Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Daniel Rowland, Llangeitho (tud-2)

Oddi ar Wicidestun
Daniel Rowland, Llangeitho (tud-1) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Daniel Rowland, Llangeitho
gan John Morgan Jones

Daniel Rowland, Llangeitho
Daniel Rowland, Llangeitho (tud-3)

Presbyteraidd Llwynpiod, tra y pregethai ef yn Llangeitho i furiau moelion. Wedi ymholi, cafodd fod gweinidogaeth y gwr hwnw yn tueddu i ddefroi cydwybodau dynion, trwy ddynoethi eu pechodau, a'u trueni, a'u perygl. Penderfynodd yntau gymeryd yr un cynllun. Dechreuodd daranu yn ofnadwy yn erbyn drygioni, a darlunio trueni yr annuwiol yn y byd a ddaw yn y modd mwyaf brawychus a byw. Dewisai, gan hyny, destunau priodol i'r amcan, megys, "Y drygionus a ymchwelant i uffern," "Y rhai hyn a ânt i gospedigaeth dragywyddol," "Daeth dydd mawr ei ddigter ef." Llwyddodd y cynllun yn mhell y tu hwnt i'w ddisgwyliad. Aeth yr eglwys yn rhy fach i ddal y gynulleidfa. Tyrai dynion o bob parth o'r wlad i wrando arno, dychrynid hwy yn ofnadwy gan weinidogaeth frawychus yr offeiriad ieuanc hyawdl, a dywedir fod dros gant o ddynion wedi eu dwyn tan argyhoeddiad dwys, cyn i'r pregethwr ei hun deimlo dylanwad y gwirionedd. Ond yn raddol darfu i'r gwirioneddau a draethai gyda'r fath nerth, ddwysbigo ei gydwybod yntau.

Yn ol traddodiad arall, yr hwn a adroddir gan y Parch. John Owen, Thrussington, daeth yr Hybarch Griffith Jones, Llanddowror, i bregethu i Eglwys Llanddewi-brefi, fel yr arferai weithiau, a phenderfynodd Daniel Rowland fyned i'w wrando. Gan mor lliosog oedd y gwrandawyr, nid oedd lle iddynt oll eistedd; a bu raid i Rowland, fel canoedd eraill, sefyll ar ei draed trwy ystod y gwasanaeth. Safai gyferbyn a'r pregethwr, ac yr oedd ei ymddangosiad a'i osgo yn falchaidd a choeg; eisteddai gwatwareg ar ei wedd; a hawdd gweled ei fod yn teimlo yn ddirmygus at yr hwn oedd yn y pwlpud, ac at y bobl oedd wedi ymgynull i'w glywed. Tynodd ei agwedd sylw Griffith Jones, methodd beidio cyfeirio ato yn gyhoeddus; a thorodd allan mewn gweddi ddifrifol ar ei ran. Aeth y saeth i galon Daniel Rowland; syrthiodd ei wynebpryd, llesmeiriodd ei galon, crynodd ei liniau ynghyd, a darostyngwyd y creadur uchelolwg yn bechadur digymorth ger bron Duw. Aeth adref gyda ei gymdeithion mewn dystawrwydd, a'i wyneb tua'r llawr, a golwg ddifrifol arno.

Nid yw y ddau draddodiad mewn un

—————————————

PANTYBEUDY: LLE GENEDIGAETH DANIEL ROWLAND.

—————————————



Nodiadau[golygu]