Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Griffith Jones, Llanddowror (tud-9)

Oddi ar Wicidestun
Griffith Jones, Llanddowror (tud-8) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Griffith Jones, Llanddowror (tud-10)

aeth yn mlaen i fod yn Dalfyrydd,[1] a thybir iddo gyfnewid rhyw gymaint ar "Holl Ddyledswydd Dyn," er ei wneyd yn fwy efengylaidd a Chalfinaidd. o'i holl lyfrau, ei Gatecismau sydd fwyaf hysbys, ac wedi bod o fwyaf o ddefnydd. Yr oedd yn agos i driugain mlwydd oed pan y cyhoeddodd yr "Hyfforddiad," yr hwn, fel y gwelir, sydd waith mawr o 612 tudalen. Catecism Eglwys Loegr yw ei sail, ond eglura ynddo yn bur fanwl a goleu athrawiaethau pwysicaf Cristionogaeth. Trinia y materion yn helaeth; rhydd yr Ysgrythyrau sydd yn profi yr atebion yn llawn; rhana yr ateb weithiau i ddeg neu ddeuddeg o benau, a rhai o honynt yn llanw tua dalen gyfan. Cafodd ledaeniad eang. Dywedir fod cynifer a deuddeng mil o'r rhan gyntaf wedi eu hargraffu. Mewn hysbysiad sydd yn ei ragflaenu, dywed na ddisgwyliai i neb ddysgu ar ei gof gatecism mor faith, ond iddo gael ei ddarpar i'w ddarllen yn ystyriol a mynych; un i ddarllen dau neu dri o'r cwestiynau a'r atebion ar nos Sabbath, neu o'r wythnos, i bawb o'r tylwyth, ac iddynt hwythau ateb yn eu geiriau eu hunain yn ganlynol. Ond y fath oedd yr awch am wybodaeth a lanwai feddwl ieuenctyd y wlad, fel yr hysbysa yn mhen ychydig, fod rhai pobl ieuainc obeithiol wedi ei drysori oll yn eu cof. Pa fodd bynag, gwelodd yn angenrheidiol ei fyrhau, er ei gymhwyso ar gyfer y lliaws; felly yn 1749, cyhoeddodd dalfyriad o hono, tua haner maint y llyfr blaenorol. Ond yn mhen tair blynedd, y mae yn talfyru y talfyriad, gan ei alw yn Esboniad byr ar Gatecism yr Eglwys. Y Catecism byraf hwn sydd fwyaf hysbys. Griffìth Jones a gymerwyd yn gynllun gan Mr. Charles wrth gyfansoddi ei "Hyfforddwr," er iddo mewn eglurder, trefn, a chymwysedd, dra rhagori ar ei ragflaenydd. Yn ei ragym adrodd i'r Crynodeb, y ffurf gyntaf ar yr Hyfforddwr, dywed Mr. Charles: " Cymerais yn hyf amryw Gwestiynau ac Atebion allan o Esponiad rhagorol Mr. G. Jones." Tra yn coleddu y syniadau uchaf am Griffith Jones fel duwinydd, prin yr ystyriai Mr. Charles ef yn gynllun o ysgrifenydd, am nad oedd yn ddigon syml a chryno. Fel hyn y dywed am dano[2] "Fel ysgrifenydd yr oedd ei ddoniau yn helaeth, ond yn hytrach yn gwmpasog, gorlanwog, ac amleiriog; a'i frawddegau yn faith a dyryslyd. Dengys bob amser wybodaeth helaeth am yr hyn y traetha am dano, ac amlyga ei feddwl mewn ymadroddion addas, ac iaith gan mwyaf yn bur ac ardderchawg. Mae rhai o'i draethodau diweddaf yn rhagori llawer ar ei gyhoeddiadau mwyaf boreuol, o ran destlusrwydd cyfansoddiad, dichlynrwydd ymadrodd, a phurdeb iaith. Ysgrifena bob amser yn Ysgrythyrol, yn ddifrifol, ac yn bwysig, fel un am wneuthur llesad i eneidiau dynion. Yn y cwbl, ymddengys yn dduwinydd da, o wybodaeth a doniau helaeth, a chariad gwresog at achos yr efengyl." Y gwir yw fod Mr. Charles ei hun yn rhagori yn fawr arno mewn ysgrifenu yn gryno ac yn oleu, yn gystal ag mewn tlysni arddull. Ond gwnaeth Griffìth Jones, trwy ei ysgrifeniadau, wasanaeth anrhaethol i genedl y Cymry, nid oes ond goleuni y farn a ddengys ei faint; trwyddynt gwawriodd cyfnod newydd ar y wlad, yr hon yn flaenorol oedd yn dra amddifad o lenyddiaeth grefyddol boblogaidd. Gwasgarwyd ei Gatecismau yn arbenig o'r naill gwr o'r Dywysogaeth i'r llall; ac anaml y ceid bwthyn yn nghesail y mynyddoedd hebddynt. Yn nygiad allan ei lyfrau, cafodd gymorth sylweddol gan Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol; yr hyn a'i galluogai i'w gwerthu am bris isel, ac i'w rhoddi yn rhad i'r rhai oeddynt yn rhy dlawd i'w prynu.

Bu Griffith Jones fyw am chwarter canrif wedi cychwyniad y Diwygiad Methodistaidd, ond ni ddarfu iddo fwrw ei goelbren yn gyhoeddus gyda y Diwygwyr. Nis gellir gwybod i sicrwydd pa beth a'i hataliodd. Priodola Williams, Pantycelyn, hyn i dywyllwch ei foreuddydd, a gwendid ei ffydd: —

"Ond am fod ei foreu 'n dywyll,
Ac nad oedd ei ffydd ond gwan,
Fe arswydodd fynd i'r meusydd,
Ac i'r lleoedd nad oedd llan."

Efallai fod yr hyn a ddywed Williams yn wir am ei foreu, ond nid oes arwyddion o ddiffyg gwroldeb na phall ar ffydd i'w canfod yn mywyd yr Efengylydd o Landdowror, gwedi i'w ddydd fyned yn nes yn mlaen. Tebygol fod rhai pethau ynglyn a'r Diwygiad na fedrai eu cymeradwyo yn hollol. Dywed Howell Harris mewn llythyr o'i eiddo, a gafodd ei ysgrifenu yn ol pob tebyg yn y flwyddyn 1743, ddarfod i'r Parch. Griffith Jones, yn y Welsh Piety, weini cerydd caredig i'r Methodistiaid, ond na wnaethai hyny yn ddiachos, gan fod cryn lawer o anrhefn yn eu mysg. Y



Nodiadau[golygu]

  1. Y Parch Owen Jones BA Liverpool yn Lladmerydd 1887
  2. Trysorfa Ysbrydol Llyfr II