Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Daniel Rowland, Llangeitho (tud-4)

Oddi ar Wicidestun
Daniel Rowland, Llangeitho (tud-3) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Daniel Rowland, Llangeitho
gan John Morgan Jones

Daniel Rowland, Llangeitho
Daniel Rowland, Llangeitho (tud-5)

Yr ydym am olrhain arweiniad rhagluniaeth ddwyfol yn mywyd Daniel Rowland. Ni symudodd gam, ond fel yr oedd bys Duw yn cyfeirio. Arweiniwyd ef i bregethu y tu allan i derfynau ei blwyf yn y modd canlynol. Yr oedd gwraig o gymydogaeth Ystrad-ffìn, yn Sir Gaerfyrddin, a chanddi chwaer yn preswylio yn Llangeitho. Pan ar ymweliad a'r chwaer hon, clywodd y wraig bethau ryfedd am bregethu Daniel Rowland, ac am y dylanwadau rhyfeddol oedd yn cydfyned a'i weinidogaeth, nes y gelwid ef gan y difeddwl yn y gymydogaeth yn 'ffeirad crac. Penderfynodd fyned i'w wrando. Ond aeth ymaith boreu dydd Llun heb ddweyd gair wrth ei chwaer am y pregethwr na'r bregeth. Y Sabbath canlynol, pa fodd bynag, wele hi yn nhŷ ei chwaer drachefn. Dychrynodd hono, gan dybio fod rhyw ddamwain alaethus wedi digwydd, a gofynodd yn frawychus, "Beth sydd yn bod? A oes rhywbeth wedi digwydd i'r gŵr neu i'r plant? " "Nag oes," meddai y wraig, "y mae pob peth yn y teulu o'r goreu." "Paham y daethoch yma heddyw eto, ynte? " "Nis gwn yn iawn," oedd yr atebiad; "rhywbeth a ddywedodd eich 'ffeirad crac chwi sydd wedi gafaelu yn fy meddwl, fel yr wyf wedi methu cael llonydd na dydd na nos." I wrando Rowland yr aeth, a pharhaodd i fyned yno bob Sabbath, er fod ganddi dros ugain milldir o ffordd arw, tros fynyddoedd anhygyrch, i'w teithio. Un tro mentrodd fyned ato, a dweyd, "Syr, os gwirionedd yw yr hyn ydych chwi yn bregethu, y mae llawer o ddynion yn fy nghymydogaeth i mewn cyflwr truenus iawn; er mwyn yr eneidiau gwerthfawr sydd yn cyflymu i golledigaeth mewn anwybodaeth, deuwch trosodd i bregethu iddynt."Tarawyd Rowland, a chwedi myfyrio am ychydig, atebai yn ei ddull sydyn ei hun, "Dôf, os câf ganiatâd yr offeiriad." Y caniatâd gofynol a gafwyd, aeth Rowland i gapel Ystradffin i bregethu, yr hyn a wnaed ganddo gyda chysondeb am rai blynyddoedd, a dychwelwyd llawer trwy ei weinidogaeth. Gyda chyfeiriad at hyn y canai Williams:[1]

"Daeth y sŵn dros fryniau Dewi,
Megys fflam yn llosgi llin,
Nes dadseinio creigydd Towi,
A hen gapel Ystrad-ffin."

Y mae amheuaeth a oedd Eglwys Loegr yn defnyddio capel Ystrad-ffìn yr adeg hon. Buasai yn nghau, heb fod unrhyw wasanaeth crefyddol yn cael ei gynal ynddo, am gryn amser; nid annhebyg ei fod felly ar hyn o bryd. Digwyddodd amgylchiad teilwng o'i gofnodi ynglyn a phregeth gyntaf Daniel Rowland yn Nghwm Towi. Yr oedd yn y gymydogaeth foneddwr, annuwiol ei foes, yr hwn a arferai dreulio y Sabbath mewn hela gyda ei gŵn. Clywsai yntau fod Rowland i ddyfod i'r capel i bregethu y Sul hwnw, a'i fod allan o'i bwyll, ac yn dweyd pethau rhyfedd. Aeth ef a'i gymdeithion i wrando, er mwyn difyrwch cnawdol, os nad er mwyn codi terfysg. Safai yn dalgryf ar fainc gyferbyn a'r pregethwr; yr oedd dirmyg yn ei wedd, a gwatwareg yn argraffedig ar ei wynebpryd. Amcanai ddyrysu gweinidog Duw. Deallai Rowland ei fwriad yn dda, ond yr unig effaith a gafodd arno oedd peri iddo fod yn fwy hyf dros ei Feistr. Ei destun ydoedd, " Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylaw y Duw byw! " Dechreuodd daranu yn ofnadwy, fflamiai ei lygaid gan eiddigedd sanctaidd dros Dduw, a disgynai ei ymadrodd llon gyda y fath nerth a dylanwad nes yr oedd y gynulleidfa yn welw gan ddychryn. Yn fuan dyma ddychrynfeydd y farn yn ymaflyd yn y boneddwr annuwiol; gwelwa ei wedd a diflana ei uchel-drem; y mae ei liniau yn curo ynghyd fel eiddo Belsassar, pan y gwelodd y darn Haw yn ysgrifenu ar galchiad y pared, ac ymollyngodd yn sypyn diymadferth ar y llawr. felly yr arhosodd hyd ddiwedd y bregeth, gan grynu ac wylo. Wedi i'r gwasanaeth derfynu, aeth at Rowland gan gyfaddef ei fai, a'i ddrwg-fwriad wrth ddyfod i wrando arno; gofynai ei faddeuant yn edifeiriol, a dyraunai arno fyned adref gydag ef i giniaw ac aros tros y nos. Achubwyd y dyn, elai i Langeitho unwaith y mis ar ol hyn tra y bu byw, a dygai ei ymarweddiad da a'i ddefosiwn dystioleth ddiamheuol i wirionedd ei grefydd.

Dyna fel yr arweiniwyd Daniel Rowland i weinidogaethu allan o'i blwyf; dyddorol sylwi eto pa fodd ei cymellwyd i bregethu mewn lleoedd anghysegredig. Dylid cofio mai adeilad eglwysig oedd Capel Ystrad-ffin, a'i fod wedi cael ei gysegru yn rheolaidd gan esgob, yn yr amser gynt, i weini mewn pethau sanctaidd ynddo. Ymddengys fod nifer o ieuenctyd annuwiol yn nghymydogaeth Llangeitho wedi ymgaledu mewn drygioni i'r fath raddau fel na allai hyd yn nod enwogrwydd Rowland eu tynu i wrando yr efengyl; treulient eu Suliau ar ben bryn gyferbyn a'r pentref, lle yr ymroddent i bob math o chwareuon annuwiol, er mawr ofid i'w enaid sanctaidd



Nodiadau[golygu]

  1. Y gerdd yn gyfan: Saith o Farwnadau/Y Parch Daniel Rowlands, Llangeitho