Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Daniel Rowland, Llangeitho (tud-3)

Oddi ar Wicidestun
Daniel Rowland, Llangeitho (tud-2) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Daniel Rowland, Llangeitho
gan John Morgan Jones

Daniel Rowland, Llangeitho
Daniel Rowland, Llangeitho (tud-4)

modd yn anghyson. Efallai i'w argyhoeddiad gael ei gychwyn gan y gwirioneddau a draethid ganddo ef ei hun, er mai tan weinidogaeth Griffith Jones y llwyr orchfygwyd ef. Nid yw yn anmhosibl fod ei gydwybod yn anesmwyth ynddo, pan yn sefyll yn dalgryf a balch o flaen gwyneb y pregethwr yn Eglwys Llanddewi-brefi; efallai fod yr anesmwythid hwnw, a'i ymdrech yntau i gael concwest arno, yn peri iddo ymroddi i fwy o goegni a herfeiddiad nag a wnelsai oni bai hyny; dyma ymdrech olaf natur lygredig i wrthsefyll nerth y gwirionedd, a hawdd deall ei bod yn frwydr galed ac ystyfnig. Pa fodd bynag, dychwelodd yn ei ol yn ddyn newydd. O herwydd yr olwg a gawsai ar ei gyflwr, ac ar ei waith yntau ei hun yn pregethu heb unrhyw amcan teilwng, teimlai yn athrist ar y ffordd, ac yn llawn digalondid, gan benderfynu na esgynai risiau y pwlpud mwy. Soniai y bobl oedd o'i gwmpas am y bregeth ryfedd a glywsent, gan dystio na wrandawsent ei chyffelyb erioed o'r blaen; disgynai eu hymadroddion fel plwm ar ei galon yntau, nes y llewygai ei yspryd ynddo, ac y cryfheid ei benderfyniad i beidio pregethu mwyach. Eithr yr oedd un amaethwr yn eu mysg, yr hwn a farchogai wrth ochr yr offeiriad athrist, ac wrth glywed y bobl yn mawrygu pregeth Griffìth Jones, tarawodd ei law ar ysgwydd Rowland, gan ddweyd: " Wel, wel, canmolwch chwi a fynoch ar y bregeth heddyw, ni chefais i ddim budd ynddi; y mae genyf fi achos diolch i Dduw am offeiriad bach Llangeitho." Cafodd geiriau y ffermwr effaith rymus ar feddwl llwfr yr offeiriad ieuanc. Penderfynodd na wnai roddi i fynu y weinidogaeth, gan ddweyd ynddo ei hun: "Pwy a wyr na wna yr Arglwydd ryw ddefnydd o honof finau, greadur gwael." Mor dda yw gair yn ei amser!

Mewn canlyniad i'r tro mawr a gymerodd le arno yn Eglwys Llanddewi-brefi, daeth gweinidogaeth Rowland yn fwy angerddol. Ý ddeddf a bregethid ganddo; y ddeddf yn ei hysprydolrwydd, yn manylrwydd ei gofynion, ac yn ofnadwyaeth ei melldithion. Yr oedd ei hun wedi bod yn y tywyllwch dychrynllyd lle y mae Duw; toddasai ei galon fel cwyr yn y presenoldeb dwyfol; ac yn awr, safa yntau ar gopa mynydd Sinai, gan gyhoeddi dinystr ar euog fyd. Meddai y Parch. John Hughes[1] " Yr oedd mellt a tharanau arswydus yn ei weinidogaeth. Teimlai ei wrandawyr fel pe y crynai y ddaear dan draed, gan rym y bygythion a gyhoeddai. Saethodd fellt, a gorchfygodd ei wrandawyr. Dilynid ei weinidogaeth, bellach, gan effeithiau rhyfeddol. Daethai ar y trigolion diofal fel braw disymwth; deffroid hwy megys gan ruad taranau trymion. Meddianid y canoedd a'r miloedd a ddeuent weithiau i'w wrando a braw aruthrol, a syrthiai llawer o honynt i lawr fel meirwon. Gellid canfod arswyd a dychryn wedi ei bortreadu ar wynebau y dyrfa fawr; llethid eu cydwybodau gan saethau llymion; a llifai eu dagrau yn afonydd dros eu gruddiau, fel cawodydd o wlaw ar ol taranau mawrion." Tra y pregethai fel hyn, gan fygwth yr annuwiol, dywedir nad oedd gerwinder yn ei lais, na llymder yn ei wedd; ond i'r gwrthwyneb, y tynerwch mwyaf toddedig, fel pe y buasai ei ymysgaroedd yn toddi o'i fewn, oblegyd cyflwr difrifol y gynulleidfa.

"Boanerges oedd ei enw,
Mab y daran danllyd gref,
Sydd yn siglo yn ddychrynllyd
Holl golofnau dae'r a nef;
Dewch, dihunwch, oedd yr adsain,
Y mae 'n dinas ni ar dân;
Ffowch oddiyma mewn mynydyn
Ynte ewch yn ulw mân."

Ar yr un pryd, er mor rymus y pregethai Daniel Rowland, ac er mor angerddol y dylanwadau oeddynt yn cydfyned a'i weinidogaeth, nid yw yn ymddangos fod ei olygiadau am athrawiaethau hanfodol yr efengyl mewn un modd yn glir. Yr oedd wedi llyncu rhai o syniadau cyfeiliornus William Law. Prin hefyd y deallai fod iachawdwriaeth yn gyfangwbl o ras; yn hytrach, pregethai fel pe byddai mewn rhan trwy ras, ac mewn rhan trwy weithredoedd. Oblegyd hyn, achwynai rhai perthynol i gynulleidfa Llwynpiod wrth Mr. Pugh, eu gweinidog, gan geisio ganddo fyned at Rowland i ymliw ag ef oblegyd ei gyfeiliornadau, a cheisio ei osod ar yr iawn. Ond yr oedd yr hen weinidog hybarch yn adnabod y natur ddynol yn well. " Gadewch ef yn llonydd," meddai, " offeryn yw ag y mae yr Arglwydd yn ei gyfodi i wneyd rhyw waith mawr yn y byd. Fe ddiwygia mewn amser. Plentyn ydyw eto; fe ddysg ei Dad nefol ef yn well."Ateb teilwng o apostol. Meddai Dr, Lewis Edwards, "Nid wyf yn gwybod am ddim yn holl hanes Rowland ei hun, sydd yn dangos mwy o fawredd moesol na'r dywediad hwn o eiddo gweinidog yr Ymneillduwyr yn Llwynpiod."



Nodiadau[golygu]

  1. Methodistiaeth Cymru Cyf i tudalen 69