Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Daniel Rowland, Llangeitho (tud-5)

Oddi ar Wicidestun
Daniel Rowland, Llangeitho (tud-4) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Daniel Rowland, Llangeitho (tud-6)

Gwnaeth ei oreu i osod terfyn ar y cyfryw chwareuon, ond bu pob ymdrech o'i eiddo yn aflwyddianus. O'r diwedd penderfynodd yr ai yno i bregethu. Yno yr aeth ryw Sabbath, a'i yspryd gwrol yn llawn o hyfdra sanctaidd; methodd y cwmni drygionus ddal mîn a nerth yr athrawiaeth, ac ymwahanasant am y cyntaf. Fel hyn y chwalwyd y nyth annuwiol hono. Wedi dechreu rhybuddio dynion drwg y tu allan i furiau yr eglwys, gan ymosod arnynt megys ar eu tiriogaethau eu hunain; a chwedi canfod y fath lwyddiant a'r fath fendith yn cydfyned a'i ymdrechion, naturiol iddo oedd myned rhagddo, a phregethu pa le bynag y caffai ddrws agored, heb ofalu a oedd y ddaear wedi cael ei chysegru gan esgob ai peidio. Felly y gwnaeth, ac yn bur fuan ymwelodd a rhanau helaeth o Gymru, gan gyhoeddi yr efengyl gyda llwyddiant mawr.

Dywedir iddo gael ei arwain hefyd, yn annibynol ar yr hyn a wnaeth Howell Harris, ac yn wir heb wybod am dano, i sefydlu seiadau profiad. Fel hyn y bu. Gofynodd i un o'r aelodau perthynol i Lancwnlle am alw gyda'r rhai oedd raewn cymundeb yno, a'u gwahodd i'w gyfarfod ef ar noswaith benodol mewn tŷ o'r enw Gelli-Dywyll, gerllaw Bwlchdiwyrgara, yr hwn le sydd mewn cwm cul ac unig yn arwain allan o ddyffryn Aeron. Daeth y rhai a wahoddasid ynghyd erbyn yr amser, ond methent ddeall beth a allasai ei amcan fod wrth eu cynull. Ofnent ei fod yn myned i'w ceryddu ara ryw feiau a ganfyddai ynddynt. Eithr gwasgarwyd eu hofnau yn fuan, canys gwelsant raai ei ddyben oedd eu lioh am natur ac aracan Swper yr Arglwydd,. a'u dysgu yn fanylach gyda golwg ar y sacrament sanctaidd. Treuliasant y rhan fwyaf o'r nos gyda'r gwaith hyfryd hwn, yn cael eu hadeiladu a'u cadarnhau yn y gwirionedd. Am gryn amser cedwid y cyfarfodydd hyn yn nhy teiliwr a breswyhai yn y cwm crybwylledig, o herwydd ei neillduedd, eithr yn mhen amser symudwyd hwy i un o ysguboriau Daniei Rowland. Caent eu cadw ar y cyntaf yn achlysurol, fel y byddai cyfleustra yn caniatau; weithiau ar y Sabbath, a phryd arall ar ddydd gwaith, yn y dydd neu yn yr hwyr; ac weithiau ar ol pregeth, pan fyddai pregethwr yn dyfod ar daith. Yn raddol, fodd bynag, daethant i gael eu cynal yn wythnosol, a gelwid y frawdoliaeth fyddai yno yn " gymdeithas grefyddol," yn society, neu yn band;" ond nid un amser yn eglwys, rhag traragwyddo yr Eglwyswyr. Gwelir fod anghenion ysprydol y rhai a gawsant eu hargyhoaddi wedi arwain Daniel Rowland

—————————————

GOLYGFA TUFEWNOL AR EGLWYS LLANGEITHO

(Allan o Meyrick's History of Cardiganshire)

—————————————



Nodiadau[golygu]