Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Daniel Rowland, Llangeitho (tud-9)

Oddi ar Wicidestun
Daniel Rowland, Llangeitho (tud-8) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Daniel Rowland, Llangeitho (tud-10)

mewn rhyddid gogoneddus. Y mae tân cariad Duw yn cael lle mewn llawer calon, ac y mae Duw yn wir fel fflam yn eu canol. Cynhaliant seiadau bob nos, a'r fath yw y dylanwad a deimlir ganddynt mewn gweddi yn fynych, fel y tarewir hwy a dystawrwydd ofnadwy; bryd arall, boddir llais y gweddïwr gan gri calonau drylliedig." Dyma dôn holl lythyrau Harris y pryd hwn. Nis geill ymatal rhag datgan ei syndod aruthrol o herwydd y nerthoedd oedd yn cydfyned a phregethu ei gyfaill. Pan wedi gwrando Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, yn Sir Benfro, y clod uchaf a fedr roddi iddynt yw dweyd eu bod wedi cyfranogi yn helaeth o dAn Llangeitho. Ac nid yn ei gartref yn unig y byddai y cyfryw ddylanwadau yn cydfyned a phregethu Daniel Rowland, ond pa le bynag yr elai. Meddai ef ei hun, mewn llythyr at Howell Harris, yr hwn oedd yn Llundain, dyddiedig Hydref 20, 1742: [1] " Yr wythnos ddiweddaf bum ar daith yn Siroedd Caerfyrddin a Morganwg, ac odfaeon ardderchog oeddynt; cynulleidfaoedd cyfain yn cael eu dwyn i deimlo, a llawer yn bloeddio allan fel yr oedd fy llais yn cael ei foddi. Croesawyd fi i'w tai gan rai personau o safle, a hyny gyda pharch anarferol. O! beth wyf fi, fel y gwelai fy llygaid, ac y clywai fy nghlustiau y fath bethau! "Mewn llythyr arall, at un o'i wrandawyr oedd yn Llundain, dywed Rowland:—[2] "Y mae crefydd yn blodeuo yn y rhanau hyn o'r wlad. Dylifa miloedd i glywed y Gair. Y mae rhan fawr o honynt yn y fath ingoedd nes bod yn ddigon i wanu y galon galetaf. Gwnaeth rhai ef yn bwnc i'w ceryddu; ond y mae y rhai hyny eu hunain yn awr wedi eu gorchfygu gan allu Duw, ac yn gwaeddu allan:— 'Pa beth a wnant fel y byddont gadwedig.' Chwi a ryfeddech at yr hyn ydym ni yn weled ac yn glywed yn feunyddiol. Am danaf fy hun, gallaf dystio na welais, ac na chefais erioed y fath nerth ag wyf yn awr yn gael bol) dydd." Canlyniad y weinidogaeth nerthol yma, a'r effeithiau rhyfeddol oedd yn cydfyned a hi, oedd tynu tyrfaoedd i Langeitho o bob cwr o'r wlad. Daeth y pentref bychan gwledig, diaddurn, yn Jerusalem Cymru.

Efallai na theithiai Daniel Rowland gymaint ag a wnelai Harris, a Williams, Pantycelyn; pregethwyr teithiol oeddynt hwy; ond gwasanaethai ef yn rheolaidd yn y tair eglwys i ba rai y cawsai ei benodi yn guwrad, sef Llangeitho, Llancwnlle, a Llanddewi-brefi. Yr un pryd, y mae sicrwydd ei fod yn trafaelu llawer, a hyny trwy bob rhan o'r Dywysogaeth. Pregethai yn fisol yn Ystrad-ffin, Twrgwyn, Waunifor, Abergorlech, a Llanlluan. Yn anffodus, ychydig o hanes ei deithiau sydd genym, oblegyd fod ei bapyrau wedi cael eu cyfrgolli. Gwedi marwolaeth Rowland casglwyd yr oll a ellid gael o'i lythyrau a'i hanes, gan ei fab, Nathaniel Rowland, ac anfonwyd hwy i'r Iarlles Huntington, yr hon a fwriadai gael bywgraffiad iddo wedi ei ysgrifenu gan ryw berson cymhwys. Cyn i hyny gael ei wneyd bu farw yr Iarlles, ac aeth y wybodaeth werthfawr a anfonasid iddi i golli.[3] Adrodda y Parch. John Evans, y Bala, mewn hen ysgrif o'i eiddo, am Rowland yn ymweled a Llanuwchllyn, yn y flwyddyn 1740. Gofynodd am ganiatad yr offeiriad a'r wardeniaid i bregethu yn yr eglwys, a chafodd hyny, Ymddengys nad oedd yr offeiriad, mwy na Galio gynt, yn gofalu am ddim o'r pethau hyn. Nid gwaeth ganddo, dybygid, pwy a bregethai, na pha beth a bregethid. Aeth yn ymddiddan rhyngddo a Rowland ynghylch ail-enedigaeth, ond cyfaddefai yr hen offeiriad na wyddai efe ddim o gwbl am y pwnc hwnw. "Beth," ebai y Diwygiwr, "a wyt ti yn ddysgawdwr yn Israel, ac ni wyddost y pethau hyn?" Digwyddodd Rowland Lloyd, periglor Llangower, ger y Bala, fod yn y pentref ar y pryd, a phan glywodd fod un o'r Methodistiaid wedi cael caniatad i bregethu yn eglwys y plwyf, cyffrodd trwyddo. Ymaith ag ef ar ffrwst, ac i'r eglwys. Yr oedd y gwasanaeth wedi dechreu, ac ar unwaith dechreuodd yntau godi terfysg. Darllenai Mr. Rowland ar y pryd benod y melldithion yn Deuteronomium, sef yr xxviii. "Beth," ebai Lloyd, "a ydyw Stephen, Glanyllyn (boneddwr a drigai gerllaw), yn felldigedig? " "Ydyw," oedd atebiad Rowland, "os yw y gŵr yn ddyn annuwiol." Aeth y terfysg yn fwy gwedi'r atebiad hwn; dechreuodd rhyw hen ddynes ganu y gloch yn drystfawr; a rhwng brygawthan offeiriad Llangower, a thinc y gloch, rhwystrwyd yr odfa, ac er gofid i'r gynulleidfa bu raid i Daniel Rowland ymadael heb bregethu.



Nodiadau[golygu]

  1. Weekly History
  2. Weekly History
  3. Methodistiaeth Cymru Cyf i tudal 630