Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Daniel Rowland, Llangeitho (tud-25)

Oddi ar Wicidestun
Daniel Rowland, Llangeitho (tud-24) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Daniel Rowland, Llangeitho (tud-26)

lais yn dyrchafu gyda'i faterion. Gwedi i'r iâs hon lonyddu, dan y pen cyntaf, ac iddo frysio edrych ar ei bapyrun nodiadau, dechreuai yr ail waith doddi ac ystwytho meddyliau ei wrandawyr, nes eu dwyn drachefn i'r unrhyw dymer nefol. Gwnai felly weithiau chwech neu saith waith yn yr un bregeth, a byddai y twym-iâs nefol, a serch y gynulleidfa yn y sefyllfa fwyaf angerddol. Pur ychydig a fyddai ganddo yn niwedd y bregeth mewn ffordd o gasgliadau, neu gymhwysiad, gan y byddai yn cymhwyso ac yn cymell gwirioneddau gogoneddus yr efengyl trwyddi oll. Terfynai gydag ychydig sylwadau tarawiadol a grymus; yna gweddïai yn fyr ac yn felus, a datganai y fendith. Yna, yn llawn chwys, brysiai allan o'r pwlpud trwy'r drws-bychan, a hyny mor sydyn ag y daethai i mewn. Os na byddai cymundeb ar ol, gadewid y gynulleidfa fawr mewn hwyl nefol, yn mwynhau llewyrch wyneb eu Harglwydd, a hyn oll yn y modd nas gellir ei ddesgrifio ar bapyr. . . . Yr oedd y fath wresogrwydd tanbaid, anorchfygol, yn ei bregethiad, fel ag i ymlid ymaith yn effeithiol yspryd diofal, bydol, a marwaidd; a byddai'r bobl, wedi ei deffro felly, yn nesau megys yn y cwmwl goleu, at Grist, a Moses, ac Elias, a thragywyddoldeb a'i sylweddau aruthrol yn goresgyn eu meddyliau! Seren o'r maintioli mwyaf oedd efe, a thebyg na bu yn Nghymru ei gyffelyb er dyddiau yr apostolion. Y darlun uchod a dynais o'r pregethwr tywysogaidd hwn o barch i'w goffadwriaeth."

Gallasem ddifynu llu o dystiolaethau eraill i brofi fod Daniel Rowland yn bregethwr digyffelyb, ond rhaid i ni ymfoddloni bellach ar y darluniad canlynol o eiddo y Parch. Dr. Owen Thomas: [1] " Siaradai, ar y cyntaf, yn hytrach yn isel, ond yn dra chyflym; yn gymaint felly fel mai anhawdd braidd oedd ei ddilyn. Yr oedd yn ymddangos am amryw fynudau fel pe y buasai yn ofnus, ac heb ymddiried hollol ynddo ei hun. Ond, yn raddol, fe ddiflanai hyny, ac fe enillai hunan-feddiant perffaith. Siaradai yn awr yn fwy araf, ond yn uwch ac yn rymusach, gan ymwresogi fel yr elai rhagddo, a'r holl gynulleidfa yn cynhesu gydag ef, nes y byddai iâs o deimlad tyner yn treiddio trwyddi. Y mae wedi darfod yn awr a'r sylw cyntaf; yn gostwng ei lais; yn rhoddi ysgydwad naill-ochrog arno ei hunan; ac yn dechreu ar yr ail sylw. Y mae yn cychwyn eto yn lled araf a phwyllog, ond yn cyflymu yn fuan iawn, ac yn llefaru gyda nerth a rhwyddineb anghyffredin; y mae ei lygaid yn treiddio trwy'r capel; ei lais yn ymddyrchafu; ei deimladau yn tanio; y mae y gwres yn awr yn cydio yn y bobl; y mae y dagrau yn treiglo dros eu gruddiau; yr Amenau cynnes yn dyfod dros eu gwefusau; a'r pregethwr a hwythau mewn meddiant hapus o'u gilydd. Y mae yn darfod a'r ail sylw. Y mae yn disgyn yn raddol, drachefn, i'r tawelwch a'r pwyll a deimlid yn angenrheidiol ganddo gyda phob adgychwyniad.

Ac ni a glywsom y sylw gan fwy nag un o'i hen wrandawyr, na byddai efe byth yn ymddangos yn well fel siaradwr, na phan yn disgyn o'r arucheledd teimlad, y byddai efe ei hunan a'r gynulleidfa wedi eu codi iddo, i'r arafwch a roddai iddo y fantais oreu i ail ddisgyn. Ni welwyd mo hono erioed yn syrthio i lawr, ond yn disgyn yn dawel ac yn esmwyth, a'i holl nerth ganddo i ail godi. A dyna fo yn esgyn eto, ac yn cyfodi ei gynulleidfa gydag ef, i deimladau uwch, a dwysach, a phoethach. Y mae'r Ameniau ' yn amlach a chryfach; bloeddiadau, Diolch, Bendigedig, Gogoniant, i'w clywed o bob cwr i'r capel; a'r holl gynulleidfa, mewn hwyl hyfryd, yn mwynhau gorfoledd yr iachawdwriaeth. Ond y mae y pregethwr yn arafu; yn disgyn drachefn, braidd yn esmwythach ac yn brydferthach nag o'r blaen; ar. yn rhoddi ychydig eiliadau o seibiant i'r bobl i ddisgyn gydag ef. Eithr y mae heb ddarfod eto. Y mae yn cychwyn drachefn, ac i fynu, yn uwch, uwch, UWCH. Y mae golwg ryfedd erbyn hyn arno. Y mae ei lygaid yn fflamio; ei lais yn ymdori; ei wyneb yn dysgleirio; ei holl gorph yn ymddangos fel pe byddai wedi ei ysprydoli; yr enaid mawr yn gollwng allan, yn ffrydlif o hyawdledd byw, y meddyliau mwyaf tanllyd; a'r rhai hyny yn tanio yr holl gynulleidfa, ac yn ei chyfodi i hwyliau rhyfedd o orfoledd a mawl. Y mae llais y pregethwr wedi ei golli yn awr yn mloeddiadau a chaniadau y dyrfa; y mae yntau yn terfynu, nad oes neb yn gwybod pa fodd ond efe ei hun; ac yn gadael y gynulleidfa i orfoleddu am oriau. Ý mae yn cymeryd ychydig luniaeth, yn myned am ddwy awr i'w wely i orwedd; ac yn ei gwsg yn adenill rhyw gymaint o'r yni gwefrol a gollwyd ganddo, mewn awr o amser, yn y capel."



Nodiadau[golygu]

  1. Cofiant y Parch John Jones, Talsarn Rhan II