Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Y Gymdeithasfa

Oddi ar Wicidestun
Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/William Williams, Pantycelyn Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

gan John Morgan Jones

Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf

PENOD IX

Y GYMDEITHASFA

Howell Harris ar ei daith tua Watford—Y chwech cyntaf—Penderfyniadau y Gymdeithasfa Gorphen mewn cân a moliant—Cyfarfodydd Misol Llanddeusant, Trefecca, Tyddyn, Llanwrtyd, a Glanyrafonddu—Ail Gymdeithasfa Watford—Taith Whitefield a Howell Harris trwy rannau helaeth o’r Deheudir—Argyhoeddiad Peter Williams—Cyfarfodydd Misol Gelliglyd, Watford, Dygoedydd, a Longhouse—Cymdeitliasfa Chwarterol Trefecca Y ddau arolygydd tramgwyddus—Whitefield a Howell Harris yn ysgrifennu llythyrau atynt.

CYNHALIWYD y Gymdeithasfa gyntaf yn Watford, dyddiau Mercher a Iau, Ionawr 5 a 6, 1743. I'r dyddiad hwn dwg dyddlyfr Howell Harris a dyddlyfr Whitefield dystiolaeth bendant, a chadarnheir ef gan amseriad y llu o lythyrau a ysgrifennwyd yn uniongyrchol gwedi; felly, nid oes lle i unrhyw betrusder gyda golwg ar y mater. Y tebygolrwydd yw ddarfod i awdwr parchus Methodistiaeth Cymru gael ei arwain ar gyfeiliorn yma eto trwy gamddeall yr hen galendar eglwysig. Cychwynodd Howell Harris, yn ôl ei ddyddlyfr, foreu Sul, Ionawr 2, 1743. Teimlai bwysigrwydd dirfawr y cyfarfod ar ba un yr oedd yn wynebu, nid yn unig i'r diwygiad Methodistaidd, ond hefyd i grefydd Cymru; a'r peth cyntaf a geir ar y dyddiad yn ei lyfr yw: "Myned i gyfarfod y Gymdeithasfa yn Sir Forganwg." Nid ai ar hyd y ffordd unionaf, a'r un a arferai gymeryd pan yn teithio i Forganwg neu Fynwy, sef heibio Cantref, wrth draed y Banau; eithr cadwai yn mhell ar y chwith, er mwyn cymeryd Cwm Iau ar ei hynt, fel y gallai ymgynghori a'r offeiriad duwiol a weinidogaethai yno, Thomas Jones, ac y caffai ei enaid gyfnerth wrth wrando arno yn pregethu Gair y Bywyd. Arweinid ef trwy olygfeydd mor brydferth a rhamantus a dim sydd yn Nghymru; eithr nid ymddengys fod ei yspryd mewn unrhyw gydymdeimlad a'r tlysni a'i cylchynai; yr oedd pryder ei feddwl yn gymaint, fel nas gallai gael tawelwch ond trwy ddyrchafu gweddi at Dduw. Wedi gweddïo dros Miss Ann Williams, a thros ei fam, "gweddïais," meddai, "dros ein Cymdeithasfa, ar i Dduw ddyfod i'n mysg i'n cyfarwyddo, a chyda golwg ar fy myned dros y môr; cefais ryddid mawr i osod yr achos gerbron yr Arglwydd, ond ni chefais ateb; dros yr Eglwys dywyll hon, a thros bawb sydd mewn pechod. Cefais nerth i alaru ac i lefain ar ran holl deulu Duw, gan weled yr holl eglwys fel yn perthyn i'w deulu ef, ar iddynt gael eu dwyn i rodio yn y goleuni." Rhwng naw a deg o'r gloch cyfarfu nifer o frodyr ef, rywle ynghanol y mynyddoedd, y rhai a dystiolaethent i'r lles a dderbyniasent oddiwrth Dduw trwyddo. Gweddi penderfynu rhyw faterion perthynol i'r gymdeithas fechan yno, a rhoddi ei gofal i'r brawd Joseph, yr hwn y tybiai a ordeiniasid gan Dduw i ofalu am y praidd, aeth yn ei flaen. Daeth myned dros y môr i bwyso ar ei feddwl eto. Gwelai y gallai yr eglwys yn Nghymru fyned yn mlaen hebddo. Ond yr oedd ei galon yn orlawn o anwyldeb at ei blant ysprydol, a gwnaed iddo lefain: "O, pa fodd y gallaf eu gadael?" Cyffrowyd ei yspryd ynddo, ynghanol gwylltineb y mynydd, i fendithio a moliannu Duw. "Pa fodd," meddai, " y gallaf dy fendigo am Iesu Grist, a'r cyfoeth a drysorwyd ynddo?" Wedi' cyrhaedd Cwm Iau, agorodd ei fynwes i Thomas Jones; mynegai am ddrygedd ei galon, yr hwn a gynhyrfid pan glywai ei fod i gael ei esgymuno; wrth adrodd torrodd i lawr gan wendid corph. Pregethodd yr hen offeiriad yn hyfryd; eithr ni chafodd Harris unrhyw nerth; ond cafodd afael ryfedd ar weddi, yr hyn a ddygodd gryfder i'w gorph a'i enaid. Ymadawodd boreu y Llun, gwedi ymgynghori a Mr. Jones, yr

Capel Annibynol Watford

hwn a ddangosodd yspryd gwir gatholig, a chyrhaeddodd y Goetre, ger Pontypŵl, o gwmpas saith. Pregethodd yno boreu dydd Mawrth, gan rybuddio y gwrandawyr rhag hunan a drygedd y galon. Cysgodd yn Llanfihangel nos Fawrth. Y peth cyntaf a ysgrifena yn ei ddydd-lyfr boreu Mercher yw: "Myned i'r Gymdeithasfa; y mae gofal yr oll ar yr Iesu." Achwyna ei fod yn wanaidd ei gorph, ac yn teimlo yn druenus heb sicr bresenoldeb Iesu Grist. Cafodd wyneb yr Arglwydd ar ei daith, a dymunai fod ganddo ddeng mil o fywydau i'w cyflwyno iddo. Cyrhaeddodd Watford tua chanol dydd.

Gorwedda Watford ar lechwedd cwm sydd yn myned i mewn i'r mynydd, tua thri chwarter milltir i'r gorllewin o Gaerphili, rhwng dyffrynoedd y Rhymney a'r Taf. Nid oes yno na thref na phentref. Yr unig adeiladau ydynt ffermdy golygus Watford-fawr, yr hwn, yn adeg Howell Harris, oedd yn balasdy o gryn fri, a chapel Ymneillduol Watford, rhyw ddau led cae yn uwch i fynu, ac a dderbyniodd ei enw oddiwrth y tir ar ba un y cawsai ei adeiladu. Dywedir yn Mdhodistiaeth Cymru: "Yn ymyl tŷ Watford, y mae capel Presbyteraidd hen iawn, yn yr hwn yr arferai y Diwygwyr Methodistaidd bregethu, gan y coleddid hwynt gan Mr. a Mrs. Price, y rhai oeddynt yn preswylio yn y palasdy y pryd hwnw. Am y Mrs. Price hon y canodd Williams, Pantycelyn, alareb ragorol ar ol ei marw. Yr wyf yn tueddu i feddwl nad oedd yr un gweinidog sefydlog yn yr hen gapel y pryd hwnw; a chan fod Mr. Price yn llochi y Methodistiaid, efe a agorodd ei dŷ ei hun i'w croesawu, ac a gafodd ganiatâd iddynt ddefnyddio y capel, o leiaf yn achlysurol, i gynal cyfarfodydd." Buasai yn anhawdd gwthio mwy o gamgymeriadau i le mor fychan. Nid gwraig Price, yr ustus, oedd Grace Price, i'r hon y canodd Williams alareb, ond gwraig Cadben Price, ei fab; ac nid oedd wedi ei geni pan y cynhaliai y Methodistiaid eu Cymdeithasfa gyntaf yno. Rhy brin y gellir galw capel Watford yn "gapel Presbyteraidd." Nid oedd ychwaith yn hen; rhyw dair blynedd cyn y Gymdeithasfa y cawsai ei adeiladu; a nerth yr adfywiad a ganlynodd ymweliad cyntaf Howell Harris a'r lle a roddodd galon yn y bobl i ymosod ar y gwaith o'i godi. "Ystafell newydd" y geilw Harris yr adeilad. Nid oedd ychwaith heb weinidog, gan fod David Williams, Pwllypant, yn dal y lle mewn undeb a Chaerdydd.

Cyfarfyddodd y Gymdeithasfa y tro cyntaf yn nghapel Watford am ddau o'r gloch. Meddai Howell Harris, yn ei ddydd-lyfr: " Arosasom yn yr ystafell newydd hyd saith, yna aethom i dŷ y brawd Price." Ar un olwg, y mae yn syn iddynt gael y capel, gan fod David Williams, y gweinidog, wedi darfod cydweithio a hwy. Ond dylid cofio mai rhai a ddychwelasid trwy weinidogaeth Harris oedd y nifer amlaf o'r aelodau yno; mai ei ymweliad ef yn 1738 a fu yn achlysur i'r capel gael ei adeiladu; ac yr ystyriai yr eglwys ei hunan ar y pryd i raddau mawr yn Fethodistaidd, a pharhaodd i deimlo felly hyd nes y darfu i syniadau Arminaidd, a hanner Ariaidd David Williams, orfodi y Methodistiaid i ymwahanu, ac i adeiladu capel y Groeswen. Dewiswyd Mr. Whitefield yn gadeirydd. Agorodd yntau y cyfarfod trwy weddi, mawl, a chyngor. Dywed Harris na welodd y fath serchowgrwydd meddwl, y fath gariad a grym, wedi cyd-gwrdd yn neb ag yn y gŵr da hwnnw. Heblaw Mr. Whitefield, yr oedd yn bresennol y Parchn. Daniel Rowland, John Powell, a William Williams, oll yn offeiriaid urddedig; ynghyd a Mri. Howell Harris, Joseph Humphreys, a John Cennick, lleygwyr. Y chwech hyn yn unig a gyfansoddent y Gymdeithasfa ar y cyntaf. Ystyrid y tri offeiriad yn perthyn iddi ar gyfrif eu hordeiniad; Howell Harris ar gyfrif ei sefyllfa eithriadol fel y mwyaf ei lafur o bawb, a sylfeinydd y nifer amlaf o'r seiadau; a Mri. John Cennick a Joseph Humphreys, oblegyd y safle uchel a feddent yn mysg Methodistiaid Lloegr. Cuwrad Aberystruth, ger Blaenau Gwent, oedd y Parch. John Powell; argyhoeddasid ef trwy weinidogaeth Howell Harris, pan yr ymwelodd gyntaf a'r rhan honno o'r wlad; a daeth mewn canlyniad yn bregethwr efengylaidd a thra sylweddol. Er ei holl awydd am wneyd daioni, cafodd ei erlid yn fawr yn Aberystruth. Ymddengys fod ei wraig hefyd yn ddynes nodedig o grefyddol; a dywed Mr. Edmund Jones y tybid yn gyffredin,[1] ddarfod i waith rhai o'r prif blwyfolion, yn mysg pa rai yr oedd ei thad, wrthwynebu caniatáu i Daniel Rowland bregethu yn yr eglwys effeithio mor ddwys ar ei meddwl, fel ag i fyrhau ei dyddiau. Gwedi dyoddef llawer oblegyd ei gysylltiad a'r Methodistiaid, cafodd Mr. Powell fywoliaeth yn rhan isaf o Fynwy, lle y trigodd hyd ddydd ei farwolaeth.

John Cennick ydoedd fab i Grynwr o Reading, a chafodd ddygiad i fynnu crefyddol, gan gael ei arfer i weddïo nos a boreu gan ei fam. Eithr tyfu yn fachgen drwg a wnaeth John. Arferai ganu caneuon masweddgar, chwareu cardiau, a mynychu y chwareudai; anfonodd ei dad ef naw gwaith i Lundain i'w brentisio i ryw gelfyddyd; eithr ni chymerai neb ef gan mor ddrwg ydoedd, oddigerth rhyw saer, yr hwn a'i derbyniodd ar brawf, eithr a wrthododd ei gymeryd fel egwyddorwas pan ddaeth yr amser i hynny. Argyhoeddwyd y llanc tra yn cerdded Cheapside, un o heolydd poblog Llundain, yn y flwyddyn 1735, tua'r un adeg a Howell Harris. Pa foddion a fendithiwyd iddo, nis gwyddom; ond bu mewn teimladau ofnadwy am amser. Ymprydiai yn fynych, a hyny am amser maith, a gweddïai naw gwaith bob dydd. Ofnai ysprydion yn enbyd; ac yr oedd arno fawr ddychryn cyfarfod a'r diafol. Gan y teimlai fod bara, hyd yn nod bara sych, dienllyn, yn ymborth rhy dda i bechadur mor fawr ag efe, ymroddodd i fwyta cloron, mês, a glaswellt; ac ymawyddai am fyw yn gyfangwbl ar lysiau a gwreiddiau. Ni chafodd heddwch i'w enaid hyd Hydref, 1737; y pryd hwnnw datguddiodd Duw ei drugaredd iddo, ac aeth yntau i'w ffordd yn llawen. Dechreuodd bregethu ar unwaith, fel Howell Harris, a chyfansoddi hymnau. Argraffwyd nifer o'i hymnau, wedi ei golygu gan Charles Wesley, yn y flwyddyn 1739. Yr un flwyddyn cyfarfyddodd a John Wesley, yr hwn a'i hapwyntiodd yn ysgolfeistr i Kingswood, ger Bryste, lle yr oedd nifer mawr o lowyr wedi eu dychwelyd. Cyrhaeddodd Kingswood yn mis Mehefin; er ei fawr siomedigaeth cafodd fod Wesley wedi ymadael am Lundain, ond gwahoddwyd ef i fyned i wrando rhyw ddyn ieuanc yn darllen pregeth i'r glowyr. Lle y cyfarfod oedd dan gysgod sycamorwydden, yn ymyl y fan y bwriedid i'r ysgol fod. Daeth y glowyr ynghyd, tua phum cant o honynt, ond ni ddaeth darllenydd y bregeth. Bu raid i Cennick bregethu iddynt, a chafodd odfa nerthol; dygodd Duw dystiolaeth i air ei ras, a chredodd llawer i fywyd tragywyddol. Pregethodd drannoeth, a dwy waith y Sul dilynol. Daeth Howell Harris i'r lle; ymroddodd y ddau, pregethwr diurddau cyntaf Lloegr, a phregethwr diurddau cyntaf Cymru, i bregethu i dyrfaoedd oeddynt yn awchus am wrando y Gair; fel pan gyrhaeddodd John Wesley yno y dydd Mawrth dilynol, yr oedd clod y ddau efengylwr yn mhob genau. Ni cheisiodd Wesley daflu rhwystr ar ffordd John Cennick, ac iddo ef y perthyn yr anrhydedd o fod yr efengylwr lleygol cyntaf perthynol i'r Methodistiaid Seisonig. Ac ymddengys ei fod wedi ei ddonio yn helaeth. Meddai barodrwydd ymadrodd mawr, a gwroldeb diderfyn. Pan yr ymrannodd Wesley a Whitefield, mewn canlyniad i syniadau Arminaidd y blaenaf, glynodd Cennick wrth y blaid Galfinaidd, ac yr oedd yn un o'r deuddeg a deugain a drowyd allan o gymdeithas Kingswood gan Wesley, yn y flwyddyn 1741. Efe, gwedi hyn, oedd llaw ddeheu Whitefield. Eithr yn y flwyddyn 1745, tra yr oedd Whitefield yn America, ymadawodd a'r Methodistiaid, ac ymunodd a'r Eglwys Forafaidd. Bu farw yn 1755. Dywed Tyerman am dano: "Meddai Cennick ei wendidau; ond mewn bod yn farw i'r byd, mewn cymundeb a Duw, gwroldeb Cristionogol, ac amynedd siriol, byddai yn anhawdd cael ei ragorach." Ychwanega Tyerman, gan lefaru oddiar safle Wesleyad: "Er ei Galfiniaeth, ac er ei ddadleuon a John Wesley, yr ydym yn caru y dyn."

Mab i weinidog Ymneillduol yn Burford, lle heb fod yn nepell o Rydychain, oedd Joseph Humphreys; ac er fod ei enw yn Gymreig, nid oes un sicrwydd ei fod o haniad Cymreig. Ganwyd ef Hydref 28, 1720, felly yr oedd ychydig dros ddwyflwydd ar hugain oed adeg y Gymdeithasfa yn Watford. Cafodd addysg well na'r cyffredin. Bu ei dad farw pan nad oedd Joseph ond llanc tair mlwydd ar ddeg; a chawsai yn ei ddydd ei ddirmygu gan Ymneillduwyr ac Eglwyswyr, oblegyd ei zêl a'i fywyd Puritanaidd. Gwedi hyn anfonwyd Joseph i ysgol yn Llundain, yn mha un yr oedd dynion ieuainc yn cael eu parotoi ar gyfer y weinidogaeth, a thuag at y pwlpud yr edrychai yntau. Arferai y llanciau a fwriedid i fod yn bregethwyr gynnal cyfarfodydd gweddi; tybiai yntau ei hun yn ffodus mewn cael bwrw ei goelbren yn mysg dynion ieuainc o'r fath dduwioldeb a difrifwch; ond yn fuan gwelodd nad oedd yr oll ond clogyn, a'u bod yn ddirgel yn ymroddi i chwareuon annheilwng, yn gystal ag i ymddiddanion cellweirus ac ofer. Y mae ymddiddanion drwg yn llygru moesau da; daeth Joseph Humphreys yn fuan mor ysgafn a'r un o honynt; ac yn y dirgel yn inffìdel. Rhoddodd raff i'w nwydau llygredig, gan arwain bywyd cyhoeddus annuwiol. Yn raddol sobrodd drachefn, ymaelododd mewn eglwys Ymneillduol yn Llundain, a dechreuodd bregethu, "ond yr oeddwn heb fy argyhoeddi," meddai. Haf 1739, aeth i wrando Whitefield, gweinidogaeth yr hwn a ddylanwadai yn fawr arno; wrth weled y torfeydd yn ymwasgu yn awchus i wrando yr efengyl, dywedai ynddo ei hun: "Ni welwyd y fath beth yn Israel." Ceisiodd gymdeithasu ag ef, ac un nos cafodd y fraint o swpera gydag ef a Howell Harris, a rhai brodyr eraill, mewn gwesty yn Blackheath. Gwedi swpera, aed i siarad am bethau crefydd; aeth y tafarndy yn gysegr; teimlai Humphreys y lle yn nefoedd ar y ddaear. Un diwrnod, tra y canent emyn yn yr athrofa, lle y parhâi i fod yn efrydydd, cafodd y fath brawf o gariad maddeuol Crist, fel y toddodd ei galon o'i fewn, ac yr aeth ei lygaid yn ffynhonnau o ddagrau. Holai ei gyd-efrydwyr ef beth oedd y mater; ond yr oll a allai ateb oedd ei fod yn ddedwydd. Gwedi hyn, dechreuodd bregethu mewn ystafell ddawnsio; cafodd gynulleifaoedd mawrion, a ffurfiodd yno gymdeithas eglwysig, yn rhifo tua saith ugain o aelodau. Pregethai yr athrawiaethau Calfinaidd, pechadur yn cael ei gyfiawnhau gerbron Duw ar sail haeddiant Iesu Grist yn unig. Am hyn gwrthwynebwyd ef yn yr athrofa, daeth yn wawd ei gydefrydwyr, cafodd ei erlid gan ei athraw, a'i adael gan ei gyfeillion, tybiwyd ei fod wedi colli ei synhwyrau, a Rhagfyr 19, 1739, cafodd ei esgymuno o'r sefydliad, heb fod unrhyw gyhuddiad arall yn cael ei ddwyn i'w erbyn. Ond er pob peth rhaid oedd iddo gael pregethu, a bu yn gweinyddu i'r seiadau yn Deptford, Greenwich, a Ratcliffe. Caffai ei erlid; weithiau byddai mewn perygl am ei fywyd, oblegyd cerrig yn cael eu lluchio ato, ond ni ofalai. Yn y flwyddyn 1741 unodd a Whitefield, a phregethwr teithiol mewn cysylltiad ag ef ydoedd pan ddaeth i Gymdeithasfa Watford. Hawlia tegwch hanesyddol i ni grybwyll na fu diwedd ei fywyd agos mor ddysglaer a'r rhan gyntaf. Yn mhen amser gadawodd Whitefield, gan gymeryd ei ordeinio yn weinidog Presbyteraidd; a chwedi hynny urddwyd ef yn offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig. A dywedir ei fod yn gwawdio y Methodistiaid, ac yn cyfeirio at ei hanes yn ei mysg fel adeg ei wallgofrwydd.

Y mae aelodau eraill y Gymdeithasfa mor adnabyddus fel nad rhaid cyfeirio atynt. Braidd na saif y Gymdeithasfa hon ar ei phen ei hun yn hanes y byd. Mewn difrif, edrycher arni, yn cael ei gwneyd i fynnu o chwech o ddynion ieuainc, pob un dan ddeg-ar-hugain oed, wedi ymgynnull mewn capel bychan ar lechwedd y mynydd, i drefnu mesurau i ddwyn Prydain at Grist! Nid gwallgof ydynt; ac nid wynebu ar anturiaeth, heb ymdeimlo a'i hanhawsderau, y maent ychwaith. Y maent yn ofnadwy o ddifrifol, eu calonnau sydd yn berwi ynddynt gan gariad at yr Iesu, a zêl am achub eneidiau; y mae amryw o honynt yn barod yn adnabyddus trwy Loegr a Chymru fel pregethwyr digyffelyb, y rhai gyda hyawdledd wedi ei ieuo gydag efengyl bur, a fedrant dynnu miloedd i'w gwrando, a'u cadw am oriau wyneb yn wyneb a sylweddau tragywyddoldeb. Edrychir arnynt gan gannoedd fel eu tadau yn Nghrist, a cherir hwy mor angerddol gan lawer, fel y tynnent eu llygaid o'u pennau iddynt. O'u cwmpas, yn y capel diaddurn, y mae degau a gawsent eu hargyhoeddi trwy eu hofferynoliaeth, ac mewn canlyniad a ddechreuasent gynghori pechaduriaid; ond yn awr ydynt yn disgwyl yn bryderus am gael rhyw gyfran benodol yn y gwaith ysprydol wedi ei gyflwyno iddynt. Cyfarfod hanesyddol oedd y cynulliad; teimlir ei ddylanwad hyd y dydd hwn; a diau y bydd ei hanes yn felus hyd byth gan bawb ag y mae lles ysprydol Cymru yn agos at eu calonnau.

Gwaith cyntaf y cyfarfod oedd arholi y cynghorwyr cyhoedd, sef y rhai a arferent deithio o gwmpas i bregethu, dan nawdd y Diwygwyr. Ei henwau oeddynt Herbert Jenkins, James Beaumont, Thomas James, Morgan John Lewis, Benjamin Thomas, John Jones, a Thomas Lewis. Deuant oll dan ein sylw eto. Profwyd hwy a chwestiynau celyd, a hynny nid yn unig gyda golwg ar eangder eu gwybodaeth, a'u huniongrededd, ond hefyd gyda golwg ar waith gras ar eu calonau, eu cymhellion i'r gwaith, a'r doniau a feddent fel cymhwysder ar ei gyfer. Gwedi bod yn ymddiddan a hwy yn y capel hyd saith, ymneillduwyd i balas Watford, ac yr oedd yn agos i un o'r gloch y boreu pan eu derbyniwyd yn aelodau o'r Gymdeithasfa. Whitefield a John Cennick a gymerent y rhan fwyaf blaenllaw yn yr ymddiddan. A ddarfu i Howell Harris gael briw am na chafodd ei osod yn y gadair, ac am fod y ddau Sais yn cael lle mwy amlwg nag efe? Yr ydym, oddiwrth rai dywediadau yn ei ddyddlyfr, yn tybio iddo gael. Cawn ef yn achwyn ar yr ymosodiadau a wnelai hunan arno: "Bydded i mi geisio bod yn ddim," meddai; "myfi yw y gwaelaf, y balchaf, y dallaf, a'r gwaethaf o bawb," meddai drachefn; dywed ei fod yn ofni agor ei enau, fod yn dda ganddo mai i ran Whitefield y syrthiodd y gwaith, yr ymawyddai am fod yn guddiedig a chael ei anghofio; ond fod prudd-der dirfawr wedi ymdaenu drosto. Ymddengys hyn fel pe bai yn ymladd yn erbyn rhyw siomiant a gawsai yn y cyfarfod. Paham lai? Dyn a gwendid ynddo oedd yntau. Ond cafodd fuddugoliaeth ar y teimlad anfoddog yn fuan, a thyr allan i weddïo dros Whitefield, yr offeiriaid, a'r cynghorwyr. Daeth y pwnc o fyned dros y môr i'w flino drachefn; dywed nad oedd wedi cael amlygiad clir o feddwl yr Arglwydd ar y mater; ond daeth i hyn: "Os wyf i fyned, yr wyf yn ddedwydd; os nad wyf i fyned, yr wyf yn ddedwydd; ond bydded i mi gael gras i ogoneddu Duw."

Boreu dydd Iau, am wyth, pregethodd Daniel Rowland, oddiar Rhuf. viii. i: "Nid oes gan hynny yn awr ddim damnedigaeth i'r rhai sydd yn Nghrist Iesu;" yr oedd yn odfa nerthol. Dangosodd natur cyfiawnder Crist, a'r perygl i'r athrawiaeth am gyfiawnhad heb weithredoedd gael ei chamddeall a'i chamddefnyddio. Dangosodd yn mhellach nodau y rhai a gawsent eu cyfiawnhau trwy ras, nad ydynt yn byw mewn pechod, nac yn cael pleser ynddo; ac eglurodd nodwedd y rhai sydd yn rhodio yn ôl yr Yspryd. Cafodd y bregeth ddylanwad dwfn, yn enwedig ar y pregethwyr; teimlai Howell Harris ei fod ef yn caru yr Yspryd Glan yn arbennig, a dywedai James Beaumont ei fod ef wedi cael cariad newydd at y Tri Pherson. Ymffurfiodd y Gymdeithasfa drachefn am un-ar-ddeg. Prif waith y cyfarfod oedd arholi y cynghorwyr anghyoedd, yr hyn orchwyl a ymddiriedwyd yn bennaf i Howell Harris. Cafodd nerth rhyfedd gyda hyn. Dywed fod ei sylwadau yn cyrhaedd i'r byw; iddo gyfeirio at y farn, a thragywyddoldeb, a'r gyfraith, nes yr oedd dychryn yn ymdaenu dros bawb; "yr oedd yn lle ofnadwy," meddai. Gwasgodd arnynt, os oeddynt yn teimlo ddarfod i'r Yspryd Glan ymddiried gofal yr ŵyn iddynt, y rhaid iddynt gael eu llenwi a gofal tad, tynerwch mam, a chydymdeimlad brodyr; fod arnynt eisiau yr Iesu yn yr oll o'i enwau, brenin, offeiriad, a phrophwyd; ac yn ei holl rasau, ffydd, cariad, gostyngeiddrwydd, doethineb, mwyneidd-dra, a thosturi. "Teimlwn hwy," meddai, " fel rhan o honof fy hun; yr oeddwn yn foddlon bod yn arolygwr i wylio drostynt; ac yr oeddwn yn dra chartrefol gyda hwynt. Darostyngwyd hwythau hyd adref; deallent fod arnynt eisiau pob cymhwysder." Buwyd yn y capel hyd saith, yn ymdrin a gwahanol faterion; "ac yr oeddym oll yn cyduno ar bob peth," meddai Howell Harris. Awd gwedi hynny i'r tŷ; eisteddwyd i fynnu hyd gwedi deuddeg yn gorphen y gwaith, yn gosod pob un yn ei le, ac yn trefnu y Gymdeithasfa. "Yr oeddym yn llawn cariad," meddai Harris, "yn sicr, yr oedd yr Arglwydd gyda ni; o gwmpas dau, aethum i'm gwely yn hyfryd yn fy yspryd." Gwelir, os cafodd teimlad anniddig le yn ei fynwes y dydd blaenorol, ei fod erbyn hyn wedi diflannu yn llwyr; fod dylanwad yr Yspryd Glan wedi ei uno ef a'r holl frodyr ynghyd, fel y mae dau haiarn yn cael eu hasio mewn twym ias. Yr oedd rhyw fan bethau, pa fodd bynnag, heb eu llwyr benderfynu; a chyfododd y brodyr o gwmpas hanner awr wedi saith dydd Gwener, i orphen y trefniadau. "Erbyn deg," meddai Howell Harris, "yr oeddym wedi trefnu ein holl faterion, ac yn llawn cariad. O'r fath heddwch, doethineb, serch, a threfn a welir pan y rhoddir yr holl waith i ddwylaw yr Arglwydd!" Ymadawodd y nifer fwyaf tua chanol dydd, eithr arosod Harris a John Cennick i bregethu y noswaith honno. Cawsant odfa ryfedd. Sylw Harris yw: "Daeth Duw i lawr." Teimlai ei hun yn cael ei dynnu allan o hono ei hunan yn felus pan y pregethai Cennick; aeth ei gadwynau yn ddarnau; teimlai ei fod mewn byd newydd, byd o ryddid. Yr oedd yr effeithiau yn ddwysach pan yr aeth ef ei hun i lefaru. " Yr oeddwn fel yn yr amser gynt," meddai; " dangosais fod y rhai sydd yn meddu ffydd yn Nghrist yn gweled gogoniant yr Iesu, eu bod yn aros yn yr Yspryd, yn caru eu gilydd, yn meddu gwir zêl dros achos Duw; eithr eu bod yn myned allan o'r Yspryd yn fynych, fel plentyn gwedi myned dros drothwy y drws, yn cael ei hun yn ddiarwybod iddo yn mysg y cwn a'r moch, ond na faidd y creaduriaid hyn ddyfod i'r tŷ. Yn sicr, gwresogwyd llawer gan dan Duw. Yna aeth yn floedd yn mysg y dorf." Dyddorol yw deall na therfynodd y Gymdeithasfa gyntaf, mwy na degau o Gymdeithasfaoedd ar ei hol, heb arwyddion amlwg o'r Presenoldeb dwyfol. Ymadawyd ynghanol moliant a chan. Ac os oedd llethrau mynydd Caerphili, a dyffrynnoedd y Taf a'r Rhymney, yn adseinio y noswaith hono gan glodforedd y dorf a ddychwelai adref wedi yfed hyd at ddigon o felus win yr iachawdwriaeth, nid oedd ond canlyniad naturiol y dylanwadau a ddisgynnent yn ddibrin ar y lliaws a ymgasglasai ynghyd.

A ganlyn yw penderfyniadau y Gymdeithasfa, fel eu ceir yn llawysgrif Howell Harris: "[2] Cydunwyd fod y brodyr canlynol i fod yn gynghorwyr cyhoedd; sef Herbert Jenkins, James Beaumont, Thomas James (i fod fel y mae hyd nes y byddo ei amgylchiadau wedi cael eu trefnu), Morgan John Lewis, Benjamin Thomas, John Jones, a Thomas Lewis.

  • Cydunwyd fod Richard Tibbott i fod yn ymwelydd cyffredinol a'r seiadau.
  • Cydunwyd fod y brodyr canlynol i fod yn gynghorwyr anghyoedd: James Williams, i ymweled a'r cymdeithasau yn Cayo, Talley, Llanfynydd, a Llangathen.
  • Morgan Hewes (felly y sillebir ei enw), Cayo, Lledrod, a Rhydfendigaid.
  • David Williams, Lledrod a Llanilar.
  • Price Thomas, Pontargamddwr a Charon.
  • John Powell, Defynog.
  • Wm. Evans, Llanddewi, Llandegle, a LIandrindock (Llandrindod?).
  • Howell Griffith, Llantrisant a Glynogwr.
  • Richard Thomas, Llanedern, ac i gynorthwyo yn Watford.
  • John Belsher, ymwelydd a'r brodyr sengl yn Watford.
  • Evan Thomas, Mynyddislwyn.
  • William Rice, ymwelydd a'r brodyr priod yn Watford.
  • Thomas Evans, i gymeryd gofal y pethau allanol yn Watford.
  • William Morgan, ymwelydd y gwŷr.
  • Henry Harris, i gynorthwyo y brawd Price.
  • Thomas Price, i gymeryd gofal Watford.
  • William Powell, i gymeryd gofal y seiadau yn ei dŷ.
  • Stephen Jones, Glasgoed a'r Goetre.
  • Thomas Lewis, Pentyrch a Newhouse.
  • Richard Jones, a John Deer, Aberthyn, Llanilltyd, ac Aberddawen.
  • Charles Powell, Glasbury a Bronllys.
  • John Jones, Cwmdu a Grwynefechan.
  • Morgan John, Palleg, Creunant, Llanddeusant, a Cwmaman.
  • Cymeradwywyd Wm. Harry, a John Richards.
  • Cydunwyd ar i'r brodyr a deimlent betrusder gyda golwg ar dderbyn y sacrament yn yr Eglwys, oblegyd annuwioldeb yr offeiriaid; a chyda'r Ymneillduwyr, oblegyd eu clauarineb, barhau i dderbyn yn yr Eglwys, hyd nes yr agorai yr Arglwydd ddrws amlwg i ni adael ei chymundeb.
  • Cydunwyd na fyddai i'r un cynghorwr gael ei dderbyn i'n mysg ond y sawl a fyddai wedi ei gymeradwyo; ac nad oedd neb i fyned dros ei derfynau gosodedig heb gael ymgynghoriad a chyfarwyddyd yn gyntaf.
  • Cydunwyd fod i bob cynghorwr anghyoedd ddwyn adroddiad am y cymdeithasau sydd dan ei ofal, ynghyd a phwy a fydd wedi cael eu derbyn i aelodaeth, i'r Gymdeithasfa, yr hon sydd i gael ei chynnal y Mercher cyntaf gwedi y 25ain o Fawrth, 1743.

"Gwelodd yr Arglwydd yn dda fod yn mysg y brodyr, ac, yn ôl pob ymddangosiad, i lewyrchu ei wyneb ar eu hymgynghoriad. Gogoniant yn y goruchaf i Dduw." Gwelir fod yspryd yr ysgrifennydd, yr hwn nid oedd yn neb amgen na Howell Harris, wedi gwresogi o'i fewn wrth groniclo y cofnodion; y mae ei draed ar yr uchelfannau; ac ymdora ei deimlad brwdfrydig allan mewn moliant i'r Arglwydd, yr hwn a'u harweiniasai yn eu holl ymgynghoriadau. Y mae amryw bethau yn y cofnodion sydd yn galw am sylw. Gwelwn fod Watford yn cael ei wneyd yn fath o ganolbwynt i'r symudiad. Ai sefyllfa gyfleus y lle, fel man canolog rhwng Cymru a Lloegr, oedd y rheswm am hynny, ynte cymhwysder Thomas Price, perchennog a phreswylydd palas Watford, at y gorchwylion y rhaid eu cyflawni mewn lle o'r fath, nis gwyddom. Y mae y penderfyniad yn annog y rhai oeddynt yn betrusgar gyda golwg ar pa le y derbynient y cymundeb, i barhau i wneyd hynny yn yr Eglwys Wladol, wedi cael ei feirniadu yn llym. Meddai y Parch. T. Rees, D.D:[3] "Y mae y penderfyniad yn arddangos ymlyniad dull arweinwyr cyntaf y Methodistiaid wrth yr Eglwys Sefydledig, pan yr anogent eu canlynwyr i gymuno yn yr eglwysydd plwyfol gydag offeiriaid annuwiol, yn hytrach na chyda yr Ymneillduwyr clauar, pa mor dduwiol bynnag y gallent fod." Fod yr arweinwyr Methodistaidd, yn arbennig Howell Harris, yn dwyn mawr zêl dros yr Eglwys Sefydledig, sydd sicr; fel Eglwyswyr yr edrychent arnynt eu hunain; ac nid oeddynt am adael ei chymundeb, oni orfodid hwynt. Ond efallai nad oedd eu hymlyniad mor ddall ag y myn Dr. Rees. Gellir dwyn y rhesymau canlynol dros y penderfyniad y daethent iddo: (i) Anogaeth ydoedd i'r rhai oeddent hyd hyny wedi arfer cymuno yn yr Eglwys; profir hyny gan y gair "parhau;" nid oes yma gymaint ag awgrym i'r Ymneillduwyr i adael yr enwad i ba un y perthynent. (2) Yr oedd yr oerni a'r clauarineb ysprydol oedd wedi meddiannu llawer o'r eglwysi Ymneillduol yr adeg hon, yn gymaint rhwystr ar ffordd crefydd yn mryd y Tadau Methodistaidd, a buchedd anfoesol yr offeiriaid. Yn eu golwg hwy nis gallai oerni ysprydol a duwioldeb gyd-drigo. Nis gallai dyn wedi ei ferwi gan y diwygiad, a'i galon yn llosgi ynddo gan gariad at y Gwaredwr, lai na theimlo gwrthnaws o'i fewn wrth weled gwasanaeth y cymundeb yn cael ei gyflawni gan weinidog a'i yspryd ynddo mor oer a'r rhew. Ac mewn aml i fan yr oedd yr oerni yn gynnyrch syniadau anefengylaidd am berson Crist, a natur yr iawn a roddodd. Yn yr Eglwys, pa mor anfucheddol bynag y gallai yr offeiriad a weinyddai fod, yr oedd y gwasanaeth a ddarllenid ganddo yn ardderchog, ac yn llawn maeth i dduwioldeb. (3) "Hyd nes y rhoddai yr Arglwydd ddrws agored iddynt i adael cymundeb yr Eglwys," yr oedd yr anogaeth. Felly y dywed y penderfyniad. Ymddangosai yr adeg yn ymyl iddynt ar y pryd; yr oedd gwaith rhai o'r offeiriaid yn gwrthod y sacrament i'w canlynwyr fel yn dwyn pethau i argyfwng; ac os y dymunent i'r rhai a gawsent eu hargyhoeddi trwy eu gweinidogaeth barhau ynghyd, heb fod rhai yn ymuno a'r blaid yma, a'r lleill a'r blaid arall, pwy a fedr eu beio? (4) Yr oedd yspryd diflas, ac, i raddau, erledigaethus, at y Methodistiaid, fel yr ydym wedi sylwi yn barod, wedi cael lle erbyn hyn yn mynwesau llawer o'r gweinidogion Ymneillduol, ac yn eu heglwysi. Mewn rhai eglwysi awd mor bell ag atal o gymundeb y rhai a fynychent gyfarfodydd y Methodistiaid.[4] Yn nghofnodau Cymdeithasfa Fisol Glanyrafonddu, a gynhaliwyd Ebrill 17, 1744, ceir cyfeiriad at un Thomas Dafydd, a gawsai ei ddiarddel gan yr Ymneillduwyr oblegyd ymgyfathrachu a'r Methodistiaid, a chaniateir iddo aelodaeth, a gwasanaethu fel cynghorwr anghyoedd ar brawf, tan arolygiaeth y brawd James Williams, ond nad ydyw i adael ei alwedigaeth. Yr ydym wedi crybwyll am hen wraig, o'r enw Betti Thomas, yn cael ei bygwth ag esgymundod oblegyd yr un peth, yn ngodreu Sir Aberteifi. Ffynai yr un teimlad yn Lloegr, lle y dyoddefodd y duwiol a'r diragfarn Dr. Doddridge ei erlid yn dost gan yr Ymneillduwyr, am ymgyfathrachu a'r Methodistiaid. Yr oedd yr ysprydiaeth yma yn naturiol wedi cynhyrchu diflasdod yn y Methodistiaid at yr Ymneillduwyr, nes erbyn hyn yr oeddynt wedi myned, mewn llawer man, yn bur bell oddiwrth eu gilydd. Erbyn cymeryd yr oll i ystyriaeth nid yw penderfyniad y Gymdeithasfa yn Watford, gyda golwg ar gymuno yn yr Eglwys, mewn un modd i synnu ato.

Nid oes unrhyw gyfeiriad at Howell Harris, na neb o'r offeiriaid, yn mhenderfyniadau y Gymdeithasfa; ond y mae eu gwaith yn cael ei benodi yn y nodiad, a ddifynwyd gennym yn barod, sydd yn blaenori y cofnodau; sef fod y brawd Harris i arolygu yr holl eglwysi a'r cynghorwyr, a bod y gweinidogion ordeiniedig i fyned o gwmpas hyd byth ag y medrent. Cafodd Howell Harris y gorchwyl a ddymunai ei galon. Os oedd yn bryderus cyn i'r Gymdeithasfa gyfarfod, yr oedd ei yspryd yn llawn hyder a gorfoledd gwedi iddi fyned trosodd. "Penderfynwyd gan yr Arglwydd," meddai, "gyda golwg ar fy arosiad yn Nghymru, fy mod i aros i drefnu y cymdeithasau, i ddarllen, ac i ysgrifennu hyd byth ag y caniatâ fy nghorph. Wrth weled cynllun Duw, fel y dymunaswn iddo fod, llanwyd fy enaid a chariad, fel y llefwn: 'O, gad i mi ddwyn dy holl feichiau di.' Aeth fy nghalon gyda'r rhai a ymadawent a'r Gymdeithasfa." Ymadawodd yntau dydd Sadwrn, ond nid cyn gweddïo yn daer am gael ei gynysgaeddu yn helaeth a'r cymhwysderau gofynnol i'w waith. "O, Iesu," llefai, "er mwyn dy ogoniant dy hun, a'th enw, a'th achos, dyro i mi ffydd, cariad, gallu, a phob doniau, gan fy mod yn eu gofyn er dy fwyn di a'th ogoniant, ac nid i mi fy hun, nid hyd yn nod er mwyn fy iachawdwriaeth; a dyro dy fendith ar fy llafur." Cyd-deithiai amryw frodyr gydag ef, ac yn eu mysg Beaumont a Cennick. Cyrhaeddasant Gelligaer erbyn tua deuddeg. Wrth fod Beaumont yn gofyn bendith ar yr ymborth yno, cafodd Howell Harris ymweliad o'r nefoedd; gweddïodd yn dufewnol am gymorth i fugeilio yr ŵyn; am bob doethineb, cariad, tynerwch, a gofal angenrheidiol at y gorchwyl; a dywed ei fod yn teimlo yspryd y bugail yn barod o'i fewn. Aeth Harris yn ei flaen trwy Cantref, lle y treuliodd ran o'r Sabbath, Felinfach, a Llywel, gan ddychwelyd i Drefecca dydd Iau. Ni fu yno ond dau ddiwrnod, gan fod trefnu y cymdeithasau yn unol a phenderfyniad y Gymdeithasfa, a dwyn yr holl gynghorwyr i ufudd-dod, yn galw arno i fyned o gwmpas. Eithr gwelodd ryw ogoniant yn Nghrist cyn cychwyn i'w daith, na welsai ei gyffelyb erioed o'r blaen, a hynny yn bennaf trwy ddarllen llyfr wedi cael ei ysgrifennu gan un o'r Bedyddwyr ar natur eglwys. Dywed fod dynion yn ymrannu yn bleidiau, er fod natur yr eglwys yn ysprydol, ond fod yr Yspryd yn bendithio rhywbeth perthynol i bob un iddo ef, a'i fod yn rhydd oddiwrth fod mewn caethiwed i blaid.

Erbyn y Gymdeithasfa Fisol yn Llanddeusant, yr hon a gynhaliwyd Chwefror 3, 1743, yr oedd wedi teithio trwy rannau helaeth o Siroedd Brycheiniog, Mynwy, a Morganwg, gan sefydlu y seiadau, a phregethu yr efengyl. Ni ddywedir pwy oedd yn bresennol yno, rhoddir yn unig y penderfyniadau, y rhai sydd fel y canlyn: "Fod y rhai sydd yn cynghori mewn un seiad i barhau, fel yr ydym yn awr yn eu cymeradwyo, ar yr amod eu bod yn dyfod i'n Cymdeithasfa nesaf.

"Fod y brodyr W. Williams, Cerigcadarn; William John, Lancothi; Jenkin Jenkins, Llandefathen; David Rees, Tirabbad; Hopkin John, a John Meyrick, i fod fel y maent yn awr yn cael eu trefnu, a'u bod i ddyfod i'r Gymdeithasfa nesaf.

"Fod y rhai canlynol i gael eu dystewi hyd y Gymdeithasfa nesaf, ac i gyfarfod a ni yno, sef James Tomkins; David Price, Dyserth; Richard Thomas, Ystradfellte; John David, Llandyfeilog; John Watkins, Defynog; a Thomas Price, Llandilo Fach.

"Fod y brawd John Jones, Cayo, i ymsefydlu yn agos i Gastellnedd, ac i arolygu bob yn ail wythnos y seiadau yn Creunant, Hafod, Castellnedd, Palleg, Cwmamman, Llandilo Fach, Llangyfelach, Llansamlet, Llanddeusant, Blaen Llywel, Casllwchwr, Llanon, Pembre, a Defynog, gyda y brawd John Richard; a'u bod i gael eu cynorthwyo gan y brawd Jeffrey Dafydd yn Llanddeusant, John Powell yn Defynog, Jenkin John yn Llywel, Edward Meyrick yn Pembre, a George Phillips yn Nghastellnedd a'r Hafod.

  • Fod y brawd Richard William Dafydd i arolygu y seiadau yn Llandyfaelog, Cilgarw, Llanddarog, a Chaerfyrddin.
  • Fod y brawd John Rees i gynghori dan ofal y parchedig frawd William Williams.
  • Fod y brawd William Richard i arolygu y seiadau canlynol: Blaenheinaf (Blaenhoffnant), Dyffryn Saith, Blaenporth, Twrgwyn, Llechryd, a Lhmfair-y-llwyn.
  • Fod y brawd William Harry i gadw ysgol yn Sir Gaernarfon, ac i gynghori yn y gymydogaeth, hyd byth ag y medr, rhwng oriau yr ysgol.
  • Fod y brawd William John, Llanwrda, a'r brawd Dafydd, i gynorthwyo y brawd James Williams yn seiadau Llanwrda, Llansadwrn, Cilgarw, a Talley.
  • Fod y brawd Richard Tibbot i gadw ysgol yn Sir Benfro.
  • Fod y brawd John Dafydd i lefaru ar brawf o flaen y brodyr yn seiadau Llandyfaelog, a Chilgarw, hyd nes cawn farn y brodyr."

Dyma gofnodau Cyfarfod Misol cyntaf Sir Gaerfyrddin. Gwelir mor debyg oedd ei waith a'i arddull i eiddo Cyfarfod Misol yr amser presennol. Awgryma y cofnodau amryw gwestiynau dyddorol, nad oes gennym hamdden i sylwi arnynt; ond rhaid i ni ddifynu rhan o ddyddlyfr Howell Harris gyda golwg ar y cyfarfod. Fel hyn yr ysgrifenna: "Cymdeithasfa Fisol yn Llanddeusant. Ar y ffordd yno yr oeddwn yn sych, a marw, a difater; ond yn y man, trwy gredu fod Duw wedi fy ngharu fel yr ydwyf, yn galed ac yn ddifater, dechreuodd cariad gynhesu yn fy enaid, a gollyngwyd fi yn rhydd. Gwelaf fod Duw yn fy ngharu yn fy mhechod, heb yr un rheswm am hynny, ond am mai felly y rhynga bodd yn ei olwg. Teimlais ynof fod Duw yn myned i wneyd rhyw bethau mawrion ynof fi, neu i mi, neu drwof fi, neu erof fi. Am y rhan fwyaf o'r ffordd yr oedd fy nghalon yn llosgi ynof fel pentewyn o'r tan. Daethum i'r lle gwedi deuddeg, ac yno yr eisteddasom yn penderfynu materion y seiadau hyd yn agos i saith, ac mewn gweddi. Dygodd yr Arglwydd fi y tu fewn i'r llen, a chadwodd fi yno yn hyfryd, am y rhan fwyaf o'r amser. Myfi yw y gwaelaf o honynt oll, ond yr hyn a ofnais a fuasai yn faich i mi a wnaed yn hawdd ac yn felus. Cytunasom oll. Yn sicr yr oedd yr Arglwydd yno. Ond wrth ganu yr hymnau diweddaf, cyneuwyd ynom y fath fflam fel na allem ymadael; yn sicr tosturiodd yr Iesu wrthym; ac er fy mod (yn flaenorol) yn ddifater, cyneuwyd ynof y fath gariad at y brodyr, fel yr oeddwn fel gwreichionen o dan mewn fflam. A phan y gwelais fod un o'r brodyr i fyned i Ogledd Cymru, darfu i fy enaid yn wir fendithio Duw am hynny. Wrth ganfod fod y nerth oll, fel pe bai, gyda y brawd Rowland, teimlais fy enaid yn ddiolchgar ynof; yr oeddwn yn foddlon cael fy yspeilio o'm nerth a'm doniau er mwyn iddo ef gael yr oll; llawenychais a bendithiais Dduw yn wir wrth ei weled ef mor llawn o Dduw. O, fel y gwresogem ynghyd! Gwedi eistedd a threfnu ein holl amgylchiadau, gwrandewais ar un o'r brodyr yn cynghori hyd nes oedd wedi naw. O'r fath bethau y mae yr Arglwydd yn myned i'w cyflawni ar y ddaear, yn neillduol erof ac ynof fi! O'r fath newyddion a glywais o Sir Aberteifi, y fath dywalltiadau o'r Yspryd sydd yno, y fath fflamiau o gariad! Fflamiai fy nghalon, a llosgai ynof fel pentewyn glo, wrth ganfod fel y mae Duw yn rhoddi gallu, a zêl, a goleuni i'r brodyr." Gwelir ddarfod i'r Cyfarfod Misol cyntaf derfynu mewn moliant; fod y brodyr yno oll yn gytûn ac yn cydweled; fod doniau ardderchog Rowland yn rhoddi iddo y flaenoriaeth ar bawb yn ngolwg Howell Harris, a'i fod yntau yn gallu bendithio Duw y nefoedd o herwydd y gras a arddangosid ynddo.

Yn nghofnodau Trefecca rhoddir hanes cyfarfod a gynhaliwyd yn Nhrefecca, Chwefror 7, 1743, sef yn mhen pedwar diwrnod gwedi Cyfarfod Misol Llanddeusant. Dibwys oedd y penderfyniadau a basiwyd, ac yr oedd y rhai hyny i gael eu cyflwyno i ystyriaeth bellach y Gymdeithasfa. Y tebygolrwydd yw nad oedd yn Gyfarfod Misol rheolaidd, a gwelwn oddiwrth ddydd-lyfr Howell Harris nad oedd efe yn bresennol. Cynhaliwyd cyfarfod yn Tyfyn, neu Tyddyn, Sir Drefaldwyn, Chwefror 17, pan y penderfynwyd fod y brodyr Morgan Hughes, Benj. Cadman, a Lewis Evan i gymeryd gofal y seiadau yn Tyddyn, Llanidloes, Llanllugan, Llanwyddelan, Bwlchyrhwyaid, a Mochdre, gyda Thomas Bowen fel goruchwyliwr neu genhadwr. Yr oedd Howell Harris yn hwn; eithr y mae yn amheus a oedd yn gyfarfod rheolaidd; y tebygolrwydd yw mai cymeryd mantais ar bresenoldeb y Diwygiwr o Drefecca a wnaed i ymgynghori ar ychydig bethau. Rhaid mai byr hefyd fu yr ymgynghoriad, oblegyd dywed Harris yn ei ddyddlyfr iddo fod yn ysgrifennu hyd o gwmpas deg, ac y mae yn pregethu yn Nhrefeglwys, pellder o ryw saith milldir, o gwmpas deuddeg. Tebyg mai gwedi yr odfa y nos flaenorol y bu yr ymgynghoriad.

Yn ganlynol, cawn gyfarfod yn Llanwrtyd, na roddir ei ddyddiad, pan y gosodwyd yr holl gynghorwyr yn y rhan honno tan ofal y Parch. W. Williams, oedd ar y pryd yn guwrad yn Llanwrtyd.

Mawrth i, 1743, cynhaliwyd Cymdeithasfa Fisol dra phwysig yn Glanyrafonddu, Sir Gaerfyrddin, yn mha un y gwnaed cryn nifer o drefniadau, ac y cydunwyd ar nifer o gynygion i'w cyflwyno i'r Gymdeithasfa Chwarterol oedd i gael ei chynnal yn Watford. Yn mysg pethau eraill penderfynwyd: "Fod y brawd David Williams, Llangyndeyrn, i gynghori yn unig gerbron y brodyr, yn y cymdeithasau preifat agosaf, hyd nes y byddo wedi cael tystiolaeth oddiwrthynt, a'i fod i ddyfod i'n Cymdeithasfa nesaf i gael ei holi.

Fod y rhai canlynol i gael eu dystewi, am ein bod yn argyhoeddedig nad ydynt wedi cael eu hanfon gan Dduw: James Tomllins; Richard Thomas, Ystradfellte; John Watkins, Defynog; a Thomas Price, Llandilo Fach.

Fod y brawd John Richard, Llansamlet, i gymeryd gofal, ac i gynghori yn seiadau Cefnfedw, Blaencrai, Llanddeusant, Cwmaman, Llanon, Pembre, Casllwchwr, Llandafen, Llandremor, Llangyfelach, Llansamlet, Castellnedd, Hafod, Creunant, a Talley; ei fod i ymweled a hwy unwaith bob pythefnos, un bob dydd, ac i gael ei gynorthwyo gan John Jones, Cayo, yr hwn sydd i ymweled a hwy unwaith yn y mis, gan fyned o gwmpas un wythnos, a gweithio yr wythnos arall

Fod y brawd William Harry i gadw ysgol yn Sir Gaernarfon; a'r brawd Richard Tibbott i gadw ysgol yn Sir Benfro.

Fod y brawd John David, o Landyfaelog, i lefaru yn seiadau Llandyfaelog a Chilgarw, ar brawf, gerbron y brodyr, hyd y Gymdeithasfa nesaf, pan y disgwylir barn y brodyr o berthynas iddo.

Fod Hopkin John, Llangyfeiach; John Meyrick, Llandafen; a John Jones, Llandyfalle, y rhai na ddaethant hyd yn hyn i'n Cymdeithasfa i gael eu holi, i aros yn y lleoedd a benodwyd iddynt fel y maent wedi eu sefydlu, ar yr amod eu bod yn dyfod y tro nesaf, os bydd hynny yn gyfleus iddynt."

Yr ydym yn rhoddi lle i'r cofnodau hyn, oblegyd eu bod yn ddangoseg o'r modd y gweithredai y Methodistiaid yn eu Cymdeithasfaoedd, a'u Cyfarfodydd Misol cyntaf; mor fanwl oeddynt yn eu trefniadau, ac mor ddidderbyn wyneb a chydwybodol. Am lawer o'r cynghorwyr y cyfeirir atynt, y mae pob peth perthynol iddynt ond eu henwau wedi myned yn angof; nid oes efallai gymaint a thraddodiad o barthed iddynt ar gael yn yr ardaloedd lle y preswylient; nid oes adswn o'u hanes wedi cyrhaedd i lawr i'n hoes ni; ac eto, y mae yn sicr fod rhai o honynt yn ddynion o ddefnyddioldeb mawr, os mewn cylchoedd cymharol gyfyng; eu bod yn llawn zêl ac ymroddiad, ac nid oes ond y dydd hwnnw a ddengys faint yr aberth a wnaethant dros yr Arglwydd Iesu, a pha mor ddyledus yw y cyfundeb Methodistaidd hyd yn nod y dydd hwn i'w llafur cariad.

Pasiwyd hefyd y penderfyniadau dilynol fel cynygion i'w cyflwyno i'r Gymdeithasfa: "Fod y Gymdeithasfa Gyffredinol o weinidogion a chynghorwyr, sydd yn unedig yn Lloegr a Chymru, i gyfarfod yn unig bob hanner blwyddyn, oblegyd y pellder mawr. Fod y brodyr Saesnig i gyfarfod unwaith cydrhwng, felly hefyd y brodyr Cymreig, rywle tua chanol y Deheudir, fel y penderfynir; ond eu bod i ymohebu yn fisol trwy lythyrau. Fod cynifer ag a fedr o'r gweinidogion, a'r cynghorwyr cyhoedd, i gyfarfod unwaith y mis, neu ddwywaith rhwng pob Cymdeithasfa Chwarterol, neu i anfon eu llythyrau. Fod gofal cyffredinol yr holl achos i gael ei gyflwyno i'r gweinidogion ordeiniedig, sef meistri Whitefield, Rowland, Howell Davies, John Powell, Thomas Lewis, a William Williams; ac fel ymwelwyr cyffredinol, neu gynorthwywyr, dan y chwech gweinidog hyn, fod y chwech canlynol i gael eu hapwyntio, sef Meistri John Cennick, Thomas Adams, a Joseph Humphreys, yn Lloegr; a Meistri Howell Harris, James Beaumont, a Herbert Jenkins, yn Nghymru; eu bod i gael fel cynorthwywyr, er mwyn arolygiaeth fanylach, y chwech cynghorwr anghyoedd a ganlyn, pob un o honynt i gael cylch a gofal neillduol, sef John Richard, William Richard, John Harris, Thomas James, John Jones, a Morgan John (Morgan John Lewis, yn ddiau), deuddeg cymdeithas yr un, neu lai, iddynt; a Morgan Hughes, James Williams, Milbourn Bloom, Thomas Lewis, Thomas Williams, Richard William David, chwech cymdeithas yr un. Yn gyflawn, 6 gweinidog urddedig, 6 i'w cynorthwyo; 6 cynghorwr dros ddeuddeg o seiadau, a 6 dros chwech o seiadau. Fod yr holl gynghorwyr anghyoedd eraill i roddi cyfrif am yr un neu ddwy gymdeithas sydd o dan eu gofal i'r ymwelydd cyffredinol a fyddo wedi ei osod drostynt; fel y byddo adroddiad, yn bersonol neu trwy lythyr, yn cael ei dderbyn yn mhob Cyfarfod Misol. Pan fyddo un yn cynyg ei hun fel cynghorwr, ei fod i gynghori yn mlaenaf yn y cymdeithasau preifat; ac yn gyntaf i dderbyn cymeradwyaeth rhyw Gristion, neu Gristionogion difrifol a phrofiadol, a'i clywsant ef yn aml; yn ail, barn tri neu bedwar o'r cynghorwyr anghyoedd a chyhoedd, a'r gweinidogion ordeiniedig; ac yn drydydd, ei fod i gael ei arholi parthed ei ras, galwad, cymhwysderau, doniau, ac athrawiaeth. Mewn trefn i ofalu am y tlawd a'r afiach, ac am yr arian a gesglir, ac i fod yn gennad y gymdeithas, ac yn dangnefedd-wneuthurwr; fod goruchwyliwr neu ddau i gael eu dewis yn mhob seiat. Mewn cysylltiad a'r 6 cynghorwr y cyfeiriwyd atynt, sef John Cennick, Howell Harris, &c., y rhai ydynt i fod yn gynorthwywyr y gweinidogion ordeiniedig, eu bod heb unrhyw derfynau gosodedig gyda golwg ar leoedd, ond i fyned o gwmpas fel y byddo galwad, eithr Howell Harris gan mwyaf yn Nghymru; a'r 12 cynghorwr arall y cyfeiriwyd atynt i gael terfynau penodol, y rhai y gellir eu newid trwy ymgynghoriad a'r gymdeithas."

Cynhaliwyd yr ail Gymdeithasfa Chwarterol yn Watford, Ebrill 6ed a'r 7fed, 1743. Yr oedd yn bresennol o weinidogion ordeiniedig, Meistri Whitefield, William Williams, a Thomas Lewis, yn nghyd a Henry Davies, Ymneillduwr. O'r arolygwyr, yr oedd yn bresennol Meistri Harris, Herbert Jenkins, Thomas James, James Beaumont, Morgan Hughes, Morgan John Lewis, Thomas Williams, a Thomas Adams. Dewiswyd Mr. Whitefield yn llywydd, yr hwn a agorodd y Gymdeithasfa gyda phregeth ar y geiriau: "Ac Enoch a rodiodd gyda Duw." Ymddengys iddo gael cymorth anarferol. Ysgrifena Whitefield yn ei ddyddlyfr: "Dydd Mercher, ar hanner dydd, agorais y Gymdeithasfa, gydag anerchiad difrifol ac agos, ar rodio gyda Duw. Teimlai y brodyr a'r bobl lawer o'r presenoldeb dwyfol. Gwedi hynny aethom at y trefniadau. Penderfynwyd amryw faterion o bwysigrwydd mawr. Torasom i fynnu o gwmpas saith; cyfarfyddasom drachefn am ddeg, a pharhasom yn penderfynu pethau perthynol i'r seiadau hyd ddau o'r gloch y boreu, Dydd Iau, eisteddasom drachefn hyd bedwar yn y prydnhawn. Yna, wedi cymeryd lluniaeth, pregethais ar orphwysdra y credadyn; gwedi hynny aethom yn y blaen gyda'r trefniadau, gan orphen y Gymdeithasfa o gwmpas haner nos."

Y mae pregeth agoriadol Whitefield ar gael, a diau ei bod yn un o'i oreuon. Temtir ni i ddifynu rhannau o honni: "Ni symudir y pechod preswyliedig yn hollol," meddai, "hyd nes y byddom yn crymu ein pen, ac yn rhoddi i fynnu yr yspryd, Llefara yr Apostol Paul am dano ei hun yn ddiau, a hynny nid pan oedd yn Pharisead, ond yn Gristion gwirioneddol, pan yr achwyna fod y drwg yn bresennol gydag ef, pan yr ewyllysiai wneuthur da; yn bresennol gydag ef, nid yn meddu llywodraeth arno, ond yn gwrthwynebu ac yn rhwystro ei fwriadau a'i actau daionus, fel na fedrai gyflawni yr hyn a ewyllysiai i'r perffeithrwydd ag y dymunai y dyn newydd. Dyma a eilw yn bechod yn preswylio ynddo. Ond am allu llywodraethol pechod, y mae yn cael ei ddinystrio yn mhob enaid sydd wedi ei eni yn wirioneddol o Dduw; a gwanheir ef yn raddol fel y byddo y credadyn yn cynyddu mewn gras, ac fel y byddo Yspryd Duw yn cael goruchafiaeth fwyfwy yn ei galon." Meddai drachefn: " Gweddi! gweddi! gweddi! Y mae yn dwyn Duw a dyn at eu gilydd, ac yn eu cadw ynghyd; y mae yn dyrchafu dyn at Dduw, ac yn tynnu Duw i lawr at ddyn. Os dymunech rodio gyda Duw, gweddïwch; gweddïwch yn ddi-baid. Byddwch yn aml mewn gweddi ddirgel. Pan gyda gorchwylion cyffredin bywyd arferwch saeth-weddïau yn barhaus. Anfonwch, o bryd i bryd, lythyrau byrion i'r nefoedd, ar adenydd ffydd. Cyrhaeddant hyd galon Duw, a dychwelant yn llwythog o fendithion." Gyda chyfeiriad at yr hyn y cyhuddid ef yn fynych o honno, sylwa gyda medr mawr: "Er mai hanfod penboethni yw honni ein bod yn cael ein harwain gan yr Yspryd heb y Gair ysgrifenedig; eto dyledswydd pob Cristion yw cymeryd ei arwain gan yr Yspryd mewn undeb a'r Gair ysgrifenedig. Yr wyf yn dymuno arnoch, gan hynny, O gredinwyr, ar i chwi wylio symudiadau Yspryd y Duw bendigedig yn eich calonnau; a phrofwch eich syniadau a'ch cymhellion wrth Air di-feth a sanctaidd Duw. Trwy arfer y rhagocheliad hwn, chwi a hwyliwch yn ddyogel yn y canol rhwng dau eithaf peryglus, sef penboethni ar y naill law, a Deistiaeth ac anffyddiaeth ronc ar y llaw arall. Terfyna mewn diweddglo hyawdl: "Un gair," meddai, "un gair wrth fy mrodyr yn y weinidogaeth, ac yna byddaf wedi gorphen. Chwi a welwch, fy mrodyr, fod fy nghalon yn llawn; braidd na allwn ddweyd ei bod yn rhy lawn i lefaru, ac eto yn rhy lawn i fod yn ddystaw, heb ddyferu gair i chwi. Sylwais ar ddechreu yr anerchiad fod Enoch, yn ôl pob tebyg, yn ddyn cyhoeddus, ac yn bregethwr tanllyd. Er ei fod wedi marw, y mae yn llefaru eto wrthym ni, i fywiocau ein zêl, ac i'n gwneyd yn fwy ymdrechgar yn ngwasanaeth ein Meistr gogoneddus a bendigedig. Sut y pregethodd Enoch? Pa fodd y rhodiodd gyda Duw? Bydded i ni ei ddilyn, fel yr oedd efe yn ddilynwr Crist. Y mae y barnwr wrth y drws. Yr hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda. Y mae ei wobr gydag ef; ac os byddwn ni yn zêlog dros Arglwydd y lluoedd, cawn heb fod yn hir lewyrchu fel y sêr yn y ffurfafen yn nheyrnas ein Tad byth bythoedd."

Felly y pregethai Whitefìeld gerbron y Gymdeithasfa yn Watford, ac nid rhyfedd fod y frawdoliaeth yn toddi dan ddylanwad ei ymadroddion. Daw ei ddoniau godidog i'r golwg yn amlwg yn y difyniadau byrion hyn. Y mae yspryd y peth byw i'w deimlo ynddynt. Er fod ei bresenoldeb yn absennol, ac nas gallwn glywed acenion ei lais, y llais melus a allai wladeiddio cynulleidfa a'i llwyr goncro, meddir, trwy yn unig floeddio y gair "Mesopotamia;" eto, canfyddwn ynddynt yn amlwg nodweddion y gwir areithiwr. Y mae mor amlwg a hynny nad mewn llais a thraddodiad yn unig y gorweddai cuddiad ei nerth, ond ei fod yn dduwinydd gwych. ac yn fanwl ac yn athronyddol yn nghyfansoddiad ei bregeth.

A ganlyn yw prif benderfyniadau y Gymdeithasfa: "Fod y Parch. Mr. Williams i adael ei guwradiaeth, ac i fod yn gynorthwywr i'r Parch. Mr. Rowland. Fod y brawd Howell Harris i fod yn arolygydd dros Gymru, ac i fyned i Loegr pan elwir am dano. Fod y brawd Herbert Jenkins i fod yn gynorthwywr i Mr. Harris, ac hefyd i'r brodyr Saesonig. Fod y brawd James Beaumont i gymeryd arolygiaeth Sir Faesyfed, a Sir Henffordd, ac i gael ei gynorthwyo gan y brodyr John Williams, John Jones, William Evans, David Price, ac hefyd gan Richard Lewis, os cymeradwyir ef gan y Gymdeithasfa Fisol. Fod y brawd Morgan Hughes, os teimla ryddid i hynny, i arolygu Sir Drefaldwyn, gan gael ei gynorthwyo gan y brodyr Lewis Evan, Benjamin Cadman, a Thomas Bowen (dalier sylw: gwedi hir brawf newidiwyd hyn, a gosodwyd Richard Tibbott yn ei le). Fod y brawd Thomas James i arolygu rhan o Frycheiniog, hyd yr afon Wysg, ac i gael ei gynorthwyo gan y brodyr T. Bowen, Ed. Bowen, T. Bowen, Buallt, Jos. Saunders, John Williams, Tregunter, W Williams, Jenkin Jenkins, David Rees, a Rees Morgan. Fod y brawd Morgan John Lewis i arolygu cymdeithasau Dolygaer, Cwmdu, Cantref, Defynog, a Llywel, oll yn Mrycheiniog; Llanddeusant, yn Sir Gaerfyrddin; a Mynwy, yr ochr arall i'r Wysg; ac i gael ei gynorthwyo gan y brodyr John Jones, John Powell, Richard Thomas, John Belsher, Evan Thomas, Stephen Jones, Jeffrey David, a Jenkin John. Fod y brawd Thomas Lewis i arolygu y cymdeithasau rhwng y Passage a'r afon Wysg, i gynorthwyo y brodyr Seisonig, pan elwir am dano, ac i gael ei gynorthwyo gan y brawd Geo. Cross. Fod y brawd Thomas Williams i arolygu Morganwg mor bell a Llantrisant, ac i gael ei gynorthwyo gan y brodyr E. Evans, W. Powell, T. Price, W. Edward, T. Lewis, R. Jones, J. Yeoman, a H. Griffith. Fod y brawd John Harris i arolygu Sir Benfro, ei gynorthwywyr i gael eu penderfynu yn Nghymdeithasfa Fisol nesaf y sir. Fod y brawd Milbourn Bloom i arolygu Sir Gaerfyrddin hyd Gastellnedd, ac i gael ei gynorthwyo gan Jno. Richards, ac eraill. Fod y brawd James Williams i arolygu y rhan arall o Sir Gaerfyrddin, ac i gael ei gynorthwyo gan nifer o frodyr. Fod y brawd David Williams i arolygu Sir Aberteifi." Tebygol mai David Williams, Aberthyn, gwedi hyn, oedd y brawd diweddaf.

Heblaw y trefniadau hyn, rhai a ddynodant wyliadwriaeth ddyfal dros yr holl gymdeithasau, pasiwyd, yn mysg eraill, y penderfyniadau canlynol: " Fod yr arolygwyr i gael rhyddid i bregethu ar eu teithiau, os gelwir arnynt, ac os tybiant yn eu calonnau y byddai i'r brodyr yn y Gymdeithasfa, pe yn gydnabyddus a'u hamgylchiadau, ganiatáu iddynt; nad yw y brodyr yn credu yn eu calonnau fod y brawd James Tomkins wedi cael ei alw gan Dduw i fod yn bregethwr, ac y maent yn penderfynu peidio ei gefnogi, a pheidio ei wahardd, ond ei adael i'r Yspryd. Fod pawb sydd yn tybio eu bod wedi cael eu galw i gynghori i wneyd apêl i un o'r Cymdeithasfaoedd Misol, gan yr hon y gwneir ymchwiliad manwl i'w doniau, eu gras, a'u galwad; os cymeradwyir hwynt, y maent i gael maes penodedig, fel y gwêl y Gymdeithasfa yn briodol; ac y mae y cyfryw gymeradwyaeth i gael ei ddwyn i'r Gymdeithasfa Gyffredinol, ac i gael ei gymeradwyo yno. Fod yr arolygwyr i ddanfon adroddiad am waith Duw yn eu meusydd neillduol i Lundain, i fod yno ddiwedd pob mis, ac i gyfeirio eu llythyrau at weinidog y Tabernacl, i ofal Mr. John Sims. Fod pob arolygwr i feddu llyfr, yn mha un yr ysgrifenna enwau ei holl gynghorwyr anghyoedd, ac enwau pob aelod perthynol i'r seiadau preifat, gan eu rhannu i ddynion priod, gwragedd priod, dynion sengl, benywod sengl, ac hefyd i ddwyn adroddiad am ystâd pob seiat i'r Gymdeithasfa Gyffredinol. Fod ysgrifennydd i gael ei benodi i bob Cyfarfod Misol, yr hwn a gofnoda y gweithrediadau mewn llyfr. Fod Cymdeithasfaoedd Misol i gael eu cynnal yn y lleoedd a ganlyn: Maesyfed a Threfaldwyn, gyda y Parch. W. Williams yn gymedrolwr; Siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi, gyda Mr. Rowland yn gymedrolwr; Brycheiniog, gyda Thomas Lewis; Penfro, gyda Mr. Howell Davies; Morganwg a Mynwy, gyda Mr. John Powell. Fod pob Cymdeithasfa Fisol i gynnwys gweinidog ordeiniedig, os yn bosibl, fel cymedrolwr; arolygydd y rhandir, yn nghyd a'i gynorthwywyr; yn absenoldeb gweinidog ordeiniedig, yr arolygydd i fod yn gymedrolwr. Fod pob Cymdeithasfa i gael ei dechreu trwy weddi, a'i therfynu trwy weddi a chyngor, a bod yr holl arolygyddion i fod yn bresennol, heb eithrio y cynghorwyr anghyoedd, os hoffant ddyfod. Fod y Parch. Mr. Whitefield i ddewis y brawd Howell Harris i fod yn gymedrolwr yn ei absenoldeb."

Cofnodir yn mhellach ddarfod i'r Gymdeithasfa gael ei chario yn mlaen gyda llawer o undeb a chariad, ac i'r brodyr ymadael a'u gilydd gan fendithio Duw am yr hyn a wnaeth, a chan ddisgwyl pethau mwy yn y dyfodol. Ysgrifena Whitefield mewn llythyr ddarfod iddo ef gael ei ddewis yn gymedrolwr parhaus, os byddai yn Lloegr. Ni cheir hynny, mewn geiriau pendant, yn y cofnodau; ac eto cynhwysir ef, o ran ystyr, yn y penderfyniad fod Whitefield, os yn absennol, i benodi Howell Harris i gymeryd ei le. Edrycha Tyerman ar y penderfyniad hwn fel yn gosod Whitefield yn llywydd ar holl Fethodistiaid Cymru, a dywed fod sedd yr awdurdod yn cael ei symud o'r Dywysogaeth, ac yn cael ei gosod yn Llundain. Yr ydym yn amheus a olygai y Gymdeithasfa hynny yn hollol; ac eto, pan gofiwn fod y nifer amlaf o'r aelodau yn bleidiol i ffurflywodraeth esgobol, y mae yn ddiau y bwriadent gyflwyno gyda'r gadair ryw gymaint o awdurdod rhwng y Cymdeithasfaoedd.

Daethai Whitefield i lawr i Gymru y tro yma gyda'r bwriad, nid yn unig o gymeryd rhan yn ngweithrediadau Cymdeithasfa Watford, ond hefyd er cymeryd taith trwy rannau o'r Deheudir, a pha rai nad oedd wedi ymweled yn flaenorol. Yr oedd i'r daith amcan deublyg, sef pregethu yr efengyl am y deyrnas, hoff waith y gweinidog poblogaidd hwn; ac hefyd dwyn yr holl gymdeithasau crefyddol, a'r cynghorwyr perthynol iddynt, i syrthio i mewn a threfniadau y Gymdeithasfa, ac felly ffurfio yn corph cyfansawdd a chryf. Yn anffodus, nid yw holl ddyddlyfr Howell Harris ar gael; ond anfonodd Whitefield adroddiad dyddorol, a chymharol fanwl, o'r daith i Lundain, i'w gyhoeddi yn y WeeMy History. Ysgrifena y llythyr cyntaf o Watford, Ebrill 7, 1843. Gwedi rhoddi hanes y Gymdeithasfa, dywed: "Nis gallaf ddweyd wrthych y fath gynnydd sydd wedi cymeryd lle er y Gymdeithasfa o'r blaen. Yr wyf yn cofio pan y marchogwn ar hyd Gymru, bedair blynedd yn ôl, i'r Arglwydd beri i mi deimlo yn fy nghalon fy mod yn debyg i Joshua yn myned oddiamgylch, gan gymeryd y naill ddinas ar ôl y llall. Adgofiai yr anwyl frawd Harris fi yn awr o hyny, ac awgrymai fy mod y tro hwn yn debyg i Joshua yn rhannu y wlad. Y mae yn ymddangos fod Duw wedi rhoddi i'r brodyr sanctaidd ymddarostyngiad. Dewiswyd fi, os yn Lloegr, yn gymedrolwr parhaus; a gobeithiaf y bydd i'r iachawdwr roddi i mi yspryd at hyn. Teimlwn fy mod i raddau mawr dan addysg ddwyfol, a chydnabyddai y brodyr yn ewyllysgar yr awdurdod a rodded i mi. Y mae y brodyr wedi gosod y seiadau yn Nghymru ar fy nghalon. Efallai y deuaf i Lundain yn mhen mis. Ymddengys mai ewyllys yr Arglwydd yw i mi aros yn Nghymru am ryw bythefnos, a chymeryd taith trwy Sir Benfro. Y mae drysau llydain yn agored yno.

"Llantrisant, Ebrill 10, 1743. Pregethais y ddoe yn Nghaerdydd i gynulleidfa fawr. Eisteddai y gwatwarwyr mwyaf yn llonydd wrth fy ochr, a theimlai plant Duw y dwyfol bresenoldeb. Yn yr hwyr aethum i Ffonmon; derbyniodd Mr. Jones ni yn garedig; a gwelodd Duw yn dda lefaru drosof yn y seiat, lle y pregethais. Y boreu hwn pregethais drachefn. Yr oedd yn amser bendigedig. Y mae y brawd anwyl Harris yn pregethu yn Gymraeg. Y mae y bobl yma yn hynod syml." Felly yr ysgrifenna Whitefield, ond yn ol llythyr Howell Harris, yn Aberddawen y pregethai y ddau, ond aethant i Ffonmon i letya. Dywed hefyd mai yn Mhenmarc y pregethasant yr ail foreu.

Y mae y llythyr nesaf o Abertawe, ac wedi ei ddyddio Ebrill 12. Fel hyn y dywed gŵr Duw: " Y mae pethau mawrion yn cael eu gwneyd, ac i gael eu gwneyd yn Nghymru; y mae drws effeithiol wedi cael ei agor i bregethiad yr efengyl. Pregethais ddoe yn Nghastellnedd, oddiar dyganllaw (balcony) yn yr heol, i o gwmpas tair mil o eneidiau. Yr oedd yr Arglwydd gyda mi mewn gwirionedd. Y boreu heddyw pregethais yma (Abertawe) i o gwmpas pedair mil, gyda mawr eglurhad yr Yspryd. O gwmpas un, pregethais gyda mwynhad mawr yn Harbrook, bedair milldir o bellder, ac yr wyf newydd ddychwelyd er pregethu yma eto. Llefarai yr anwyl frawd Harris ddoe a heddyw yn Gymraeg." Yna y canlyn ôl-ysgrif, wedi ei hysgrifenu ar ol saith yn yr hwyr: "Yr wyf newydd orphen pregethu. Dychlamai eich calon gan lawenydd pe baech yma. Y mae Abertawe wedi ei chymeryd. Ni phregethais erioed gyda mwy o nerth argyhoeddiadol Yr oedd llawer o'r cyfoethogion a'r mawrion yn bresenol, a'r gynulleidfa yn fwy nag yn y boreu. Gorchfygodd yr Iesu trosof. Iddo ef boed yr holl ogoniant. Clodforwch ef; clodforwch ef drosof fi." Ysgrifenai yn amlwg tan ddylanwad y cyffro oedd wedi ei feddiannu yn y pwlpud, ac y mae yn hawdd gweled fod ei galon yn crychneidio ynddo. Tôn milwr buddugoliaethus, wedi ennill un o gaerau pwysicaf y gelyn, sydd i'w theimlo yn ei eiriau, a rhydd yr holl glod nid i'w ddewrder a'i fedr ei hun, ond i bresenoldeb yr Iesu, ei Gadfridog.

Yr ydym yn ei gael yn nesaf yn Lacharn, Ebrill 15, a dywed: "Wedi i mi adael Llantrisant, gwnaeth y diafol ymdrech galed i'm tynnu allan o Gymru, trwy geisio fy mherswadio na ddylwn fynd yn mhellach; ond yr oedd ein Hiachawdwr yn rhy gryf iddo. Pregethais dydd Mercher yn Llanelli i gynulleidfa fawr, ac yn yr hwyr yn Abergwili. Dydd Iau, pregethais yn Nghaerfyrddin, un o'r trefydd mwyaf a boneddigeiddiaf yn Nghymru; yn y boreu llefarwn oddiar ben y groes, yn yr hwyr oddiar fwrdd yn ymyl. Yr oedd y Sessiwn fawr yno. Dymunodd yr ustusiaid arnaf aros hyd nes y byddent hwy wedi codi, ac y deuent i wrando. Hwy ddaethant, a llawer o filoedd yn ychwaneg, ac amryw o bobl bendefigaidd. Yr oedd yr Iesu gyda mi, a hyderaf i lawer o dda gael ei wneyd. Y mae y brawd anwyl Harris yn cynghori yn mhob lle. Ymddengys ein Hiachawdwr fel pe byddai wedi rhoddi trefydd Cymru i mi. Yr wyf yn hoffi Cymru yn ddirfawr. Yn mhen rhyw ddeg diwrnod gobeithiaf fod yn Mryste." Y mae yn Hwlffordd, Ebrill 17, ac yn ysgrifennu: " Pregethais yn Narberth gyda mawr eglurhad yr Yspryd, i amryw filoedd o eneidiau, y rhai oeddynt nid yn annhebyg i lowyr Kingswood. Y boreu hwn pregethais yn Llys-y-frân i gynulleidfa gyffelyb i eiddo Moorfields; a'r prydnhawn i o gwmpas yr un nifer yn y dref hon. Hefyd, darllenais y gweddïau. Y mae yr awdurdod, y nerth, a'r llwyddiant sydd yn cael ei roddi gan Dduw i mi, yn mysg cyfoethog a thlawd, yn anrhaethadwy. O, cynorthwywch fi i'w foliannu." Pan yn dweyd fod y gynulleidfa yn Llys-y-frân yn debyg i eiddo Moorfields, diau mai cyffelyb mewn lluosogrwydd a feddylia; cyfrifai Howell Harris hi yn ddeuddeg mil. Tueddwn i feddwl fod y Diwygwyr, yn eu brwdfrydedd, yn gorgyfrif, fel y mae yr arfer wastadol ynglŷn a thorfeydd, ond y mae yn sicr fod cynulleidfaoedd Penfro y tro hwn yn anferth, a bod holl drigolion y sir, agos, yn Gymry ac yn Saeson, wedi ymgasglu i wrando yr efengyl.

Cawn ef yn Nghaerfyrddin eto, Ebrill y 20, o'r hwn le yr ysgrifenna: " Pregethais dydd Mercher yn Hwlffordd i o gwmpas wyth mil, ac yn y prydnhawn i amryw filoedd yn Narberth. Y boreu hwn llefarais gyda melusder mawr yn Lacharn. Wrth fy mod yn croesi y geincfor cefais foesgyfarchiad na dderbyniais ei gyffelyb o'r blaen, sef un llong yn tanio nifer o fagnelau, a llongau eraill yn cyhwfan eu banerau. Nis gellwch ddirnad y fath barch a delir i mi yma; y mae Duw wedi darpar Cymru i'm derbyn. Iddo ef boed yr holl glod. Pregethais yn Cydweli i gynulleidfa fawr. Yma (Caerfyrddin) pregethai un o'r offeiriaid yn fy erbyn y Sul diweddaf, gan fy enwi; ond fel fy ngwrthwynebwyr eraill, ac fel gwiber yn cnoi durlif (file), gwnaeth niwed yn unig iddo ei hun. Yr wyf yn cael fy hun fei pe mewn byd newydd, a hwnnw yn un nodedig o ddymunol." Ar y 25, ysgrifenna o Rhaiadr: " Ebrill 22, pregethais yn Nghaerfyrddin i tua deng mil o bobl, a'r anwyl Mr. Rowland ar fy ol, gyda melusder a nerth dirfawr. Cawsom Gymdeithasfa fendigedig arall y dydd blaenorol, ac yr ydym yn awr wedi trefnu holl siroedd Cymru." Ychwanega ddarfod iddo bregethu dydd Sadwrn, y 23, yn Llangathen, lle y caniatawyd yr eglwys iddo, ac yr oedd cynulleidfa fawr wedi ymgynnull; yn yr hwyr pregethodd yn Llanymddyfri. Llefara yn Llanymddyfri foreu y Sul drachefn, a dywed fod Duw gydag ef; ac erbyn yr hwyr y mae yn Aberhonddu, pellder o dair-milldir-ar-hugain, lle y mae cynulleidfa fawr, a hynod foneddigaidd, wedi dyfod ynghyd. Dydd Llun, cawn ef yn Nhrefecca, ac yn yr hwyr yn Gwenfìthen, yn agos i'r Gelli. Am dano ei hun dywed: " Y mae fy nghorph yn wan, ond yr wyf wrth draed fy Mhrynwr; y mae efe yn llywodraethu yn frenin yn fy nghalon, ac yr wyf yn llawenychu, ac yn fuddugoliaethus ar bob peth." Aeth yn ei flaen oddiyno i Lanfairmuallt, ac yna i Gore, yn Sir Faesyfed, y lle olaf y pregethodd ynddo yn Nghymru. Dywed: "Yn wir, cadwodd ein Hiachawdwr ei win goreu hyd y diwedd; yr oedd ein phiol yn rhedeg trosodd." Rhwng wyth a naw yn yr hwyr cychwynnodd am Lanllieni (Leominster), yr hwn le a gyrhaeddodd o gwmpas tri o'r gloch y boreu. Aeth yn ei flaen trwy Henffordd a Ross, a daeth i Gaerloyw oddeutu wyth yn yr hwyr, Ebrill 28. Symia hanes ei daith i fynnu fel y canlyn: " Darfu i mi, mewn tair wythnos o amser, drafaelu pedwar cant o filltiroedd, treulio tri diwrnod mewn dwy Gymdeithasfa, pregethu o gwmpas deugain gwaith, a phasio trwy saith o siroedd. Yma, ynte, mi a osodaf i fynnu fy Ebenezer; mi a ddiolchaf i'r gogoneddus Iesu am ei holl drugareddau; ac o ddyfnder fy nghalon rhof iddo y clod."

Wedi y cwbl, y mae yn sicr na chroniclodd hanes ei holl daith. * Y mae traddodiad yn Nhregaron ddarfod iddo yr adeg hon, neu yn fuan gwedi, ymweled a rhannau o Sir Aberteifi, a'i fod yn pregethu yn y dref honno oddiar y garreg farch, yn ymyl yr hen Grown. Cymry uniaith oedd y gynulleidfa gan mwyaf, ond torrodd allan yn orfoledd mawr yn yr odfa, er mai yr unig air a ddeallid oedd "Haleliwia." Ymddengys hyn ar un olwg yn rhyfedd, ond soniai Dr. Owen Thomas am gyfreithiwr enwog yn Llundain, a arferai fyned i wrando Ebenezer Morris [5] bob nos Sabboth, pan y byddai y gŵr enwog hwnnw yn gweinidogaethu yn y Brifddinas, a bod ei wyneb yn wastad yn foddfa o ddagrau, er na ddeallai air o'r bregeth. Y mae yn sicr i'r ymweliad hwn o eiddo Whitefield fod yn dra bendithiol i Gymru. Cadarnha llythyrau Howell Harris, a Thomas Price, o Watford, ac eraill, yr hyn a ddywed ef am y nerthoedd oeddynt yn cyd-fyned a'i weinidogaeth. Efallai rhai yn Abertawe a Chaerfyrddin y cafodd yr odfaeon rhyfeddaf o'r oll. Dywed Price, Watford, mewn llythyr at Whitefield, yn fuan gwedi, ei fod wedi clywed newyddion gogoneddus am lawer wedi cael eu deffro yn Nghaerfyrddin, un o ba rai ydoedd ddynes anniwair gyhoeddus, a'u bod yn myned i sefydlu seiat yn y dref. Ond yr enwocaf o'r dychweledigion, yn ddiau, oedd Peter Williams, yr hwn, yn laslanc un-ar-hugain oed, oedd ar y pryd yn yr athrofa yn y dref, ac a aethai yn llechwraidd i wrando y pregethwr hyawdl Saesonig, er gwaethaf gwaharddiad llywydd y sefydliad. Yr oedd tröedigaeth y gŵr, a ddaeth gwedi hyn yn dad esbonwyr Cymru, yn fwy na digon o dal am

Plasty Watford ger Caerffili Sir Forgannwg
cartref Price yr Ustus a Mrs Grace Price ei ferch yng nghyfraith; lle cynhaliwyd rhai o gyfarfodydd y Gymdeithasfa gyntaf yn 1743

holl drafferthion taith Whitefield. Bu yr ymweliad yn fendithiol hefyd er sicrhau ufudd-dod y seiadau a'r cynghorwyr i drefniadau y Gymdeithasfa. Yr oedd enwogrwydd Whitefield, ynghyd a'i ddyeithrwch, a'i ddawn llifeiriol, a'r parchedigaeth cyffredinol iddo a deimlid gan wrêng a bonheddig, yn tueddu yn gryf i gynhyrchu ufudd-dod i'r rheolau a osodai gerbron, fel llywydd y Gymdeithasfa. Cydnebydd Howell Harris hynny mewn llythyr ato, dyddiedig Mai 12, 1743: "Bendigedig fyddo Duw," meddai, " yr hwn a dueddodd eich enaid i feddwl am yr ŵyn gwasgaredig, tlodion, a gwahanglwyfus, sydd yn Nghymru." Ysgrifena Thomas James, Cerigcadarn, ato hefyd: "Darfu i'r Arglwydd fendithio eich dyfodiad atom yn fawr; mewn cysylltiad a zêl a threfn dda, y mae pawb fel pe yn barod i ymddarostwng, gan edrych arno fel yr hyn a wnaeth yr Arglwydd, ac nid dyn. Heb fod yn hir ni a ymsymudwn yn ofnadwy fel llu banerog."

Ond i ddychwelyd at gofnodau y Cymdeithasfaoedd. Croniclir cyfarfod o'r brodyr yn nhŷ y cynghorwr Bloom; ni roddir dyddiad y cyfarfod, ac nis gwyddom a oedd yn Gymdeithasfa Fisol reolaidd a'i peidio. Preswyliai Mr. Bloom yn Llanarthney, nid yn nepell o Gaerfyrddin, a thueddwn i feddwl mai dyma y Gymdeithasfa Fisol y cyfeiria Whitefield ati, yn mha un y pregethai Daniel Rowland ar ei ôl. Dibwys yw y penderfyniadau a basiwyd, ond haedda y nodiad a ganlyn ei groniclo: " Wrth ymadael, disgynnodd yr Arglwydd mewn modd mor hynod i'n mysg, fel yr aethom oll yn fflam, ac yr unwyd ni oll mewn gwir gariad."

Cynhaliwyd Cymdeithasfa Fisol yn Gelliglyd, Mai i, 1743, ac ymddengys i Whitefield, yn ol y cofnodau, ddychwelyd o Gaerloyw i fod yn bresennol. Yr oedd yno heblaw efe, Daniel Rowland, Howell Davies, a Howell Harris, ynghyd a nifer o'r arolygwyr a'r cynghorwyr. Y prif benderfyniadau oeddynt: " Fod y brawd Geo. Bowen i ddilyn ei orchwyl hyd y Gymdeithasfa nesaf yn Sir Benfro. Fod yr offeiriaid a'r arolygwyr i gasglu yr hyn a fedrant yn eu gwahanol seiadau er mwyn argraffu llyfrau Cymraeg. Fod William Jones, David Evan, a Rich. Tibbot i fod yn ysgolfeistri Cymreig. Ac nad yw y cynghorwyr anghyoedd ar eu teithiau i anfon rhybudd o'u dyfodiad i unrhyw fan; eithr os dymunir arnynt gallant lefaru mewn unrhyw dŷ i'r teulu neu y cymydogion."

Yn Watford, Mai 11, yr oedd y Gymdeithasfa Fisol nesaf, pan y llywyddai John Powell, ac yr oedd Howell Harris, a chryn nifer o'r arolygwyr a'r cynghorwyr yn bresennol. Yn mysg pethau eraill, pasiwyd: "Fod Mr. Thomas Price i fod yn oruchwyliwr y gymdeithas hon fel o'r blaen, ac hefyd i gynorthwyo y brawd Thomas Williams. Fod y gwrywod a'r benywod i gyfarfod ar wahân, fel y byddo Yspryd yr Arglwydd yn eu cyfarwyddo. Fod yr arolygwyr yn mhob seiat breifat i annerch y dynion a'r benywod ar wahân, fel y byddont yn gweled yr achlysur yn galw, ac fel y bo Yspryd yr Arglwydd yn eu cyfarwyddo."

Mai 19, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Llandremor, ger Llandilo Fach. Llywyddai Daniel Rowland, ond bychan oedd y cynulliad. Cymharol annyddorol hefyd oedd y penderfyniadau, ond dengys y cofnod a ganlyn ystad yr amseroedd: "Fod John ac Edward Meirig, oni throir hwy allan gan eu rhieni, i gynghori yn breifat dan orolygiaeth y brawd John Richard."

Cynhaliwyd Cymdeithasfa Fisol yn Dygoedydd, Mai 25, 1743, pan yr oedd yn bresenol Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn, ill dau yn gweithredu fel cymedrolwyr; Howell Harris, Benjamin Thomas, yr hwn oedd weinidog Ymneillduol, ynghyd a James Williams, yr arolygwr ar rannau o Sir Gaerfyrddin. Penderfynwyd ar i'r brawd Thomas David, yr hwn a fuasai dan arholiad gyda golwg ar ei alwad, gael cynghori ar brawf, dan arolygiaeth James Williams, mewn dwy seiat breifat hyd y Gymdeithasfa nesaf, pan y disgwylir tystiolaeth oddiwrtho, ac oddiwrth y brodyr a'i gwrandawodd. Pasiwyd y cyffelyb am Jos. John, a David John. Hefyd, fod blwch i gael ei osod yn mhob seiad, dan ofal un o'r ddau steward, i dderbyn cyfraniadau wythnosol tuag at achos Duw; a bod pob cynghorwr anghyoedd i gadw llyfr ag enwau y rhai sydd dan ei ofal, yr hwn lyfr a ddygir ganddo i'r Gymdeithasfa Chwarterol, a'i fod i hysbysu pa swm a ellir hebgor, trwy gydsyniad unol y gwahanol seiadau, at y gwaith cyhoeddus. Gwelir fod y drefn bresenol o gasglu wedi cael ei bod yn nghychwyniad Methodistiaeth.

Yn mhen dau ddiwrnod, sef Mai 27, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Dolberthog, Llandrindod; llywyddai Williams, Pantycelyn, ond yr unig benderfyniad a basiwyd oedd, fod y brawd Richard Lewis, Ymneillduwr, yn cael ei osod yn gynorthwywr i'r brawd James Beaumont.

Ar yr 8fed o Fehefin, cynhaliwyd Cymdeithasfa Fisol yn Longhouse, Sir Benfro, pan y llywyddai Daniel Rowland, a Howell Davies, ac yr oedd Howell Harris yn bresenol. Yn mysg pethau eraill, penodwyd nifer o eglwysi i fod dan arolygiaeth Thomas Meyler, John Harris, a William Richard. Pasiwyd fod y brawd Watkin Watkins i gymhwyso ei hun i fod yn ysgrifennydd i'r brawd Rowland, neu y brawd Davies. Fod y brawd John Jones i fod yn ddystaw am ryw amser, mewn trefn iddo gael ei ordeinio, hyd nes y byddo yr ordeiniad trosodd; a bod y brawd Richard Tibbot i weithio, ac i fynychu rhyw seiadau preifat, hyd nes y caffo ysgol Gymraeg.

Yr ydym yn dyfod yn awr at y drydedd Gymdeithasfa Chwarterol reolaidd, yr hon a gynhaliwyd yn Nhrefecca, Mehefin 29 a 30, 1743. Yr oedd yn Gymdeithasfa bwysig, gan y disgwylid iddi adroddiadau yr arolygwyr gyda golwg ar rif ac ansawdd y seiadau. Daeth Whitefield yno o Lundain i gymeryd y gadair, gan drafaelu trwy Gaerloyw a Bryste; yr oedd yn bresenol yn ychwanegol Daniel Rowland, W. Williams, Howell Davies, John Powell, Thomas Lewis, a Benjamin Thomas, gweinidog Ymneillduol. Yr oedd y cynghorwyr cyhoeddus canlynol yno: Howell Harris,Herbert Jenkins, James Beaumont, Thomas James, Morgan John Lewis, Thomas Williams, Richard Tibbot, Thos. Lewis, a William Richards. Fel hyn yr adrodda Whitefield hanes y Gymdeithasfa:[6] " Cyrhaeddais Drefecca dydd Mercher, Mehefin 29, lle y cyfarfyddais a byddin gyfan o dystion yr Iesu. Am bump yn y prydnhawn pregethais i; gwedi i mi orphen, pregethodd a gweddïodd Howell Davies. O gwmpas wyth, agorasom y Gymdeithasfa gyda difrifwch mawr. Yr oedd ein Hiachawdwr gyda mi mewn modd arbennig, yn fy nysgu, ac yn fy nghynorthwyo i lanw fy lle. Gohiriasom o gwmpas canol nos, ond darfu rhai o'r brodyr aros i fynnu trwy yr holl nos, gan groesawu y boreu gyda gweddi a mawl. Am wyth, cyfarfyddasom drachefn, a siriolwyd ni yn fawr gan adroddiadau syml yr arolygwyr am eu gwahanol seiadau. Parhasom gyda'r trefniadau hyd ddau yn y prydnhawn, a thorasom i fynu gyda difrifwch mawr a llawenydd sanctaidd. Cawsom undeb rhyfedd a'n gilydd. Yn wir, y mae yr Iesu wedi gwneyd pethau mawrion i Gymru. Y mae y gwaith wedi llwyddo yn ddirfawr. Synwn weled y fath drefn. Y mae y brawd Howell Davies wedi cael ei fendithio er argyhoeddiad clerigwr ieuanc, offeiriad St. Bartholomew, yn Llundain."

Yr offeiriad oedd y Parch. Richard Thomas Bateman, [7] at yr hwn yr ydym wedi cyfeirio yn flaenorol. Disgynai o deulu pendefigaidd, ac yr oedd yn ŵr o ddoniau mawr. Gwedi ei argyhoeddiad daeth yn weithiwr di-fefl yn ngwinllan Crist. Rhoddai bob rhyddid-i Whitefield a Wesley i bregethu yn ei eglwys, a chawn ei fod yn bresenol yn nghynhadledd y Wesleyaid yn 1748. Eithr i ddychwelyd at y Gymdeithasfa, dywed y cofnodau iddi gael ei hagor gyda difrifwch arbennig gan Mr. Whitefield, trwy bregeth, a gweddi daer am arweiniad yr Yspryd Glan. Ei phrif waith oedd darllen a gwrando yr adroddiadau a ddygid gan yr arolygwyr am sefyllfa y cymdeithasau a osodasid dan eu gofal. Cawn gyfeirio at yr adroddiadau yma eto. Yr unig orchwyl arall a gyflawnodd, mor bell ag y dengys y cofnodau, oedd cymeryd i ystyriaeth lythyr John Richard, yr hwn a gondemniai y trefniadau a wnaethid yn flaenorol. Un o breswylwyr Llansamlet oedd John Richard; yr oedd yn arolygydd ar bymtheg o eglwysi yn nghyffiniau Morganwg a Chaerfyrddin, a phob un o ba rai y disgwylid iddo ymweled unwaith y pythefnos. Yn ei lythyr, maentymiai fod rhannu yr aelodau i sengl, priod, a gweddw, a'u holi yn fanwl parthed eu cyflwr ac ystâd eu heneidiau yn Babaidd; fod gosod eu henwau i lawr ar lyfr yn anysgrythyrol; a bod trefnu arolygwyr dros ranau o wlad yn gamwri. Ond y mae yn amlwg oddiwrth rediad yr hyn a ysgrifennai, mai prif achos ei anesmwythid oedd, fod y Gymdeithasfa wedi cyfyngu ei lafur i gylch, gan ei rwystro i fyned o gwmpas i bregethu fel yr ewyllysiai. Dywed fod y rhesymau canlynol yn ei berswadio mai ewyllys yr Arglwydd oedd iddo fyned oddi amgylch. "Yn mlaenaf," meddai, "yr wyf yn profi fy enaid yn fwyaf awyddus am fyned po fwyaf o Dduw sydd yn tywynnu arnaf. Yn ail, nad wyf yn myned i un man nad wyf yn cael tystiolaeth gan y brodyr, a rhai marciau gan Dduw, fod yr Arglwydd yn fy arddel fel offeryn yn ei law i wneuthur rhyw ddaioni yn ei eglwys. Yn drydydd, na adawodd fi yn fynych heb lawer o gymorth, ac na adawodd fi erioed, mor bell ag yr wyf yn cofio, yn hollol i mi fy hun. Yn bedwerydd, mi dybygwn rai prydiau fy mod yn teimlo newyn anorchfygol yn fy yspryd am ddychwellad pechaduriaid at Dduw, ac y gallwn ddweyd y trengwn pe y tawn. Yn bumed, yr wyf yn gwybod pe yr awn oddiamgylch y cawn lefaru wrth ddeg enaid am bob un yr wyf yn llefaru wrtho yn awr, a pha fwyaf o bysgod a fyddo, mwyaf oll o gysur sydd i daflu y rhwyd. Yn chweched, nid wyf yn awr yn cael llefaru ond unwaith yn y pedair—awr—ar—hugain, a'r unwaith hyny wedi nos, mewn rhai manau; ond pe bawn yn myned o amgylch mi a gawn lefaru gynifer gwaith ag y gallwn. Yn seithfed, mi a fyddaf yn gorfod dweyd nas gallaf fyned i rai manau, er fy mod yn cael fy anog gan Dduw i fyned, ac yn cael galwad gan ddynion. Yn wythfed, y mae genyf ormod i gymeryd gofal neillduol am danynt, a rhy fychan i fyned yn gyhoeddus oddiamgylch iddynt o hyd; canys y mae'r bobl, ar ol hir arfer o ddyn, yn esgeuluso dyfod i wrando, a chwi ellwch ddeall ei bod yn anghysurus i mi i fyned ddeng—milltir—ar—hugain o ffordd heb gael fawr pobl ynghyd yn y diwedd, a hyny yn y dydd." Diwedda trwy siarsio y brodyr yn y Gymdeithasfa ar iddynt edrych ati ar fod Yspryd Duw yn eu harwain mewn cysylltiad ag ef, a thrwy awgrymu tuedd i fyned o gwmpas ar ei gyfrifoldeb ei hun mewn dibrisdod o'u trefniadau. Hen Gristion syml oedd John Richard, fel y mae yn amlwg, yn arllwys •allan ei deimladau siomedig, oblegyd cael cyfyngu arno yn ei waith, gyda gonestrwydd unplyg; a mynega fod dau beth yn peri iddo amheu ei alwad, sef fod y brodyr yn ei rwystro, a'r olwg oedd yn gael ar fawredd y gwaith. Ond y mae ei brofiad crefyddol yn ogoneddus. " Y mae yn dda genyf wneuthur a allaf dros Dduw," meddai, "hyd yn nod pe byddai iddo fy nhaflu i uffern yn y diwedd; ond mi dybygwn nad oes yr un man a wnaeth Duw, gwneled y diafol ei waethaf, na fydd i mi fwynhau Duw ynddo, a chanmol yr anwyl Iesu." Anhawdd genym feddwl na ddarfu darlleniad y llythyr hwn dynu dagrau o lygaid y brodyr ymgynulledig; ac er na fedrent ganiatáu iddo yr hyn a ddymunai, gan mai cymharol fyr mewn doniau ydoedd, eto y teimlent eu calonnau yn cynhesu ato. Yr oedd llythyr o gyffelyb nodwedd wedi cael ei anfon hefyd gan Rhisiart William Dafydd, cynghorwr o Sir Gaerfyrddin, yr hwn y darllenasom am dano yn nghofnodau ail Gymdeithasfa Watford ei fod i fyned dan arholiad.

Penderfynodd y Gymdeithasfa fod Whitefield i ysgrifennu atebion i'r llythyrau hyn; darllenodd yntau yr hyn a ysgrifenasai yn un o'r cyfarfodydd dilynol, yr hyn a dderbyniodd gymeradwyaeth unfrydol y brodyr. Y mae yr atebion ar gael, ac yn ddyddorol. Dy wed Whitefield wrth John Richard, gyda golwg ar ei fygythiad i myned o gwmpas ar draws pob trefniadau, y teimlasai y frawdoliaeth yn flin pe y rhoddasai achos cyfiawn iddo i gymeryd y cwrs hwn; ond gan na wnaethai, a chan y teimlai yn sicr mai dibwys, a hawdd rhoddi pen arno, fuasai unrhyw wrthwynebiad a allai efe godi yn y dull yma, ei bod yn teimlo y gallai ymddiried yr achos i'r Arglwydd Iesu, a bod yn hollol dawel yn ei gylch. Cydnabydda er hyny y gallai y Gymdeithasfa gyfeiliorni, a dywed y byddai y brodyr yn barod i ail-ystyried yn ofalus unrhyw brofion a ddygid yn mlaen fod yr hyn a benderfynasent yn groes i feddwl Duw. Yna a yn mlaen i ateb ei wrthddadleuon. Gyda golwg ar groniclo enwau yr aelodau mewn llyfr, dywed: " Pa beth, anwyl frawd, sydd yn anysgrythyrol yn hyn? Onid yw ein Harglwydd Iesu yn dweyd fod y bugail da yn galw ei ddefaid erbyn eu henw? Onid ydyw pob plwyf yn cadw coflyfr o'r plwyfolion? Onid yw yr Ymneillduwyr yn ysgrifenu enwau pawb mewn llyfr a fyddo mewn cymundeb gyda hwynt? A pheth yw llyfr Numeri ond cofres o enwau meibion Israel? Gyda golwg ar ymofyn am gyflwr ysprydol pob enaid, ymddengys i ni ei fod yn hanfodol angenrheidiol. Yr ydym yn edrych ar yr eglwys fel clafdy, a'i gweinidogion fel physigwyr, y rhai a ddeuant o dro i dro i edrych pa fodd y mae gyda y rhai sydd dan eu gofal. Yr wyf yn tybio pan aeth yr apostolion oddi amgylch i edrych hynt eu brodyr, iddynt chwilio i ansawdd yspryd pob un. Nid ydym yn gwybod pa fodd y gall gweinidog bregethu oddigerth ei fod yn gwybod am gyflwr ei bobl, na pha fodd y gallech chwi anfon yr adroddiad a anfonasoch, am yr hwn yr ydym yn diolch i chwi, oni bai i chwi wneyd rhyw ymchwiliad" Yna a ymlaen i ddweyd mai amcan rhannu yr aelodau i ddosparthiadau o sengl, priod, a gweddw, oedd er mwyn cael cyfrif eglur, ac hefyd allu cymhwyso cynghorion priodol at eu gwahanol sefyllfaoedd. Awgryma fod hyn yn cael ei wneyd yn yr Eglwys Apostolaidd; fod Ioan yn ysgrifenu at y gwŷr ieuainc, a Phaul yn cynghori y rhai oeddynt yn wir weddwon, yr hyn a dybia eu bod yn ffurfio dosparth ar wahan yn yr eglwys. Diwedda trwy achwyn ar ryw William Christopher yn ysgrifenu mewn arddull anweddaidd at Daniel Rowland, a thrwy ei gynghori ef, John Richard, i chwilio o ba yspryd yr ydoedd. Y genadwri a anfonwyd at Rhisiart William Dafydd oedd ceisio ganddo ddarllen y llythyr a anfonasid at John Richard.

Tueddwn i feddwl yr ystyriai Howell Harris lythyr Whitefield yn rhy amddifad o dynerwch, ac o ras yr efengyl, ac felly ysgrifennodd at y ddau frawd tramgwyddus ar ei gyfrifoldeb ei hun. Wrth John Richard dywed: "Mi a wn beth yw profedigaethau o'r fath hyn; er mwyn yr Iesu byddwch arafaidd a phwyllog; y mae'r gelyn yn ceisio eich temtio i wneuthur rhwyg yn ein mysg, a'n dod i wanhau dwylaw ein gilydd. Byddwch ostyngedig; ofnwch eich hunan; gelyn dirgel yw yn wir, anhawdd ei adnabod. Y mae yn bosibl i ni (sef John Richard a Harris) gamsynied; maent hwy (aelodau y Gymdeithasfa) yn llawer, a bagad o honynt o leiaf yn agos at yr Arglwydd, ac yn chwilio ei Air ef, ac yn disgwyl wrth ddysgeidiaeth ac arweiniad ei Yspryd mor glos a ninau; ac y maent yn bwyllog, ac wedi gwrando fy rhesymau i, yn ofn yr Arglwydd, yn methu gweled fel fi. Myfi, yn hytrach, a ofnaf fod yn anffaeledig, ac a ddisgwyliaf wrth yr Arglwydd, rhag i mi wneuthur terfysg yn ei waith ef, a blino ysprydoedd ei anwyl weision, y rhai oeddynt yn Nghrist o'm blaen i, ac wedi bod a'u bywyd yn eu dwylaw drosto, ac yn ei gyngor cyn ein geni ni yn ysprydol-y fath feddyliau a'r rhai hyn a fu fuddugol i mi yn fy mhrofedigaethau. Y mae fy enaid i, anwyl bererin, yn dy garu yn wresog, a chyda phob tiriondeb ac anwyldra brawdol yr wyf yn dyweddu.—Dy ostyngedig gydfilwr, How. Harris."

Wrth Rhisiart William Dafydd dywed: "Fy anwyl, anwyl frawd, er pan adnabûm i chwi gyntaf, yr ydych wedi bod yn anwyl i mi. Er nad wyf yn fy nghalon yn teimlo fy hun yn deilwng i olchi eich traed, goddefwch i mi ofyn genych er mwyn yr Iesu, yr hwn sydd anwyl genych, am ymdrechu cadw undeb yr Yspryd yn nghwlwm tangnefedd, a bod yn wyliadwrus rhag y gelyn cyffredinol, cyhuddwr y brodyr. Un corph ydym, ac ni all un aelod fod heb y llall, gadewch i ni gyd-ddwyn a'n gilydd. Mae'r gwaith yn fawr, a ninau yn anghymwys iawn iddo; gochelwn redeg o flaen ein gilydd. Gan obeithio eich bod yn credu fy mod yn ostyngedig yn eich gwir garu yn yr Arglwydd, fel eich brawd a'ch cydfilwr tlawd, dymunaf annerch yr holl ŵyn yn fy enw i."

Ysgrifenwr llythyrau heb ei fath oedd Howell Harris; teimlir cynhesrwydd ei galon yn mhob brawddeg o'r rhai blaenorol; ac nid rhyfedd i'r ddau frawd tramgwyddus doddi, a syrthio i mewn a'r trefniadau. Cawn John Richard yn y llwch mewn canlyniad, ac yn ysgrifenu llythyr edifeiriol i'r Gymdeithasfa nesaf: "Blin gennyf, anwyl frodyr," meddai, "ddarfod i mi sefyll yn gyndyn yn eich erbyn cyhyd. Credu yr wyf na wyr neb yn iawn, ond a gafodd brofiad, pa mor ddichellgar yw yr hen sarph, fel y bu gyda mi yn yr amgylchiad hwn, ac mor gyflawn oeddwn yn meddiant y diafol, fel y tybiais fod yn rhaid i chwi ymostwng i fy marn i. Ond yr wyf yn credu fod y diafol wedi twyllo ei hun. Bendigedig fyddo Duw, yr hwn a ddug ddaioni allan o ddrwg; oblegyd fe'm dysgwyd gan Dduw, fel yr wyf yn credu, i beidio byth eto a meddwl fod mwy o oleuni gennyf nag sydd gan holl blant Duw; ac heblaw hyn, fe fu yr amgylchiad yn gymorth i mi i sefyll yn erbyn yr un a'r unrhyw yspryd yn rhai o'r brodyr yn Llansamlet yn ddiweddar. Oddiwrth eich annheilwng frawd, John Richard."

Felly y terfyna cofnodau Trefecca am 1743; dygir y gweddill i mewn i'r hanes wrth fyned yn y blaen.

Nodiadau[golygu]

  1. History of the Parish of Aberystruth.
  2. Trevecca Minutes.
  3. History of Protestant Nonconformity in Wales.
  4. Trevecca Minutes.
  5. Ysgrif Mr. Daniel Davies, Ton.
  6. Tyerman's Life of Whitefield, vol. ii., p. 62.
  7. Gwel tudal. 136