Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I/Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf

Oddi ar Wicidestun
Y Gymdeithasfa Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I

gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743–44)

PENOD X

RHAI O'R CYNGHORWYR BOREUAF

Richard Tibbot—Lewis Evan, Llanllugan—Herbert Jenkins—James Ingram—James Beaumont— Thomas James, Cerigcadarn—Morgan John Lewis—David Williams, Llysyfronydd Thomas Williams—William Edward,yr Adeiladydd—William Richard—Benjamin Thomas—John Harris, St. Kinox—John Harry, Treamlod—William Edward, Rhydygele—Rhai o'r Adroddiadau a anfonwyd i'r Cymdeithasfaoedd.


BYDDAI unrhyw hanes am y diwygiad Methodistaidd yn ei ddechreuad cyntaf, na roddai le mawr i ymdrechion y cynghorwyr, a'u llafur cariad gydag achos Crist, yn dra anghyflawn, ac yn wir yn gamarweiniol. Mewn peiriant, y mae yr olwynion bychain o lawn cymaint pwys, er nad mor amlwg, a'r olwynion mawrion. Y prif olwynion, mor bell ag yr oedd a fynnai dynion a'r peth, yn y diwygiad, oeddynt Rowland, a Harris, a William Williams, Pantycelyn, a Howell Davies. Olwynion bychain, o'u cymharu a'r rhai hyn, oedd y cynghorwyr, er fod rhai o honynt hwythau yn fwy, a rhai yn llai; ond heb eu gwasanaeth a'u cymorth, ni symudasai y peiriant yn ei flaen fel y gwnaeth. Yr ydym yn meddu ar lawer o hanes y rhai pennaf o honynt; gwyddom am eu teithiau, eu peryglon, a'u dyoddefiadau; adnabyddwn eu cymeriadau yn bur drwyadl yn rhinwedd y llythyrau a ysgrifennwyd ganddynt. Yr oeddynt oll yn llawn tan; bedyddiasid hwy yn helaeth ag yspryd yr adfywiad; a meddent ddewrder a barai iddynt gael eu clodfori fel gwroniaid, pe buasai yn cael ei arddangos ar faes y gwaed. Nid oeddynt heb eu gwendidau; pwy sydd? Y mae rhai o'u mympwyon a'u syniadau yn ymddangos i ni yn awr yn dra gwirion; ond nis gellir amheu eu gonestrwydd, eu zêl, a'u teyrngarwch i Grist. Am eraill, nid oes gennym ond eu henwau; prin y ceir unrhyw adgofion o'u hanes yn y cymydogaethau yn mha rai y buont yn llafurio; nid oes cofnod ar gael am ddim a wnaethant ar lyfrau y ddaear; ond sicr yw fod eu ffyddlondeb a'u diwydrwydd wedi eu croniclo yn fanwl ar y llyfrau fry, a phan y daw yr Iesu i'w ogoneddu yn ei saint, bydd yr hen gynghorwyr Methodistaidd yn adlewyrchu ei glodforedd mor effeithiol a neb pwy bynnag. Dynion diddysg oedd llawer o honynt, cartrefol eu gwisg, plaen eu geiriau, heb fawr caboliad na gwrtaith meddyliol; ond gwnaent i fynnu am bob diffyg trwy eu hymroddiad, a'u llafur, a'u zêl dros y Gwaredwr. Drwg gennym mai hanes ychydig o'r prif gynghorwyr yn unig a ganiatâ ein terfynau i ni roddi.

Un o'r cynghorwyr mwyaf adnabyddus, er efallai nad y mwyaf nodedig ei ddoniau, oedd Richard Tibbot. Ganwyd ef yn Hafodypant, plwyf Llanbrynmair, Ionawr 18, 1718, ac yr oedd yr ieuangaf o chwech o blant. Ymddengys fod ei rieni yn hynod am eu duwioldeb, ac ymunodd Richard a chrefydd cyn ei fod yn llawn pymtheg mlwydd oed, a hynny, yn dra sicr, yn eglwys Annibynol Llanbrynmair. Dywedir iddo ddechreu pregethu yn y flwyddyn 1738, yn llencyn ieuanc pedair-mlwydd-ar-bymtheg. Nid yw hyn yn golygu y pregethai yn rheolaidd; nid oedd cyfleusterau i hynny ganddo ar y pryd; ond anerchai gynulleidfa yn awr ac yn y man, pan y gofynnai Mr. Lewis Rees ganddo wneyd hynny. Diau fod Richard Tibbot yn un o wrandawyr mwyaf aiddgar Howell Harris, pan yr ymwelodd a'r Gogledd yn 1740, ac y mae yn sicr ddarfod i'w weinidogaeth effro, gyffrous, adael argraff ddofn arno, Tua'r flwyddyn 1741 aeth i ysgol y Parch. Griffith Jones, Llanddowror. Ai Lewis Rees, ynte Howell Harris, a'i cymhellodd i gymeryd y cam hwn, ni wyddis. Yn bur fuan ymunodd a'r Methodistiaid. Tybir iddo fod am ryw gymaint o amser yn cadw ysgol yn nghymydogaeth Llanddowror. Tebygol hefyd ei fod yn cynghori yn nghymdeithasau y Methodistiaid yn rhannau isaf Sir Gaerfyrddin, a'r rhan uchaf o Sir Benfro. Gwel y darllenydd amryw gyfeiriadau ato yn nghofnodau Trefecca. Yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford penodwyd ef yn ymwelydd cyffredinol y seiadau (bands); mewn Cymdeithasfa ddilynol penderfynwyd ei fod i gadw ysgol yn Sir Benfro; a chyn diwedd y flwyddyn 1743 gosodwyd ef yn arolygwr y cymdeithasau bychain a gawsent eu ffurfio yn Sir Drefaldwyn. Yn Nghymdeithasfa Fisol Nantmel, Sir Faesyfed, Ebrill 18, 1744, pasiwyd ei fod i ymroddi yn hollol ac yn gwbl i'r gwaith o ymweled a'r holl eglwysi (yn Sir Drefaldwyn) unwaith bob wythnos. Ond mewn Cymdeithasfa arall, a gynhaliwyd Hydref yr un flwyddyn, penderfynwyd ei fod i fyned at y brawd John Richard i ddysgu y grefft o rwymo llyfrau.

Er fod Richard Tibbot wedi ymuno a'r Methodistiaid, ac yn llafurus yn eu mysg, eto teimlai gryn ymlyniad wrth yr Annibynwyr, ac ymgymysgai a hwy i raddau mawr. Creodd hyn ryw gymaint o ragfarn ato yn meddyliau y Methodistiaid, ac aethant i dybio ei fod yn fwy hoff o'r Ymneillduwyr nag o honynt hwy. A wnaed achwyniad cyhoeddus yn ei erbyn am hyn, nis gwyddom; ond deallai ef fod y cyfryw deimlad yn bodoli. Y mae llythyr o'i eiddo at Gymdeithasfa Hydref, 1745, ar gael yn Nhrefecca, yr hwn y teimlwn fod tegwch hanesyddol yn galw arnom i'w gyhoeddi. Yn ychwanegol, y mae yn ddyddorol ar gyfrif y goleu a dafla ar yspryd yr amseroedd, ac ar ansawdd meddwl Tibbot. Fel hyn y dywed: "Y mae gennym gynifer o faterion yn ein Cymdeithasfaoedd Chwarterol, fel mai ychydig o gyfleustra a feddwn i fynegu ein barn a'n profiad parthed amryw bethau, y byddai yn fuddiol i'n cynnydd a'n hundeb, a'n cariad brawdol, i ni ymdrin a hwy. Y mae yn ein mysg, hefyd, gynifer o wahanol syniadau am ddisgyblaeth (ffurflywodraeth?) eglwysig, fel yr ydym yn barod i ymrannu oddiwrth ein gilydd weithiau gyda golwg arnynt, fel y brodyr yn Sir Forganwg, yr hyn mewn rhan sydd yn oeri ein cariad, ac yn lleihau ein brawdgarwch, a'n hundeb. Gan fy mod yn fynych gyda'r Ymneillduwyr, ac yn eu cymdeithas yn aml, yr hyn a eill fod yn achlysur i chwi dybio fy mod yn cael fy arwain ganddynt, a'm bod yn wrthwynebus i chwi mewn tymer a barn, tybiais yn angenrheidiol wneyd datganiad o'm syniadau gyda golwg ar seiliau crefydd, pa mor bell yr wyf yn cydweled a chwi, a pha mor bell yr wyf yn cydweled a'r Ymneillduwyr.

"1. Dywedaf ychydig o'm meddwl, i ddechreu gyda golwg ar egwyddorion pwysicaf crefydd. Yma, fy mrodyr, rhaid i mi gyffesu fy nygn anwybodaeth; y mae fy nghalon wedi bod yn ddolurus er ys rhai blynyddoedd oblegyd fy anwybodaeth; ond hyderaf nad wyf yn gorphwys yn gyfangwbl ar gyffes. Nid wyf yn meddwl ei fod yn ddigonol sail i mi ddarfod i mi feddiannu nifer o resymau, a chael rhyw fath o oleuni oddifewn, a phrofi rhyw gymaint o nerth ac awdurdod yn fy ngorfodi i gredu rhyw egwyddorion; gwelaf y rhaid i mi gael goleuni oddiwrth yr Yspryd Glan i oleuo llygaid fy enaid, fel y gwelwyf weithrediadau ysprydol mor glir ag y gwelaf wrthddrychau naturiol yn ngoleuni yr haul, ac fel na byddo i mi newid fy marn gyda golwg arnynt yn nydd angau, yn nydd y farn, ac i dragywyddoldeb. Dyma y ffydd a'r wybodaeth a ddymunaf, ac yr wyf yn ocheneidio am na feddaf; am y wybodaeth hon yr ymgeisiaf, hyd nes y meddiannaf hi, yn llawn ac yn berffaith. Dyma fy ffydd a'm barn, fel yr wyf yn gweled yn bresennol, (a) Mai un Duw sydd; (b) Fod Tri Pherson yn y Duwdod, o'r un sylwedd, gallu, a gogoniant, sef y Tad, y Mab, a'r Yspryd Glan. (c) Ein bod oll wedi cwympo yn Adda, ac wrth naturiaeth yn blant digofaint. (d) Ddarfod i Dduw ethol rhyw nifer i fywyd tragywyddol cyn dechreuad y byd. (e) I Fab Duw ddyfod yn ddyn i waredu ei bobl etholedig. (f) Mai trwy ei ufudd-dod ef y cyfiawnheir ei bobl, ac mai trwy ffydd y deuant i feddiant o'i gyfiawnder. (g) Fod y ddeddf yn rheol bywyd i'r rhai sydd wedi eu cyfiawnhau trwy Grist. Cymaint a hynna am yr erthyglau.

"2. Mewn cysylltiad a disgyblaeth eglwysig, credaf ei fod yn oddefol i rai, mewn rhyw amgylchiadau, i bregethu, heb dderbyn awdurdod oddiwrth ddynion, fel yr arferwn ni yn awr; ac mai ein dyledswydd ni ac eraill, dan y fath amgylchiadau, yw disgwyl am arweiniad yr Arglwydd trwy ei Yspryd, canlyn rheol ei Air, gofalu na byddom yn gwneyd dim yn groes i'w Air ysgrifenedig, a chrefu am arweiniad Rhagluniaeth ac Yspryd Duw i ddyfod i drefn ragorach. Er mai ein dyledswydd yw bod yn drefnus, eto ni ddylai amryw drefniadau ein cadw rhag brawdgarwch, a chymdeithasu ag eraill, na fyddo yn cadw y cyffelyb drefniant, ond ydynt yn cyduno a ni am y prif athrawiaethau, a chyda golwg ar fywyd crefydd. Ond yr wyf yn foddlon i aros fel yr ydym parthed disgyblaeth eglwysig, hyd nes y byddo i Dduw roddi i ni drefn a disgyblaeth well yn ei amser ei hun.

"3. Gyda golwg ar fy undeb a'r cyffredinolrwydd o'r corph o honom ni, ac a'r Ymneillduwyr, y mae undeb fy nghalon yr un a'r undeb a broffesaf, ac a ddangosaf yn fy ymddygiad. Fel y darfu i mi adael yr Ymneillduwyr, o ran cymeryd fy llywodraeth ganddynt, a rhoddi fy hun i'ch llywodraeth chwi, gan broffesu fy hun yn aelod gyda chwi, felly yr wyf yn teimlo yn fy nghalon fwy o undeb a'r cyffredinolrwydd o honoch nag a'r Ymneillduwyr. Ond y mae yr amryw brofedigaethau a gefais y blynyddoedd diweddaf wedi bod mor gryfìon, fel na fedraf dderbyn egwyddorion crefyddol, na threfn eglwysig, oddiwrth unrhyw blaid o bobl, yn unig am eu bod hwy yn eu proffesu, heb i mi fy hun weled eu gwirionedd. Nid wyf yn awr, ychwaith, mor hawdd fy moddhau o wirionedd pethau ag oeddwn unwaith, am fy mod yn gweled ddarfod i mi gael fy nhwyllo wrth dderbyn golygiadau fel gwir, gan feddwl fy mod wedi fy ngoleuo ynddynt gan yr Yspryd Glan, tra y gwelais ar ol hyny nad oedd fy ngoleuni ond rhanol ac anmherffaith. Hawdd genyf gyffesu ddarfod i mi gredu mor gryf yn nghywirdeb rhai pethau, fel na phetruswn sefyll drostynt, hyd yn nod pe bai y bobl gallaf a goreu yn barnu yn wahanol; ac yr oedd fy zêl wedi tyfu gymaint goruwch fy marn, fel na ddarllenwn unrhyw lyfr a fyddai yn groes i'm golygiadau, fel pe bawn yn berffaith mewn gwybodaeth, ac yn anffaeledig; ac yr oeddwn yn barod i gondemnio unrhyw un, fel dyn anwybodus, a ddywedai air yn fy erbyn. Ond cefais fynych achos i newid fy syniad am anffaeledigrwydd fy ngwybodaeth gwedi hyn. Ond yn awr teimlaf rwymau i fod yn eiddigus gyda golwg ar fy ngwybodaeth, ac i ddirnad pethau yn ddwfn cyn eu credu, ac nis gallaf ddirnad dim heb gael fy nysgu gan Yspryd Duw. Er fy mod yn fwy mewn undeb A chwi nag a'r Ymneillduwyr, eto gwelaf amryw bethau yn ein mysg sydd yn gofyn am gael eu diwygio: (a) Ein bod yn rhy barod i dderbyn pethau fel gwirionedd, heb eu chwilio yn ddigon manwl, ac i farnu yn dda am danynt, yn ol y gradd o gysur a weithiant oddimewn i ni. (b) Tueddwn i edrych ar bob cysur a dyddanwch fel cynyrch Yspryd Duw, yn yr hyn y dylem weithiau fod yn dra gochelgar, ac hefyd i farnu bywyd crefydd wrth zêl, a gwresowgrwydd teimladau, gan gondemnio eraill nad ydynt lawn mor zêlog fel defodwyr. Gwell genyf fi farnu pobl wrth eu hymarweddiad cyffredinol, yn hytrach nag wrth yr hyn a ymddangosant mewn odfaeon. (c) Y mae yn ein mysg ormod o yspryd partioi, yr hyn wyf yn ei gashau yn mhawb. Yr ydym yn rhy barod i gondemnio rhai o'n brodyr, yr Ymneillduwyr, i'w cau allan o'n cymdeithas, ac i ddweyd yn eu herbyn; yr hyn, pe y gwnaethent hwy a ni, a alwem yn erledigaeth. Y mae yspryd agored, diragfarn, yn werthfawr.

"4. Gyda golwg ar yr Ymneillduwyr, yr wyf yn caru yr hyn sydd dda ynddynt; ond cyn y gallaf eu barnu yn gywir, rhaid i mi wybod eu hamgylchiadau, oblegyd wahaniaethant gymaint yn eu mysg eu hunain ag a wahaniaethwn ni oddiwrthynt hwy; felly, nid wyf yn cyduno a'r Sociniaid, yr Ariaid, yr Arminiaid, a'r Baxteriaid sydd yn eu mysg; ond y mae y rhai difrifol a sobr o honynt mor anwyl i mi a neb, ac yr wyf yn cadw ar y telerau mwyaf anwyl a hwynt. Eithr nid wyf yn cael fy nghario i roddi fy hun dan eu llywodraeth, am fy mod yn credu mai ewyllys Duw yw i mi aros fel yr wyf,

"5. Y mae gennyf rai pethau i'w gosod ger eich bron, a fyddai, fel yr wyf yn credu, yn fuddiol i ni: (a) Dylem fod yn fyrrach, os yw bosibl, wrth ymdrin ag allanolion, gan ymddiddan mwy am brif bynciau crefydd, a holi ein hunain am ein sail, a'n sicrwydd, a'n profiad o honynt. Gwedi dod mor bell i'n Cymdeithasfaoedd, da fyddai i ni hebgor peth o amser cysgu, ac amser bwyta, gan ymroddi i adeiladu y naill y llall yn ysprydol. (b) Tueddaf i feddwl mai buddiol i ni fyddai rhoddi ein barn gyda golwg ar egwyddorion mewn argraff, fel na byddo camsyniadau, na lle i neb feddwl ein bod yn coleddu syniadau nad ydym. Byddai hyn, hefyd, yn gymorth i ni ddeall golygiadau ein gilydd, ac yn tueddu i fwy o undeb. A manteisiol fyddai gadael tystiolaeth am wirionedd yr efengyl ar ein hol, fel y gallai lefaru er lles oesoedd i ddyfod. (c) Tybiaf, pe y gwelai Rhagluniaeth yn dda agor y ffordd, y dylid gosod ysgol i fynnu, er mwyn gweini rhyw gymaint o hyfforddiant i'r rhai sydd yn cynghori. Gallai ychydig o fisoedd ynddi, gyda bendith Duw ar yr addysg, fod yn dra llesiol. Hyn yn ostyngedig, fy mrodyr, oddiwrth eich annheilwng frawd a chydfilwr, Richard Tibbot."

Dengys y llythyr hwn Richard Tibbot fel gŵr craff, nodedig o ddiragfarn, ac yn meddu gwroldeb digonol i ddweyd ei olygiadau wrth Gymdeithasfa a gynhwysai ddynion fel Whitefìeld, Rowland, a Harris. Yr oedd yn fwy o Fethodist nag o Annibynwr; ac nid oedd cefnu ar y Methodistiaid yn ei fwriad yr adeg yma; ond elai i mewn ac allan gyda phob plaid uniongred, gan deimlo yn gynnes at bawb oedd yn caru yr Arglwydd Iesu. Mor bell ag y gwyddom, efe, yn y llythyr hwn, a awgrymodd gyntaf y priodoldeb o gael Cyffes Ffydd a Rheolau Dysgyblaethol, a dyma hefyd y cyfeiriad cyntaf at gael athrofa. Mewn rhyw bethau diau ei fod o flaen ei oes. Y mae y crybwylliad a geir yn y llythyr am y brodyr yn Sir Forganwg yn cyfeirio at genadwri cynghorwyr y Groeswen at Gymdeithasfa Cayo, Gwanwyn 1745, yr hon a ddaw dan ein sylw eto. Tra yr oedd yr Ymneillduwyr ar y pryd wedi ymgladdu yn ormodol mewn defodau oerion, ac yn condemnio pob gwresowgrwydd crefyddol, gwelai Richard Tibbot berygl i'r Methodistiaid roddi pwys gormodol ar zêl, a phrofiad tumewnol; a hiraethai ei enaid am fwy o oddefgarwch a chariad brawdol o'r ddau tu.

Y mae yn sicr i'r llythyr roddi boddlonrwydd i'r Gymdeithasfa, oblegyd ychydig wedi hyn cawn holl eglwysi Gwynedd wedi eu gosod dan ei ofal; arolygai y cymdeithasau yn Siroedd Trefaldwyn, Meirion, Dinbych, ac Arfon. Wrth deithio, dyoddefodd ei ran o erledigaethau. Unwaith yn Sir Gaernarfon, pan ar ganol pregethu, ymosodwyd arno gan was bonheddwr, yr hwn a'i curodd a ffon o gwmpas ei ben yn ddidrugaredd, fel y syrthiodd mewn llewyg, ac y bu glaf am amser. Dro arall, pan ar daith yn yr un sir, dygwyd ef gerbron heddynad, yr hwn a'i triniodd fel vagabond, gan ei anfon adref o gwnstab i gwnstab, y naill yn ei roddi i fynnu i'r llall, fel pe byddai yn greadur peryglus. Yn yr ymraniad rhwng Rowland a Harris, ymunodd Tibbot ar y cychwyn a phlaid y diweddaf. Yr oedd yn naturiol iddo wneyd felly; Harris oedd y cyntaf o'r Methodistiaid i ennill ei fryd; Harris oedd y mwyaf ei ddylanwad o'r Diwygwyr yn Sir Drefaldwyn, a chydag ef y bwriodd yr holl seiadau yn y sir eu coelbren. Cawn enwau Tibbot, a Lewis Evan, Llanllugan, yn mysg y rhai oeddynt yn bresennol yn Nghymdeithasfa gyntaf plaid Harris, yr hon a gynhaliwyd yn St. Nicholas, Gorph. 25, 1758; a rhaid fod cryn zêl yn eu meddiannu cyn y teithient o ganol Trefaldwyn i Fro Morganwg er mwyn bod yno. Yn y Gymdeithasfa trefnwyd fod Richard Tibbot i ddwyn adroddiad am ystâd y seiadau yn Sir Drefaldwyn i'r Gymdeithasfa ddilynol, ac i fyned ar daith i'r Gogledd i bregethu am dair wythnos. Cawn ef hefyd yn Nghymdeithasfa Fisol Llwynyberllan, Rhagfyr 30, yr un flwyddyn, ac yr oedd yn un o'r rhai ddarfu ateb pan y gofynnodd Harris pwy oedd yn barod i roddi ei galon a'i law i'r Arglwydd. Nid oedd yn Nghymdeithasfa Dyserth y dydd lau canlynol, ond ceir nodiad yn y cofnodau yn dweyd iddo gael ei anfon y boreu hwnnw i'r Gogledd, yr hyn a ddengys mai nid diffyg cydymdeimlad a Howell Harris, a'r rhai a ymlynent wrtho, a achosai ei absenoldeb. Yn raddol, pa fodd bynnag, ymddengys i amheuaeth gref godi yn meddwl Tibbot gyda golwg ar yr yspryd a lywodraethai Harris a'i ganlynwyr. Ac yn Nghymdeithasfa y blaid, yr hon a gynhaliwyd yn Llwynbongam, Gorph. 2, 1751, daeth pethau i argyfwng. Gofynai Harris am arwydd, pwy oedd a ffydd ganddo i gymeryd y wlad, ac i sefyll yn unig yn y gwaith gyda'r Arglwydd, heb neb gydag ef. Ystyr hyn, dybygid, oedd myned o gwmpas y seiadau, er cael ganddynt gefnu ar yr offeiriaid Methodistaidd. Gwrthododd amryw arwyddo. Y nos gyntaf, yr oedd Tibbot yn anmhenderfynol; gwelai y brodyr heb fod yn sefydlog, a theimlai awydd am gael ymddiddan a'r blaid arall. Ceisiai Harris ymresymu ag ef, a dangos yr angenrheidrwydd am farn sefydlog; dywedai, yn mhellach, fod y rhai a ymadawsant wedi tramgwyddo, a bod pob moddion posibl wedi cael ei ddefnyddio i'w hadfer. Eithr ofer a fu yr ymresymu. A boreu drannoeth, trowyd Richard Tibbot allan am wrthod ufuddhau i fyned o gwmpas, ac am ei benderfyniad i fyned i ymddiddan a phlaid Daniel Rowland. Allan yr aeth, gan fwrw ei goelbren gyda Rowland, a pherthyn i'w blaid ef y bu tra mewn cysylltiad a'r Methodistiaid. Ni phallodd ei deimladau caredig at Harris er hyn, a phan fu gwraig y diweddaf farw ysgrifennodd Tibbot ato lythyr, yr hwn sydd yn awr ar gael, yn datgan ei gydymdeimlad ag ef yn ei dywydd; llythyr Cristionogol, yn llawn o syniadau aruchel, yn gystal a thynerwch.

Llafuriodd Richard Tibbot yn mysg y Methodistiaid hyd y flwyddyn 1762. Y pryd hwnw yr oedd eglwys Annibynol Lanbrynmair yn amddifad o weinidog, gan fod y Parch. Lewis Rees wedi symud i'r Mynyddbach, ger Abertawe; taer gymhellwyd Tibbot i gymeryd ei le, yr hyn a wnaeth yntau. Tebygol fod arno, fel amryw o'r cynghorwyr eraill, awydd cael ei ordeinio, yr hyn ni chai gan y Methodistiaid. Ar yr un pryd, nid oedd, wrth gymeryd y cam hwn, yn troseddu unrhyw egwyddor, nac yn gwneyd cam a'i gydwybod; gyda'r Annibynwyr y cawsai ei ddwyn i fynu; pan gwedi ymuno a'r Methodistiaid, ymgymysgai yn rhwydd a'i frodyr gynt, gan deimlo parch mawr iddynt; ac o'r dechreu nid oedd enwad a phlaid o nemawr pwys yn ei olwg. Gweithiodd yn ddyfal yn Llanbrynmair; cyrhaeddai cylch ei weinidogaeth o Fachynlleth i Landinam; ac yn ychwanegol, teithiai yn fynych trwy Ddê a Gogledd Cymru. Yr oedd mor gymeradwy yn mysg y Methodistiaid a chynt, ac nid oedd ei barch yntau iddynt hwy ddim yn llai; presenolai ei hun hyd ddiwedd ei oes yn Nghymdeithasfaoedd Llangeitho a'r Bala, a chaffai bregethu ynddynt ar yr adeg fwyaf anrhydeddus. Pan yn teithio, pregethai yn nghapelau y ddau enwad yn ddiwahaniaeth, a chroesawid ef yn addoldai y Bedyddwyr. Ni wyddai am gulni enwadol; yr oedd ei dŷ yn Llanbrynmair yn agored i weinidogion a chynghorwyr pob plaid grefyddol.

Nid oes ond y dydd mawr a ddengys faint llafur y gŵr da hwn, na'r erlidiau a ddyoddefodd yn ei ymdrechion gyda'r efengyl Arferai fyned i'r Waenfawr, ger Caernarfon, er cymaint y peryglon y gosodai ei hyn yn agored iddynt, a lletyai yn nhy Thomas Grifiith, tad y bardd adnabyddus, Dafydd Ddu Eryri, yr hwn a gadwai siop fechan yn ymyl y bont. Pan ddeuai Tibbot i olwg y lle, torai allan i ganu; ac ar waith Thomas Grifiiths yn clywed y llais, cyffroai trwyddo, a dywedai mewn llinell farddonol:

"Dyna Tibbot, yr wy'n tybied."

I'r Waenfawr y cyrchai yr ychydig Fethodistiaid oeddynt yn nhref Caernarfon i addoli. Cynygiodd Williams, Pantycelyn, bregethu yn y dref, ond rhwystrwyd ef gan yr erlidwyr. Er gwaethaf y terfysg'wyr, meiddiodd Tibbot lefaru yno tua'r flwyddyn 1770. Safai, meddir, ar risiau tŷ un Hugh Owen, lledrwr [curricr), gyferbyn a tliafarndy "Y Delyn," yn ngwaelod heol Penyrallt. Ond ni chafodd lonyddwch. i gychwyn, daeth un Twm y Goes-fawr yno, gan sefyll ar risiau uwch, a lluchio prenddysglau at y pregethwr, nes yr oedd ei ben yn orchuddiedig gan archolhon, a'i waed yn llifo. Yn ganlynol, cynygiodd rhyw adyn ei saethu, ond methodd. Gwaeddai rhyw un yn groch dros y lle, mewn cynddaredd oedd yn gyfartal i'w anwybodaeth: " I ba beth y mae y diafliaid hyn yn dyfod yma i ddwyn yr efengyl oddiar Grist, nis gwn i." Pa fodd y gorphenodd yr odfa, ni ddywedir, ond ar y terfyn carcharwyd y pregethwr a'i anifail yn y castell; gollyngwyd hwy ymaith, modd bynag, foreu tranoeth, heb dderbyn niwaid.

Cawn hanes am dano, gyda chynghorwr o'r enw Edward Parry, yn pregethu yn gyfagos i Henllan, Sir Ddinbych. Daeth offeiriad Llanefydd, ynghyd a Mr. Wynn, Plasnewydd, yno i'w rhwystro. Tueddai Mr. Wynn i aros i wrando, er cael dealltwriaeth am yr athrawiaeth a draethid ganddynt; ond rhuthro yn mlaen yn ei afiaeth a wnaeth yr offeiriad, gan ofyn yn sarug: "Paham y meiddiwch bregethu mewn tŷ heb ei drwyddedu?" Atebodd Edward Parry yn fwynaidd: "Y mae gorchymyn wedi ei roddi i fyned i'r priffyrdd a'r caeau; ac yn fy nhyb i, nid gwaeth myned i dŷ, os bydd cyfleusdra yn rhoi." "Yr wyf fi," ebai'r offeiriad, "yn pregethu i'r plwyfolion bob Sul, fel nad oes raid i neb arall ymyraeth." Deallodd Tibbot wrth hyn mai clerigwr ydoedd, ac ebai efe: "Yr wyf yn tybied, Syr, mai o'r un llyfr a minau yr ydych chwi yn pregethu, ac feallai oddiar yr un testunau." "Rhowch weled pa lyfr sydd genych," ebai'r clerigwr. Estynodd yntau Destament Groeg iddo. Agorodd yr offeiriad a Mr. Wynn eu llygaid pan welsant y Testament Groeg; ni thybiasent fod y Pengryniaid dirmygus yn gwybod dim am yr ieithoedd clasurol, ac ymadawsant ill dau heb ddweyd gair yn ychwaneg.

Y tro olaf y pregethodd Richard Tibbot oedd Ionawr 21, 1798. Pregethodd ddwy waith y Sul hwnw, a gweinyddodd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd mewn dau le. Ymddangosai fel pe byddai ei gorph yn gryfach, a'i deimladau yn fwy nefolaidd nag arferol. Sylwai un o'i wrandawyr ei fod, wrth son am ddyoddefìadau yr Arglwydd Iesu, braidd fel be buasai yr ochr fewn i'r llen. Bu farw Mawrth 18, 1798, yn agos i bedwar ugain mlwydd oed. Pregethodd ei olynydd, y Parch. John Roberts, yn ei gladdedigaeth, oddiar y geiriau: "Oni wyddoch chwi i dywysog ac i ŵr mawr syrthio heddyw yn Israel?" Tystiolaeth pawb a'i hadwaenent oedd ei fod yn ddyn galluog, ac o alluoedd meddyliol cryfion; er nad oedd yn ymadroddus, nac o ddoniau dysglaer, yr oedd yn dduwinydd gwych; ac yr ydoedd yn un o heddychol ffyddloniaid Israel. Mewn cyfnod ag yr oedd rhagfarn grefyddol yn rhedeg yn uchel, a dallbleidiaeth yn ffynu, yr oedd Tibbot yn glynu wrth hanfodion yr efengyl, gan ddibrisio y man gwestiynau a wahanent y naill blaid oddiwrth y llall. Y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig hyd y dydd hwn.

Cynghorwr arall yn Sir Drefaldwyn a haedda ein sylw yw Lewis Evan, Llanllugan. Yr ydym wedi cyfeirio yn barod at ei argyhoeddiad yn Nhrefeglwys, dan weinidogaeth Howell Harris, yn y flwyddyn 1740, a'i waith yn dechreu cynghori yn bur fuan gwedin, heb gael caniatad gan unrhyw lys, crefyddol na gwladol. Ymddengys iddo gael ei eni yn y flwyddyn 1719, ac felly yr oedd yr un oed a Richard Tibbot. Gwehydd oedd wrth ei gelfyddyd; gweithiai gyda ei dad mewn lle o'r enw Crygnant. Peth dyeithr yn y wlad y pryd hwnw oedd fod gwehydd ieuanc yn myned o gwmpas o dŷ i dŷ, i ddarllen y Beibl, ac i weddïo, a chynghori; creodd ei ymddygiad gryn gyffro yn yr ardal; ac yn bur fuan deffrodd erledigaeth. Gwasanaethai dyn cryf o gorph yn Plashelyg, amaethdy rhwng cartref Lewis Evan a thy yr arferai gyrchu iddo i ddarllen; ymddengys fod y gweddïo a'r cynghori yn cythruddo gwas Plashelyg yn enbyd, a gwyliai Lewis Evan yn pasio, gan ei fygwth yn dost oni roddai heibio y gorchwyl. Hyn nis gwnai yntau, a'r diwedd a fu i'r adyn creulon ei guro yn dost, nes yr oedd y ffordd yn goch gan ei waed. Yr oll a atebodd i'w erlidiwr ydoedd: "Dywed i mi, fy machgen gwyn, pa beth a wnaethum i ti, gan dy fod yn fy nhrybaeddu fel hyn?"

Ceir cyfeiriadau mynych at Lewis Evan yn nghofnodau Trefecca. Mewn Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn y Tyddyn, ger Llanidloes, Chwefror 17, 1743, rhoddwyd nifer o eglwysi Sir Drefaldwyn dan ei ofal ef, mewn undeb a Morgan Hughes, a Benjamin Cadman. Yn y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd yn Glanyrafonddu, yn mhen pythefnos gwedin, rhoddwyd cymdeithasau Llanllugan, a Llanwyddelan, yn gyfangwbl tan arolygiaeth Lewis Evan, tra y cafodd B. Cadman ei drefnu i ymweled a holl eglwysi y sir. Penderfynwyd mewn Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, Ionawr, 1744: "Fod y brawd Lewis Evan i fyned can belled ag y gallai, yn gyson a'r alwad a fyddai arno, i Sir Feirionydd." Yn adroddiad Richard Tibbot o ansawdd yr eglwysi yn Nhrefaldwyn, yn yr un flwyddyn, dywedir: "Y mae Lewis Evan, yr hwn sydd yn cynghori yn Llanllugan, yn cael ei arddel gan yr Arglwydd i fod yn ddefnyddiol i lawer; y mae amryw ddrysau yn cael eu hagor iddo, ac amryw wedi cael eu hargyhoeddu trwy ei athrawiaeth." Ymddengys ei fod yn bregethwr effeithiol, ac yn dra derbyniol gan y cymdeithasau tros yr holl wlad. Mewn llythyr oddiwrth un T. E., Tyddyn, dyddiedig Awst 1, 1746, at Harris, ceir a ganlyn: "Yr oedd y brawd Lewis, o Lanllugan, yma ychydig amser yn ol; crychneidiai calonau y saint o'u mewn tan ei ymadroddion. Syndod fel y mae yr Arglwydd yn peri i'r dyn hwn gynyddu mewn dawn a gras." Yn haf 1747, dywed Mr. T. Bowen, Tyddyn, mewn llythyr at Harris: " Y mae dyfodiad y brawd Lewis Evan atom wedi bod yn nodedig o adfywiol yn ddiweddar." Oddiwrth yr amrywiol dystiolaethau yma nis gellir amheu fod y cynghorwr diaddysg o Lanllugan yn meddu llawer o gymhwysderau pregethwrol, a'i fod yn cael ei fendithio gan ei Feistr i fod yn offeryn i achub pechaduriaid, ac i adeiladu y saint. Fel holl gymdeithasau a chynghorwyr Trefaldwyn, yn yr ymraniad gofidus rhwng Rowland a Harris, cymerodd Lewis Evan blaid y diweddaf, ei dad yn y ffydd, ac yr oedd yn bresenol yn y Gymdeithasfa gyntaf a gynhaliwyd ganddo ef a'i bleidwyr yn St. Nicholas. Pan y penderfynwyd yno anfon nifer o gynghorwyr i Ogledd Cymru, er perswadio y seiadau mai Harris oedd yn gywir, a bod Rowland a'i ganlynwyr wedi colli eu gafael ar yr Arglwydd, yr oedd Lewis Evan, Llanllugan, yn un o'r anfonedigion. Dengys hyn yr ystyrid ef yn ddyn o ymddiried. Cawn ef yn bresenol yn Nghymdeithasfa yr Harrisiaid, a gynhaliwyd yn Dyserth, Ion. 3, 1751, a darfu iddo, fel nifer o gynghorwyr eraill, ddatgan ar gyhoedd ei barodrwydd i gyflwyno ei hun a'r oll a feddai i'r Arglwydd. Penodwyd ef yno i fod yn un o'r rhai oeddynt i adael pob peth, ac i fyned o gwmpas yn wastadol, i wasanaethu yr achos. Yr oedd yn Nghymdeithasfa y blaid yn Nhrefecca, y Chwefror canlynol; yn Nghymdeithasfa Castellnedd, Ebrill 10, yr un flwyddyn; ac yn Nghymdeithasfa Llwynbongam, Gorph. 2, 1751, lle y gwnaeth, fel eraill, ail ddatganiad o'i ymroddiad i wasanaethu crefydd tan arweiniad Harris. Cafodd yr anrhydedd o bregethu hefyd yn y Gymdeithasfa hon. Y tro diweddaf y ceir ei enw yn y cysylltiad hwn yw yn Nghymdeithasfa Trefecca, Hydref 2, 1751. Anogid y brodyr yno gan Harris i adrodd eu teimladau yn rhydd; yr ail i agor ei enau oedd Lewis Evan; dywedai ef ei fod yn teimlo angenrhaid arno, ddydd a nos, i fyned at yr Iesu croeshoeliedig, ac i weithio drosto. Eithr yn raddol darfu i dra-awdurdod cynyddol Howell Harris, a'i waith yn cyfyngu yn bennaf ei lafur i Drefecca, beri i Lewis Evan, fel nifer o gynghorwyr eraill, droi ei gefn arno, ac ail ymuno a'r Methodistiaid dan dywysiad Daniel Rowland,

Ni ddyoddefodd neb yn yr oes honno fwy dros yr efengyl na Lewis Evan; darllena ei beryglon, ei ddyoddefaint, a'i waredigaethau fel rhamant. [1] Pan y teithiai unwaith yn Nyffryn Clwyd, yr oedd dau ddyn yn sefyll yn ymyl pont yn ei ddisgwyl, gyda phastynau mawrion yn eu dwylaw; a chan un o honynt tarawyd ef ar ei ben, nes yr oedd ei waed yn ffrydio. Ni wyddai efe, oblegyd y syfrdandod a achosid gan y ddyrnod, fod ei waed yn llifo, nes i ryw wraig ei gyfarfod, a gofyn iddo yn gyffrous: "Yn enw'r mawredd, beth yw y drefn yna sydd arnoch?" Fel yr oedd, cyrhaeddodd dŷ un o'i gyfeillion, lle y cafodd olchi ei friwiau, a phob ymgeledd. Dro arall, pan yn cynghori yn Darowain, nid yn nepell o Fachynlleth, daeth tua thriugain o ddihyrwyr o'r dref i aflonyddu arno, gan lawn fwriadu ei niweidio. Gan eu bod yn rhy ffyrnig i ymresymu a hwynt, ac yn rhy gryfion i'w gwrthsefyll, nid oedd dim i'w wneyd ond ffoi, a ffoi a wnaeth. Gan ei fod yn ysgafn o gorph, ac yn chwimwth ar ei droed, nid oedd heb obaith dianc. Wrth redeg, syrthiodd i ffos ddofn, a ddigwyddodd fod yn sych ar y pryd; daeth i'w feddwl y gallai y ffos fod yn ymguddfa iddo. Ynddi y llechodd nes yr aeth yr erlidwyr heibio, ac felly y dihangodd o'u crafangau,

Pan yn pregethu yn y Bala un Sabboth, anfonodd bonheddwr, oedd hefyd yn heddynad, swyddogion i'w ddal, ac i'w ddwyn ger ei fron. Galwyd Lewis Evan i'r parlwr, a chymerodd yr ymddiddan canlynol le rhwng y ddau: Ynad. " Ai ti a fu yn pregethu yn y Bala? "

Lewis Evan. " Ië, Syr, myfi fu yn rhoddi gair o gyngor i'r bobl."

Ynad. " O ba le yr wyt yn dod, a pheth yw dy orchwyl pan fyddi gartref? "

L. E. " O Sir Drefaldwyn, o blwyf Llanllugan, yr wyf yn dod, a gwehydd wyf wrth fy ngalwedigaeth."

Ynad. " Beth a ddaeth a thi y ffordd hon? Ai nid oedd gennyt ddigon o waith gartref? "

L. E. " Oedd, digon; ond mi ddaethum yma i roddi gair o gyngor i'm cydbechaduriaid."

Ynad. " Nid oes yma ddim o dy eisiau. Y mae gennym ni bersoniaid wedi cael addysg dda, ac wedi cael eu dwyn i fyny trwy draul fawr yn Rhydychain, i bregethu i ni."

L. E. " Y mae digon o waith iddynt hwy a minnau. Y mae y bobl yn myned yn lluoedd tua dystryw er y cyfan."

Ynad. " Mi a'th anfonaf i'r carchar am dy waith."

L. E. " Bu fy ngwell i yn y carchar o'm blaen. Carcharwyd yr Arglwydd Iesu ei hun, er iddo ddyfod i'r byd i gadw pechaduriaid." Gyda hyn, dywedai y gwehydd air yn mhellach am yr Arglwydd Iesu, ac am ei amcan goruchel yn dyfod i'r byd; ond yr ynad a'i lluddiodd, gan ofyn: "

A wyt ti yn meddwl pregethu yn fy mharlwr i?"

"Nid wyf yn meddwl, Syr," oedd yr ateb, "fod eich parlwr chwi yn rhy dda i ddywedyd am Iesu Grist ynddo."

Gwelai yr ynad nad oedd fawr tebygolrwydd yr enillai lawer ar y pregethwr trwy ymddiddan o'r fath; felly, anfonodd ef i garchar Dolgellau, lle y bu y gwehydd tlawd am yspaid hanner blwyddyn. Eithr aeth cyfeillion yr efengyl i chwilio i mewn i'r helynt, a chawsant fod y prawf a'r ddedfryd yn afreolaidd, a bod y bonheddwr a'i traddododd, yn ôl pob tebyg, wedi gosod ei hun yn ngafael y gyfraith trwy yr amryfusedd a gyflawnasai. Deallodd yr ynad hynny yn ogystal, a bod cyfeillion Lewis Evan yn bwriadu cael ymchwiliad i'r helynt. Brysiodd i Ddolgellau, ac i'r carchar at Lewis Evan, lle y cymerodd yr ymddiddan a ganlyn le:-

Ynad. " Wel, Lewis, ai yma yr wyt ti eto? "

L. E. " Ië, Syr, dyma lle yr wyf."

Ynad. "Mae yn debyg mai yma y byddi di byth."

L, E. "Na, ni fyddaf fi na chwithau yma byth."

Ynad. "Pe y rhoddit ychydig arian, mi a allwn dy gael allan."

L. E. "Yn wir, Syr, chwi a ddylech fy nghael allan am ddim, gan fod genych law fawr yn fy rhoddi i mewn."

Ynad. "Dywed i mi, a oes llawer o honnoch?"

L. E. "Oes, Syr, y mae llawer o honom, ac fe fydd mwy o lawer eto yn mhen ychydig amser."

Ynad. "Yn nghrog y bo'ch chwi wrth yr un gangen."

L. E. "O! Syr, chwi fyddwch chwi wedi hen bydru cyn hynny."

Afreidiol ychwanegu ddarfod gollwng Lewis Evan yn rhydd yn ebrwydd, ac heb ddim costau. Mewn canlyniad, gadawyd yr ynad yn llonydd, ond rhoddwyd ar ddeall iddo y cedwid llygad arno o hyny allan, ac na oddefid iddo gyflawni y fath gamwri mwy.

Meddai Lewis Evan lawer o ffraethder a pharodrwydd ymadrodd yn nghanol diniweidrwydd diddichell. Dringasai ef a Mr. Foulkes, Machynlleth, i ben yr Wyddfa unwaith; ac wedi cyrhaedd ei gopa tynnai Mr. Foulkes ei het, a dywedai: "Beth pe yr aem ychydig i weddi?" "Da iawn, Mr. Foulkes,"oedd yr ateb; "gwnewch ar bob cyfrif, daliwch afael ar y cyfleustra, oblegyd ni fuoch mor agos i'r nefoedd erioed o'r blaen." Rhaid i ni ymatal, onide gallem groniclo llu o hanesion am dano. Dyn bychan ydoedd, bywiog ei ysgogiadau, cyflym ei leferydd, a pharod ei ymadrodd. Ni ystyrid ef yn bregethwr mawr, ond bu yn dra defnyddiol. Daliai afael ar bob cyfle i gynghori. Yr oedd rhyw adnod o'r Beibl, neu air o addysg, ar ei wefus yn wastad. Cyffelybid ef i ysgol symudol, gan mor ddyfal yr oedd yn cyfrannu gwybodaeth am Dduw, a chyflwr colledig dyn, i'r rhai a gyfarfyddai. Bu farw yn y flwyddyn 1792, yn 72 mlwydd oed, ac yn ddiau aeth i dangnefedd. Canodd nai iddo farwnad ar ei ôl, ond nis gallwn ei chofnodi o ddiffyg lle.

Cynghorwr arall, o gryn enwogrwydd, oedd Herbert Jenkins. Cawsai ei eni yn mhlwyf Mynyddislwyn, Sir Fynwy, yn y flwyddyn 1721. Ymddengys fod ei rieni yn ddynion crefyddol, ac mewn amgylchiadau cysurus, a rhoisant addysg dda i'w mab. Bu am ryw gymaint o amser yn yr ysgol yn Mryste, gyda Mr. Bernard Fosket, athraw athrofa y Bedyddwyr. Yn ôl pob tebyg, argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth Howell Harris, ac yn bur fuan dechreuodd lefaru am Grist wrth ei gyd-bechaduriaid. Gan y medrai bregethu yn Gymraeg ac yn Saesneg, a'i fod o ddawn poblogaidd, daeth galwad mawr am ei wasanaeth. Yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford, ei enw ef a geir y blaenaf ar restr y cynghorwyr a dderbyniwyd i undeb y Gymdeithasfa. Ei enw ef hefyd yw y cyntaf ar restr y cynghorwyr presennol yn yr ail Gymdeithasfa; a phan y dosrennid y wlad tan arolygiaeth cynghorwyr, ni roddwyd adran i Herbert Jenkins, eithr trefnwyd iddo i fod yn gynorthwywr i Howell Harris, ac i'r brodyr Saesnig. Amlwg felly yr ystyrid ef mewn rhai pethau yn rhagori ar ei gyd-gynghorwyr. Dywedir iddo gael yr apwyntiad gwedi i Howell Harris ei glywed yn pregethu yn ardderchog, ar ddirgelwch Duwdod y Gwaredwr. Pa mor uchel y syniai Harris am dano a welir oddiwrth lythyr o'i eiddo at Whitefield, Chwefror 12, 1743. Meddai: "Y mae yr Arglwydd yn bendithio y brawd Herbert Jenkins yn fawr. Gwelais ef yr wythnos hon, ar ei ddychweliad o Siroedd Penfro, Morganwg, a Chaerfyrddin. Y mae yn cael ei arddel, a'i hoffi; ac y mae galw cyffredinol am dano; ac oni fydd ei alwad i swydd Wilts yn bur eglur, nid wyf yn meddwl y dylai fyned, oddieithr yn achlysurol, yn enwedig gan fod y brawd Adams yn dyfod yn mlaen mor ddymunol.

Ymddengys, modd bynnag, mai llefau y brodyr Saesnig a orfu, oblegyd yn eu mysg hwy y treuliodd Herbert Jenkins y rhan fwyaf o weddill ei oes. Yn Hanes Bywyd yr Iarlles Huntington, dywedir iddo ymuno a chymdeithas Mr. Wesley yn 1743, ac iddo deithio yn y cyfundeb hwnnw am rai blynyddau gyda dyhëwyd a llwyddiant; ei fod yn bresennol yn ail gynhadledd y Wesleyaid, a gynhaliwyd yn Mryste yn 1745, ac y ceir ei enw yn olaf ar restr y pregethwyr teithiol. Ond nid yw yn ymddangos fod y nodiad yn hollol gywir. Nid ymwahanasai Herbert Jenkins oddiwrth ei hen frodyr, er iddo lafurio yn mysg y Wesleyaid am beth amser. Yn mhellach yn mlaen, dywedir yn y cofiant iddo ymuno drachefn a Mr. Whitefield, a llafurio gyda Cennick ac eraill yn Nghyfundeb y Tabernacl, a'i fod yn pregethu llawer yn Nghymru. Cawn ef mewn cymdeithasau perthynol i'w gyfundeb ei hun yn Mryste, Mawrth 20, 1744. Y mae llythyr o'i eiddo at Howell Harris, dyddiedig Ebrill 11, 1745, ar gael yn Nhrefecca, yn dangos ddarfod i Herbert Jenkins oeri rhyw gymaint at y Methodistiaid, ac at Harris ei hun. Achwyna yn y llythyr nad oedd Harris yn teimlo ato fel cynt, a'i fod wedi dwyn cyhuddiadau pwysig yn ei erbyn. Sef yn (1) Nad ydoedd ei holl galon ynglŷn wrth yr achos. Gwada hyn yn hollol, ond dywed yr ymddengys iddo fod Harris yn nesu yn rhy agos at y Morafiaid, a'i fod yntau yn eiddigus o'r herwydd. (2) Nad ydoedd yn cymeradwyo y trefniadau Methodistaidd a wnaed yn y Gymdeithasfa. Ateba ei fod yn cydweled a'r seiadau preifat, yn y rhai yr ymgynullai yr aelodau i weddïo, ac i ganu, ac i adrodd eu profiadau; fod y cyfryw gyfarfodydd wedi profi yn nodedig o fendithiol; ond nad oedd yn cydweled a gosod ymwelwyr dros y seiadau, ac mai goreu pa gyntaf y byddai hynny yn darfod. (3) Ei fod yn aros gyda y Methodistiaid, er yn anghytuno a'u trefniadau, gyda'r bwriad o ymadael yn mhen amser, a thynnu y bobl ar ei ôl. Y mae yn gwadu y cyhuddiad hwn yn y modd mwyaf diamwys. (4) Ei fod mewn ystyr yn ddyn gwahanol, ac yn teimlo yn wahanol at Howell Harris. Addefa fod peth gwir yn hyn: "Unwaith," meddai, " yr oeddwn yn eich gwneyd yn rheol cred ac ymddygiad; tybiwn eich bod yn anffaeledig. Ond yn awr yr wyf yn ei theimlo yn ddyledswydd arnaf i beidio canlyn neb, ddim cymaint a cham, ond i'r graddau y mae efe yn canlyn Crist." Gorphena ei lythyr trwy ddweyd ei fod yn parchu Harris yn fawr, fel un oedd yn Nghrist o'i flaen ef, ac fel un a anrhydeddasid gan yr Arglwydd, trwy gael ei wneyd yn offeryn i ddychwelyd llawer o eneidiau.

Nid yw yn ymddangos i Howell Harris ddigio o herwydd y llythyr, ond yn hytrach i hyn glirio i ffwrdd lawer o'r niwl a orweddai rhyngddynt. Yn 1745, penodwyd Herbert Jenkins i wasanaethu yn y Tabernacl, fel olynydd i Harris, hyd Chwefror y flwyddyn ddilynol. Mewn llythyr arall at Howell Harris, hysbysa iddo lawn fwriadu myned i'r athrofa, a gedwid gan un Mr. Thompson, i berffeithio ei hun yn mhellach mewn Lladin a Groeg; ond er cynyg droiau, i gynifer o anhawsderau gyfodi ar ei ffordd, fel yr oedd yn argyhoeddedig nad ewyllys Duw oedd iddo fyned. Ddarfod i Mr. Stephens, gweinidog yr Annibynwyr yn Plymouth, ei annog i fyned i Gaerloyw, a chymeryd trwydded fel pregethwr Ymneillduol; fod y brawd Adams wedi gwneyd felly, gan gael trwydded, a myned i Orllewin Lloegr i lafurio; ond nas gallai efe feddwl gwneyd peth o'r fath heb ymgynghori yn gyntaf a'r Gymdeithasfa. Gyda golwg ar gael ei ordeinio yn Eglwys Loegr, ei fod yn awr yn gwbl ddiobaith. Buasai y dydd blaenorol gydag Esgob Bryste, ac yn dweyd ei holl hanes wrtho; gwrandawodd yr Esgob ef yn amyneddgar, ac ymddygodd ato yn foesgar, gan awgrymu iddo na fyddai fawr gwrthwynebiad i'w ysgolheigiaeth. Ond yr oedd Methodistiaeth Herbert Jenkins ar ei ffordd. Dywedodd yr Esgob wrtho y byddai yn anhawdd iddo gael teitl, a chael esgob a'i hordeiniai; ac hyd yn nod pe y caffai hyn, y gwneyd yr arholiad yn fwy caled iddo am ei fod yn Fethodist. Diwedda ei lythyr gyda'r geiriau hyn: " Yr wyf yn gobeithio y bydd i fy mrawd anwyl weddïo trosof pan fyddoch agosaf at yr Oen, erfyniwch arno am arwain ei blentyn yn ei holl ffyrdd."

Fel yr ofnai, methiant a fu pob ymgais o'i eiddo i gael urddau yn yr Eglwys Sefydledig. Mewn canlyniad, cawn ef yn bwrw ei goelbren gyda'r Ymneillduwyr, ac yn y flwyddyn 1749, urddwyd ef yn weinidog ar eglwys Annibynol Maidstone, lle y llafuriodd, gyda mawr lwyddiant, am bedair-blynedd-ar-hugain. Bu farw yn anterth ei boblogrwydd, Rhagfyr 11, 1772, yn 51 mlwydd oed. Y mae yn sicr fod Herbert Jenkins yn ddyn gwych, yn bregethwr hyawdl, ac yn llawn o ynni; a phe y gwelsai y Methodistiaid eu ffordd yn rhydd i'w ordeinio, ni fuasai byth yn gadael y Cyfundeb. Cyfansoddodd amryw emynau, ac y mae un emyn o'i eiddo ar gael yn awr. Cynwysa bump o benillion ar "Gynydd Gras." Ymddengys iddo hefyd gyfieithu amryw o emynau John Cennick, y rhai, gydag eiddo David Jenkins, ei frawd, a argraffwyd dan yr enw, Hymnau ar amryw ystyriaethau, gan amryw Awdwyr, Bristol, 1744."

Nid yw enw James Ingram i'w gael yn nghofnodau Trefecca, ond y mae yn sicr ei fod yn bregethwr teithiol o gryn enwogrwydd. Nid yw hanes ei enedigaeth a'i ddygiad i fynnu gennym; ond ymddengys iddo gael ei argyhoeddi trwy Howell Harris. Yn fuan, gwnaeth Harris ef yn was ac yn olygwr ar ei eiddo yn Nhrefecca; a throdd y gwas, gan ganlyn ei feistr, i gynghori, Y llythyr cyntaf oddiwrtho sydd gennym, ysgrifennwyd ef at Harris, rywbryd yn y flwyddyn 1744, o garchar Aberhonddu. Cawsai Ingram ei ddal er mwyn ei orfodi i ymuno a'r fyddyn. Dyma un o ffurfiau yr erledigaeth yn erbyn y Methodistiaid, a ddygid yn mlaen gan offeiriaid a bonheddwyr y dyddiau hynny, sef carcharu y cynghorwyr, a'u gorfodi i fyned yn filwyr, neu i ymuno a'r militia. Cawn bedwar cynghorwr yr un pryd, yn y flwyddyn 1745, gyda'r fyddyn yn nhref Caerloyw. Ond i ddychwelyd at James Ingram. Yn ei lythyr o'r carchar, dywed: "Gyda chywilydd yr wyf yn cyffesu ei bod yn isel arnaf neithiwr; ond y boreu heddyw galluogwyd fi i lefaru ar y geiriau hyny:- 'Yn ôl dy ddydd y bydd dy nerth.' Cefais ryddid neithiwr i esbonio y ddeuddegfed bennod o'r Datguddiad, am o gwmpas awr; parheis yn hwy heddyw, gyda chymorth anghyffredin. Yr oedd fy enaid yn y nefoedd; yn enwedig pan oeddwn yn gweddïo drosoch chwi, a thros y cyfeillion. A chwedi hyny, pan y daeth fy nhad, a Sali (ei wraig), gweddïais gyda phleser mawr. Yr wyf yn erfyn arnoch berswadio Sali, yr hon sydd yn benderfynol o ddyfod gyda mi; ond yn sicr, nid yw yn iawn iddi wneyd, er fod ymadael a hi i mi fel pe y rhwygid asen o'm hochr." Prin yr oedd yr offeiriaid yn manteisio wrth garcharu James Ingram; yr oedd cynghori yn llosgi fel tan yn ei yspryd, a gwnâi hyny yn y carchar, i'r rhai, fel yntau, a gawsent eu dal, er mwyn eu gorfodi i ymuno a'r fyddyn.

Bu Mr. Marmaduke Gwynn yn gwneyd ei oreu i'w gael yn rhydd, eithr methiant a fu yr ymgais. Noddfa olaf pob Methodist gorthrymedig oedd yr Iarlles Huntington, ac ati hi yr apeliodd Howell Harris ar ran ei was. Y mae llythyr Ysgrifenydd yr Iarlles, a anfonwyd mewn atebiad at Harris, Mehefin 13, 1744, ar gael. Dywed: "Ein hunig ffordd i gynorthwyo Mr. Ingram yw trwy apelio at Iarll Stair, y prif gadfridog; ac ni fedd efe awdurdod dros y swyddogion gwladol, eithr yn unig y rhai milwrol. Felly, os nad yw Ingram wedi cael ei roddi i fynnu i'r awdurdodau milwrol, nis geill yr Iarll wneyd dim drosto, Cawsom ddwy esiampl o diriondeb a thegwch ei arglwyddiaeth yn ddiweddar. Pan y darfu i mi, fel goruchwyliwr yr Iarlles, brofi i'w foddlonrwydd fod y ddau y dadleuwn drostynt yn bregethwyr Methodistaidd, er heb fod mewn urddau, a'u bod wedi cael eu dirwasgu i'r fyddyn trwy falais a thwyll yr offeiriaid, a'r churchwardens, a'r oferwyr, efe a ryddhaodd un o honynt yn uniongyrchol, ar yr amod iddo dalu i lawr yr arian, a'r costau yr aethai y gatrawd iddi ynglŷn ag ef; yr hyn a wnaed ar unwaith. Ac am y llall, cafwyd dyn cryf i gymeryd ei le. Felly, chwi a welwch, y rhaid i chwi anfon pob manylion am Ingram, a phrofi nad yw yn syrthio tan y ddeddf seneddol ddiweddaf, gan ei fod yn was i chwi, ac yn edrych ar ôl eich eiddo, yr hwn ydych yn cadw tŷ, a'r cyfryw dŷ yn eiddo i chwi eich hun, a'ch bod wedi cael addysg dda yn yr ysgolion ac yn y brifysgol, a'ch bod yn parhau i ddilyn eich efrydiau. Nid rhaid i chwi ddweyd eich bod yn bregethwr Methodist. Ac os gellwch ychwanegu eich bod yn freeholder, goreu oll; a bydd yn barod o'ch plaid i gael eich ryddhau, pe y rhoddent mewn gweithrediad eu bygythion mileinig yn eich erbyn chwi. Rhaid i chwi nodi hefyd a pha gatrawd y cysylltir Ingram; pwy yw ei gadben, a'i filwriad, a rhaid i chwi addaw naill ai talu yr arian a'r costau i'r gatrawd, neu fod y dyn yn barod i'w gynyg yn ei le,"

Teifl y llythyr hwn ffrwd o oleuni ar y modd yr ymddygid at y Methodistiaid. Gwelwn (i) Fod y cynghorwyr yn cael eu gorfodi i ymuno a'r fyddyn. (2) Yr ystyrid eu cael yn rhydd trwy dalu arian, neu gynyg dynion eraill yn eu lle, yn ffafr. (3) Na cheid y ffafr hon heb apelio at yr awdurdodau milwraidd uchaf. (4) Nad oedd Howell Harris ei hun, er yn dal eiddo rhydd-ddaliadol, yn ddiberygl o gael ei bresio. (5) Mai yr offeiriaid, a'r rhai oeddynt yn ufudd weision iddynt, oedd wrth wraidd y cyfan. Pa fodd bynnag, daeth Ingram yn rhydd. Ysgrifena at Howell Harris, Mehefin ig, 1744: "Gallaf eich hysbysu fy mod allan o garchar Aberhonddu er ys pythefnos, ar yr amod fy mod yn rhoddi fy hun i fynnu yno pan ddaw y swyddog. Yr oeddwn yn rhy fyr i dir-filwr, a chedwir fi i fod yn fôr-filwr, er fy mod yn rhy fyr i hynny yn ogystal, gan nad wyf ond pum troedfedd a dwyfodfedd a hanner o hyd. Ni wn ddim am yr amser, na'r llong yn mha un y cymerir fi i ffwrdd, na pha un a gymerir fi o gwbl. Y mae amryw ynadon, a Syr H. H., aelod seneddol, wedi addaw gwneyd eu goreu i'm cael yn rhydd. Y mae eraill yn rhuo fel llewod. Eithr rhuent hwy; Duw sydd yn teyrnasu. Pregethais, yn gyffredin, dair gwaith y dydd yn ystod y tair wythnos y bum yn y carchar. Yr wyf yn awr ar fy nghylchdaith yn Sir Henffordd. Anerchwch bawb sydd yn caru llwyddiant Seion yn fy enw. Eich tlawd ac annheilwng was, ond trwy ras, eich dedwydd frawd, James Ingram." Tebygol mai yn rhydd, ac yn pregethu Crist, y bu o hyn hyd ddiwedd ei oes. Yn Gorph. 28, 1744, ysgrifenna Benjamin Cadman at Howell Harris gyda golwg arno: "Cafodd y brawd Ingram, pan oedd ddiweddaf yn Nantmel, alwad i fyned trosodd i Drefaldwyn. Atebai ef nad oedd ganddo awdurdod arno ei hun, ac nas gallai fyned heb eich caniatâd chwi, Yr ydym yn dymuno arnoch dalu ymweliad a ni, os gellwch; os na ellwch, ar i chwi roddi rhyddid i'r brawd Jemmi Ingram i ddyfod." Hydref, yr un flwyddyn, ysgrifenna John Sparks at Howell Harris o Hwlffordd:— "Neithiwr, pregethodd y brawd Ingram yn fy hen bwlpud i yma. Llefarai yn felus ac yn gysurlawn oddiar y geiriau:— 'I chwi y rhai sydd yn credu y mae yn urddas.' Daethai llawer i wrando, a gobeithiaf i rai glywed mewn gwirionedd." Yn Ionawr, 1745, cawn yr hen gynghorwr, John Richard, Llansamlet, yn ysgrifennu: "Mi a fûm gyda fy mrawd James Ingram yn Newton, yn ei wrando yn llefaru; daethai llawer o bobl i'w wrando, a gallaf ddweyd trwy brofiad ddyfod o'r Arglwydd yno i'n cyfarfod. Bendigedig a fyddo ei enw ef. Amen. Yr wyf yn credu i'r odfa gael ei bendithio i agor calonnau rhai i genhadon Duw, os nad i Dduw ei hun; canys chwi a ryfeddech y fath dynerwch oedd yn eu hysprydoedd. Gosodwch ar y brawd Jemmi i fyned yno mor fynych ag y gallo, canys yr wyf yn credu pe y byddai iddo fyned yno i aros am wythnos, y byddai i'r holl fro gael ei hagor i dderbyn cenhadau yr Arglwydd. Yr wyf yn teimlo fy enaid fel llew am ysglyfaeth, am gael yr eneidiau hynny oddi tan lywodraeth Satan." Y mae yn amlwg oddiwrth y llythyrau hyn a'u cyffelyb fod James Ingram yn dra phoblogaidd fel cynghorwr.

Tua chanol haf 1745, tybia fod Howell Harris wedi cael ei anfoddhau ganddo, oblegyd ei ddiofalwch. "Fel yr oeddwn yn dyfod o Erwd," meddai, " daeth i'm meddwl mai gwell fyddai i mi aros mwy gartref, gan fy mod i, a'm ceffyl, a'm golchiad, yn dra chostus i chwi, tra nad wyf o fawr gwasanaeth yn Nhrefecca. Eto, er mai prawf o falchder fyddai i mi dybio y gallwn gyffroi pobl anffrwythlawn y sir hon, yr wyf yn gostyngedig dybio fod gan yr Arglwydd genadwri atynt i'w hanfon drwof fi. Dynoethwyd braich yr Arglwydd tra y pregethwn yn ngŵyl Aberedw; darfu i un o brif ddynion yr wyl dori ei goes; a syrthiodd un arall, cymydog i ni, wrth ddychwelyd o wyl arall, dydd Sul diweddaf, oddiar ei geffyl, a bu farw yn y fan." Pa gysylltiad oedd rhwng pregethu Ingram a gwaith y dyn yn tori ei goes, ni ddywed; y mae yn fwy na thebyg yr edrychai ar y ddamwain fel barn Duw. Modd bynnag, adferwyd cyd-ddealltwriaeth yn fuan rhwng Ingram a'i feistr. Cawn amryw lythyrau o'i eiddo at Howell Harris gwedi hyn, yn mha rai y dengys awydd am ymroddi i'r gwaith Saesnig. Eithr cyn yr ymraniad yr ydym yn colli golwg arno yn llwyr. A fu efe farw yn gymharol ieuanc, neu ynte, a ymsefydlodd fel gweinidog Ymneillduol ar ryw eglwys yn Lloegr, nis gwyddom.

Ceir nifer o gyfeiriadau yn nghofnodau Trefecca, ac yn llythyrau Howell Harris, at James Beaumont, cynghorwr yn Sir Faesyfed. Ymdddengys mai yn Gore, lle yr oedd hen eglwys Ymneillduol, ac yn yr hwn le hefyd y bu seiat gynnes gan y Methodistiaid, y preswyliai. Dywedir ei fod yn ymadroddwr gwresog. Rhaid yr ystyriai Howell Harris ef yn mysg yr enwocaf o'r cynghorwyr, oblegyd enw Beaumont yw yr uchaf ar y rhestr bron yn ddieithriad, oddigerth eiddo Herbert Jenkins. Cafodd ei dderbyn i undeb y Gymdeithasfa fel cynghorwr cyhoedd yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford, Yn Nghymdeithasfa Fisol Glanyrafonddu, cafodd ei benodi, gyda Howell Harris a Herbert Jenkins, i fod yn ymwelydd cyffredinol dros yr holl seiadau. Yn ail Gymdeithasfa Watford, gwnaed ef yn arolygwr dros seiadau Siroedd Maesyfed a Henffordd. Profa y llythyr canlynol, o eiddo Howell Harris ato, pa mor uchel y meddyliai y Diwygiwr o Drefecca am dano, a pha mor gynhes oedd y lle a feddai yn ei serchiadau. Y mae wedi ei ddyddio Gorph. 9, 1743: "Fy Mrawd Anwyl, ac agos iawn, Beaumont. Dal yn mlaen i ymladd; y mae y frwydr wedi ei henill; wele, y mae yr Iesu yn dangos y goron a bwrcaswyd ganddo. Dos rhagot, tydi filwr dewr; ni saf dim o'th flaen, oblegyd y mae Crist o'th ochr. Gwna ei glwyfau gwaedlyd ef lanw dy holl raid; ie, pe y gwnai angau ac uffern rwystro ar y ffordd. Clyw! y mae yr Iesu yn galw; bydded i James ufuddhau. Efallai y ca y llythyr hwn fy anwylaf frawd, a'm hagosaf gyfaill, yn flin arno ei hun, ac yn gruddfan am ryddid. Wel, cymer yr Iesu dy faich i ffwrdd; ac hyd hyny efe a'th gynal di dano, gan dy gymeryd yn llwyr o fysg pethau amser, a dangos i ti bethau na welodd llygaid eu cyffelyb. Y pryd hwnw cofia am dy frawd tlawd, ffol, drygionus, a phechadurus, a ddymunai rodio yn Nghrist. Y mae yr Arglwydd wedi gweled yn dda yn wastad ymostwng i ddyfod i'n plith pan fydd ei ragluniaeth yn ein dwyn yn nghyd. . . . Yr wyf yn mawr hiraethu am weled fy anwyl gydfilwr yn fflamio fwyfwy mewn zêl dros yr Oen; y mae pob gras a dawn a roddir i chwi yn mwyhau fy hapusrwydd. Yn fuan, ni a gyfarfyddwn draw, yn mysg y llwyth adeiniog, lle y bydd pechod a gofid wedi eu dinystrio. Yn sicr, nis gall neb yno glodfori rhad ras, a chariad arfaethol, yn uwch na ni, na chyda phereiddiach sain. Ydwyf, fy anwylaf frawd, a'm cydddinesydd, yr eiddot byth yn yr Oen,

How. Harris."

Dengys y llythyr hwn anwyldeb diderfyn Harris at James Beaumont. Y mae yn sicr ei fod yntau yn ddyn beiddgar, nodedig o ddiofn, ac agos mor egniol a Harris ei hun gyda theithio a phregethu. Rhydd y difyniad canlynol o lythyr a ysgrifenodd at Harris, Awst 2, 1742, olwg ar y dyn: "Y mae llawer dan argyhoeddiad yn Llanybister, Meddigre, Llanddewi, a Maesgwyn, lle y pregethais ddwy waith gyda nerth. Yr oedd y diafol yn rhuo ei oreu. Bendigedig fyddo Duw, y mae teyrnas yr un drwg yn cwympo i lawr bendramwnwgl o gwmpas ei glustiau. Felly nid rhyfedd ei fod yn rhuo, gan fod ei amser mor fyr. Bydded i'r Duw tragywyddol ddryllio ei deyrnas fwyfwy, er mwyn Iesu Grist. Amen." A yn mlaen i ddweyd fod drws newydd yn ei blwyf ef wedi cael ei agor i'r efengyl, lle y pregethodd y noson cynt, tan arddeliad amlwg; fod y churchwarden a'i deulu yn y cyfarfod; i lawer gael eu cyffroi; ac ar y terfyn i'r churchwarden ei wahodd i'w dŷ, ac arlwyo gwledd iddo. Pregethodd dranoeth yn yr un lle; yr oedd y swyddog eglwysig yno drachefn, a theimlodd dan y Gair i'r fath raddau, nes y bu raid iddo eistedd i lawr, a gwaeddu allan. Yr oedd rhai o'r teulu hefyd yn wylo dros y lle. Diwedda ei lythyr trwy ddweyd fod yr Arglwydd wedi ei fendithio yn rhyfedd yn mysg pobl Maesyfed, a bod ei ddau frawd, a'i chwaer fechan, yn rhodio yn ostyngedig gerbron yr Arglwydd. Nid bob amser yr oedd swyddogion eglwysig mor dyner o hono. Cymerer y difyniad canlynol a ysgrifenodd i Lundain at Mr. Grace, Tachwedd 29, 1742: "Bum yn ddiweddar yn Siroedd Brycheiniog, Henffordd, a Morganwg. Yn Sir Forganwg, yr oedd Duw gyda mi yn rhyfeddol; gellid meddwl fod teyrnas y cythraul yn syrthio; ni chefais y fath daith erioed o'r blaen, bendigedig fyddo fy anwyl iachawdwr. Aethum yn ddiweddar i wylnos a gynhelid yn y wlad. Gafaelodd offeiriad y plwyf ynof, gan fygwth fy rhoddi yn y stocs. Atebais inau i mi fod yn y stocs o'r blaen o herwydd yr un peth, a'm bod yn foddlon cael fy rhoddi ynddynt eto. Ni chyflawnodd ei fygythiad, ond cadwodd fi yno am beth amser, nes y gwaredodd yr Arglwydd fi o'i law. Aethum i dŷ ychydig ffordd o'r lle, a phregethais i nifer o eneidiau tlodion, y rhai a'm canlynasent o'r fan lle y'm cymerasid yn garcharor. Y mae yr Arglwydd yn rasol iawn i gynghorwyr tlawd Maesyfed. Y mae yn agor eu geneuau yn rhyfedd mewn ffeiriau a marchnadoedd."

Cafodd James Beaumont ei ran o erlidiau. Rhydd y llythyr dilynol, a ysgrifenwyd at Howell Harris, rywbryd yn y flwyddyn 1744, hanes ei ymweliad ef, a'r hen gynghorwr William Evans, Nantmel, a rhan o Sir Drefaldwyn: "Pan aethum i Lanidloes, rhoddodd boneddiges o'r lle genad i mi bregethu dan neuadd y dref. Ond gyda bod y bobl yn dechreu ymgasglu, daeth y churchwarden, gan beri terfysg mawr. Ymddengys fod ganddo awdurdod oddiwrth ganghellydd yr esgobaeth i'm rhwystro i lefaru yn y dref. Pan ddaeth yn agos ataf, gofynodd: 'Trwy ba awdurdod yr ydych yn pregethu yn y lle hwn?' Atebais inau mai trwy awdurdod Gair Duw. Ond ni ofalai efe am y pethau a berthyn i Dduw, eithr yn hytrach pa fodd y gallai fy nhynu i lawr o'r lle y safwn arno. Pan welais ei fod yn benderfynol o'm rhwystro, dywedais wrtho fy mod yn barod i ufuddhau i holl gyfreithiau y tir, yn wladol ac yn eglwysig, Dechreuodd geisio fy arwain ymaith fel carcharor; tynais inau fy oriawr allan er gweled pa awr o'r dydd ydoedd; ar hyn pallodd calon y dyn o'i fewn, newidiodd ei wedd, a chyfnewidiodd o ran ei leferydd. Dywedodd ei fod yn fater cydwybod ganddo i fy rhwystro, gan fod y canghellydd wedi ei orchymyn yn gaeth na chaifai neb bregethu yn y dref; ac os pregethai rhywun ar iddo ei gymeryd yn garcharor. Ond yn lle fy nghymeryd i fynu, aeth ymaith, gan ddymuno yn dda i mi.

"Yn bur fuan, dychwelais i'r lle yr oeddwn i bregethu, a rhoddais allan air o hymn. Trwy amser y canu yr oedd pob peth yn dawel; ond pan aethum i weddi, daeth yr yswain, gan ganu yn ei gorn hela, a galw ynghyd y bytheuaid bychain (beagles). Ymddengys mai y werinos derfysglyd a olyga wrth y beagles; ac mai siarad yn ffugrol y mae. "Ymddangosent," meddai, "fel cwn, yn barod am eu hysglyfaeth, Ond ni oddefodd yr Arglwydd iddynt fy nghamdrin yn mhellach na fy ngorchuddio drosof a thom, ac wyau. Rhegent y collent eu bywydau cyn y cawn bregethu yn y dref. Aethum inau i gwmyn cyfagos, ond y tu allan i gylch y gorffbriaeth, a chanlynodd llawer o bobl. Gwnaeth yr Arglwydd fi yn gryf, ac yn ddisigl, a rhoddodd i mi i lefaru ei air gyda hyfdra, ac nid oedd fy llafur yn ofer yn yr Arglwydd. Methais a phregethu yn Nhrefeglwys, oblegyd ystorm enbyd o wynt a gwlaw. Llechai ŵyn Crist o dan berth yn ymyl y fan y trefnasid i mi lefaru; ond treiddiai y gwlaw trwy y llwyni, ac yr oedd y creaduriaid truain yn oerion ac yn wlyb. Gan nad oedd cyfaill i'n derbyn, meddyliasom am fyned i dafarndy, ryw haner milltir o'r lle. Yno, yn y gwesty, cynyddodd y bobl. Erlidwyr oedd y tafarnwr, a'i wraig. Gofynasom ganiatad i ganu hymn, a chawsom; galluogodd Duw ni i ganu a'r yspryd ac a'r deall. Gwedi canu clodydd ein Prynwr, cymerais ryddid i gynghori ac i weddïo"

"O gwmpas deuddeg o'r gloch dranoeth aethom i'r Drefnewydd, a chauodd y trigolion o'n cwmpas ar bob tu. Lledent eu safnau arnom, ac ysgyrnigent ddanedd, fel llew parod am ei ysglyfaeth. Dywedodd Person y dref wrth ei ysgolheigion, pwy bynag o honynt a'n curai waethaf, y caffai fwy o ffafr gydag ef mewn cysylltiad ag addysg. Ffordd ryfedd o bwrcasu dysg, sef ei brynu a gwaed! Gwnaed yr ymosodiad cyntaf arnaf gan y menywod, y rhai a wlychent eu ffedogau yn nghenel y cŵn, er mwyn dwbio fy wyneb a'r budreddu aflan. Safai y brawd William Evans yn fy ymyl, gan geisio fy nghysgodi oddiwrth yr ergydion ar fy nghorph eiddil; ond yn ofer. Curent eu ceffylau, gan geisio gyru trosom. Codasant i fynu fath o gert, neu chwerfan, fel y syrthiai arnom, ac y rhoddai derfyn ar ein hoedl. Yr oedd y cerig a hyrddid atom yn myned gyda'r fath ruthr, fel y treiddient trwy glawdd, oedd ryw gymaint o bellder. Fel hyn y parhaodd y werin derfysglyd i'n baeddu yn y modd mwyaf barbaraidd, hyd nes i un o honynt fy nharo, fel y llewygais. Pan welsant nas gallwn ddal mwy, taflodd rhai o honynt eu harfau i lawr, gan ddweyd fy mod wedi cael digon. Daliai y brawd Evans fì yn ei freichiau hyd nes y daethum ataf fy hun, yna aeth i chwilio am fy ngheffyl, yr hwn a yrasid ymaith gan yr erlidwyr. Fel y safwn wrthyf fy hun, daeth dynes annhrugarog, gan geisio fy nharo a phren ysgwar, ond gwelodd y brawd Evans hi, a chyfryngodd rhyngof a'i hamcan gwaedlyd. Erbyn hyn yr oeddwn wedi fy ngorchuddio drosof a thom ac a gwaed, ac mor wan, fel nas gallwn sefyll heb gymhorth. Tra y ceisiai fy nghyfeillion fy nghynorthwyo allan o'r llaid, i ba un y cawswn fy nhaflu, daeth benyw, a thaflodd ddyrnaid o dom i'm safn, yr hyn a gymerth ymaith fy anadl, yn mron. Gwaedais tros ddwy filltir o ffordd, ar ol cael ymwared oddiwrth fy erlidwyr; a phan aethum i ddiosg fy nillad, cefais fod fy mhen, a rhanau o'm crys, fel pe y baent wedi eu trochi mewn gwaed, Wedi cael plastr i fy mhen, ac ymborth i fy nghorph, gweddîais ar fy Nhad nefol am faddeu iddynt, ac yr oeddwn yn ddedwydd o ran fy meddwl Dyma y derbyniad a gefais gan bobl y Drefnewydd. Yr wyf yn gweddïo ar i Dduw roddi iddynt galon newydd, er mwyn Iesu Grist. Amen, ac Amen."

Fel hyn yr ymddygid at yr hen gynghorwyr; dyma y driniaeth a dderbynient oddiwrth y bobl y ceisient eu llesoli yn yr ystyr uchaf. Ond er llid y personiaid, a chynddaredd y dorf, ni lwfrhaent; aent rhagddynt gydag yspryd diofn i gyhoeddi efengyl gras Duw i bechaduriaid. Ni chythruddwyd hwynt ychwaith fel ag i geisio dial eu camwri; yn hytrach, fel Stephan, y merthyr Cristionogol cyntaf, ac fel yr Arglwydd Iesu ei hun, medrent weddïo dros eu herlidwyr yn eu gwaed. Dyma wroniaid na fedr y byd ddangos eu rhagorach.

Yn mhen peth amser aeth Beaumont drosodd i lafurio yn Lloegr. Ysgrifena at Howell Harris, Ebrill ii, 1745, i ddweyd ei fod yn bwriadu myned tua Bath a Llundain. Achwyna hefyd yn y llythyr hwn fod oerfelgarwch wedi codi rhwng Harris ag ef. Pa beth oedd achos yr oerni nis gwyddom; tueddwn i feddwl mai gwahaniaeth barn ar ryw bwnc o athrawiaeth; ond cynyddu wnaeth y pellder rhwng y ddau gyfaill, nes myned yn dra dolurus. Cawn un Rice Williams, cynghorwr yn Sir Faesyfed, yn ysgrifenu at Howell Harris, Rhagfyr 29, 1748, fel y canlyn: "Bydded i'r Arglwydd frysio eich ymweliad a ni i gadw seiat breifat. Os ca pethau fyned yn mlaen yn hir fel y maent, gellwch ffarwelio a seiat Sir Faesyfed. Y mae rhai yn ddigon hyf i daeru, os troir Beaumont allan, y bydd i liaws o'r cynghorwyr ei ganlyn, gan ei fod yn sicr o gymdeithas y sir. Y mae Beaumont yn pregethu yn ein herbyn bob wythnos. Yn awr, y mae ein seiat fechan, oedd mewn perffaith undeb, yn ferw trwyddi, ac yn llawn o zêl bartïol. Yr wyf yn ofni y canlyniadau. Anfonwyd am dano ef (Beaumont) gan James Probert, i'r Castell, nos lau diweddaf, lle y maent yn ymgynull yn wythnosol, ond, fel ag yr wyf yn deall, heb yn wybod i'r lleill, Y mae wedi cael ei wahodd i ddod yma, hefyd, ar y dydd cyntaf o'r flwyddyn newydd; ond bwriadaf ei rwystro, gan fod Thomas James i fod yma, yr hwn sydd ychydig yn llai tra-awdurdodol. Y mae y ddadl ynghylch sancteiddhad, yr hyn (fel yr honant) nid yw ond credu syml. Ni oddefìr cyfeiriad at ddyledswydd, na gorchymyn; ac nid ydynt yn credu mewn cynydd mewn gras; a chaseir gwylio ac ymprydio. Y mae Tom Sheen wedi yfed yn ddwfn o athrawiaeth Beaumont; efe yw gŵr ei ddeheulaw. Llawer o'n haelodau a gloffant rhwng dau feddwl, heb wybod pa fodd i fyned yn mlaen. Y mae ein Credo Nicea yn cael ei chashau gan ein hathrawon newyddion; honant y dylai gael ei diwygio, yn arbenig y rhan am genhedliad o'r Tad cyn dechreuad y byd."

Fel hyn yr ysgrifena Rice Williams, a rhydd ei lythyr gipolwg ar y golygiadau wahaniaethol a ddelid gan Beaumont. Ai nid dyma wraidd y gymysgedd o Sandemaniaeth ac Antinomiaeth a ffynai am beth amser yn ardaloedd Llanfairmuallt, gwedi yr ymraniad rhwng Rowland a Harris, at ba un y cyfeirir yn Nrych yr Amseroedd, i'r hon y dywedir fod Thomas Sheen yn athraw? Nid yw yn debyg i James Beaumont fyw yn hir gwedi y llythyr uchod; y mae yn sicr ei fod wedi marw cyn y flwyddyn 1750. Dywedir mai cael ei daro a chareg a wnaeth pan yn pregethu yn yr awyr agored, ac i'r ddyrnod droi yn angau iddo. Y dyb yw mai yn Sir Benfro y cymerodd hyny le. Sicr yw ei fod yn ŵr ymroddgar, llawn o zêl a gwroldeb; a gofidus gorfod croniclo ddarfod iddo gyfeiliorni i raddau oddiwrth y ffydd cyn diwedd ei oes.

Y cynghorwr nesaf a ddaw dan ein sylw yw Thomas James, Cerigcadarn, yn Sir Frycheiniog. Ychydig iawn o'i hanes personol sydd genym, ond a allwn gasglu oddiwrth ei lythyrau, ynghyd a'r cyfeiriadau ato yn nghofnodau Trefecca. Ymddengys, modd bynag, iddo gael ei argyhoeddi tan weinidogaeth Howell Harris, ac iddo ddechreu cynghori ar unwaith. Y mae genym brofion y cynghorai yn nechreu y flwyddyn 1741. Mewn llythyr, dyddiedig Hydref 9, 1742, at Howell Harris, yn Llundain, dywed ddarfod iddo bregethu mewn gwylmabsant, yn Llanfihangel, y flwyddyn flaenorol, a chael ei fendithio i argyhoeddi rhyw enaid. Tybiai fod hyn yn gosod rhwymau arno i fyned i'r wylmabsant y flwyddyn ganlynol. Ceisiai y diafol ei rwystro, gan sibrwd wrtho y cai ei ladd; daeth nifer o gyfeillion ato i ddangos iddo y perygl, a gelynion i'w ddychrynu; ond ni wrandawai Thomas James; yno yr aeth; a'i fywyd yn ei ddwrn. Cyrhaeddodd Lanfihangel cyn i'r rhialtwch ddechreu; aeth y tafarnwr ato, a geiriau llawn mêl ar ei wefusau, gan geisio ganddo beidio terfysgu, ac y byddai yn dda ganddo ei weled yno unrhyw amser arall. Atebai yntau na wnai derfysgu, ond mai ei waith oedd sefyll i fynu yn erbyn teyrnas Satan; na lefarai yn erbyn dim ond pechod; ac os oedd y tafarnwr am gefnogi pechod, fod yn rhaid iddo ei wrthwynebu. Erbyn hyn, yr oedd y dorf yn dechreu ymgasglu. Daeth dynes, lawn o'r cythraul, a hyrddiodd ei hun ar ei draws, nes ei fwrw i lawr, gan ddweyd mai ar ei thir hi yr oedd yn sefyll. "O'r goreu,"' atebai'r cynghorwr, "mi a safaf ar y brif-ffordd." I'r brif-ffordd yr aed, rhoddodd y pregethwr air allan i ganu, eithr y tafarnwr a ddaeth, gan regu na chaffai aros yno, a galw ar y bechgyn i barotoi'r cerig. Dyma y rhai hyny yn rhuthro yn erbyn yr ychydig saint oedd wedi ymgynull ar yr heol, a chyda mwrdd-dra yn eu hwynebau, a chan floeddio fod y brif-ffordd yn rhydd i bawb, gwthient y gynulleidfa fechan o'u blaen, fel na chaffai aros. Yr oedd pastynau yn eu dwylaw, ond, meddai Thomas James: "Mor bell ag yr wyf yn cofio, nid oedd arnom ofn. Yr oedd tân yn llosgi yn fy nghalon trwy yr amser." Yn awr y mae yn myned yn frwydr rhwng y ddwy deyrnas, pob un o'r ddwy yn ymladd a'u harfau priodol ei hun. Gwaeddodd y pregethwr am osteg, fel y gallai siarad a'r arweinydd; eithr pan y cymerodd ef allan o'r dorf, yr oedd y dyn mor wan fel y crynai yn ei wyddfod, ac aeth i ffwrdd a'i liniau yn curo ynghyd. Ail gychwynwyd yr odfa; tra y canai ac y gweddi'ai y saint yr oedd gweision y diafol yn taflu tom a darnau o goed atynt; gorchuddiwyd gwyneb William Evans, Nantmel, a llaid. Ond ni chafodd neb niwed; y Beibl agored, a'u dillad yn unig, a gafodd gam. A'r Iesu gariodd y dydd. Pregethodd Thomas James am awr a haner, oddiar y geiriau: "Ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi," gan argyhoeddi yr annuwiol, a chadarnhau yr wyn. Ar derfyn ei bregeth teimlai gariad mawr at ei elynion, a chymhellai hwynt gyda thaerni i ddyfod at y Gwaredwr, gan ddangos ei fod yn alluog i achub hyd yr eithaf. Trowyd yr wylmabsant yn gyfarfod pregethu; ac ar y terfyn aeth y tafarnwr at ŵr Duw, gan ei wahodd i'w dŷ i swpera. Diwedda Thomas James ei lythyr gyda'r geiriau: " Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw dy hun dod y gogoniant."

Yn y Gymdeithasfa gyntaf yn Watford, cafodd ei dderbyn fel cynghorwr cyhoedd, ond ni phenodwyd maes iddo i'w arolygu, oblegyd rhyw helynt ynglyn a'i amgylchiadau. Erbyn ail Gymdeithasfa Watford, ymddengys fod y rhwystr wedi cael ei symud, a chafodd yntau ei osod yn arolygwr ar seiadau Brycheiniog, oeddynt yr ochr nesaf i Drefecca i'r afon Wysg. Cyflawnodd yn ffyddlawn y gorchwyl a gawsai ei ymddiried iddo, fel y dengys yr adroddiadau a anfonodd i mewn. Bu mewn aml i helynt wrth wasanaethu praidd Duw. Mewn llythyr a anfonodd at Cennick, Mawrth 26, 1743, rhydd hanes ei ymweliad a rhyw seiat, ar gyffyniau Siroedd Maesyfed a Brycheiniog, yn nghwmni James Beaumont, a brawd arall. Er cyrhaedd y lle, rhaid oedd iddynt groesi yr afon Wy; a pherswadiodd boneddwr y badwyr i godi crogbris arnynt. Pan na thalent, gwnaed y cwch yn sicr wrth raff yn nghanol yr afon; a daeth llu o bobl i lan y dwfr, o'r Gelli a manau eraill, er cael digrifwch wrth eu gweled yn methu myned nac yn ol nac yn mlaen. Ond yr oedd beiddgarwch a dyfais yn y cynghorwyr; troisant y cwch yn bwlpud i'r Iesu; a dechreuasant bregethu i'r dorf oedd o'r ddau tu. Ffyrnigodd yr erlidwyr, ac ymroisant i luchio cerig at y llefarwyr. Eithr cadwodd Duw ei weision yn rhyfedd; ni anafwyd un o'r tri; ac ymddengys i'r odfa, na chawsai ei chyhoeddi yn mlaen llaw, fod yn foddion i achub amryw. Gwedi i'r cynghorwyr gael eu cadw uwch ben y dwfr am bump awr, yn canu, ac yn gweddïo, ac yn cynghori, caed allan nad oedd gan y cychwyr yr un drwydded; a bu dda ganddynt gymeryd y tri brawd i dir. Tybia Thomas James ddarfod clwyfo cydwybodau y cychwyr eu hunain.

Gorchuddir rhan olaf bywyd y gwas ffyddlawn hwn i Grist a thywyllwch. Y cyfeiriad olaf a gawn ato yw yn llythyr Rice Williams, Rhagfyr 29, 1748. Ni cheir ei enw yn mysg y rhai a ymlynent wrth Harris adeg yr ymraniad. Naill ai yr oedd wedi marw yn flaenorol, neu ynte bwriodd ei goelbren, yn yr argyfwng pwysig hwnw, gyda Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn. Y mae yn sicr fod Thomas James yn un o'r cynghorwyr mwyaf defnyddiol. Cyfunai yn ei dymheredd y llew a'r oen. Nid oedd arno ofn perygl; mentrai i ganol yr erlidwyr yn ddi fraw; ond yr oedd yn nodedig o dirion a gostyngedig wrth drin y praidd.

Y cynghorwr nesaf a ddaw dan ein sylw yw Thomas William, arolygydd adran o Sir Forganwg. Ychydig o'i hanes sydd ar gael; ond ymddengys iddo gael ei argyhoeddi ar daith gyntaf Howell Harris i blwyf Eglwys llan, yn y flwyddyn 1738, ac iddo ddechreu cynghori ar unwaith. Pan yr ymneillduodd y Methodistiaid. o Watford, oblegyd cyfeiliornadau David Williams, y gweinidog, gan ymsefydlu yn y Groeswen, yr oedd Thomas Williams yn un o'r fyntai a aeth allan. Yn Nghymdeithasfa Fisol Glanyrafonddu, a gynhaliwyd Mawrth i, 1743, penodwyd ef i arolygu seiadau y rhan ddwyreiniol o Forganwg, can belled a Llantrisant, a chafodd hyn ei gadarnhau yn Nghymdeithasfa nesaf Watford. Y mae amryw o'r adroddiadau am ansawdd yr eglwysi, a osodasid dan ei ofal, yn awr ar gael, ac y maent yn dra dyddorol. Pan y cyfododd anesmwythid yn meddyliau cynghorwyr y Groeswen, parthed cymuno yn yr Eglwys Wladol, yr oedd Thomas William yn un o'r rhai ddarfu arwyddo y llythyr hanesyddol, a anfonwyd at Gymdeithasfa Cayo, Mawrth 30, 1745. A chan nad oedd atebiad y Gymdeithasfa yn ei foddloni, cymerodd ef, mewn undeb a William Edwards, yr adeiladydd, ei ordeinio yn weinidog i'r Groeswen, yn ol dull yr Ymneillduwyr, ac yno y bu yn llafurio, gan weinyddu y sacramentau, hyd ddydd ei farwolaeth. Nid yw yn ymddangos ei fod yn ystyried ei hun trwy hyn yn ymadael a'r Methodistiaid, o leiaf yn llwyr; ac yr oedd y Diwygwyr yn arfer ymweled a'r Groeswen ar eu teithiau fel cynt. Nid hir y bu fyw gwedi ei ordeiniad, bu farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys y llan, am nad oedd claddfa yn perthyn i'r Groeswen y pryd hwnw.

Am ei gyd—weinidog, sef William Edward, a elwir yn gyffredin, " William Edwards, yr adeiladydd," y mae ei hanes yn fwy adnabyddus. Cafodd ei eni mewn ffermdy bychan, yn mhlwyf Eglwys llan, rhwng Pontypridd a Chaerphili, o'r enw Bryn, yn y flwyddyn 1719. Efe oedd yr ieuangaf o bedwar o blant, a phan nad oedd ond dwy flwydd oed, bu farw ei dad. Ychydig o ysgol a gafodd, prin digon i'w alluogi i ddarllen ac ysgrifenu Cymraeg. Treuliodd ei faboed yn llafurio ar y tyddyn. Wrth adgyweirio y cloddiau cerig oedd ar y tir, dechreuodd ymhoffi mewn adeiladaeth; ac yn bur fuan aeth ei glod fel gwneuthurwr cloddiau sychion dros y wlad. Wedi gweled seiri meini wrth eu gorchwyl, a sylwi pa fath arfau a ddefnyddient, teimlai ei hun yn alluog i adeiladu tai, a daeth i ragori yn y gelfyddyd. Yn agos i'w gartref yr oedd hen gastell enwog Caerphili, gyda ei furiau cryfion, a'i fŵau celfydd, yn sefyll i fynu, gan herio ystormydd y canrifoedd. Yr oedd athrylith adeiladu yn y llanc William Edward, a threuliai bob awr a allai hebgor mewn astudio nodweddion yr adeilad, ac yn fuan daeth i ddeall egwyddor bŵa (arch). Pan tuag un-ar-hugain mlwydd oed, gosododd weithfa haiarn (iron forge) i fynu yn Nghaerdydd, ac aeth i'r ysgol yno at ddyn dall, o'r enw Walter Rosser, lle y dysgodd Saesneg, ac elfenau gwyddoniaeth. Tua'r flwyddyn 1749, ymgymerodd ag adeiladu pont dros afon Taf, yn Mhontypridd, yr hyn orchwyl a gyflawnodd gyda medr mawr. Ond yn mhen tua blwyddyn, daeth llifeiriant enbyd; cauwyd bŵau y bont gan y coed a'r llwyni a ddeuent gyda'r dwfr i lawr o'r cymoedd uwchlaw; cronodd y dwfr, a than y pwysau anferth rhoddodd y bont ffordd. Y mae yntau yn ymosod i adeiladu pont arall, ac fel na ddigwyddai anffawd gyffelyb drachefn, penderfyna ei gwneyd o un bwa. Eithr cyn fod y bont wedi ei gorphen, darfu i'r pwysau ar y ddau pen wasgu y gareg glo allan, a syrthiodd hithau i'r afon. Ni wangalonodd William Edward; canfyddodd ble y camgymerasai; ac ymosododd i adeiladu trydedd bont, sef y bont fwyaf o un bŵa yn y byd. Y mae y bont hon yn sefyll hyd heddy w, ac yn brawf o athrylith a dewrder y gŵr a'i lluniodd.

Ond a hanes grefyddol William Edward y mae a fynom ni. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth Howell Harris, pan nad oedd ond llanc pedair—mlwydd—ar—bymtheg oed. Ymroddodd ar unwaith i wasanaethu Crist, a dechreuodd gynghori ei gydbechaduriaid. Yn Nghymdeithasfa Watford, pan y penodwyd ei gyfaill, Thomas William, yn arolygydd, gosodwyd William Edward, fel cynghorwr anghyoedd, i fod yn un o'i gynorthwywyr. Y mae yn debyg nad diffyg dawn na chymhwysder oedd yr achos na osodwyd ef yn arolygwr, ond amledd a phwysigrwydd ei orchwylion bydol, gan ei fod, heblaw cynghori, yn cadw tyddyn, ac yn adeiladydd prysur. Prawf ei fod yn dra derbyniol yw penderfyniad Cymdeithasfa Watford, Ebrill 24, 1744, sef nad oedd y cynghorwyr anghyoedd i lefaru yn gyhoeddus, eithr yn y seiadau preifat, gyda'r eithriad o William Edward, am yr hwn yr oedd galw i Lantrisant a'r Groeswen. Cawn ei enw ef wrth lythyr cynghorwyr y Groeswen i'r Gymdeithasfa, a chafodd ei ordeinio yn weinidog yno yr un pryd a Thomas William. Ar farwolaeth ei gyfaill, daeth yn unig weinidog y Groeswen, ac yno y bu yn llafurio, gyda mawr gymeradwyaeth, hyd ddydd ei farwolaeth. Methodist yr ystyriai ei hun hyd ddiwedd ei oes. Cymerai ychydig gydnabyddiaeth gan yr eglwys am ei lafur, ond ni roddodd i fynu ei orchwylion bydol; yn hytrach parhaodd i adeiladu pontydd a thai, ac i amaethu ei dyddyn, yn ogystal a phregethu yr efengyl. Bu farw yn y flwyddyn 1789, yn dri-ugain-a-deg mlwydd oed, a chafodd ei gladdu yn mynwent Eglwys llan. Y mae crefydd wedi aros yn ei deulu hyd y dydd hwn. Gorŵyr iddo yw Dr. Edwards, Caerdydd, yr hwn nid yn unig sydd yn enwog fel meddyg, ond hefyd yn ŵr tra chrefyddol.

Am y tri arall o gynghorwyr y Groeswen a ddarfu arwyddo y llythyr i'r Gymdeithasfa, sef Thomas Price, John Belsher, ac Evan Thomas, nid rhyw lawer o'u hanes a wyddom. Nid oes dim ond enw Evan Thomas wedi ein cyrhaedd. John Belsher oedd y dysgleiriaf ei ddoniau o'r pump, a'r mwyaf poblogaidd. Pan y penderfynwyd yn Watford, Ebrill 27, 1744, fod un i gael ei ddewis i lwyr ymroddi i'r gwaith, er mwyn bod yn gymorth i Howell Harris, a chynorthwyo yr arolygwyr yn eu gwahanol adranau, wedi cryn ymddiddan parthed ei gymhwysderau mewnol ac allanol, syrthiodd y coelbren ar John Belsher, fel yr addasaf i lanw y swydd. Tybia y Parch. John Hughes mai ar gyfer y Gogledd yn benaf y gwnaed y penodiad hwn; ond y mae hyny yn anghywir; dywed y penderfyniad mai ei faes oedd Siroedd Mynwy, Marganwg, a Chaerfyrddin. Ceir nodiad yn nghofnodau Cymdeithasfa Fisol Llanfihangel, Mai 3, 1744, yn awgrymu fod cryn betrusder wedi codi yn ei feddwl gyda golwg ar gymuno yn yr Eglwys WIadoI, ond iddo addaw cadw ei amheuaeth iddo ei hun. Tua diwedd y flwyddyn 1745, neu ddechreu y ganlynol, cafodd ei benodi, gyda thri o gynghorwyr eraill, i fyned i Wynedd, er ceisio ei darostwng i'r efengyl. Dyma yr hanes olaf sydd genym am dano. A ddarfu iddo farw yn gynar, neu ynte ymuno a'r Ymneillduwyr, nis gwyddom. Am Thomas Price, perchenog palas Watford, yr hwn a alwa Williams, Pantycelyn, yn "Price yr Ustus," nid oes llawer o hanes. Y tebygolrwydd yw iddo gael ei argyhoeddi dan Howell Harris, ac i'w dŷ gael ei daflu ar unwaith yn agored i'r efengyl. Ymadawodd yntau a chapel Watford, oblegyd heresi David Williams, gan ymaelodi gyda'r Methodistiaid yn y Groeswen. Gwnaed ef yn arolygwr ar nifer o eglwysi yn Morganwg, mewn cysylltiad a Thomas Williams, ac y mae genym nifer o adroddiadau o'i eiddo. Er iddo arwyddo y llythyr at y Gymdeithasfa, ac iddo barhau mewn cysylltiad a'r Groeswen wedi urddo gweinidog yno, Methodist yr ystyriai efe ei hun hyd ei fedd, a chyrchai y Diwygwyr i'w dŷ megys cynt. Ymddengys iddo roddi pregethu i fynu yn bur gynar. Ceir llythyr o'i eiddo at y Gymdeithasfa yn y Weekly History, yn deisyf cael ei ryddhau oddiwrth y gwaith. Ni rydd reswm penodol dros ei gais. Ond ymddengys nad oedd ei ddoniau mor ddysglaer a rhai o'r cynghorwyr, a'i fod yn barod yn dechreu cael ei flino gan asthma. Tad-yn-nghyfraith oedd i Grace Price, i'r hon y canodd Williams ei farwnad odidog; ei fab, Nathaniel, oedd ei gŵr; ac yr oedd Thomas Price yn fyw, er yn llesg ac yn gaeth gan y diffyg anadl, pan y bu ei ferch-yn-nghyfraith dduwiol farw. Profir hyny gan y penill canlynol:

"Price y Justis, ti ge'st golled,
Rwymodd asthma ar dy 'stôl,
Aeth dy ferch i ganol nefoedd,
Fe'th adawyd dithau'n ol;
Aros ronyn, trwy amynedd,
Yn y dyrys anial dir,
Ti gai gyda gwraig y capten
Ganu authem cyn bo hir."

Cynghorwr o gryn enwogrwydd, ac un a fu yn dra gweithgar yn nechreuad Methodistiaeth, oedd y Parch. Morgan John Lewis. Hanai, yn ol pob tebyg, o Blaenau Gwent, a chafodd ei argyhoeddi ar daith gyntaf Howell Harris i Fynwy, yn y flwyddyn 1738. Yn bur fuan dechreuodd gynghori, a cheir aml gyfeiriad ato yn nghofnodau Trefecca. Yr oedd yn un o'r rhai a gafodd eu penodi yn gynghorwyr cyhoedd yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford. Yn ail Gymdeithasfa Watford, gosodwyd ef yn arolygydd ar y seiadau yn Dolygaer, Cwmdu, Cantref, Defynog, a Llywel, yn Mrycheiniog; Llanddeusant, yn Sir Gaerfyrddin, a'r oll o Fynwy, yr ochr nesaf i Gymru i'r afon Wysg. Y mae amryw o'r adroddiadau a anfonodd i mewn yn awr ar gael. Yn Nghymdeithasfa Llanfihangel, Mai 3, 1744, bu ymdriniaeth bwysig ar y priodoldeb o barhau i dderbyn y cymundeb yn Eglwys Loegr; ymddengys mai Morgan John Lewis a agorodd y ddadl, a'i fod yn gryf dros i'r Methodistiaid ordeinio gweinidogion iddynt eu hunain. Penderfynu peidio, nes cael arweiniad eglurach a wnaed, a dywedir yn y cofnodau ddarfod " i'r brawd Morgan John Lewis gyduno, mewn ffordd o oddefgarwch, i beidio symud, hyd nes y byddai i'r Arglwydd ein gwthio allan, neu ynte ddwyn diwygiad i mewn." Cymerodd ran flaenllaw yn y ddadl yn Nghymdeithasfa Llanidloes, rhwng pleidwyr Rowland a Harris, yr hon a derfynodd mewn ymraniad; ymddengys mai efe a ddygodd y pwnc i sylw. Pleidiwr Rowland oedd efe, a chyda'r Diwygiwr o Langeitho, a Williams, Pantycelyn, y bwriodd ei goelbren. Yn nghymydogaeth y New Inn, yn Sir Fynwy, y preswyliai; a chwedi yr ymraniad, i'r ddeadell fechan a ymgynullai yno, y pregethai yn benaf. Cynyddodd y gymdeithas yno yn fawr, drwy i nifer o Eglwyswyr efengylaidd, na fedrent ddyoddef gweinidogaeth anefengylaidd offeiriad Llanfrechfa, ymuno a hi; mewn canlyniad, adeiladwyd capel, ac ystabl ynglyn ag ef. Yr oedd hyn yn y flwyddyn 1751. ond yr oedd yr aelodau yn analluog i gael y cymundeb; ni oddefai eu cydwybod iddynt gymuno gyda'r clerigwyr digrefydd yn y llan, ac nid oeddynt am ymuno a'r Ymneillduwyr. Yn eu cyfyngder, anfonasant ddau genad i Langeitho, i ofyn cyngor Daniel Rowland. Yntau, wedi gwrando arnynt, a dwys ystyried yr amgylchiadau, a'u cynghorodd i alw Morgan John Lewis yn weinidog iddynt, trwy ympryd a gweddi; ac ychwanegai: "Gwna gweddi y ffydd fwy o les iddo na dwylaw unrhyw esgob dan haul." Dyn nodedig o ryddfrydig oedd Daniel Rowland; nid oedd ei ymlyniad wrth yr Eglwys agos mor gryf ag eiddo Harris, ac ychydig o bwys a roddai ar ordeiniad esgobol. Derbyniwyd ei gynghor gan eglwys y New Inn. Ymgynullodd yr holl aelodau ynghyd; wedi darllen rhanau o'r Gair, a chanu, a gweddïo, mynegodd y pregethwr ei gredo ar g'oedd; yna dangosodd yr eglwys trwy arwydd ei dewisiad o hono i fod yn weinidog iddi. Yn ganlynol, cyfododd un o'r blaenoriaid, ac mewn modd difrifol cyhoeddodd Morgan John Lewis yn weinidog dros Grist, i eglwys y New Inn, i gymeryd ei gofal yn yr Arglwydd. Dywedir yn Methodistiaeth Cymru mai Sulgwyn, 1756, y cymerodd hyn le; ond tueddwn i feddwl ei fod yn gynarach.

Parodd yr ordeiniad hwn, un o'r rhai cyntaf yn mysg y Methodistiaid, gyffro dirfawr. Beiai yr Eglwyswyr y peth mewn modd chwerw, am yr ystyrient waith neb yn gweinyddu y sacramentau, heb feddu ordeiniad esgobol, yn rhyfyg ac yn ysgelerder. Beiai yr Ymneillduwyr y weithred lawn mor chwerw, am nad oedd unrhyw weinidog ordeiniedig wedi bod a llaw yn yr urddiad. Yr oeddynt hwy yn eu ffordd eu hunain lawn mor gulion a'r Eglwyswyr, ac yn credu lawn mor gryf mewn math o olyniaeth apostolaidd. Meddai Morgan John Lewis, ac eglwys y New Inn, syniadau mwy rhyddfrydig, a nes at y Testament Newydd, am osodiad gweinidog ar eglwys. "Llawer o ddyeithrwch, chwerwder, anfrawdgarwch, a dirmyg, a daflwyd arnom," meddai Mr. Lewis; "Fe'n gwrthwynebwyd yn gyhoeddus y cyfle cyntaf a gafwyd. Ond y mae y ffordd yr ydym ni yn broffesu yn ymddangos i ni yn fwy cydsyniol a threfn yr efengyl, ac yn ateb y dyben yn well, ar y dewisiad cyhoeddus, neu ordeinasiwn gweinidogion. Dymunwn i'r Arglwydd ein cynorthwyo bawb i gydoddef ein gilydd mewn cariad." Gan mor gynddeiriog oedd yr ystorm a ymosodai ar eglwys y New Inn, a chan mor anwireddus a disail oedd y chwedlau a daenid am dani, ac am ei gweinidog, barnodd Morgan John Lewis yn ddoeth argraffu math o Gyffes Ffydd, yn yr hon y gosodai allan mewn modd clir yr egwyddorion a gredai.

Eglwys Fethodistaidd oedd eiddo y New Inn dros yr holl amser y bu Morgan John Lewis yn gweinyddu iddi. Yn wir, ni wnai eglwysi Ymneillduol y wlad ym- gyfathrachu a hi; ni ddeuai gweinidogion yr Anghydffurfwyr yno ar unrhyw gyfrif i gyflenwi ei phwlpud; cauid hi y tu allan i'r gwersyll, yr un fath a'r gwahanglwyfus gynt yn Israel; a gellid tybio ddarfod iddi bechu y pechod anfaddeuol wrth alw gweinidog i'w bugeilio yn ol y drefn a ystyriai hi fwyaf cyson a dysgeidiaeth y Testament Newydd. Mor gryf ac mor greulon ydyw rhagfarn! Pa fodd bynag, deuai y cynghorwyr Methodistaidd yno ar eu teithiau, gan sirioli calon y gweinidog a'i gynulleidfa drwy eu hymweliad. Yno y llafuriodd Morgan John Lewis am O gwmpas pymtheg mlynedd gwedi, gyda mawr lwyddiant. Teimlodd yr holl wlad o gwmpas oddiwrth ei weinidogaeth; ymgasglai dynion i wrando arno bymtheg milltir o bellder. Eithr daeth ei wasanaeth i derfyn mewn modd hynod iawn. Y Sabbath olaf y bu yn pregethu yn y New Inn, aeth yn yr hwyr i gynal gwasanaeth crefyddol mewn ffermdy yn nghymydogaeth Pontypwl, tua milltir allan i'r dref. Yn y tý lle y darfu iddo bregethu y lletyai y noson hono. Dranoeth, cyn iddo godi o'i wely, daeth perchenog y tyddyn i'r lle, a rhyw swyddog milwraidd gydag ef, a chan gyfarch gŵr y ty, gofynai: "Pa le y mae y pregethwr a fu yn cadw cwrdd yma neithiwr? Atebwyd yn ofnus iawn ei fod yn ei wely. "Rhaid i ni gael ei weled," ebai'r boneddwr; "y mae arnom eisiau cael ymddiddan ag ef." Cynygiodd y gŵr ei alw i lawr atynt, ond ni wnai hyny mo'r tro i'r boneddwyr, eithr rhuthrasant i fynu y grisiau, ac i mewn â hwy i ystafell wely y gweinidog yn ddiseremoni. Yno y cysgai gŵr Duw heb freuddwydio am berygl. Tynodd y swyddog milwraidd ei gleddyf, a chan sefyll wrth ochr y gwely, a dal y cledd uwchben y pregethwr, gwaeddodd mewn llais croch: "Heretic, deffro!" Deffrodd yntau, a'r olwg gyntaf a ganfu oedd milwr yn dal arf uwch ei ben, fel pe ar fedr ei drywanu. Yr oedd yr olygfa mor enbyd, ac yn ymrithio o'i Haen mor ddisymwth, cyn iddo gael amser i ymresymu ag ef ei hun, nac i ymbarotoi ar gyfer y brofedigaeth, fel y bu yn ddigon i ysgytio ei natur o'i lle, ac i ddyrysu ei synwyr. Ymddadebrodd i raddau gwedi hyn, ond ni ddaeth byth yn alluog i bregethu. Darfu a bod yn gysur iddo ei hun, a chollodd ei ddefnyddioldeb i eraill, ac yn mhen tua blwyddyn ymollyngodd i'r bedd. Meddai y Parch. John Hughes: "O ran ymddangosiad, y gelyn a gawsai yr oruchafiaeth. Y New Inn, a Sir Fynwy, ie, a Chymru oll, a gafodd y golled." Duwinydd gwych oedd Morgan John Lewis; meddai gydnabyddiaeth ddofn a Gair Duw, a chryn dreiddgarwch meddwl i fyned i mewn i'w ystyr. Pregethai gyda nerth a hyawdledd, a chrynai dynion tan ddylanwad ei weinidogaeth. Yr oedd yn dra difrifddwys yn wastad, a dywedir na welwyd erioed wên ar ei wyneb. Gyda hyn oll, yr oedd yn Gristion pur, ac yn ddyn gwir ostyngedig. Bu farw tua'r flwyddyn 1771, wedi gwasanaethu Cyfundeb y Methodistiaid am tua deng-mlynedd-ar-hugain.

Pregethwr rhagorol, ac un a fu yn dra defnyddiol, oedd y Parch. David Williams, Llysyfronydd. Dywedir yn Methodistiaeth Cymru mai brodor o Landyfaelog, yn Sir Gaerfyrddin, ydoedd. Y mae yn bur sicr fod hyn yn gamgymeriad, ac mai o Dregaron yr hanai; mai yno y cafodd ei eni a'i fagu, ac y cafodd grefydd. Efe yw y Dafydd William, y cyfeiria Mr. Hughes ato fel cynghorwr, a breswyliai yn Nhregaron ar gychwyniad yr achos yno. Yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, dywedir ei fod yn Blaenpenal, a'i fod yn un o ddisgyblion Phihp Pugh, ond iddo, ar doriad allan y diwygiad Methodistaidd, ymuno a Daniel Rowland yn Llangeitho. I hyn nid oes sail o gwbl; ceisir dal yr honiad i fynu yn unig ag "ymddengys;" cyfid oddiar awydd anghymesur am wneyd holl gynghorwyr cyntaf y Methodistiaid yn broselytiaid oddiwrth yr Ymneillduwyr. Y mae y tebygolrwydd yn gryf fel arall. Nid oedd David Williams ond glaslanc, dwy-ar-bymtheg mlwydd oed, pan y dechreuodd Daniel Rowland gynhyrfu ; y tebyg yw ei fod yn gyífelyb i'w gyfoed, yn ddifater am Dduw a phethau ysprydol; ac mai nerth angerddol gweinidogaeth y Diwygiwr o Langeitho a'i torodd i lawr, ac a'i dygodd i feddwl am grefydd. Yn bur fuan, pan yn ngwres ei gariad cyntaf, dechreuodd gynghori, a dygodd ei ddoniau enillgar ef i sylw Rowland. Yn ail Gymdeithasfa Watford cafodd David WiIIiams ei benodi yn arolygwr yn Sir Aberteifi ; a oedd holl seiadau y sir dan ei ofal, ynte ryw gyfran o honynt, ni ddywedir. Nid yw ei enw wrth un o'r adroddiadau a anfonwyd i'r Gymdeithasfa. Pan y penderfynwyd anfon pedwar o'r pregethwyr enwocaf i Ogledd Cymru i lafurio, oblegyd fod crefydd mor isel yno, pob un o honynt i aros am chwarter blwyddyn, yr oedd David Williams yn un o'r cyfryw. Mor werthfawr oedd ei lafur, ac mor gymeradwy oedd ei weinidogaeth, fel y dywedir iddo gael gwahoddiad taer i ymsefydlu yn y Bala. Wrth deithio Gwynedd cafodd ei drin yn arw yn aml. Cawsai ei gyhoeddi unwaith i bregethu mewn tŷ bychan yn nghymydogaeth Caergwrle, yn Sir Fflint. Daethai yno yn lled gynar, ond yn min y nos, rhuthrai merch i'r tŷ, a'i hanadl yn ei gwddf, gan ddweyd fod llu o erlidwyr gerllaw. Cododd gŵr y tŷ, a chlodd y drws. Gyda hyny, dyma y dyrfa afreolus yno, ac yn nghanol rhegfeydd a swn, yn gorchymyn gyru y pregethwr allan. Ni fynai pobl y tŷ gydsynio. Darfu i'r gwrthodiad gynhyrfu yr erlidwyr yn fwy, a thyngent i'r dystryw mawr, oni wnaent yru y llefarwr allan y tynent y tý i lawr am eu penau. Rhedodd rhai o honynt i gyrchu trosolion, er mwyn rhoddi eu bwriad dieflig mewn grym. Penderfynodd David Williams, ar hyn, yr ai allan i'w mysg. Pan y ceisid ei atal, dywedai: "Gollyngwch fi; rhaid i mi gael myned." Allan yr aeth i ganol y dyrfa ffyrnig, a chan edrych yn ddiofn arnynt, gofynodd: "Yn enw'r Gwr goreu, beth sydd a fynoch a dyn dyeithr ar ei daith? Pa enw neu anrhydedd a gaech pe baech yn fy lladd?" Digwyddodd fod yn eu mysg ryw ddyn cryf, a rhyw deimlad o anrhydedd heb ddiffodd yn ei fynwes. Safodd hwn i fynu, a chyda llonaid ei safn o lwon, gwaeddodd: "Dyn iawn yw hwn. Mi a fynaf chwareu teg iddo." Gwelodd David Williams fod y drws wedi ei agor iddo megys yn wyrthiol i lefaru; cafodd le i sefyll arno wrth ochr y ffordd, a phregethodd gyda dylanwad mawr wrth oleu'r lloer; a diau na chuddiodd Haul y Cyfiawnder ei wyneb. Bu yr erlidwyr mor ddystaw a chŵn yr Aipht, ac ymadawsant yn heddychol. Rhydd y Parch. E. Morgan, Syston, yr hanes ychydig yn wahanol. Dywed efe ddarfod i'r erlidwyr ymaflyd yn y pregethwr, gan ei gymeryd at ryw lyn, a bygwth ei foddi. Pan ar gael ei daflu i mewn, gwaeddodd David Williams: "Bydd yn warth tragywyddol i bobl Caergwrle, os boddant hen bregethwr penllwyd, a ddaethai o eithafion y Deheudir i gyhoeddi iachawdwriaeth iddynt." A dyma y pryd, meddai Mr. Morgan, y darfu i'r dyn cryf gyfryngu rhyngddo a'r gwaethaf.

Ymddengys ddarfod i David Williams symud i Lysyfronydd, er gofalu am y mân gymdeithasau a gawsent eu sefydlu yn Mro Morganwg, ac mai gan Daniel Rowland y bu y prif law yn ei symudiad. Yn bur fuan priododd a Miss Pritchard, Talygarn, yr hon a berthynai i deulu tra chyfrifol, Pan y cyfododd awydd yn y cymdeithasau am gael rhai o'r cynghorwyr yn weinidogion, ordeiniwyd David Williams yn weinidog i eglwys yr Aberthyn. Dywedir yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru

mai yn y flwyddyn 1766 y bu hyn ; ond

credwn iddo gymeryd lle gryn lawer yn gynt. Wedi ceisio gwneyd Mr. Williams yn Annibynwr yn nechreu ei oes, y mae yr un llyfr yn ceisio ei wneyd yn Annibynwr o'i urddiad yn mlaen. Dywedir iddo gael ei ordeinio yn ol trefn yr Annibynwyr. Y mae hyn yn anghywir. Y mae y traddodiad am ei ordeiniad yn gyffelyb i eiddo Morgan John Lewis. Methai y ddeadell fechan yn yr Aberthyn a chael gweinyddiad cyson o'r ordinhadau gan offeiriad Methodistaidd; yr oedd Davies heb ddyfod eto i Gastellnedd, a Jones heb ddyfod i Langan ; nid oedd yr aelodau yn foddlawn myned i gymuno at offeiriaid digrefydd yr egiwysi cymydogaethol, ac felly anfonasant at Daniel Rowland i geisio cyfarwyddyd. Ei gyngor ef oedd ar iddynt ordeinio David Williams. Hyny a wnaethant, a gweinyddodd yntau yr ordinhadau yn y lle hyd ddydd ei farwolaeth. Nid oes hanes i weinidogion Ymneillduol gael eu galw i gymeryd rhan yn y ddefod; y mae yn fwy na thebyg mai cynllun eglwys y New Ìnn a ddilynwyd. Dengys yr hanes pa mor rhyddfrydig oedd Daniel Rowland; mor llac oedd y rhwymau a'u cysylltent wrth yr Eglwys Sefydledig, a'r modd yr oedd yn gallu ymddyrchafu goruwch mân ragfarnau yr Eglwyswyr a'r Ymneillduwyr. Yn yr un dull yn hollol yr ordeiniwyd Thomas Williams, a fu am flynyddoedd yn aelod gyda David Williams yn yr Aberthyn, yn weinidog Bethesda-y-Fro, fel y dengys cofnod yn llawysgrif yr hen fardd, John Williams, St. Athan.

Parhaodd David Williams yn Fethodist gwedi ei ordeiniad fel cynt, ac eglwys Fethodistaidd yw yr Aberthyn hyd y dydd hwn. Gweinyddai swper yr Arglwydd yno yn fisol, ac ar y cyfryw achlysuron ymgynullai ato liaws o grefyddwyr yr ardaloedd o gwmpas. Ni roddodd i fynu deithio ychwaith; mynychai y Cyfarfodydd Misol a'r Cymdeithasfaoedd; ac elai o gwmpas trwy Gymru i efengylu yr un fath a'i frodyr. Yr ydoedd yn ŵr cadarn yn yr Ysgrythyrau. A dywedir mai efe a ddysgodd ffordd Duw yn fanylach i Jones, Langan, ac a fu yn arweinydd i'r gŵr enwog hwnw mewn duwinyddiaeth. Tynerwch a nodweddai ei weinidogaeth. Nid Boanerges ydoedd, yn sefyll ar goryn Ebal, ac yn taranu melldithion uwchben anwir fyd; ond Mab Dyddanwch, yn cymhwyso y Balm o Gilead at glwyfau y rhai oeddynt yn archolledig a briw. Enillgar ydoedd o ran dawn, a melus odiaeth o ran llais. Dywed John Evans, o'r Bala, am dano: Gŵr tirion oedd efe, mwynaidd iawn, a phregethwr hynod o iraidd a gwlithog." Gyda golwg arno ef a John Belsher, ychwanega yr un gŵr : "Bu y ddau hyn yn dyfod atom bob yn ail dros rai blynyddoedd, yn ngwyneb llawer o iselder ac anhawsderau, Nid oeddem ni ond tlodion i gyd, ac o'r braidd y gallem roddi llety a thipyn o fwyd iddynt, wedi iddynt, trwy fawr ymdrech, ddyfod atom. Byddai y brodyr yn y Deheudir yn garedig yn eu cynorthwyo, onide nis gallent dalu eu ffordd ar eu teithiau." Cafodd David Williams lawer o drafferth yn yr Aberthyn; daeth Sabeliaeth i mewn i'r eglwys, a bu yn achos llawer o ddadleu ac ymrafaelio. Ond cadwodd ef ffurf yr athrawiaeth iachus, a bu farw mewn tangnefedd, gan adael Bro Morganwg mewn galar ar ei ol. Gweddus cofnodi fod Mr. Williams yn frawd yn ol y cnawd i'r enwog fardd, John Williams, St. Athan, awdwr yr emyn ardderchog:—

"Pwy welaf Edom yn dod'?"

Ychydig iawn a wyddom am William Richard, arolygwr seiadau y rhan isaf o Sir Aberteifi, yn nghyd a'r oll o gymdeith asau glàn y môr yn Sir Benfro, mor bell a Thyddewi, ond a geir yn nghofnodau Trefecca. Un o ddychweledigion Daniel Rowland ydoedd, a dechreuodd gynghori yn mron yn union wedi iddo gael crefydd. Cawn y cyfeiriad cyntaf ato yn nghofnodau Cyfarfod Misol Llanddeusant, pan y rhoddwyd nifer o seiadau dan ei ofal. Cyfeirir ato hefyd yn nghofnodau ail Gymdeithasfa Watford, lle y dywedir ei fod i aros fel yr ydoedd hyd Gymdeithasfa Dygoedydd. Yn Nghymdeithasfa Fisol Glanyrafonddu, ail-roddir seiadau Blaenhownant, Dyffryn Saith, Blaenporth, Twrgwyn, a Llechryd dan ei ofal, a gelwir ef yn "William Richard o Landdewi-frevi." A ydoedd yn preswylio yn Llanddewi-brefi ar y pryd, nis gwyddom; y tebygolrwydd yw mai oddiyno yr hanai, ond ddarfod iddo symud ei breswyl cyn hyn i gymydogaeth Aberteifi. Yn ngweithiau barddonol Williams, Pantycelyn, ceir marwnad i un William Richard, o Abercarfan, yn mhlwyf Llanddewi-brefi, yr hwn a fu farw o'r darfodedigaeth, haf 1770. Y mae amryw bethau yn y farwnad yn pleidio mai yr un ydyw a William Richard y cynghorwr. Dywed y bardd:—

"Mae Llanfrynach wan yn wylo
Hyd yn awr, wrth gofio am dano."

Gorwedda Llanfrynach yn gyfagos i gydiad y tair sir, sef Penfro, Caerfyrddin, ac Aberteifi, ac felly yr oedd yn ymyl y maes a gawsai ei ymddiried i William Richard, os nad oedd yn wir yn rhan o hono. Os ydym yn gywir yn ein dyfaliad, profasai William Richard bethau cryfion ar gychwyn ei fywyd crefyddol; buasai yn neidio ac yn molianu tan weinidogaeth danllyd Rowland; a chadwodd ei goron hyd ddiwedd ei ddydd. Fel hyn ei desgrifir gan Williams:—

"Gwelais of ar oriau hyfryd,
Yn moreuddydd braf ei fywyd,
Yn molianu, yn prophwydo,
Yn flaena' o'r werin yn Llangeithio;
Chwys fel nentydd clir yn llifo,
Tarth trwy ei wisgoedd tew yn suo;
Cariad pur, gwerthfawr clir, yn gwir enynu,
Nes oedd corph yn gorfod helpu
Enaid allan i'w fynegu.
Mi fum unwaith wrth ei wely,
'Roedd ei wledd fel gwleddoedd gwindy,
A'i holl eiriau'n tarddu'n gyson,
O grediniaeth, heb ddim ofon:
Gwyr yn twymo wrth y siarad,
Merched, hwythau'n wylo cariad ;
Minau f'hun, waclaf ddyn, gwanaidd, yn gwenu,
Ac yn hyfryd ciddigeddu,
Weled plentyn arna i'n blaenu.

Y mae y desgrifiad yn nodedig o fyw. Braidd na welwn ef yn moreuddydd ei fywyd, gyda dillad tewion, wedi eu gwneyd o frethyn cartref, yn ol arfer ffermwyr y pryd hwnw, am dano; y mae y syniadau am ogoniant y Gwaredwr a ymrithiant gerbron ei feddwl mor ogoneddus, nes y mae ei gorph yn gorfod helpu ei enaid i roddi mynegiant iddynt. Wrth ei fod yn neidio ac yn molianu, y mae chwys fel nentydd yn llifo dros ei wyneb, a'i ddillad yn myned yn wlybion am dano, fel pe buasai tarth wedi treiddio trwyddynt. A chan yn amlwg y cyfunai wybodaeth grefyddol eang, a medr mawr mewn ymwneyd a'r dychweledigion, nid rhyfedd fod seiadau glàn y môr mewn rhanau o ddwy sir yn cael eu gosod dan ei ofal. Gallwn dybio ddarfod iddo yn mhen amser symud yn ei ol i Landdewi-brefi, ac mai yno yr arhosodd hyd ddydd ei farwolaeth. Nid tawel a fu ei fywyd crefyddol yno; bu mewn dadleuon poethion; eithr safodd yn ffyddlon trwy bob anhawsder. Meddai William Williams yn mhellach:—

"Ti, Llanddewi, fu'n agosa'
Gneifio'r blew oedd ar ei gopa,
Mwg a thân fu iddo'n galed
Yn y ffrae rhwng Twrcs ac Indiaid;
Ond fe safodd Wil i fynu
Pan oedd Efan laith yn methu."

Nis gwyddom beth oedd testun y ffrae, na phwy oedd y "Twrcs ac Indiaid" a'i dygent yn mlaen; na phwy oedd yr "Efan laith" a fethodd sefyll ei dir; ac ofer dyfalu yn awr. Yr hyn sydd yn bwysig yw deall ddarfod i William Richard ddyfod

"O'r anialwch mawr i fynu,
Heb ei ladd, heb ei orchfygu."

Gweinidog Ymneillduol, a ymunodd a'r Methodistiaid, oedd y Parch. Benjamin Thomas. Ychydig iawn o'i hanes sydd genym. Yn nghofnodau ail Gymdeithasfa Watford, cyfeirir at ddau weinidog Anghydffurfiol; un yn bresenol, sef y Parch. Henry Davies, Bryngwrach; a'r llall yn absenol, sef y Parch. Benjamin Thomas. Rhoddir eu henwau yn mysg yr offeiriaid ordeiniedig; gellid meddwl yr edrychid ar urddiad Ymneillduol fel yn hollol gyfartal i ordeiniad Esgobol; y mae enw Howell Harris yn is i lawr, sef yn mysg y lleygwyr. Rhaid nad oedd y Tadau Methodistaidd, er eu hymlyniad wrth yr Eglwys Sefydledig, yn ddynion rhagfarnllyd. Yr ydym yn cael y Parch. B. Thomas yn bresenol yn Nghymdeithasfa Trefecca, haf 1743, yn gystal ac yn Nghymdeithasfa y Fenni y mis Mawrth dilynol. Yn Nghymdeithasfa Porthyrhyd, Hydref, 1744, penderfynwyd fod y brawd Benjamin Thomas i gynorthwyo Howell Harris fel arolygwr dros holl Gymru, yn lle Herbert Jenkins, yr hwn a ymroddasai i lafurio yn benaf yn Lloegr.

Teithiai Mr. Thomas lawer, trwy Dde a Gogledd Cymru, ac ni ddihangodd rhag erlidiau, mwy na'r gweddill o'i frodyr. Cawn hanes am dano yn pregethu yn Minffordd un tro, mewn adeilad wedi cael ei drwyddedu yn ol y gyfraith i gynal addoliad. Daeth yno lu o erlidwyr, gyda ffyn mawrion yn ei dwylaw, ac i un o'r ffyn hyn yr oedd pen haiarn. Ceisiwyd taro y pregethwr a'r ffon hon, ond ar un Howell Thomas, o Blas Llangefni, y disgynodd yr ergyd; ac yr oedd y tarawiad mor chwimwth fel y torodd y pen haiarn i ffwrdd, gan fyned dros y clawdd i'r ffos tu hwnt hwnt. Dilynodd yr erlidwyr y dorf am chwarter milltir, gan eu curo a'u baeddu yn ddidrugaredd, nes yr oedd eu gwaed yn ffrydio ar hyd y ffordd. Ymddengys, modd bynag, i B. Thomas ddianc yn gymharol ddianaf, gan ei fod yn wr cyflym ar ei draed. Tyner oedd nodwedd pregethu Benj. Thomas; llifai y dagrau i lawr ei ruddiau wrth gynghori pechaduriaid. Pregethai unwaith yn y Bontuchel, yn Sir Ddinbych. Daeth dyn i'w wrando o'r enw Thomas Parry, gwr pwyllog, tra ymlyngar wrth Eglwys Loegr, a llawn rhagfarn at y Methodistiaid. Ond cymhellasid ef gan ei frawd i ddyfod i'r odfa. "Ti gei weled, Twm," meddai ei frawd, "y bydd y dyn yn pregethu o'i galon, canys bydd ei ddagrau yn treiglo i lawr ei wyneb." Pwnc y bregeth oedd ailenedigaeth. Mawr ddymunasai Thomas Parry gael pregeth ar y mater hwn; ond nid oedd y clerigwr a wasanaethai yn yr eglwys yn cyfeirio un amser at y mater. Eithr cafodd yn y pregethwr o'r Dê fwy na boddlonrwydd i'w gywreinrwydd, ac eglurhad ar bwnc duwinyddol; bachodd y gwirionedd yn ei gydwybod, a daeth yn ddyn newydd o'r dydd hwnw allan. Daeth gwedi hyny yn adnabyddus fel Thomas Parry, o'r Rhewl, ac yn un o'r blaenoriaid galluocaf a mwyaf defnyddiol yn holl Wynedd. Nid ydym yn gwybod pa bryd na pha le y terfynodd y Parch. Benjamin Thomas ei yrfa. Ymddengys, pa fodd bynag, mai wrth blaid Rowland y glynodd yn amser yr ymraniad, ac iddo barhau i efengylu yn mysg y Methodistiaid hyd ddiwedd ei oes.

Yr oedd dau gynghorwr yn Sir Benfro, cyffelyb o ran enwau, y rhai y mae eu hanes wedi eu cydgymysgu yn anobeithiol yn Methodistiaeth Cymru. Un oedd John Harris, St. Kennox, yr hwn, mor foreu a'r flwyddyn 1743, a benodwyd yn arolygwr ar y cymdeithasau yn Llawhaden, Prendergast, Jefferson, Carew, Llandysilio, a Gellidawel. Y llall oedd John Harry, Treamlod, cynghorwr anghyoedd. Y blaenaf oedd yr enwocaf o lawer. Ymddengys ei fod yn ddyn siriol, yn bwrlymu o athrylith, yn ysgolhaig gwell na'r cyffredin mewn Cymraeg a Saesneg, a chyda hyn yn meddu gwroldeb diofn. Er dangos ei gymeriad, nis gallwn wneyd yn well na difynu rhanau o'i lythyrau i'r Cymdeithasfaoedd. Fel hyn yr ysgrifena at Gymdeithasfa Fisol Longhouse, Medi 28, 1743, gan gyfarch Daniel Rowland a Howell Davies: "Anwyl a charedig fugeiliaid. O'r diwedd, fe'm cymhellir, o gariad at yr anwyl Immanuel, i'ch hysbysu pa fodd y mae wedi bod arnaf er ein Cymdeithasfa Fisol ddiweddaf, pryd y rhoddasoch arnaf ofal amrywiol gymdeithasau. Pan y gofynwyd i mi y pryd hwnw am fy rhyddid (sef rhyddid i fyned o gwmpas arolygu y seiadau), atebais fel y dysgwylid i mi. Ond daeth y syniad ar unwaith i'm meddwl, pa fodd y gallwn i, nad wyf ond baban mewn profiad, ryfygu sefyll i fynu fel clorian i bwyso eneidiau? Meddyliais ynof fy hun, pe y digwyddai rhyw amryfusedd ynglyn ag esbonio, y byddai yn llai niweidiol i enaid nag a fyddai barnu ar gam rhwng cnawd ac yspryd, a rhwng gwir a gau gariad. Pa fodd bynag, fe fu y gair Rhydd' a atebais i chwi, fel cadwen i fy rhwymo i edrych beth a gymerais mewn llaw. Syrthiodd dychryn ar fy enaid, rhag im fod nid yn unig yn anffyddlawn i'r anwyl Oen, ond yn dristwch i fy hoff athrawon, ac hefyd yn waradwydd i ffyrdd Duw, ac i'w blant. Daeth y baich hwn mor annyoddefol fel ag yr oedd corph ag enaid yn mron cael eu llethu dano. Bum yn yr ing am gryn amser, yn meddwl mwy am y Gymdeithasfa, lle y gelwid arnaf i roddi cyfrif o'm goruchwyliaeth, nag am y farn fawr. Ymroddais i anfon at y cymdeithasau i ymgynull ar amser priodol ac mewn trefn, gan ymddangos iddynt fel gŵr o awdurdod." Yn canlyn, ceir adroddiad o ansawdd y seiadau. Yn sicr, nid dyn cyffredin a allasai ysgrifenu fel y gwna John Harris.

Yr un gŵr, sef John Harris, St. Kennox, sydd mewn llythyr, dyddiedig Mai 12, 1745, yn cofnodi hanes ei ymweliad a chymydogaeth Tenby. "Nid oes, bellach," meddai, "yr un rhan o'r sir na fum yn cynghori ynddi, ond tref Penfro, a bwrdeisdref Tenby, yr hon sydd borthladd tua phump neu chwech milltir o Penfro Bum yn llefaru o fewn dwy filltir i'r lle, nos Wener diweddaf. Nid oes ond un brawd crefyddol yn byw yn Tenby; mynych y ceisiasai hwn genyf ddyfod i'r dref i bregethu; yn awr, anfonais ato y deuwn i'w dy i letya, ac os gwelai efe yn oreu wahodd rhyw nifer o wyr a gwragedd adnabyddus iddo, ac yn chwenych fy ngwrando, i fy nghyfarfod, y gwnawn esbonio ychydig o adnodau yn yr ystafell gefn. Felly hefyd y gwnaeth y gwr. Ond pan oeddwn ar ganol y gwasanaeth, daeth y cwnstab i mewn, gan ddweyd: Syr, y mae yn rhaid i chwi dewi; gorchymynir i mi gan y maer eich dwyn o'i flaen yn ddioedi. Dywedais inau y cydsyniwn a'r cais, ond gan fy mod ar wasanaeth Meistr arall yn awr, fy mod yn hawlio caniatad i draddodi fy neges drosto ef yn nghyntaf. Ar hyn, efe a adawodd yr ystafell. Eithr cyn i mi orphen, dyma y cuwrad i mewn, a chydag ef yr oedd cwnstebli, a phedwar neu bump o foneddigion. Ceisiai y cuwrad gan y swyddog fy llusgo i lawr. Atebodd yntau: Gresyn fyddai hyny, cyn iddo orphen, oblegyd y mae yn llefaru yn felus.'

"I lawr ag ef,' ebai y cuwrad, 'onide mi rof gyfraith arnat ti am esgeuluso dy ddyledswydd.'

"Er fod y dynion (y cwnstebli) yn haner meddw, cefais genad i orphen yr odfa; ac yn wir, yr oedd yn hyfryd ar fy yspryd, ac ar fy ngwrandawyr hawddgar, y rhai a rifent tua deugain. Disgynais oddiar y lle y safwn, a thra yr ymesgusodent (y swyddogion) wrth wr y tŷ, yr oedd eu gwedd yn llwyd rhyfedd.

"Nia ddaethom, Mr. Thomas,' meddent, i weled y darluniau gwych sydd genych.' "Atebais inau: "Tybygwyf, foneddigion, mai fi yw y darlun y daethoch i'w weled.' Ar hyn, y swyddog a roes ei law ar fy ysgwydd, gan ddweyd: Yr ydych yn garcharor, Syr, a rhaid i chwi ddyfod o flaen y maer.'

"Yr wyf yn barod i ddyfod,' ebe finau. Pan aethom i'r heol, a hyny rhwng naw a deg o'r gloch y nos, yr oedd yno tua mil o bobl, yn wyr ac yn wragedd, gyda llusernau a chanhwyllau yn fy nysgwyl, ac yn llefain yn echrys: Ymaith ag ef! Ymaith ag ef!'

"At y maer yr aethom. Hwn, heb edrych yn fy wyneb, a ofynodd am fy nhrwydded. Atebais nad oedd genyf yr un. Gofynodd: 'Pa fodd y meiddiwch ddyfod i'n tref ni i bregethu?" "I hyn atebais: 'Ni chyhoeddwyd fi i bregethu; eithr gwedi i'r bobl wybod am fy nyfodiad yma i letya, daethant i mewn; minau a esboniais ychydig adnodau iddynt, canasom emyn neu ddwy, a gweddiasom." "Rhaid i chwi,' ebe y maer, 'roddi meichiau am eich ymddangosiad yma y cwarter sessiwn nesaf.'

"Da fyddai genyf wybod, Syr, beth sydd genych i'w roddi yn fy erbyn.' "Eich gwaith

yn pregethu,' oedd yr

ateb.

"Os hyny yw y trosedd, Syr, chwi a'u cewch yn ewyllysgar. Am ba swm y gofynir hwynt?

"Am ddau cant o bunoedd,' oedd yr ateb. Yr oedd yno ddau frawd yn barod i ymrwymo, ond gofynodd rhywrai a safent gerllaw: A roddech chwi eich gair, pe y caech fyned yn rhydd yn awr, na ddeuwch yma i bregethu mwy?'

"Hyny nis gallaf ei wneyd,' ebe finau;' 'er na ddaethum yma i bregethu y tro hwn, nid oes sicrwydd na fydd raid i mi bregethu yma cyn y fory, oblegyd nid oes genyf awdurdod arnaf fy hun."

"Gan bwy, atolwg, y mae awdurdod arnoch?' gofynai gwraig y maer.

"Dan awdurdod fy Meistr yr wyf.'

"Pwy yw eich meistr? Ai y diafol?'

Nage. Y mae fy Meistr i yn feistr ar y diafol, ac arnoch chwithau yn ogystal.'

"Ust,' ebe y maer wrth y wraig, 'tewch a son." Gyda hyn, galwyd arnaf i lawarwyddo yr ymrwymiad, a gollyngwyd fi yn rhydd."

Dyma adroddiad John Harris o helynt Tenby. Pan aeth allan i'r heol yr oedd yno dorf o derfysgwyr yn ei ddysgwyl, yn ffyrnig eu gwedd, ac yn barod i ymosod arno. Ond amddiffynwyd ef yn annysg wyliadwy gan ryw ynad, a deimlai yn garedig at y Methodistiaid, a chymerodd ef i'w dy, gan ei letya fel brenin. "Dychwelais inau adref dranoeth," meddai, " a'r dagrau yn llifo dros fy ngruddiau, o wir dosturi at drigolion tlodion Tenby." Sut y bu yn y sessiwn nis gwyddom. Y tebygolrwydd yw i'r Arglwydd, yn ol ei arfer, i'r rhai a garant ei enw, amddiffyn ei was, a'i ddwyn yn ddyogel allan o fysg y llewod. Y mae hanes John Harris, o'r ymraniad allan, yn gorwedd dan gryn dywyllwch. Dywedir iddo, yn yr argyfwng hwnw, gymeryd plaid Harris; a phan y deallodd fod y blaid yn gwanhau, ac yn rhwym o ddarfod, iddo, fel y cynghorwr John Sparks, o Hwlffordd, ymuno a'r eglwys Forafaidd.

Am John Harry, o Dreamlod, dywedir mai brodor o ranau uchaf Penfro ydoedd, ac mai tuag adeg y diwygiad y symudodd i lawr i odreu y sir. Cawn y cyfeiriad cyntaf ato yn nghofnodau Trefecca yn nglyn a Chymdeithasfa Fisol Llangwg, neu Llangwm, Gorph. 16, 1744. Yno penderfynwyd fod y brawd John Harry yn cael ei gymeradwyo, a'i fod i gynghori fel o'r blaen hyd y Gymdeithasfa Fisol nesaf,

BEDDROD JOHN HARRY, TREAMLOD, SIR BENFRO. (Yma hefyd y claddwyd ei fab, y Parch. Evan Harris, a'i wyr, y Parch. Thomas Harris.)
BEDDROD JOHN HARRY, TREAMLOD, SIR BENFRO. (Yma hefyd y claddwyd ei fab, y Parch. Evan Harris, a'i wyr, y Parch. Thomas Harris.)

tan arolygiaeth y brawd William Richard. Yn Nghymdeithasfa Fisol Hwlffordd, Ionawr 28, 1745, penderfynwyd fod y brodyr John Harry, a John Morris, gan eu bod yn addysgu mewn ysgol, i gynghori gymaint ag a fedrant yn gyson a gofal yr ysgolion. Ymddengys fod John Harry yn ddyn tra gweithgar, ac yn dal gafael ar bob cyfleustra i gynghori ei gyd-bechaduriaid gyda golwg ar eu mater tragywyddol. Lletyai unwaith mewn ffermdy, ac nid esgeulusodd rybuddio y rhai a weinyddent yno. Boreu dranoeth, gofynai y feistres i'r llances o forwyn oedd yno: "Dos a botasau y gŵr dyeithr iddo." "Nac af fi, yn wir," oedd yr ateb. "Paham hyny? "F'wed wrthw i mod i yn bechadur," meddai yr eneth. Prawf diymwad nad esgeulusai efe unrhyw gyfle i wneyd daioni. Yr oedd gan yr hynod Rowland Hill feddwl uchel am dduwioldeb John Harry. Pregethai Mr. Hill unwaith yn Nhre- amlod, gwedi i'r hen gynghorwr farw; ond yr oedd y weddw, a'i fab, y Parch. Evan Harris, yn preswylio yno ar y pryd. Wrth ymadael, dywedai: "Os ewch chwi i'r nefoedd o'm blaen i, cofiwch fi at John Harry, a dywedwch fy mod inau hefyd yn dyfod." Dro arall, galwodd wyr i John Harry, sef y Parch. T. Harris, Hwlffordd, yn nhy Mr. Hill yn Llundain. "Pwy ydych chwi?" ebai Mr. Hill. "Yr wyf yn wyr i'r diweddar John Harry, o Dreamlod," atebai yr ymwelydd. Ar hyn, ymunionodd Mr. Hill; sefydlodd ei lygaid ar y dyn ieuanc, ac meddai, mewn llais llawn o deimlad: "Os oes un dyn o'n byd llygredig ni yn y nef, y mae yr hen John Harry yno. Efallai mai ei berthynas a'r hen John Harry a barodd i Mr. T. Harris gael ei ddewis gwedi hyn i fod yn weinidog Wooton-under-Edge, lle yr arosodd am rai blynyddoedd. Gyda Rowland y glynodd efengylydd Treamlod yn yr ymraniad, a bu yn nodedig o ddefnyddiol yn nghylchoedd Methodistaidd Penfro hyd ddiwedd ei oes. Pregethai unwaith yn y mis yn nghapel Woodstock. Gelwid y Sabbathau yno yn ol enw y pregethwr a fyddai yn gweinyddu. "Sul Rowland " y gelwid Sul pen y mis; "Sul John Harry" oedd yr ail; "Sul Henry Richard," tad Eben a Thomas Richard, oedd y trydydd; a "Sul William Griffith "oedd yr olaf. Bu John Harry farw yn y flwyddyn 1788, yn nhŷ offeiriad Trefdraeth. Yn ei angladd, pregethwyd gan Sampson Thomas, oddiar y geiriau: Gwyn eu byd y meirw, y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd." Pregethwyd hefyd ar yr amgylchiad yn eglwys Treamlod, gan Mr. Rowland, oddiar y geiriau : "Ac os o braidd y mae y cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur?" Nid yw yr hen John Harry heb fod rhai o'i hiliogaeth yn gweinyddu mewn pethau sanctaidd, yn mysg y Methodistiaid, hyd y dydd hwn. Mab iddo oedd y Parch. Evan Harris, a gafodd ei ordeinio yn mysg y fyntai gyntaf yn Llandilo Fawr, yn y flwyddyn 1811. Mab iddo yntau oedd y Parch. Thomas Harris, gwr o ddoniau arbenig, ond a derfynodd ei yrfa mewn cysylltiad a'r Eglwys Wladol. Gorwyr i John Harry yw y Parch. James Harris, Clarbeston Road; ac yr ydym yn deall fod mab iddo yntau eto wedi cychwyn gyda gweinidog- aeth y Gair.

Un o gynghorwyr hynotaf Penfro oedd William Edward, Rhydygele. Darllenwn am dano yn nghofnodau Trefecca yn cael caniatad i ymweled a chymdeithasau Tyddewi, Penrhos, a Mounton, yn wythnosol, ar brawf, hyd y Gymdeithasfa ddyfodol. Yr oedd yn llawn tân a chyffro, a meddai lawer o dalent naturiol, a medr i gyfarch pechaduriaid, ond ei fod yn drwsgl ac yn dra anwrteithiedig. Methodist ydoedd; dan weinidogaeth Howell Harris y cawsai ei argyhoeddi; ond ymgymysgai gryn lawer a'r Ymneillduwyr, ac yn eu cyfarfodydd arbenig, eisteddai bob amser yn mysg y swyddogion. Edrychent hwy arno ef fel un rhy danbaid, a rhy ddireol; credai yntau eu bod hwy yn rhy farwaidd ac anefengylaidd. Gyda llawer o ffraethineb, dangosai iddynt unwaith y gwahaniaeth rhwng ei ddull ef yn pregethu, a'r eiddynt hwy, trwy gymhariaeth o dộ ar dân. "Eich dull chwi," meddai, "yw dweyd: Wrth deithio yn y nos, yn 1af, Mi a ganfum dân. Yn 2il, Mi a welais fwg. Yn 3ydd, Mi a ddeallais fod y tý yn llosgi. Yn 4ydd, Mi a wybum fod y teulu ynddo mewn trwmgwsg. Yn 5ed, Mi a ddaethum i'ch deffro, a'ch galw allan, rhag eich dyfetha. Fy null inau, wedi deall fod y ty ar dân, a'r teulu yn cysgu, yw gwaeddu, heb na chyntaf nac ail: Iwb! Iwb! Hawyr! Hawyr! Deffrowch! Deuwch allan ar frys, y mae y ty ar dân, onide fe'ch llosgir yn lludw!"

Saer oedd William Edward wrth ei grefft. Arweiniwyd ef unwaith, wrth ddilyn ei gelfyddyd, i fysg y Saeson a breswyliai ran o Benfro, a hyny mewn palasdy, lle yr oedd pobl dra boneddigaidd yn byw. Yn fuan, aeth y si allan fod y saer yn bregethwr. Gwedi ei holi, a chael fod y chwedl yn wir, trefnodd y foneddiges fod iddo gael anerch y teulu y Sul canlynol. Y Sul a ddaeth, ac esgynodd William Edward i ben ystôl, er mwyn bod yn uwch na'i wrandawyr. Tynodd lyfr allan o'i logell, gan ddarllen yn Saesneg o hono fel testun: "Pwy bynag a yr ei was neu ei forwyn i godi pytatws, neu i dori bresych, ar foreu Sabbath, a ddemnir dros byth." "Dyma fy nhestun, madam," meddai; "yn awr, gyda'ch cenad, mi a af yn mlaen." Eithr cyffrodd y foneddiges yn enbyd; nid oedd yn ddieuog yn ngwyneb y cyhuddiad; a bloeddiodd yn groch: "Nag ewch ddim yn mlaen, yr adyn; dewch i lawr ar unwaith; dim ychwaneg o'r fath gleber!" Ac i lawr y bu raid iddo ddod, heb wneyd rhagor na darllen y testun, a therfynodd y cyfarfod. Dengys yr hanesyn fod tân a zêl yn yspryd y cynghorwr, ond yn fynych fod y cyfryw yn tori allan yn wyllt, heb gael eu llywodraethu gan yspryd pwyll.

Byddai ei dymer yn aml yn fagl iddo. Unwaith, aeth yn ddadl rhyngddo a Thomas Hooper, ei gymydog; aeth yr ymryson yn enbyd o boeth, ac yn y cyffro rhoddes William Edward wth i'w wrthwynebydd, nes y syrthiodd yn sybyrthol yn erbyn rhyw arf, gan gael archoll ddofn ar ei dalcen. Dyma y si allan fod William Edward, Rhydygele, pregethwr efengyl, wedi taro ei gymydog a chaib, fel yr oedd ei ymenydd yn y golwg. Gellir yn hawddach ddychymygu na darlunio y gofid a barodd y chwedl i'r cyfeillion crefyddol. Dygwyd y mater yn mlaen yn y seiat. Gwadai yntau iddo daro Tom Hooper. Eithr ni chredai ei gyd-aelodau; ymddangosai yr archoll yn profi yn wahanol. Penderfynwyd ei ddiarddel. Cyn myned allan, gofynai ganiatad i fyned i weddi. Yr oedd y weddi yn un ryfedd; gruddfanau yr hen bererin mewn edifeirwch wrth yr orsedd, gan grefu am faddeuant, ac apeliai at hollwybodaeth y Goruchaf nad oedd wedi gwneyd yr hyn y cyhuddid ef o hono. "Y mae fy mrodyr yn gwrthod fy nghredu," meddai, "eithr gwyddost ti, Arglwydd Mawr, na tharewais mo Tom Hooper yn ei dalcen a'r gaib." Gorchfygwyd ei gyd-aelodau, a chwedi eu hargyhoeddi yn drwyadl nad oedd yn bwriadu drwg, caniatasant iddo aros yn eu mysg. Bu y tro yn wers iddo am ei oes; daeth gwedi hyn mor hynod am ei larieidd-dra a'i arafwch ag oedd yn flaenoro! am ei fyrbwylldra. A gorphenodd ei yrfa yn fawr ei barch gan bawb a'i hadwaenai.

Bellach, rhaid i ni adael y cynghorwyr, er mor ddifyrus ac addysgiadol eu hanes. Yr amser a ballai i ni fynegu am John Richard, Llansamlet, yr hwn oedd yn wr gwresog ei yspryd, a gonest ei galon, ac er tramgwyddo wrth arweinwyr y Gymdeithasfa oblegyd cyfyngu o honynt ar ei faes llafur, a ddaeth i'w le yn fuan, gan gyfaddef ei ffolineb, a gofyn am faddeuant; am Howell Griffith, Trefeurig, yr hwn oedd yn ŵr dysgedig, ac mewn amgylchiadau da, ac a fu o fawr ddefnydd i achos yr Arglwydd yn ngymydogaethau Llantrisant, Tonyrefail, a Bro Morganwg, ac nad oedd uwchlaw derbyn cerydd yn garedig gan ei frodyr, pan y teimlent ei fod yn tueddu i fyned ar gyfeiliorn; am James Williams, arolygydd y seiadau yn Sir Gaerfyrddin, adroddiadau pa un o sefyllfa y cymdeithasau a osodasid dan ei ofal sydd yn awr ar gael, ac yn dra dyddorol eu cynwys; am Milbourn Bloom, a breswyliai yn Llanarthney, yn nhŷ yr hwn y cedwid y Cyfarfod Misol nodedig, pan y disgynodd Yspryd Duw fel fflam i fysg ei bobl, nes gwresogi eu calonau, a pheri iddynt folianu ei enw; am Morgan Hughes, a fu unwaith yn arolygydd seiadau Sir Drefaldwyn, a chwedi hyny, mewn undeb a Williams, Pantycelyn, yn arolygydd seiadau rhan uchaf Sir Aberteifi, yr hwn, am ei waith yn myned o gwmpas i efengylu, a wysiwyd i frawdlys Aberteifi, yn y flwyddyn 1743, ond erbyn myned yno, a ddaeth yn rhydd am nad oedd neb i'w erlyn; ac am amryw eraill. A'u cymeryd fel dosbarth, dynion ardderchog oedd yr hen gynghorwyr. Eu hunig wendid, os gwendid hefyd, oedd awydd am gael eu hordeinio, fel y gallent weini yr ordinhadau megys gweinidogion yr Ymneillduwyr. Ychydig o gydymdeimlad oedd rhwng y nifer fwyaf o honynt a'r Eglwys Sefydledig; yr oedd eu cydymdeimlad a'r Ymneillduwyr yn fwy. A phan na fynai yr arweinwyr ganiatau ordeiniad iddynt, aeth amryw trosodd at yr Ymneillduwyr, gan gymeryd gofal eglwysi a gwasanaeth eu Harglwydd a'u cenhedlaeth yn ffyddlawn. Dyma fel y collodd y Cyfundeb Evan Williams, y crybwyllasom am dano yn dianc o'r Gogledd oblegyd poethder yr erledigaeth; a John Thomas, a ymsefydlodd yn y Rhaiadr; a Richard Tibbot, Herbert Jenkins, Milbourn Bloom, ac amryw o ddynion talentog eraill. Eithr glynodd y nifer fwyaf yn ffyddlawn, er pob temtasiwn i gefnu. Ond yr ydym yn colli golwg ar amryw o honynt yn amser yr ymraniad, a pha beth a ddaeth o honynt, nis gwyddom. Aeth rhai yn Annibynwyr; cyfeiliornodd eraill oddiwrth y ffydd, gan ffurfio mân bleidiau, a gosod eu hunain yn ben arnynt; ond am y nifer fwyaf, ymlynasant wrth Rowland, Howell Davies, a Williams, Pantycelyn, a buont farw ar y maes fel medelwyr diwyd, a'u crymanau yn eu dwylaw.

Yr ydym yn dyfod yn awr at adrodd- iadau y cynghorwyr, a anfonwyd i'r Cymdeithasfaoedd, yn desgrifio sefyllfa yr eglwysi a osodasid dan eu gofal. Y mae yr adroddiadau hyn mor lliosog, fel nas gallwn ond difynu ychydig o honynt, a hyny megys ar antur. Yr adroddiad cyntaf yn nghofnodau Trefecca yw eiddo Thomas James, Cerigcadarn, o ba un y mae a ganlyn yn esiampl:—

“Cymdeithas. Llanfair-muallt. Cynghorwr, Thomas Bowen :—

Enwau yr Aelodau. Eu Sefyllfa.
Thomas James Tystiolaeth lawn ac arosol
Thomas Bowen Mewn rhyddid helaeth
Evan Evans Wedi cael tystiolaeth, ond yn wan mewn gras
Sarah Williams Wedi ei chyfiawnhau,ac wedi dod allan o'r ffwrnais
Sarah James Tystiolaeth gyflawn ond mewn dirfawr gaethiwed
Eliza Bowen Yn gyffelyb, ond i raddau wedi ei gadael
Elenor Jones Yn dechrau ymadfer o'i gwrthgiliad
Gwen James} Wedi mynd i ogoniant fel yr ydwyf yn credu
Susan James}
Gwen Kinsey}

Rhif yr aelodau yma oeddynt 13.

"Cymdeithas Llanafan. Cynghorwyr anghyoedd, Edward Bowen a Thomas Bowen:—


Enwau yr Aelodau Eu Sefyllfa
Rice Price Yn dwyn tystiolaeth yn ei gystudd
Thomas Price Yn gyffelyb, ond wedi colli llawer o'i gariad a'i zêl, gan fod wedi ei faglu yn y byd
Thomas Jones Mewn caethiwed dirfawr. Yn dysgwyl
Stephen Jones Dan lawer o dywyllwch
James Evans Yn wan mewn gras ond yn dysgwyl
Thomas Bowen Tystiolaeth lawn yn aml, ond nid yn arosol
Edward Bowen Tystiolaeth lawn ac arosol
Eliza Evans Tan lawer o amheuon oblegyd grym llygredigaeth
Mary Jones Y gair hwn wedi ei selio iddi hi: "A chariad Tragwyddol y'th gerais"
Catherine Jones Tystiolaeth hyfryd o gariad Duw
Mary Price Yn un modd
Diana Evans Yn rhodio yn agos at Dduw ond mewn llawer o amheuon
Margaret Bound Tystiolaeth lawn


Tri-ar-ddeg oedd rhif yr aelodau yma yn ogystal.

Llanwrtyd. Cynghorwr anghyoedd Rice Morgan:—

Enwau yr Aelodau Eu Sefyllfa
Rice Morgan Yn rhodio yn agos, ond mewn peth amhaeaeth
David Williams Nid yw wedi ei adael mewn un gradd o amheuaeth
Rice Williams Ei gyflwr yn tywyll iawn
Thomas Lloyd Efe yn tybio darfod iddo gael tystiolaeth ond eraill heb eu llawn foddloni yn ei gyflwr
Edward Winston Mewn caethiwed mawr
Roderick Rice Mewn caethiwed a thywyllwch
Ann Lloyd Yn ceisio yn ddyfal ond mewn treialon dirfawr
Eliza Evans Ar y ffordd yn ceisio
Margaret Evans Yn ei chariad cyntaf
Eliza Williams Yn llwythog o anghrediniaeth

Yr oedd 28 o aelodau yn perthyn i'r gymdeithas hon, a dywedir ei bod yn myned yn y blaen yn hyfryd. Rhydd gyfrif cyffelyb am seiadau Merthyr Cynog, Llandyfathen, Cerigcadarn, Llanddewi'r Cwm, a Llaneigion. Y mae ei sylwadau ar gyflyrau y gwahanol aelodau i'r pwynt, ac yn fynych yn brydferth. Dywed am un William Saunders, Llaneigion: "Gwedi bod mewn dirfawr amheuaeth gyda golwg ar dduwdod Crist, ond yn awr creda nid yn unig ei fod yn Dduw, ond hefyd yn Dduw iddo ef." Am un Mrs. P., o'r un seiat, dywed: "Medd dystiolaeth lawn, ac y mae yn rhodio yn agos, ond nid yw ei henw wedi ei ysgrifenu, am fod y gŵr yn bytheirio ac yn erlid." Ychwanega am yr un gymdeithas: "Y mae saith yn ychwaneg i ddod i mewn."

Dengys y cofnodion hyn ddirfawr wahaniaeth parthed ysprydolrwydd meddwl rhwng y Methodistiaid a'r Ymneillduwyr oeddynt yn y wlad o'u blaen. Dospartha Dr. John Evans, yn y daflen y cyfeiriasom ati yn barod, y rhai a berthynent i'r Anghydffurfwyr yn ol eu sefyllfa fydol; rhenir hwy i ynadon, ysweiniaid, rhai yn meddu pleidlais yn y sir neu y fwrdeisdref, rhydd-ddeiliaid, amaethwyr, masnachwyr, a labrwyr. Nid yw yr hen gynghorwr o Gerigcadarn yn prisio dim parthed safle fydol aelodau y gwahanol seiadau; dibwys ganddo pa un ai labrwyr ynte ustusiaid ydynt; rhana efe hwy yn ol eu cyflwr ysprydol, sef rhai wedi eu cyfiawnhau, rhai yn dyfal geisio, a rhai dan draed amheuon, &c. Yr oedd y Methodistiaid cyntaf yn byw gymaint yn y Presenoldeb Dwyfol, fel nad oedd mân wahaniaethau y byd o un pwys yn eu golwg. Eithr y mae Thomas James heb orphen ei adroddiad. Fel hyn y dywed am y seiadau canlynol :— <poem> Trefecca Heb fod mewn trefn. Llangamarch Newydd ei ffurfio. Cynghorwr anghyoedd — David. Rhif, oddeutu 14. Llwyncoll Mewn trefn, ond nid yw yn gyfleus i mi rhoddi eì chyfrif. Llanfihangel Nant-Bran—Y seiat newydd ei ffurfio. Llanfibangel Fechan—Ni wnant eto ymostwng i unrhyw drefn. Tref Aberhonddu—Heb eì ffurfio. Llangors Heb ddod i drefn. Cilhonwy—Y seiat tan Mr. Beaumont. Dyserth—Heb gael ei phrofi.

Dywed fod yr aelodau y rhydd gyfrif o honynt yn 134, ond y byddai y cyfanswm yn sicr o fod yn 200. Cofier mai rhan o Frycheiniog oedd dan ei ofal. Terfyna yn y modd a ganlyn: "Bendigedig fyddo ein Hiachawdwr am hyn o ddechreuad, gan obeithio y gwna efe ei Jerusalem yn llawenydd yr holl ddaear, oblegyd yn wir eto y mae lle. Am hyn, gweddïwch lawer drosom, a throsof fi, yr annheilwng— THOS JAMES."

Cymerer eto adroddiad Morgan Jones, arolygwr dros ranau o Fynwy. Fel hyn yr ysgrifena efe:

“GOETRE. Y maent yn 13 o rif, gydag un goruchwyliwr drostynt, yr hwn sydd ŵr tra gofalus. Nid oes yma ond dau ŵr priod, a dim un sengl. Derbyniwyd dau yn ddiweddar, un yn wraig mor hawddgar yn ei hyspryd a'r un o'r lleill. Y mae rhai, fel yr wyf yn credu, yn Gristionogion, ond heb uno eto a'r seiat breifat. Y mae yr aelodau wedi profi mesur o ryddid, neu amlygrwydd eu bod wedi cael eu cyfiawn- hau, bawb o honynt ond un, rhai fwy, a rhai lai. . . . Meddant ryddid mawr at eu gilydd, ac at y brawd Stephen Jones, eu cynghorwr anghyoedd. Gwn ddarfod i'r Arglwydd fendithio fy llafur yn eu mysg. Meddwn ryddid mawr y naill at y llall. Bendigedig a fyddo y sanctaidd Dduw, yr hwn a'i dygodd.

"GLASCOED. Y maent tua 9 mewn rhif. Y brawd Jones, eu cynghorwr anghyoedd, a wasanaetha swydd goruchwyliwr, ac, fel yr wyf yn credu, a wasanaetha yn ffyddlawn. Y maent wedi eu gosod yn y drefn oreu bosibl, ac ystyried eu hamgylchiadau. Cyfarfyddant yn breifat mor aml ag y gallant, ac y mae yr Arglwydd yn eu bendithio, fel y mae yn bendithio pawb a gyfarfyddant felly. Nid wyf yn gwybod am un nad yw yn barod i dystio fod yr Arglwydd yn eu bendithio yn rhyfedd yn eu cynulliadau preifat; ond am y rhai sydd yn gwrthsefyll, y maent yn myned yn sychach bob dydd. Y mae yr holl aelodau wedi profi cariad Duw wedi ei dywallt ar led yn eu calonau i'r fath raddau, fel y maent wedi eu hargyhoeddi fod eu pechodau wedi eu maddeu, a'u hanwireddau wedi eu cuddio. Yr wyf yn credu fod eu profiad yn gadarn ac yn gywir, oblegyd y mae eu bywydau yn cyfateb. Tlodion ydynt gan mwyaf, ond y maent yn ffyddlawn yn eu galwedigaethau, ac hefyd y naill i'r llall. Y maent yn foddlawn gweithio er cynorthwyo eu gilydd, pan yn glaf neu mewn eisiau. Y mae i mi undeb mawr a hwy, a felly hwythau ataf finau. bendigedig fyddo Duw am ei ddwyn oddiamgylch. Amen.

"ST. BRIDES.. . Pedwar-ar-ddeg o rif ydynt, a chredaf eu bod yn Gristionogion sylweddol o ran gwybodaeth a phrofiad. Holais hwynt yn breifat, a chefais dystiolaeth ddarfod iddynt oll brofi rhyddid yr efengyl i raddau mawr, oddigerth tri; ac y mae un o'r tri wedi cael fod Crist yn eiddo iddi, ond y mae ei ffydd yn wan. Am y ddau arall, dywedant nad ydynt eto wedi cael gafael ar yr Arglwydd, ond yr wyf yn credu eu bod, a dyna farn y gweddill o'r brodyr. Meddyliais iddynt wneyd yn glir mai gwaith Duw ydoedd, er eu bod yn ceisio ei guddio. Temtir hwy gan y gelyn i gredu na chawsant eu hargyhoeddi erioed, er fod eu calonau yn ymddangos yn ddrylliedig. Y maent mor ostyngedig a neb a welais.

"MYNYDDISLWYN. Y maent yn IO o rif, gyda dau oruchwyliwr drostynt, ac y mae yr Arglwydd yn bendithio y moddion iddynt. Cynorthwyir fi, ac felly eraill hefyd, pan fyddwyf yn llefaru yn eu mysg. Cyfarfyddant yn breifat unwaith yr wythnos, a chant gymaint o les trwy hyn a dim. Y maent yn ddiargyhoedd yn eu bywydau. Medd rhai o honynt dystiolaeth ddarfod eu cyfiawnhau, a dyhea y gweddill yn feunyddiol am ei gael.

"LLANGADOG. Daw cryn nifer ynghyd i wrando y Gair yn y cymdeithasau cyhoeddus, a rhydd yr Arglwydd allu i lefaru mewn cariad. Pedwar-ar-ddeg sydd wedi rhoddi eu henwau. Y maent yn rhy ieuainc i dderbyn un i edrych drostynt, ond daw un atynt o Lannfihangel mor fynych ag sydd bosibl. Dechreu ymgynull yn breifat y maent. Yr wyf yn teimlo rhyddid mawr yn eu mysg, am eu bod

R mor debyg i blant, gan fod yn foddlawn cymeryd eu dysgu.

"TREFETHIN. Y maent yn 19 o rif, gyda thri goruchwyliwr. Y rheswm fod tri ganddynt yw, fod dau o honynt yn fasnachwyr, ac felly yn analluog i ddyfod i bob moddion. Cyfarfyddant dair gwaith yr wythnos, a theimlant lawer o Dduw yn eu mysg, yn arbenig yn eu cyfarfodydd preifat. Rhodiant yn ddiargyhoedd, ac y maent, mi a hyderaf, yn cynyddu yn ngwybodaeth yr Arglwydd. Y maent, gan mwyaf, yn deimladwy o gariad maddeuol Duw. Y mae seiat fechan yn Llanheiddel hefyd, nad yw yn ewyllysgar i gymeryd ei dwyn i drefn hyd yn hyn; ond ar yr un pryd, y mae yno lawer o blant anwyl i Dduw.

"GRWYNEFECHAN. Ugain yw rhif yr aelodau yma; y maent mewn trefn, gyda dau oruchwyliwr yn gofalu drostynt. Cyfarfyddant dair gwaith yr wythnos, un o'r tair yn breifat. Gallant oll dystiolaethu fod ganddynt amlygrwydd ddarfod eu cyfiawnhau, er fod rhai heb deimlo cymaint o gysur ag y buont. Ond yr wyf yn hyderu fod yr Arglwydd yn eu mysg. Teimlais nerth mawr pan fum yn eu plith ddiweddaf.

"CWMDU. Rhif yr aelodau yw 12. Y mae yr Arglwydd yn llewyrchu arnynt, ac yn tywallt ei Yspryd i'w mysg yn fwy nag erioed. Y maent oll, ond dau, wedi profi cariad maddeuol Duw. Cant weithiau gymaint o bresenoldeb Duw, nes peri iddynt lefain : Arglwydd, digon yw!' Teimlant gymaint o Dduw mewn gweddi weithiau, nes dymuno peidio myned o'r fan, hyd nes y byddo iddynt ymadael i fod gyda Christ.

"CANTREF. Y maent yn 14 o rif, a chredaf am y rhan fwyaf o honynt ddarfod eu selio gan yr Yspryd Glân hyd ddydd prynedigaeth.

"BLAENYLLYN. Ugain ydynt o rif. Arholais hwy yn breifat, a chefais fwy o foddlonrwydd nag a feddyliais y gellid gael. Credaf fod yr Arglwydd wedi dechreu gwaith ar eu heneidiau. Ymddangosant yn dra gonest; mor bell ag y gallaf farnu, y maent wedi bwrw eu heneidiau ar Grist; ond nid ydynt eto wedi cael llawer o arwyddion o gariad Duw.

"LLYWEL (Sir Frycheiniog). Y maent yn 18 o rif, ac y maent wedi eu gosod mewn cystal trefn ag a allaf, gyda goruchwyliwr i wylio drostynt. Y maent yn benderfynol o gyfarfod yn breifat, i weled beth a wna Duw i'w heneidiau. yn dra esgeulus o hyn. Teimlodd rhai o honynt fesur o gariad Duw; yr wyf yn eu cael yn foddlon cymeryd eu dysgu, ond nid oes llawer o undeb yn eu mysg, am na chyfarfyddant yn breifat. Dylent gael eu cymeryd yn dyner, fel baban sugno ar y fron, oblegyd eu gwendid.

"LLANDDEUSANT (Sir Gaerfyrdddin). Wyth—ar—hugain o rifedi ydynt yma; y maent wedi eu gosod mewn trefn, gyda dau oruchwyliwr anghyoedd yn eu mysg. Cyfarfyddant yn gyhoeddus ddwy waith yr wythnos, ac unwaith yn breifat. Credaf fod gwaith mawr yn cael ei gario yn mlaen yn eu plith. Gallant dystiolaethu fod Duw yn tywallt ei Yspryd yn helaeth arnynt, yn arbenig yn eu cyfarfodydd anghyoedd. Medd rhai o honynt brofiad helaeth a dwfn o gariad Duw; ond y mae eraill mewn caethiwed. Y maent oll yn ddiargyhoedd o ran ymarweddiad. Tystiolaethant ddarfod i'r Arglwydd fy mendithio i fod o les i'w heneidiau. Bendigedig a fyddo yr Arglwydd hyd byth! Amen, ac Amen. Teimlais nerth rhyfedd yn eu mysg y tro diweddaf, wrth lefaru am fawrion bethau Duw, oddiar Actau ii. 11; yr oedd tua dau cant yn bresenol.

"D.S. Y mae ychydig o eneidiau hefyd yn cyfarfod yn Llanfihangel—Cerig—Cornel, tua thair milltir o'r Fenni, y rhai a anghofiwyd y tro diweddaf yn Watford. Dymunwn i chwi feddwl am danynt, ac anfon rhywun i ymweled â hwynt. Y brawd Morgan John Lewis yw y cymhwysaf, yn ein tyb ni, gan nad yw y brawd Beaumont yn medru siarad Cymraeg."

Byr, mewn cymhariaeth, yw adroddiad Thomas Williams, arolygydd adran o Forganwg, o'r cymdeithasau osodasid dan ei ofal ef. Y mae fel y canlyn, ond ein bod yn gadael allan yr enwau:—

"GROESWEN—
Gwyr Gwragedd Dynion sengl Merched sengl
Wedi eu cyfiawnhau 9 8 13 9
Dan y ddefdd 1l 2 3 4

Rhif aelodau cyffredin y Groeswen oedd 49; ychwaneger at hyny y pump cynghorwr anghyoedd, a gwnaent y cyfanswm yn 54. Dywedir yn mhellach fod un ferch ieuanc, o'r enw Amy Price, wedi marw mewn llawn sicrwydd ffydd.

"LLANTRISANT—
Gwyr Dynion sengl Merched sengl
Wedi eu cyfiawnhau, ac yn meddu rhyddid 4 2 1
Dan y ddefdd 7 2 2

Felly, rhif seiat Llantrisant oedd deunaw, ac os yw y cyfrif yn gywir, ni pherthynai yr un wraig briod iddi.

Rhifai cymdeithas Llanedern 6, o ba rai yr oedd 4 wedi eu cyfiawnhau, a 2 dan y ddeddf; Dinas Powis, 13, o ba rai yr oedd 2 wedi eu cyfiawnhau, ac yn meddu rhyddid; 6 wedi eu cyfiawnhau, ond mewn caethiwed, a'r gweddill dan y ddeddf; St. Nicholas, 32, o ba rai yr oedd 15 wedi eu cyfiawnhau, ac yn meddu rhyddid; 11 wedi ei cyfiawnhau, eithr mewn caethiwed, a'r gweddill dan y ddeddf. Rhifai seiat Pentyrch 9; Aberddawen, 15; ac Aberthyn, 19. Rhif yr holl aelodau dan ofal Thomas Williams oedd 168.

Nodedig o fyr yw adroddiad James Williams, arolygwr rhan o Sir Gaerfyrddin. Dywed fod seiat Cayo yn rhifo 49; Talyllychau, 45; Llansawel, 46; Llangathen, 37; Cwmann, 32. Am seiat Cilycwm, yr oedd yn ieuanc, ac heb ei dwyn i drefn, ac felly ni roddir ei rhifedi. Dywed am rai o'r aelodau eu bod yn meddu rhyddid, eraill fel pe yn canfod yr orphwysfa, a'r gweddill tan y ddeddf. Am y rhai a feddent ryddid, nid oeddynt oll ar yr un tir, oblegyd am nifer o honynt dywedir eu bod yn meddu mesur bychan o ryddid.

Adroddiad tra dyddorol yw eiddo William Richard, arolygwr y rhan isaf o Sir Aberteifi, a'r rhan Gymreig o Sir Benfro. Cymerer yr esiampl a ganlyn:—

"DYFFRYN SAITH—
Enwau yr Aelodau. Eu Sefyllfa.
1. Thomas Dafydd Yn credu, ond tan rai amheuon o herwydd temtasiynau; y mae yn dymuno ac yn dyheu am fwy o ryddid.
2. Dafydd Morgan Wedi archwaethu llawer o gariad Duw; y mae yn credu yn wastadol; ei brofiadau ydynt yn dra syml.
3. Dafydd Rees Yn credu, ond tan lawer o gymylau. Daeth trwy lawer o brofedigaethau, ond yn gorchfygu fwy fwy.
4. Jenkin John Tan dreialon am dymhor, yn dywyll ac yn sych ei yspryd.
11. Margaret Thomas Tan lawer o argyhoeddiadau, ond yn dra thywyll."

Nis gallwn gofnodi yr holl daflen, eithr rhifai cymdeithas Dyffryn Saith 20, ac ymddengys na pherthynai iddi yr un wraig briod; eiddo Blaenhownant, 10; Twrgwyn, 9; Llwyndafydd, 10; ac Aberporth, 20. Yn Sir Benfro, rhifai cymdeithas Longhouse 15; cymdeithas Tyddewi, 11; eiddo Abergwaun, 35; Dinas, 7; Trefdraeth, 13; Pencaer, 7; Llwynygrawys ac Eglwyswrw, 35. Gwna yr oll 190, gyda 19 o aelodau ar brawf.

Cyn terfynu, rhaid i ni roddi adroddiad John Harris, St. Kennox. Fel hyn y dywed: "Ar y 13eg o'r mis, mi a gyfarfyddais ag wyn Prendergast ac Ismason yn Phonton (25 o rifedi); agorwyd ffenestri y nefoedd, a gwlawiwyd i lawr arnom wlith cariad Duw, nes yr oeddem ar ymgolli a boddi yn y môr mawr. Rhoddwyd i mi deimlo doethineb, gwybodaeth, deall, gostyngeiddrwydd, a chyd— ymdeimlad a fy wyn anwyl, fel y gallwn ddweyd: Teyrnas Dduw sydd o fewn i mi,' ac hefyd, Duw cariad yw.' Yr oedd yr wyn fel asgwrn o'm hasgwrn, a chnawd o'm cnawd. Canasom y gân newydd, a chanasom ag un anadl.

"Y 14eg o'r mis, yn Llawhaden. Nid oedd ond 11 o rif, ond yr oedd fy serch yn parhau ac yn cynyddu. Ar weddi, nid digon oedd penlinio; sythiodd dau ar eu hwynebau ar y llawr, ac o braidd y medrent gyfodi. A thra y gosodwn ger eu bron gariad yr Oen, nis gallent aros yn yr ystafell, eithr aethant allan o un i un, gan ymdreiglo yn y llwch, a gwaeddi: Michael, cân di, nis gallwn ni! "Y 15fed o'r mis, yn Jefferson. Ysgydwyd tŵr Babel, ac yr oedd ar ei ogwydd i syrthio, yn ddirgel ac ar gyhoedd. Galluogwyd fi i gredu ddarfod iddo gwympo; yr oedd sain hyfryd rhad ras yn mhob genau, a phob calon yn llawn o gariad.

"Ar y 18fed o'r mis, yn Carew. Rhif 25. Wedi cynghori yn gyhoeddus datguddiwyd i mi nad oes dim yn trallodi'r diafol yn gymaint a'r seiadau preifat. Yr oedd hyny yn amlwg yn ei offerynau, sef y bobl gnawdol o bob enwad; y maent yn eu cashau uwchlaw pob peth. Er fod y drws yn nghau ar y dechreu, daeth yr anwyl Oen, gan sefyll yn y canol, a dywedyd Tangnefedd i chwi! Yna yr wyn anwyl a doddwyd hyd ddagrau, ac a lanwyd â chariad, nes y gwaeddodd un allan Gresyn! gresyn! y mae yn llifo drosodd. Na fydd hanerog, eithr llanwer eraill hefyd.' A thorodd y lleill allan i lefain Bendigedig fyddo Duw am Iesu Grist.'

"Ar y 19eg o'r mis, yn Mounton, ger Narberth. Rhif 9. Cawsom gymundeb melus a'r anwyl Immanuel. Gan fod yr hin yn wlyb, ac amgylchiadau eraill yn ymyraeth, nid oeddent yn fy nysgwyl, felly yr oedd 11 o'r aelodau yn absenol.

Ar yr 20fed o'r mis, yn Gellidawel. Rhif 16. O'r cychwyn, ïe, hyd yn awr, ni chymerodd yr anwyl Oen ei wenau melus oddiarnaf, ond fe'm dyddanodd megys ar ei lin, nes fy llenwi i, a'r wyn yn ogystal, a chariad, gan beri i ni lefain ar lu y nef: "O, chwi wyryfon gogoneddus, cenwch, oblegyd rhyddhawyd chwi oddiwrth y clai. Treblwch eich cân, nes y deuwn ninau !'

"Felly, gan fy mod yn eich galw yn anwyl frodyr, fe a'm gwnaed yn gyfranog o'ch llafur, a'ch hymdrechion, yn eich gwaith mawr. Yr wyf yn tybio fy mod yn dwyn y baich gyda chwi. A chan fy mod yn credu fod ein hanwyl Archoffeiriad yn eich cynorthwyo, yr wyf yn meddwl fel mai efe ydyw awdwr, y bydd hefyd yn berffeithydd y gwaith; er y gall Satan a'i offerynau ddweyd fel Tobiah wrth Sanbalat am waith Nehemiah yn adeiladu muriau Jerusalem: "Ped elai lwynog i fyny, efe a fwriai i lawr eu mur hwynt. Ewch yn mlaen, yn wir y mae gan Oen Duw law yn y gwaith a pha un ydych yn ymwneyd, a chwithau a gewch fedi o ffrwyth eich llafur. Hyn oddiwrth yr annheilyngaf o bawb sydd yn ceisio gwyneb yr Oen— JOHN HARRIS.”

Dengys yr adroddiadau hyn lawer o frwdaniaeth yspryd, a llawer o fedr i adnabod sefyllfa ysprydol yr eneidiau, gofal pa rai a gawsai ei ymddiried i'r cynghorwyr. Adroddiadau am sefyllfa pethau tua dechreu y flwyddyn 1743 ydynt. Dylem gadw mewn cof nad yw nifer yr aelodau yn ddangoseg o gwbl o rifedi y rhai a wrandawent yr efengyl gyda y Methodistiaid, ac a ystyrient eu hunain yn ganlynwyr Rowland a Harris. Nid gorchwyl hawdd oedd ymuno a'r seiat y pryd hwnw. Yr oedd y drws mor gul, a'r ddisgyblaeth ynddi mor lem, fel y cawn amryw o'r arolygwyr yn cyfaddef fod rhai wedi eu hachub i fywyd tragywyddol, fel yr oeddynt hwy yn barnu, ond heb ymuno ag unrhyw gymdeithas. Yn Llanddeusant, cawn nad oedd rhif yr aelodau ond wyth-ar-hugain, ond barnai yr arolygwr fod y gynulleidfa a'i gwrandawai ef yno tua dau cant.

Nodiadau[golygu]

  1. Drych yr Amseroedd.