Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Daniel Rowland, Llangeitho (tud-24)

Oddi ar Wicidestun
Daniel Rowland, Llangeitho (tud-23) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Daniel Rowland, Llangeitho (tud-25)

gair oedd athrawiaeth Daniel Rowland. Byr-eiriog oedd ei ddull o lefaru, a byddai ei ymadroddion yn gryno, sylweddol, a synwyrlawn. Pregethai yn ei arddull briodol ei hun, ac nis gellid ei ddynwared. Yr wyf megys pe gwelwn ef yn a wr, yn ei ŵn du, yn myned i mewn trwy y drws bychan oddi allan i'r pwlpud, ac yn ymddangos felly yn ddisymwth i'r gynulleidfa fawr. Yr oedd ei wedd, yn mhob ystyr, wedi ei haddurno a mawredd, ac yn arddangos synwyr cryf, hyawdledd, ac awdurdod. Yr oedd ei dalcen yn uchel a llawn; ei lygaid yn llym, yn fywiog, a threiddiol; ei drwyn yn eryraidd, neu Rufeinig; ei wefusau yn weddus, ac yn arwyddo penderfyniad; ei ên yn taflu allan ac yn codi ychydig; a'i lais yn soniarus, peraidd, cryf, a dylanwadol iawn. Yr arfer gyffredin fyddai i ryw weinidog ddarllen a gweddïo, cyn y cyfodai Rowland yn y pwlpud; yna rhoddai yntau allan, gyda llais eglur a hyglyw, air o Salm i'w ganu, megys xxvii. 4:

Un arch a eichais ar Dduw Nâf,
A hyny a archaf eto;
Cael dyfod i dy yr Arglwydd Glân,
A bod a'm trigfan yno.'

Un penill a genid o flaen pregeth yn y dyddiau hyny, oedd mor rhyfedd am ddylanwadau nerthol. Ymunai'r holl gynulleidfa i ganu gyda gwresogrwydd mawr; eto heb ddyblu ond ychydig o flaen pregeth, rhagi'r olew nefol redeg dros y llestri yn rhy fuan. Yna cyfodai Rowland, a darllenai ei destun yn eglur i glyw pawb. Byddai yr holl gynulleidfa megys yn glustiau i gyd, yn astud iawn, fel pe buasent ar wrando rhyw oracl efengylaidd a nefol. Byddai llygaid yr holl bobl ar yr un pryd yn craffu arno yn ddyfal. Yn nechreu ei bregeth, byddai ganddo ryw syniad tarawiadol, cyffrous, megys blwch bychan o enaint i'w agor o flaen blwch mawr ei bregeth, yr hwn, pan ei hagorid, a wasgarai berarogl yr enaint trwy yr holl gynulleidfa, ac a baratoai ddisgwyliadau y bobl am agoriad y blychau dilynol, o un i un, trwy'r bregeth, nes llenwi yr holl dy a'i arogl nefol, megys perarogl blwch enaint Mair yn Bethania gynt. Wedi cyffroi y gynulleidfa, fel hyn, a rhyw feddwl anghyffredin, efe a ranai ei destun, ac a ai yn mlaen gyda'r rhaniad cyntaf, gan blygu ei ben ychydig, fel ag i daflu cipolwg ar ei nodiadau a fyddent ar ddernyn o bapyr o'i flaen. Gwelais ei nodiadau ar y testun, 'Edifarhewch,' &c., y rhai oedd yn bur fyrion, fel hyn: ' (1) Edifeirwch, o ran ystyr, yw cyfnewidiad meddwl, am Dduw ac am ddyn, am y ddeddf a'r efengyl, am bechod a sancteiddrwydd, am ddrygioni'r galon a'r fuchedd, am haeddiant dyn a haeddiant Crist, ac am allu dyn, a nef a daear, ac uffern obry. (2) Y mae Duw yn galw ar ddyn i edifarhau. Clyw weinidogaeth Ioan Fedyddiwr, a Christ, a Phetr ar ddydd y Pentecost, a Phaul yn Pisidia. (3) Y mae Duw, o'i ras, yn rhoddi edifeirwch trwy Iesu Grist. Efe yw'r bibell euraidd, trwy yr hon y rhed holl ffrydiau gras a gogoniant. Cofia ymadrodd Petr, bod Duw yn rhoddi edifeirwch a maddeuant pechodau, drwy fendith yn dyfod o groth fawr arfaeth y nef, ac y maent fel efeilliaid yn canlyn eu gilydd yn ddiwahan; neu fel dwy râff yn tynu llong iachawdwriaeth dros y bâsleoedd peryglus, trwy effaith eiriolaeth Crist yn tynu pechaduriaid ato ei hun.'

Yr ydym yn awr yn dyfod at y rhan anhawddaf o'r desgrifiad, gan nas gallwn beri i ddelw fud lefaru, na dyn marw i fod yn fyw. Wedi cymeryd cipolwg ar ei nodiadau, o ran arfer yn fwy na dim arall, dechreuai ymadroddi yn bwyllog, gan lefaru yn rhwydd a hyglyw. Cyffelybaf ef i'r gôf yn rhoddi yr haiarn yn y tân, ac yn dywedyd wrth y chwythwr am chwythu mwy neu lai, gan gadw ei lygad o hyd ar yr haiarn yn y tân, ac ar yr un pryd yn gallu siarad am bedoli, a durio'r sẃch a'r cwlltwr. Y mae'r tân yn fflamio fwy-fwy, a gwreichion y twym-iâ s yn esgyn i fynu. Yna cipia yr haiarn, wedi ei ddwyni dymer doddedig ac ystwyth, i'r engan, a'r ordd fawr a'r morthwyl yn curo arno, nes i'r gwreichion ehedeg trwy yr holl efail. Yn gyffelyb y byddai Rowland, yn poethi ac yn brydio yn raddol, fel y byddai yn graddol deimlo ei fater; ac o'r diwedd dyrchafai ei lais yn awdurdodol, nes y byddai yn dadseinio trwy'r holl gapel. Bydda i yr effeithiau ar y bobl yn rhyfeddol; nis gwelid dim ond gwenau a dagrau yn treiglo dros eu gwynebau; a byddent ar yr un pryd yn bloeddio mewn gorfoledd. Cyfodai hyn oll o fflam ei oslef, a godidowgrwydd ei fater; a'i fywiogrwydd yntau o'r fflam a fyddai yn y meddyliau dyrchafedig a draddodid ganddo, yn nerthoedd yr Yspryd Glân. Yr oedd y gwahaniaeth yma rhyngddo ef a Whitefield; pan fyddai Whitefield fwyaf angerddol yn nhônau peraidd ei lais, byddai braidd yn gwanhau yn ei fater; ond ei fater a fyddai yn dyrchafu hyawdledd Rowland, a byddai ei



Nodiadau[golygu]