Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Daniel Rowland, Llangeitho (tud-16)

Oddi ar Wicidestun
Daniel Rowland, Llangeitho (tud-15) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Daniel Rowland, Llangeitho (tud-17)

yno nac ysmaldod nac ysgafnder; byddai yr ieuanc a'r difeddwl, y rhai a ddaethent i'r cyfarfodydd gyda'r dyrfa, neu i foddhau chwilfrydedd, yn teimlo rhyw ddifrifwch yn ymaflyd ynddynt. Y caeau oeddynt lawnion o geffylau y dyeithriaid, a gwelid canoedd o anifeiliaid wedi eu cylymu yn rhesi wrth y cloddiau. Symbyliad i'r gwaith mawr a fu troad Rowland allan; rhyddhawyd ef o'i gadwynau; daeth ei weinidogaeth yn fwy nerthol, a lliosogodd y tyrfaoedd a ddeuent i wrando arno.

Yr ydym wedi galw sylw at y nerthoedd a arferent gyd-fyned a'i weinidogaeth; anaml y pregethai heb enill goruchafiaeth ar ei wrandawyr; trwy holl ystod ei oes gwisgid ef a nerth o'r uchelder, ac arddelid ef gan ei Arglwydd; ond weithiau torai allan yr hyn a elwid yn "ddiwygiad." Y "diwygiad" oedd y tân dwyfol yn disgyn gydag angerddolrwydd mwy na chyffredin, nes gwneyd yr holl gynulleidfa yn fflam, gan beri i'r drygionus grynu fel dail yr aethnen, a llenwi geneuau y duwolion a sain cân a moliant. Nid oes ynom un amheuaeth fod y diwygiadau hyn o Dduw; profir hyny yn ddiymwad gan eu ffrwyth. Ofer eu beirniadu mewn yspryd cnawdol; nid oes gan gnawd hawl i eistedd mewn barn ar waith Yspryd Duw. Cawn hanes nifer mawr o'r diwygiadau hyn yn cychwyn yn Llangeitho. Dechreuodd un cyn i Rowland gael ei dori allan o'r Eglwys, wrth ei fod yn darllen y Litani. Pan yn myned tros y geiriau, "Trwy dy ddirfawr ing a'th chwys gwaedlyd, trwy dy grôg a'th ddyoddefaint, trwy dy werthfawr angau a'th gladdedigaeth, &c., Gwared ni, Arglwydd daionus," disgynodd rhyw ddylanwad rhyfedd ar ei yspryd; yr oedd ei dôn o'r fath fwyaf toddedig, a'i lais yn crynu gan deimlad; enynodd y teimlad yn y gynulleidfa, cawsant hwythau olwg ar yr Hwn a wanasant, a galarasant am dano fel un yn galaru am ei gyntafanedig; ond yn bur fuan trodd y galar yn orfoledd annhraethol. Ymdaenodd y diwygiad hwn trwy ranau mawr o'r wlad. Torodd diwygiad arall allan yn Llangeitho yn y flwyddyn 1762, pan y daethai casgliad o hymnau Williams, Pantycelyn, a elwid "Môr o wydr" allan o'r wasg. Wrth ganu yr hymnau ardderchog hyn, y rhai ydynt mor llawn o syniadau dyrchafedig ac efengylaidd, llanwyd eneidiau y bobl a moliant, ac ymdaenodd y gorfoledd trwy y cymydogaethau o gwmpas. Ond yn fuan wedi troad Rowland allan, y cafwyd y diwygiad mwyaf grymus, fel pe buasai yr Arglwydd am ddatgan ei foddlonrwydd mewn modd amlwg i wroldeb a hunanymwadiad ei wâs. Gelwir ef y "Diwygiad mawr,"oblegyd ymledodd trwy y rhan fwyaf o'r Deheudir, a rhanau helaeth o'r Gogledd, a bu yn foddion dwyn miloedd at draed y Gwaredwr. Cofiai Nathaniel Rowland am dano yn cychwyn, pan yr oedd ei dad yn pregethu, ac fel hyn yr adrodda yr hanes: "Yr oedd y tŷ fel pe buasai wedi ei lenwi a rhyw elfen oruwchnaturiol, a'r holl dorf wedi cael ei meddianu a rhyw deimladau rhyfedd; llifai y dagrau dros wynebau canoedd, rhai o honynt yn ddiau gan orlawnder tristwch, a rhai gan orlawnder gorfoledd; yr oedd rhai wedi eu dryllio gan edifeirwch, ac eraill yn gorfoleddu dan obaith gogoniant." Dywed Nathaniel Rowland yn mhellach i'r goleu yn yr odfa ddechreu tywynu trwy adnod o'r Beibl:— "I ti yr wyf yn diolch, o Dad, Arglwydd nef a daear, am i ti guddio y pethau hyn rhag y doethion a'r rhai deallus, a'u datguddio o honot i rai bychain; 'íe, o Dad, canys felly y rhyngodd bodd i ti. "Disgynodd rhyw daranfollt allan o'r geiriau i fysg y gynulleidfa; dallwyd canoedd gan lewyrch y dysgleirdeb; yr oedd yr effaith mor uniongyrchol, pwerus, a gorchfygol, fel mai ofer fyddai ceisio ei ddesgrifio. Dywedir i'r diwygiad hwn fod yn foddion i iachau llawer o'r teimladau dolurus a ganlynodd yr ymraniad gofidus a gymerasai le rhwng Rowland a Harris. Yr oedd yr effeithiau oeddynt yn cydfyned a'r diwygiadau hyn yn anhygoel; syrthiai rhai mewn llewygfeydd; torai eraill allan mewn ocheneidiau a llefain, gan ddychrynfeydd ac ing meddwl, fel pe y buasai y Barnwr wrth y drws; tra y clywid eraill drachefn yn tori allan mewn mawl a gorfoledd, am eu gwaredu megys o safn marwolaeth. Yr adegau yma, byddai y bobl yn fynych yn _ dychwelyd adref o Langeitho, rhai ar draed ac eraill ar geffylau, yn wŷr a gwragedd, meibion a merched, dan ganu a gorfoleddu, fel yr oedd eu sŵn yn cael ei gario yn mhell gyda'r awelon. Fel hyn eu desgrifir gan Williams:—

"Mae'r torfeydd yn dychwel adref,
Mewn rhyw yspryd llawen fryd,
Wedi taflu lawr eu beichiau,
Oedd yn drymion iawn o hyd;
Y ffyrdd mawr yn frith o werin,
Swn caniadau'r nefol Oen,
Nes mae'r creigiau oer a'r cymoedd
Yn adseinio'r hyfryd dôn."




Nodiadau[golygu]