Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Griffith Jones, Llanddowror (tud-10)

Oddi ar Wicidestun
Griffith Jones, Llanddowror (tud-9) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Griffith Jones, Llanddowror (tud-11)

mae lle i dybio hefyd nad oedd yn cymeradwyo yn gyfangwbl y cyffro a'r gwaeddu oedd yn cydfyned a gweinidogaeth nerthol Daniel Rowland, a bod rhywrai wedi cludo iddo anwireddau am ymddygiadau y y gŵr da hwnw, ac am ei syniadau tuag ato.[1] Mewn llythyr at Rowland, dywed Howell Harris ddarfod iddo ei amddiffyn wrth Grtffith Jones, a'i hysbysu nad oedd wedi ei glywed yn dweyd gair yn isel am G. Jones erioed; ond fel arall yn hollol, ei fod bob amser yn siarad yn barchus am dano, ac am ei waith. Yn mhellach, ei fod yn gwneyd defnydd mawr o'i Gatecism, ac yn anog y bobl i'w brynu.

Tebygol hefyd y barnai Griíììth Jones y gallai wneyd mwy o ddaioni ynglyn ag achos y Gwaredwr trwy beidio ymuno yn gyhoeddus a'r Methodistiaid, gan y byddai hyny yn debyg o greu rhagfarn yn erbyn ei ysgolion ac yn erbyn ei lyfrau. Nid ydym yn sicr nad oedd yn barnu yn gywir. Pa fodd bynag, amlwg yw ei fod mewn cydymdeimlad dwfn a'r Diwygiad, ac yn dymuno Duw yn rhwydd iddo. Disgybl iddo ef, a godasid i fynu wrth ei draed yn yr ysgol yn Llanddowror, oedd Howell Davies; teimlai ddyddordeb dwfn ynddo, a gwnaeth appêl cyhoeddus at y gynulleidfa am weddïo drosto Sabbath ei ordeiniad. Y mae yn bur sicr na ddarfu i Howell Davies droi allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau yn Sir Benfro, ac uno yn gyhoeddus a Rowland a Harris, heb ymgynghori a'i hen athraw. A chawn gyfeiriadau mynych at Griffith Jones yn llythyrau Howell Harris.[2] Wele ychydig ddifyniadau: " Cefais y ffafr o ymddiddan am rai oriau a'r anwyl a'r gwerthfawr Mr. Griffith Jones. Y mae yn cynyddu yn rhyfedd. Pa fwyaf wyf yn gyfeillachu ag ef, mwyaf oll yr wyf yn gweled ei werth.[3] Cafodd Mr. Davies a minau tua phum' neu chwech awr o siarad a'r Parch. G. Jones bythefnos i ddoe. Y mae yn llawn zêl, ac yn dyfod agosach agosach wrth glywed llefau yr wyn. Y mae ganddo yn awr yn y wasg esboniad ar yr erthyglau.[4] Pythefnos i foru yr wyf yn gobeithio clywed yr hen filwr ymdrechgar, Mr. Griffith Jones, yr hwn sydd wedi cael ei arddel i chwalu cadarn-leoedd Satan am dros ddeng- mlynedd-ar-hugain, ag sydd o hyd yn dal yn mlaen, ac yn cael ei arddel yn rhyfedd yn ei weinidogaeth." Cawn ef yn adrodd ddarfod iddo tua diwedd y flywddyn 1742 ymweled a Llanddowror, ac aros yno dros Sul y cymundeb, a dywed: "Pan yn derbyn y sacrament yno, yr wyf yn credu na chefais erioed y fath ddatguddiad o fy anwyl Arglwydd, yr hwn er cymaint wyf yn demtio arno, sydd yn parhau i fod yn fwy fwy gwell i mi o ddydd i ddydd." Hawdd gweled natur teimlad Howell Harris at Griffith Jones, ac y mae yn debygol fod teimlad ei holl gydlafurwyr yn gyffelyb. Nid yw yn ymddangos ychwaith ddarfod i Griffith Jones gyfyngu ei weinidogaeth yn gyfangwbl i'r "lleoedd nad oedd llan." Pregethai yn nghapelau yr Arglwyddes Huntington yn Bath a Llundain.[5] Pan ddaeth yr "etholedig arglwyddes " ar daith trwy Gymru yn y flwyddyn 1748, cyfarfu a hi yn Bristol Howell Harris, Daniel Rowland, Howell Davies, a Grifíìth Jones, y rhai a fu yn osgordd iddi trwy holl amser ei harosiad yn y Dywysogaeth. Trafaelent yn araf; ac am fwy na phymtheg niwrnod pregethai dau o'r gweinidogion bob dydd yn y pentref neu y dref drwy yr hon y byddent yn pasio. Pan feddylier pa mor ddysglaer oedd doniau gweinidogaethol Mr. Jones, a pha mor fawr oedd ei barchedigaeth, gallwn fod yn sicr na oddefid iddo fod yn fud ar y cyfryw achlysuron. Yn Sir Aberteifi, ymwelwyd a'r cwmni gan Philip Pugh, Llwynpiod. Wedi taith faith, cyrhaeddasant Trefecca, lle y daeth yn ychwanegol Williams, Pantycelyn; Thomas Jones, Cwm Iau; Thomas Lewis, Aberhonddu; a Lewis Rees ac eraill. Tra yno pregethai y gweinidogion dair neu bedair gwaith y dydd yn yr awyr agored i'r torfeydd lliosog oedd wedi ymgasglu i wrando yr efengyl. Unwaith cafodd Griffith Jones odfa nerthol iawn ar y maes, pan yn pregethu oddiar y geiriau hyny yn Esaiah, "Beth a waeddaf?" Yr oedd y fath ddylanwadau nerthol yn cydfyned a'i genadwri fely dwys- bigwyd llawer, ac y dolefent allan yn y modd mwyaf torcalonus. Wedi i'r cyfarfod derfynu, holai yr Arglwyddes rai o'r cyfryw am yr achos o'u llefau. Atebent hwythau eu bod wedi cael eu hargyhoeddu o'u sefyllfa druenus a'u cyflwr euog gerbron Duw, fel yr ofnent na wnai byth gymeryd trugaredd arnynt. Profa yr hanes hwn y pregethai Griffith Jones mewn lleoedd anghysegredig, ac y cydweithredai weithiau



Nodiadau[golygu]

  1. Weekley History
  2. Weekly History 1743
  3. Weekly History 1743
  4. Weekly History 1743
  5. Life and Times of Selina, Countess of Huntingdon tudalen 85