Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Griffith Jones, Llanddowror (tud-8)

Oddi ar Wicidestun
Griffith Jones, Llanddowror (tud-7) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Griffith Jones, Llanddowror (tud-9)

Ddeg-a-thriugain. Nid oes ond y "dydd hwnw " a ddengys faint y daioni a gadd ei effeithio trwy y moddion hyn.

Wedi creu darllenwyr, teimlodd Griffith Jones fod angenrhaid wedi ei osod arno i'w cyflenwi a llyfrau, ac y mae ei ymdrechion yn y mater hwn yn gyfartal i'w eiddo fel pregethwr ac addysgydd. Yn neillduol yr oedd y wlad yn llwm iawn o Feiblau. Er cyfarfod yr angen yma, gwnaeth appel at ewyllyswyr da achos y Gwaredwr yn Nghymru a Lloegr; a chwedi derbyn cymorth helaeth, llwyddodd i gael gan Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol i ddwyn allan argraffiad newydd o'r Beibl Cymraeg. Dygwyd yr argraffiad hwn allan y flwyddyn 1746; cynwysai bymtheg mil o gopíau, a golygid ef gan Rhisiart Morris, brawd Llewellyn Ddu o Fôn, yr hwn oedd yn Swyddfa'r Llynges, yn Llundain, ac yn ŵr tra dysgedig. Yn ychwanegol at y Beibl, ceid ynddo y Llyfr Gweddi Cyffredin, yr Apocrypha, ynghyd a'r Salmau Can, a Mynegair. Addurnid yr argraffiad hefyd a dwy barthlen (map), "Rhodd W. Jones, Ysw., F.R.S., i'r Cymry." Yr oedd y W. Jones hwn yn dad i'r ieithydd Dwyreiniol enwog, Syr William Jones. Gwerthid y Beiblau am bris isel, fel y gallai y cyffredin eu meddianu; os byddai neb yn rhy dlawd i'w prynu, rhoddid hwy yn rhad; nid rhyfedd felly i'r pymtheg mil copïau gael eu gwasgar mewn byr amser. Yn y flwyddyn 1752, cawn Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol, ar anogaeth Griffith Jones, yn cyhoeddi argraffiad arall o'r Beibl Cymraeg, tan olygiaeth yr un Rhisiart Morris. Yr oedd hwn eto yn bymtheg mil o gopïau, ac yn debyg i'r cyntaf, ond fod yr Apocrypha wedi adael allan o hono. Heblaw lledaenu y Beibl, er mwyn goleuo ei gydwladwyr, cyfansoddodd nifer ddirfawr o lyfrau, a chyfieithodd eraill, oll o nodwedd athrawiaethol neu ddefosiynol. Dengys y daflen a ganlyn pa mor fawr a fu ei lafur yn y cyfeiriad hwn.[1]

Cyfieithiadau ac Ad-argraffiadau

  • 1712— Hynodeb Eglwysyddol.
  • 1722— Holl ddyledswydd dyn, &c.
  • 1743 — Crynodeb o'r Salmau Cân, &c. 164 tudal.
  • 1749 — Pigion Prydyddiaeth Pen Fardd y Cymru, 212. (Y "Pen Fardd" hwn oedd Ficer Prichard, Llanymddyfri).
  • 1758— Lloffion Prydyddiaeth, sef 46 o Ganiadau o waith Mr. Kees Prichard, 92 tudal.

Adroddiadau Saesneg yr Ysgolion Cylchynol, sef "Welsh Piety."

  • 1737— O 1734 hyd 1737.
  • 1740—1754. Pymtheg Adroddiad, oll yn 824 tudal.
  • 1755 —1760. Saith neu wyth Adroddiad.

Llyfrau Saesneg eraill —

  • 1741 — An Address to the Charitable and Welldisposed, 20 tudal
  • 1745 — A Letter to a Clergyman, 90 tudal.
  • 1747 (?) — Twenty Arguments for Infant Baptism.
  • 1750— lustruction to a Young Chiistian. Eglurhad ar Gatecism yr Eglwys mewn ffordd o Holiad ac Ateb. (Y mae yn ddwyieithog, pris 4c.)
  • 17 (?) — The Christian Covenant, or the Baptismal Vow, as stated in our Church Catechism, Scripturally esplained by Questions and Answers. (2nd Edition, 1762; 3rd, 1770).
  • 17 (?)_The Christian Faith, or the Apostles' Creed, spiritually explained by Questions and Answers. (2nd Edition, 1702).
  • 17 (?) — Platform of Christianity, being an Explanation of the 39 Articles of the Church of England (ar awdurdod Mr. Charles).

Llyfrau Defosiynol —

  • 1730— Dwy Ffurf o Weddi, 48 tudal. (Ail Argraffiad, 1762).
  • 1738 — Galwad at Orseddfainc y Gras, 148 tudal.
  • 1750— Eto Ail Argraffiad, 148 tudal.
  • 1740— Hyfforddwr at Orseddfainc y Gras, yr ail ran o'r Alwad at Orseddfainc y Gras, 140 tudal.
  • 17 (?) — Anogaeth i Folianu Duw. (Dyri Mr. Charlcs hwn fel un o'i lyfrau).

Hyfforddiadau, neu Gatecismau —

  • 1737 — Cyngor rhad i'r Anllythyrenog, neu lyfr bach mewn ffordd o Holiad ac Ateb.
  • 1741 — Hyfforddiad i Wybodaeth iachusol o Egwyddorion a Dyledswyddau Crefydd, sef Holiadau ac Atebion Ysgrythyrol ynghylch yr Athrawiaeth a gynwysir yn Nghatecismau yr Eglwys. Angenrheidiol i'w dysgu gan Hen ac ieuainc. Y mae hwn yn bum' rhan, ac yn cynwys 642 tudal.
  • 1748 — Drych Difynyddiaeth, neu Hyfforddiad i

Wybodaeth iachusol. (Yn ol pob tebyg ail—argraffiad yw hwn o'r llyfr blaenorol tan enw arall).

  • 1749—Llythyr ynghylch y Ddyledswydd o Gateceisio plant a phobl anwybodus, 48 tudal.
  • 1749—Hyfforddiad Gymwys i Wybodaeth iachusol, 330 tudal. (Talfyriad o Hyfforddiad 1741).
  • 1752— Esboniad byr ar Gatecism yr Eglwys. Yn bum' rhan, 170 tudal. (Talfyriad o'r llyfr diweddaf). Cafodd ei argraffu hefyd yn 1762, 1766, a 1778, ac yn rhanau wrthynt eu hunain o hyny hyd yn awr, gan y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol.

Yr oedd cychwyniad Griffith Jones fel Awdwr yn fychan. Dechreuodd fel cyfieithydd



Nodiadau[golygu]

  1. Y Parch. Owen Jones, B.A. yn y Lladmerydd, 1887