Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Daniel Rowland, Llangeitho (tud-17)

Oddi ar Wicidestun
Daniel Rowland, Llangeitho (tud-16) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Daniel Rowland, Llangeitho (tud-18)

Er gwaethaf Esgob Tyddewi a'r clerigwyr rhagfarnllyd ni adawyd Daniel Rowland heb anrhydedd daearol. Tuag amser ei droad allan gwnaed ef yn "Gaplan i'r Dug o Leinster, un o anrhydeddusaf Gyfrin Gynghor ei Fawrhydi yn nheyrnas yr Iwerddon." Ni wyddis pa wasanaeth a ddisgwylid oddiwrtho yn y swyddogaeth hon, ond tybir y dygai iddo ryw gymorth sylweddol tuag at ei gynhaliaeth ef a'i deulu. Cynygiwyd iddo fywoliaeth Trefdraeth, yn Sir Benfro, gan y dyngarwr, John Thornton. Daethai Mr. Thornton i wybod am dano trwy wraig o ardal Llangeitho, yr hon, yn ol arfer llawer o ferched Sir Aberteifi yr adeg hono, a arferai fyned i Lundain yn ystod misoedd yr hâf i chwynu gerddi. Cawsai waith yn ngerddi y dyngarwr. Tra yno, elai bob Sabbath i glywed Mr. Romaine, a chaffai hyfrydwch dirfawr wrth ei wrando. Dymunai hefyd gael ei glywed yn yr wythnos, ac aeth at Mr. Thornton i ofyn caniatad i adael ei gwaith ychydig yn gynarach i'r pwrpas hwnw, gan addaw codi yn foreuach dranoeth. i wneyd iawn am y golled. Gofynai yntau: "A ydych yn hoffi pregethau Mr. Romaine?" "Ydwyf," meddai hithau, "y mae yn gwneyd i mi gofio am Gymru, oblegyd y mae gyda ni yno bregethwr heb ei fath." Arweiniodd hyn y boneddwr i holi hanes Rowland, ac yn raddol daeth yn un o'i gyfeillion mwyaf mynwesol Canlyniad y cyfeillgarwch oedd cynyg iddo fywoliaeth Trefdraeth; ond pan glywodd y bobl yn Llangeitho, llanwyd hwy a thristwch; cynullent yn lluoedd i'w dŷ, gan daer erfyn arno am beidio eu gadael; dadleuent mai efe oedd eu tad, ac na fyddai neb ganddynt i dori bara'r bywyd iddynt pe y cefnai efe. A'u llefau a orfu, penderfynodd Rowland aros lle yr ydoedd, ac ymddibynu ar Raghliniaeth. Pan yr anfonodd ei benderfyniad, a'i resymau drosto, trwy law ei fab i Mr. Thornton, atebai yntau: "Yr oedd genyf feddwl mawr am eich tad o'r blaen, ond y mae genyf fwy meddwl o hono yn awr, er ei fod yn gwrthod y rhodd a gynygiais. Y mae ei resymau dros hyny yn anrhydedd iddo. Nid wyf yn arfer gadael i eraill wthio eu dwylaw i'm llogell, ond dywedwch wrth eich tad fod croesaw iddo roddi ei law ynddi bryd bynag y myno." Dywedir ddarfod iddo cyn hyny wrthod bywioliaeth yn Ngogledd Cymru yn hollol oblegyd yr un rhesymau.

Cawn gyfeirio yn nes yn mlaen at yr ymraniad anhapus a gymerodd le rhwng Rowland a Harris, a'r rhwyg a achoswyd yn y Cyfundeb mewn canlyniad. Gwedi yr ymraniad, Rowland a ystyrid fel arweinydd; arno ef y disgynai yr holl ofal; wrtho ef, mewn undeb a'i gyfaill hoff, Williams, Pantycelyn, y disgwylid am gadw i fynu burdeb mewn athrawiaeth a disgyblaeth. Nid ysgôdd yntau y cyfrifoldeb a orphwysai arno; cymerai faich yr holl eglwysi ar ei ysgwyddau, ac nid bychan a fu ei drafferthion. Nid yw yn ymddangos i'r heresi Arminaidd beri fawr traffeth iddo; yr oedd gweinidogaeth y Diwygwyr Cymreig, o'r dechreuad, yn drwyadl Galfinaidd. Ond yn raddol aeth rhai o'r cynghorwyr i'r eithafion cyferbyniol. Llyncodd un o honynt y cyfeiliornad Sandemanaidd, sef nad yw y ffydd sydd yn cyfiawnhau ond cydsyniad noeth a gwirionedd yr efengyl. Gwnaethai y cyfeiliornad yma ddifrod dirfawr ar yr eglwysi yn Lloegr. [1] Yn awr, yr oedd un Mr. Popkins, pregethwr tra phoblogaidd, yn myned o gwmpas, gan gyhoeddi yr un syniadau yn mysg y Methodistiaid. Gwnaeth y gŵr hwn lawer o ofid i Rowland. O'r diwedd, dygwyd ef i brawf mewn cymdeithasfa, cauwyd ei enau yn hollol, ac ni flinwyd y Cyfundeb ganddo mwyach. Trafaelodd o gwmpas, gwedi ei fwrw allan, mor bell a Sir Gaernarfon, er ceisio lledaenu ei egwyddorion, ond aflwyddianus hollol a fu ei ymgais i enill canlynwyr. Ni fuasai Sandemaniaeth wedi cael lle i osod ei throed i lawr yn Nghymru, oni bai i Jones, o Ramoth, un o brif weinidogion y Bedyddwyr, gael ei hudo ganddi; parodd hyn niwed dirfawr i gyfundeb y Bedyddwyr yn y Gogledd. Eithr denwyd amryw gan yr heresi Antinomaidd, y rhai a arweinient fywyd penrhydd, ac a wnaent ras Duw yn achlysur i'r cnawd. Yn mysg y rhai hyn yr oedd im o'r enw David Jones, pregethwr o ddoniau mawr, ac yn dra phoblogaidd trwy Ddê a Gogledd, yr hwn hefyd oedd yn nai i Rowland ei hun. Aeth y gŵr hwn yn falch ac yn annyoddefol, o hunanol. Ni phetrusai wrthwynebu Rowland a Williams yn gyhoeddus mewn cymdeithasfa; pan y pwysleisient hwy ar yr angenrheidrwydd am edifeirwch, a sancteiddrwydd buchedd, dywedai yntau:—"Mor ddall a deddfol ydych; nid ydych fel pe baech



Nodiadau[golygu]

  1. Ministerial Records