn cynyrchu sancteiddrwydd buchedd, yr hon a brofai ei bodolaeth trwy ei chynydd. "Pe bawn i," meddai, "a gofal cynulleidfa arnaf, ystyriwn yn ddyledswydd arnaf i dderbyn pawb yn aelodau y gallwn obeithio am danynt eu bod wedi eu geni o Dduw, er na fyddent yn cydweled a mi gyda golwg ar ychydig o bethau allanol" Nis gallai Mr. Oulton gyfranogi yn y syniadau catholig hyn; ffromai braidd wrth Mr. Harris am gyfeirio at fedydd fel un o'r allanolion bychain oedd yn fuan i ddiflanu, gan ei fod yn ordinhad wedi ei sefydlu gan Grist ei hun, ac i aros yn yr eglwys hyd ddiwedd y byd. Maentymiai hefyd fod y trefniadau allanol, y cyfeiriai Harris atynt gyda gradd o ddiystyrwch, lawn mor glir yn y Testament Newydd, ac yn llawn mor hawdd dyfod i sicrwydd gyda golwg arnynt, a'r gwirioneddau achubol Cyfiawnder a Mr. Oulton yw ychwanegu, er na dderbyniwyd ei gynghor gyda golwg ar wneyd bedydd trwy drochiad yn amod aelodaeth, na ddarfu iddo dynu yn ol ei gydymdeimlad a Methodistiaeth o'r herwydd; ond ei fod gwedi hyn yn ysgrifenu at Howell Harris lawn mor gyfeillgar a brawdol, ac yn dangos llawn cymaint o ddyddordeb yn ffyniant y Cyfundeb. Y mae yn sicr ddarfod i sefydliad y Gymdeithasfa achosi pryder dwfn i'r Tadau Methodistaidd; teimlent eu ffordd bob cam a roddent; a diau mai gyda chalonau gorlwythog ac ysprydoedd ofnus y cyfarfuant yn Watford.

Yr ydym wedi cyfeirio at y rheolau i'r societies a dynnwyd allan. Dywed Howell Harris yn ei Fywgraffiad mai efe a'u ffurfiodd; dywedir ar wyneb-ddalen y rheolau eu hunain eu bod wedi cael eu cyfansoddi "gan ŵyr o Eglwys Loegr." Yr eglurhad yw mai Harris a'u drafftiodd; iddynt yn ganlynol gael eu cyflwyno i farn y gweddill o'r arweinwyr, a chael eu cymeradwyo ganddynt; a chwedi hynny iddynt gael eu cyhoeddi yn enw yr oll Y mae y rheolau hyn yn bwysig ynddynt eu hunain; dangosant ysprydolrwydd meddwl dwfn; ond meddant ddyddordeb arbennig ar gyfrif mai dyma y genadwri gyntaf a anfonwyd gan y Methodistiaid at y gwahanol eglwysi. Felly, er eu bod i raddau yn faith, yr ydym yn eu gosod i mewn yn y cyfanswm.

"SAIL, DIBENION, A RHEOLAU Y CYMDEITHASAU NEU Y CYFARFODYDD NEILLTUOL,
a ddechreuasant ymgynnull yn ddiweddar yng Nghymru. — At y rhai y chwanegwyd rhai Hymnau i'w canu yn y Cyfarfodydd neilltuol Gan wŷr o Eglwys Loegr.

"Diar. XV. 22. ' Ofer fydd bwriadau lle ni byddo cyngor,' &c.

,, xxiv. 6. 'Trwy lawer o gynghorwyr y bydd diogelwch.'

,, xxvii, 17. 'Haiarn a hoga haiarn.'

"Bristol: Printed by Felix Farley in Castle Green."

M.DCCXLII.


RHAGYMADRODD.

"At bawb ag sydd gwedi cael eu gwneuthur yn ewyllysgar i ymwadu a hwynt eu hunain, i gyfodi eu croes, ac i ddilyn yr Oen; ac yn neilltuol at y Societies o Eglwys Loegr.

"Yn ddiweddar fe ein cymhellwyd ni (ychydig o Weinidogion) i gyfarfod a'n gilydd mor fynych ag y gallom, i geisio gwylied yn fwy manol dros ein gilydd, ac er mwyn gwybod helynt praidd Crist yn well, ac er mwyn ymgynghori pa fodd i ymdreulio oreu yn ngwinllan ein Meistr; ac yn y cyfamser a gawsom ein calonnau i gytuno ar y Rheolau canlynol A chan wybod mor wasgaredig ydych chwi, ac er mwyn eich cyfarwyddo pa fodd i adeiladu eich gilydd oreu yn eich Cyfarfodydd neilltuol, ni a farnasom yn ddyled arnom i ddanfon y Rheolau hyn atoch, gan obeithio y bydd i Dduw eu bendithio i chwi; a rhoddi calonnau i chwi ymostwng y naill i'r llall, holwch eich gilydd wrthynt mor bell ag y gweloch y byddont yn uniawn. Tybiasom yn oreu eu rhoddi mewn print, fel y gallo pawb weled y gwirionedd o'n dibenion a'n rheolau yn ein Cyfarfodydd neilltuol; ac os bydd neb yn chwennych ymuno a ni, fel y gallo ef weled pa ddysgyblaeth yr ydym ni yn tybied yn ddyled ei chadw yn ein mysg. Gan edrych, pa waradwydd bynnag a gaffom gan y byd, bod gennym gydwybod ddirwystr yn hyn, na feiddiom ni wneyd dim yn y dirgel ag na allom ei gyfaddef pan gyhoeddir pob peth dirgel ar bennau’r tai. Ofer yw neilltuo oddiwrth y byd ac ymddangos megys rhai a fyddai yn rhodio gyda Duw, a gwneuthur rheolau o'n rhodiad, oni fyddai ein heneidiau mewn undeb a Duw yn Nghrist, ac a'r naill y llall yn yr Ysbryd Glan; gwedi cael ein glanhau oddiwrth ein holl eilunod, gan ddysgwyl dim yn y byd, ond yr hyn a gafodd ein Pen o'n blaen, a'r hyn a addawodd Efe i'w holl ddilynwyr, sef cael ein casáu gan bawb er mwyn ei Enw Ef, Mat. X. 22. Ac y mae yn perthyn i ninnau edrych mai er ei fwyn ef yr ydym yn goddef; a thra byddom yn cael ein cablu a'n difenwi megys rhagrithwyr beilchion, segur, twyllodrus, edrychwn ar fod tyst o'n mewn yn dywedyd eu bod yn gelwyddog; onid ê ni erys Ysbryd gras a gogoniant i'n cysuro na'n cynorthwyo. Ond os er ei fwyn ef yr ydym yn dioddef, nac ofnwn: ni lwydda un offeryn a lunier i'n herbyn, Esa. liv. 17; a phyrth uffern ni allant ein gorchfygu, Mat. xvi. 18. Ond gwyliwn rhag ysbryd balch y Phariseaid: os ydym ni yn gweled, ac ereill yn ddall, pwy a wnaeth y gwahaniaeth? Dangoswn ein bod wedi bod gyda'r Iesu, trwy ein hymddygiad addfwyn, tirion, maddeugar, cariadus a gostyngedig, tuag at ein gwrthwynebwyr. Ac er mai trwy Grist yn unig yr ydym yn gadwedig, eto dangoswn ein cariad ato ef, am ein prynu a'n gwaredu yn rhad trwy ei fywyd a'i farwolaeth, trwy gyflawniad diragrith o'r holl ddyledswyddau gorchymynedig, gan garu y gyfraith, fel rheol o'n bywyd newydd a gawsom gan Grist, i'w chadw; yr hon yr ydym yn ymwrthod a hi, fel cyfamod i fyned at Dduw trwyddi i gael bywyd. Yr ydym yn atolwg arnoch i wylied yn eich Societies yn erbyn balchder ysbrydol, yn ymddangos mewn diystyru ereill, bod yn annioddefus i gyfaddef ein beiau ac i dderbyn cerydd; rhagrith, neu geisio ymddangos yn fwy llawn o gariad, ffydd, gostyngeiddrwydd, a goleuni, nag y byddoch; hunan-ewyllys a hunangariad, doethineb cnawdol, a phob ymddangosiad a fyddo yn tarddu oddiwrth gais dirgel yn y galon i ereill dybied eich bod yn dduwiol ac yn cynyddu hefyd. Ac na pheidiwch hefyd A chwilio allan bob arwyddion o'r gwreiddyn ofnadwy, yr hwn a ddwg bob math o ffrwythau drwg, sef ariangarwch, seguryd, a diogi. Gwyliwch hefyd rhag geiriau segur, ysgafnder ysbryd, chwerthiniad cnawdol, meddyliau ofer, ac anffyddlondeb neu weniaeth mewn geiriau wrth farchnata, trwy ddywedyd geiriau dauddyblyg, neu ddywedyd mwy neu lai na'r gwir; gan wybod ein bod ni bob amser ger bron Duw. Dangoswch eich bod wedi ei osod ef bob amser ger eich bron. Edrychwch at gynnydd eich gilydd mewn addfwynder, tiriondeb, a gwir iselder ysbryd; a bydded genych gariad diragrith at bawb o deulu'r ffydd, a thosturi dwfn tuag at ereill, yn peri i chwi alaru yn y dirgel dros eu pechodau. Gwnewch bob peth mewn gwirionedd a symlrwydd, megys i'r Arglwydd. Os plant, gwyliwch ar wneyd eich goreu i ennill eich rhieni, os cnawdol ydynt, trwy eich ymddygiad ufudd a gostyngedig. Os rhieni, edrychwch pa fodd yr ydych yn dwyn eich plant a'ch tylwyth [i fyny] yn ofn yr Arglwydd, gan weddïo a chwilio yr Ysgrythyrau yn fanol, a'u cateceisio beunydd gartref, Deut. vi. 6, 7; Gen. viii. 19. Os tlawd ydych, byddwch foddlawn i'ch cyflwr, diwyd a ffyddlawn yn eich gwaith, gan fyw yn gyfatebol i'ch gradd. Os cyfoethog, edrychwch ar gyfrannu, gan ystyried mai stiwardiaid ydych chwi; ac fel mai eiddo y Pen yw eich da chwi oll, bod yn ddyledus iddo ef gael ei ffordd a'i ewyllys yn eu trefnu hwynt fel y myno ei hun. Os hen Gristionogion profiadol ydych, magwch a dysgwch mewn addfwynder a thiriondeb y rhai gwan. Os rhai iefainc ydych, gochelwch ymrysonau, hunan, ac anghrediniaeth; a dysgwyliwch oll am groesau beunydd oddiallan ac oddifewn; a phan y byddoch agosaf at yr orseddfainc, cofiwch ninnau, y rhai ydym ychydig, a llawn o lygredd; ond yr ydym, er eich mwyn, gwedi cael ein cymell i ymadael a phob peth, heb geisio dim ond bod yn ffyddlawn, fel y gallom ddywedyd yn y diwedd, ' Wele ni a'r plant a roddaist i ni.'


SAIL Y CYFARFODYDD.

"I. Gorchymyn yr Ysbryd Glan trwy St. Paul yw, nad esgeulusom ein cydgynulliad ein hunain, megys y mae arfer rhai, &c.

"II. Os yw yn ddyledswydd arnom gynghori ein gilydd tra y gelwir hi heddyw (neu bob dydd), o herwydd mai dyna'r modd inni ymgadw rhag cael ein caledu trwy dwyll pechod, Heb. iii. 13; yna, ni a ddylem ddyfod ynghyd i gynghori ein gilydd.

"III. Arfer y duwiolion oedd ymgynnull fel hyn dan yr Hen Destament (Gwel Mal. iii. 16), a than y Newydd hefyd. Wedi ymgynnull fel hyn yr oedd [y disgyblion] , pan ymddangosodd Crist iddynt wedi ei adgyfodiad, ac y dywedodd, 'Tangnefedd i chwi.' Luc xxiv. 33 — 36.

"IV. Ein Hiachawdwr a addawodd fod yn y canol lle y byddai dau neu dri (oni fyddai ychwaneg) wedi ymgynnull, yr hon a addewid y mae pawb a ymgynullasant mewn gwirionedd, ymhob oes, wedi ei phrofi yn cael ei chyflawnu, Mat. xviii. 20.

EU DIBENION

"1. Mewn ufudd—dod i'r gorchymyn, i annog i gariad a gweithredoedd da, Heb. X. 24.

"2. I ragflaenu calongaledwch a gwrthgiliad tra y byddom weinion mewn gras, a'n llygredigaethau yn gryfion, a'n profedigaethau yn aml, i Cor. iii. i, 2, 3, &c.

"3. Er mwyn dyfod i adnabod mwy o ddichellion Satan, 2 Cor. 11, a thwyll ein calonau, a gwaith gras a'i gynnydd yn ein heneidiau, i Pedr iii. 8.

"4. Er mwyn goleuo eu gilydd yng ngair Duw, ac er mwyn cadarnhau ac adeiladu y naill y llall yn y sancteiddiaf ffydd.

"5. Er mwyn cynghori eu gilydd a rhagflaenu ymrysonau, ac anghariad, a drwg-dybiau, a chenfigennau, &c. i Tim. vi. 4.

"6. I edrych yn ôl bywyd ac ymarweddiad, ysbryd a thymer, y naill y llall, ac er mwyn dwyn beichiau ein gilydd, Galat. vi. 2.

"7. Er mwyn gogoneddu gwaith gras Duw, trwy fynegu idd eu gilydd pa beth a wnaeth efe dros ein heneidiau, yn ôl esampl Dafydd, Salm Ixvi. 16.

"8. Er mwyn ymgryfhau ynghyd yn erbyn gelynion ein heneidiau, y byd, y cnawd, a'r cythraul; er mwyn gweddïo dros ein gilydd, ac er mwyn cyfrannu pob addysg a ddysgasom am Dduw, am ei Fab, ac am danom ein hunain, er pan fuom ynghyd o'r blaen.

Fel y byddo ir Dibenion hyn gael eu hatteb, yr ydym yn cytuno ar y Rheolau canlynol:— "1. Ar ôl canu mawl a gweddïo, i Tim. ii. i, bod ini agoryd ein calonau i'n gilydd, ac adrodd yn symlrwydd ein calonau yr hyn oll o'r drwg a'r da, yr ydym yn ei weled oddifewn ini, yn ôl y cymorth a gaffom, [ac mor bell ag y gweddai gwneyd hynny ger bron dynion.] Oherwydd yr ydym yn profi, trwy'r balchder sydd ynom, anewyllysgarwch i ddyfod a gweithredoedd y tywyllwch sydd o'n mewn i'r goleuni, rhag ini gael cywilydd; ac felly barodrwydd i guddio ein pechod: a thra byddom yn gwneuthur hyny, ni lwyddwn ni ddim yn ein heneidiau. Ond yr ydym yn profi, pan y gwelom ni y pechod wedi ei faddau, ac y caffom ein calonau i'w gasáu, y gallwn ddyfod ag ef i'r goleuni; a mawr yw yr undeb ysbryd, y rhyddid meddwl, a'r cariad yr ydym yn ei brofi fod yn canlyn y symlrwydd yma. Ond os ni fydd i ni gael cymorth i ddywedyd gyda rhywfaint o olwg ar y drwg sydd yn y fath lygredd, a galar a chywilydd o'n mewn am dano, yr ydym yn dueddol i wneuthur yn ysgafn o hyn, ac felly yn sychu ein gilydd. Ac wrth ddywedyd am ddaioni Duw, os bydd ini ollwng yn angof olygu ei ogoniant ef, ac ymfodloni a meddyliau y bydd i'r brodyr feddwl yn dda am danom, neu edrych yn wael ar y rhai a fyddo heb brofi mor bell a ni, - os hyn a gaiff le, yr ydym yn profi ein bod yn tristau Ysbryd Duw, ac y mae dieithrwch yn canlyn rhwng Duw a'n heneidiau, ynghyd ag oerfelgarwch a sychder.

"2. Er mwyn tynnu ymaith bob dim a'r sydd yn rhwystro cynnydd cariad, i ddywedyd pob drwg-dyb a lettyo yn ein meddyliau am ein gilydd, a ddelo oddiwrth Satan, cyhuddwr y brodyr, neu ryw ffordd arall. Os gwir fydd yr achwyniad, dywedwn ef er mwyn codi yr hwn a gwympodd, trwy ei geryddu ef yn addfwyn, yn ôl cynghor ein Hiachawdwr, rhyngom ni ag ef ei hun, yna o flaen dau neu dri o'r brodyr, i edrych a welom ni arwyddion ynddo, fel y bo i'n cariad gael ei adnewyddu. Os bydd y drwg-dyb yn wir, yna deuwn a hyny i'r amlwg er cywilydd i ni ein hunain, fel na chaffo Satan le i weithio ei waith ei hun yn ein calonau ni. Llawer ydyw'r budd yr ydym wedi ei brofi oddiwrth hyn. Yr esgeulusdra o'r symlrwydd hyn a roddodd le i Satan weithio cymaint o ymrysonau, &c.

"3. Bod ini gymmeryd ein holi a'n chwilio gan ein gilydd; o herwydd mor barod yr ydym i sefyll yn rhy agos atom ein hunain, ac i beidio a myned i dre, wrth holi ein hunain.

Holiadau i brofi ein hunain wythynt.

"i Beth yw ein dibenion ymhob dim ar a gymmerom yn llaw, pa un a'i gogoniant Duw, ai rhyw bleser neu esmwythder, rhyw glod neu anrhydedd, neu rhyw elw neu fudd i ni ein hunain?

"2. Beth ydym ni yn ei brofi o'n mewn yn ein cymhell i wneuthur yr hyn yr ydym ni yn ei wneuthur? Cariad Crist, neu ynte hunan gariad?

"3. Wrth ba ewyllys yr ydym ni yn rhodio, ac yn gwneuthur pob peth; pa un ai ewyllys ddadguddiedig Duw yn ei air, neu ynte ein hewyllys ein hunain? A ydym ni yn ymwadu a'n hewyllysiau ein hunain ymhob peth?

"4. Gan ein bod ni wedi rhoddi ein hunain yn y cyfamod gras i Dduw yn Nghrist, ac nad ydym ni mwyach i fyw i ni ein hunain, ond i'r Hwn a'n prynodd ni, ac a roddodd ei Hun drosom; a chan fod i ni ddwyn ffrwyth oddiwrth bob talent ag sy gennym, yr ydym i wylied dros ein gilydd, pa fodd y byddo ini arferyd ein heneidiau, a'n cyrph, doniau, cof, dysg, amser, cyfoeth, a phob odfa i wneuthur a derbyn daioni, fel y dygom fwyaf o anrhydedd i Dduw, a lles i'w eglwys, trwy eu gosod allan yn ol rheol ei air Ef, gyda phob diwydrwydd a symlrwydd.

"5. Fel nad oes ond un corph gan Grist; ac fel y mae Efe yn gweddïo ar i bawb o'i ddisgyblion (neu ei ddilynwyr) Ef i fod yn un;- fel nad yw'r nifer ond ychydig; fel ag y mae'r ffyddloniaid oll (o bob barn mewn pethau amgylchiadol) i fod ynghyd yn dragywydd yn ol hyn; fel ag y maent yn profi yn awr undeb, wedi ei weithio oddifewn, a'u gilydd yn yr Ysbryd Glân; fel ag y maent yn trafeilio yr un ffordd, yn ymladd dan yr un faner, yn erbyn yr un gelynion, yn ymborthi ar yr un manna, yn yfed o'r un ffynnon ysbrydol, yn cael eu tywys gan yr un Ysbryd, wedi eu gwisgo a'r un cyfiawnder cyfrifol, yn ceisio yr un diben, ac yn cael eu cymhell gan yr un egwyddor, wedi clywed i gyd yr un llais, wedi eu prynu a'u golchi a'r un gwaed, &c., felly nid ydym ni yn atal neb o un farn rhag dyfod i fod yn aelod o'r Society gyhoedd ag a allo gael ei holl galon i gytuno a'r rhagddywededig Reolau, ac i ateb y cwestiynau canlynol.

"1. A ydych chwi wedi cael eich hargyhoeddi gan Ysbryd Duw i weled eich hunain yn golledig hollol, ac yn haeddu eich damnio? ac mai cyfiawn fyddai i Dduw orchymyn i bob creadur eich poeni, ac i'ch taflu i'r trueni a'r poenau eithaf, gan weled eich hunan y pennaf o bechaduriaid?

"2. A ydych chwi wedi eich deffroi gan ras i weled nad yw eich goleuni chwi ddim ond tywyllwch? ac na ellwch chwi ddim adnabod y Tad, na'i Fab, yn gadwedigol, na chwi eich hunain, heb i'r Ysbryd Glan oleuo llygaid eich meddwl chwi yn oruwchnaturiol, gan eich bod wrth natur fel ebol asen wyllt?

"3. A ydych yn profi, nid yn cyfaddef yn unig, ond wedi cael eich dysgu gan yr Arglwydd, i weled ac i wybod hyn, sef, bod pechod felly wedi gwenwyno eich holl natur yn y fath fodd ag na ellwch gymaint a meddwl un meddwl da, na gwneuthur dim a fyddo cymeradwy gan Dduw? Ac na ellwch ddim eich helpu eich hunan o'r cyflwr hwn mewn un modd, wrth natur?

"4. A ydych chwi yn credu ac yn profi mai trwy gyfiawnder Crist, yn cael ei gyfrif ini yn unig, y mae ini fod yn gadwedig? ac mai trwy ffydd y mae hwn yn cael ei dderbyn? ac mai Ysbryd Duw yn unig a all, ac sydd yn gweithio y ffydd hon? ac na allwn ni ddim ei gweithredu hi nag un gras arall nes y byddo i'r un Ysbryd, fel y gogleddwynt neu y deheuwynt chwythu arnom.

"5. A ydych (gan weled mai Crist yn unig yw'r ddinas noddfa i ffoi iddi rhag dialydd y gwaed) yn profi fod Ysbryd Duw wedi eich gwneuthur yn ewyllysgar i ymadael yn eich serchiadau a phob peth ag oedd gynt yn werthfawr ag yn felus genych? megys eich llygad deheu, eich cyfaill anwylaf, a'ch pechod melusaf, amlwg a dirgel, er mwyn Crist, ac i wneuthur lle iddo Ef yn y galon?

"6. A ydych chwi wedi bod yn y dirgel yn bwrw'r draul? Ac yn awr yn profi fod gras Duw wedi peri i chwi ymwadu a'ch dibenion, eich ewyllysiau, eich cyfiawnderau, a'ch doethineb eich hunain, ac i ymostwng i ewyllys, a chyfiawnder, a doethineb Crist? Ac yn ymfoddloni i ddioddef pob croes ag a gyfarfyddoch wrth fyned ar ei ol Ef, a thrwy allu ei ras Ef i selio ei air a'ch gwaed, os bydd achos.

"7. Os ydych eto heb gael tystiolaeth yr Ysbryd Glan i gyd-dystiolaethu a'ch ysbryd chwi eich bod yn blentyn i Dduw, a ydych chwi yn profi eich bod bob amser yn ceisio Duw a'ch holl galon, heb geisio dim ond Efe? Chwiliwch a [ydych] yn cyfrif pob peth yn golled fel yr enilloch Ef? ac nas gellwch orphwys ar hyn chwaith nes i chwi ei gael Ef?

"8. A ydych chwi yn profi na ellwch chwi ddim cael esmwythdra, na heddwch, oddiwrth ddim ag sydd wedi ei weithio ynoch hyd yma, nes y bo i chwi brofi fod Crist ynoch chwi—nes y gwyddoch 'eich bod yn credu,—nes y byddoch wedi cael y fath olwg ar gyfiawnder Crist yn boddloni cyfiawnder Duw drosoch chwi, ag a fyddo yn ennyn cariad ynoch chwi ato Ef, a hwnnw yn eich cymhell i ufudd-dod; a'r cyfryw olwg ar ei ystlys fendigedig Ef wedi ei thrywanu, ag a ddryllio eich calon i alaru am bechod fel un yn galaru am ei gyntaf-anedig, ac i wir gasáu pob pechod, nes y byddoch wedi derbyn Ysbryd mabwysiad yn llefain Abba, Dad, ynoch chwi?

"9. A ydych chwi yn credu ac yn cydsynio a'r gwirioneddau sylfaenol, yn gyntaf, ynghylch y Drindod; yn ail, etholedigaeth; yn drydydd, pechod gwreiddiol; yn bedwerydd, cyfiawnhad trwy ffydd; yn bumed, parhad mewn ystâd o ras, &c., fel ag y maent yn cael eu dal allan yn Articlau a Homilïau Eglwys Loegr? Ac yn yr hyn nad ydym yn hollol, ysgatfydd, yn cytuno mewn rhai pethau amgylchiadol, megys dysgyblaeth eglwysig, seremonïau, y dull a'r amser o fedydd, &c., a ydych chwi yn addaw na bydd i chwi ddim blino eich cyd-aelodau ynghylch y pethau nad yw Duw wedi dyfod a ni i weled yr un modd?

"10. A ydych yn profi mai cariad Crist sydd yn eich cymhell i ymuno a ni? Ac a ydych chwi, yn ol dyfal ystyried, yn profi eich calon yn ddiragrith yn ymostwng i'r rheolau hyn, gan edrych arnom ni, a ninau arnoch chwithau, fel aelodau o'r un corff, fel plant yr un Tad, fel un, ac na ddywedoch wrth neb o'r rhai sydd oddiallan yr hyn a fyddom ni, yn symlrwydd ein calonau, yn eu dweyd? (Oherwydd mai taflu perlau o flaen moch, yw dweyd profiadau wrth yr annuwiol.)

"Mae'r cwestiynau hyn yn gofyn i bwy bynnag a chwenycho fod yn aelod o honom, ar ol iddo yn gyntaf roi ei enw yn y cyfarfod o'r blaen, a dyfod a thystiolaeth rhai o'r brodyr (os bydd lle) ynghylch ei fywyd, a'i dymer a'i ymarweddiad, a pha gymaint o amser sydd er pan y daeth dan argyhoeddiad, ac i gael y cyfnewidiad yma yn ei fywyd. Fe ddichon bod rhai ag a fyddo heb eu rhyddhau odditan. ysbryd caethiwed, ac eto yn gwir geisio, a'u bod eto heb gael; wedi cael eu gwneuthur yn ewyllysgar, ac heb yfed o ddwfr y bywyd, — y rhai hyn rhaid eu porthi a llaeth. Ac fel na byddo i eraill gael eu cadw yn ol ganddynt hwy, y rhai a fyddo wedi profi ymhellach, ac wedi derbyn cymwysiadau, a ddylent adeiladu eraill trwy gynghori, &c. Ac eraill, wedi profi budd a llesâd wrth gyfarfod yn fwy neilltuol i fod yn fwy manol i chwilio; ni a gytunasom i gyfarfod i'r diben hyn yn fwy neilltuol; a phwy bynnag a fyddo wedi bod dros amser yn y Society gyffredin, ac wedi ymddwyn yn addas, y mae i gael ei dderbyn i'r ymgynulliad yma, pan y gallo ateb i'r cwestiynau a ganlyn, neu eu cyffelyb.

"1. A wyddoch chwi eich bod yn credu? eich bod yn y ffydd? a bod eich pechodau wedi ei maddeu? a bod Crist wedi marw drosoch chwi yn neilltuol? ac yn awr yn trigo trwy ei Ysbryd ynoch chwi? a bod Duw wedi eich caru a chariad tragywyddol? A ydyw Ysbryd Duw bob amser yn cyd-dystiolaethu a'ch ysbryd chwi, eich bod yn blentyn i Dduw?

"2. A ydych chwi yn profi mwyfwy o gydymdeimlad yn eich calon a'r rhai a demtir? a mwy o dosturi, o bwyll, ac o anian cariad yn eich ysbryd tuag at bawb, ond yn enwedig at deulu y ffydd, pwy bynag fyddont?

"3. A ydych chwi yn profi mwy o oleuni ysbrydol o'ch mewn, yn dadguddio i chwi fwyfwy o burdeb a sancteiddrwydd Duw, ac ysbrydolrwydd ei gyfraith ef, ac yn dangos i chwi fwy o bla a thwyll eich calon, a drwg pechod, a gwerthfawrogrwydd Crist?

"4. A ydyw eich cydwybod yn fwy tyner i argyhoeddi am y dechreuad cyntaf o bechod yn y meddwl? am bob edrychiad anllad a'r llygaid? Am y dechreuad cyntaf o ysgafnder neu lawenydd cnawdol, neu ragrith, neu hunan, neu natur chwerw, yn y dechreuad cyntaf o honynt? am eiriau segur, am ollwng Duw yn angof, am feddyliau llygredig ac ofer?

"5. Pa wers a ddysgodd yr Arglwydd i chwi er pan fuom ni ynghyd o'r blaen? Pa faint a welwch chwi [yn] fwy o ddrwg a thwyll eich calon? o ddichellon Satan? o ddyfnderoedd gras Duw, a rhyfeddol waith ei ras Ef ynoch? o oleuni ysbrydol, profiadol, yn ei air Ef?

"6. A ydych chwi yn gweled mwy o ryfeddod yng nghariad neilltuol Duw tuag atoch chwi? Ac a ydyw yr olwg hyn yn eich cyfnewid i'w ddelw Ef, ac yn gweithio ynoch fwy o hiraeth am ei ogoneddu Ef yn y cwbl? ac am ei weled Ef yn dyfod i gael ei ogoneddu yn ei saint?

"7. A ydyw pechodau rhai eraill yn dyfod yn fwy agos atoch? Ac a ydych chwi yn profi bod eich eneidiau yn cael eu gwreiddio a'u hadeiladu fwyfwy mewn cariad? fel nad yw pob golwg ar eich gwendid, a grym eich llygredd, a'ch tywyllwch, &c., ynoch, a fu yn peri poen (er eu bod yn achos o alar), ond eich bod yn amlycach yn canfod eich holl iachawdwriaeth yn Nghrist? a thrwy olwg ar y cyflawnder, a'r gallu a'r ffyddlondeb, sydd ynddo Ef, yn rhodio yn gysurus yng nghanol profedigaethau, ac yn dweyd: 'Mi a wn i bwy y credais,' pan y byddo hi dywyllaf arnoch?

"8. A ellwch chwi ddywedyd, trwy eich bod wedi dyfod i weled yn fwyfwy amlwg, trwy dystiolaeth y dwfr a'r gwaed, bod eich enwau wedi eu hysgrifenu yn llyfr y bywyd; ac y gwyddoch ar sail gywir, ar yr hunanymholiad manylaf, wrth air Duw: ' na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, eich gwahanu oddiwrth gariad Duw, yr hwn sydd yn Nghrist Iesu ein Harglwydd; ' ac na all neb eich tynnu chwi o'i law Ef, oherwydd ei fod Ef yn fwy na phawb oll; ond pan yr ymddattodo ein daiarol dy o'r babell hon, bod i chwi adeilad gan Dduw, sef tŷ nid o waith llaw, tragywyddol yn y nefoedd; ac mai eich sail chwi i hyn oll yw cyfamod tragywyddol ac anghyfnewidiol Duw?"

Nodiadau[golygu]

  1. Weekly History.
  2. Trevecca MSS.
  3. Trevecca MSS.
  4. History of Protestant Nonconformity in Wales, page 355.