Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Daniel Rowland, Llangeitho (tud-10)

Oddi ar Wicidestun
Daniel Rowland, Llangeitho (tud-9) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Daniel Rowland, Llangeitho (tud-11)

Aeth Rowland i Lanuwchllyn ar ol hyn, a phregethai y tro hwnw oddiar gareg farch y Felin-dre, ffermdy yn nghydiad plwyfi Llanuwchllyn a Llangower. Ni wyddis dyddiad yr odfa. Ei destun ydoedd:— " Wele ef yn dyfod yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau " (Can. ii. 8). Nid oes hanes am effeithiau y bregeth, ond fod y bobl mor anwybodus fel yr edrychent i'r bryniau o gwmpas, gan ddisgwyl gweled rhywun hynod yn gwneyd ei ymddangosiad.

Cawn ef yn ymweled a'r Gogledd hefyd yn 1742.[1] Mewn llythyr a anfonodd at Howell Harris y flwyddyn hono, dywed iddo fod yn ddiweddar ar daith yn Sir Drefaldwyn; ddarfod iddo, naill ai wrth fyned neu ddychwelyd, bregethu gyda nerth anarferol mewn amryw eglwysi a thai anedd yn Mrycheiniog, a bod rhyw Mr. Phillips, o Lanfairmuallt, wedi ei roddi yn Nghwrt yr Esgob am lefaru mewn ty tafarn yno. Ychwanega fod y brawd W. Williams — Williams, Pantycelyn, yn ddiau—wedi cael ei roddi yn yr un llys am nad oedd yn byw yn y plwyf yn mha un y gweinidogaethai. Ceisia gan Harris, yr hwn oedd yn y Brif-ddinas ar y pryd, am ymgynghori a'r brodyr yn Llundain pa fodd y dylid ymddwyn dan yr amgylchiadau. Y mae yn fwy na thebyg ddarfod i Daniel Rowland, y flwyddyn ganlynol, sef 1743, deithio trwy Sir Gaernarfon, mor bell a Sir Fôn, er na cheir hanes y daith yn ei gofiant, nac yn Methodistiaeth Cymru. Mewn llythyr o eiddo un Evan Williams, cynghorwr yn Nghymru, yr hwn a gafodd ei ysgrifenu yn y flwyddyn 1742, dy wedir:—[2]"Y mae Mr. M. H——s wedi bod yr wyth nos ddiweddaf yn Sir Fôn, a rhyfedd fel y mae y gwaith yn myned yn mlaen yno. Bwriada y brawd Rowland fyned yno yn mhen mis." Ddarfod iddo gario allan ei fwriad sydd sicr, oblegyd dywed un T——s B——n, yr hwn yntau oedd hefyd yn gynghorwr yn ol pob tebyg, mewn olysgrifilythyr a ysgrifenwyd ganddo yn 1742: " Bu y brawd Richards a'r brawd R——s yn Sir Fôn. Yn awr y mae y brawd Richards yn myned o gwmpas Deheudir Cymru." Diau mai Daniel Rowland oedd y brawd " R——s "; ysgrifenid ei enw weithiau yn Rowland, a phryd arall yn Rowlands; ac felly y gwnai ef ei hun. Y mae y gweddill o lythyr Evan Williams mor ddyddorol fel yr ydym yn rhwym o'i gofnodi:— "Bendithiwyd y brawd Beaumont yn fawr yn ein tref, yn neillduol er dystewi yr erlidwyr. Ond digwyddodd fod Cwrt yr Esgob yn fuan, a phregethodd y Canghellydd yn erbyn y Methodistiaid ac yn erbyn Mr. Whitefìeld, fel y trowyd meddwl llawer o'r bobl drachefn. Gelwir llawer i'r cwrt er rhoddi cyfrif paham y cadwant seiadau yn eu tai. Tybiodd rhai mai gwell oedd talu (y dirwyon a osodid arnynt), gan eu bod yn weiniaid, er mwyn cael myned yn rhydd. Gwedi eu holi, dywedwyd wrthynt eu bod yn bobl oedd yn bwriadu yn dda, ond y dylent geisio cadw Rowland a Harris o fewn eu terfynau. Dywedodd y Canghellydd y gwnai selio gwarant i ddal Rowland y tro nesaf." Eglura llythyr yr hen gynghorwr fel yr erlidid y Methodistiaid yr adeg hon gan swyddogion yr Eglwys Wladol. Am awdwr y llythyr, sef Evan Williams, brodor o Ystradgynlais ydoedd; cawsai ei argyhoeddi wrth ddarllen gwaith Bunyan, "Tyred, a chroeso, at Iesu Grist; ". ac yn bur fuan dechreuodd gynghori gyda'r Methodistiaid. Am beth amser bu yn un o ysgolfeistri Griffìth Jones, gan yr hwn y danfonwyd ef i Sir Gaernarfon i gadw ysgol. Yr oedd hyn yn 1742. Erlidiwyd ef yn enbyd yno, bu mewn perygl am ei einioes, a ffodd yn ei ol at Griffith Jones. Y dref y sonia am dani yn ei lythyr, yn ol pob tebyg, oedd Caerfyrddin. Diweddodd ei oes gyda'r Annibynwyr.

Cawn gyfeiriad at ymweliad o eiddo Daniel Rowland a Lleyn, yn Sir Gaernarfon, a gymerodd le cyn y flwyddyn 1745, mewn hên interliwd. Ai y daith yn 1743 ydoedd, ynte taith a gymerodd y flwyddyn ddilynol, nis gwyddom. A ganlyn yw gwyneb-ddalen yr interliwd:—

INTERLUDE MORGAN Y GOGRWR
Ar Y CARADOGS, NEU FFREWYLL Y
METHODISTIAID , yn dair Act Gan
WLLIAM ROBERTS, o Lanor yn
Llyn, Mwythig; argraffwyd
gan R Lathrop tros yr
AWDWR, 1745."

Yr oedd hon yn un o'r interliwdiau mwyaf poblogaidd yn erbyn y Methodistiaid; chwareuid hi mewn ffeiriau a lleoedd poblog, er mawr ddifyrwch i'r werin isel eu chwaeth, a chyda chymeradwyaeth boneddigion ac offeiriaid yr ardaloedd. Heblaw fod y syniadau a roddir yn ngenau y gwahanol gymeriadau Methodistaidd yn yr interliwd yn gelwyddog, y mae yr iaith yn warthus ac aflan mewn llawer man, yn gymaint felly fel na feiddiem ddifynu aml i linell. Darlunir "Chwitfíild," fel ei



Nodiadau[golygu]

  1. Weekly History
  2. Ibid