Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Griffith Jones, Llanddowror (tud-3)

Oddi ar Wicidestun
Griffith Jones, Llanddowror (tud-2) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Griffith Jones, Llanddowror (tud-4)

fflam; y mae yn awr fel angel yn ehedeg yn nghanol y nef a'r efengyl dragywyddol ganddo; arllwysa ar y dyrfa fawr sydd wedi dyfod i'w wrando raiadrau o hyawdledd cysegredig; ac yswatia hithau yn ei bresenoldeb wedi ei llwyr orchfygu. Nid rhyfedd i'w glod fyned ar led; y tebygolrwydd yw na chlywyd y fath bregethu o fewn eglwysi Cymru er ys canrifoedd, os erioed. Daw galwadau amdano o'r plwyfi cymydogaethol; cred yntau, fel y gwnaeth Paul am yr alwad o Macedonia, eu bod yn wys oddi uchod, ac ufuddha hyd eithaf ei allu. Yn aml byddai yr eglwysi yn rhy fychain i ddal y dorf; pregethai yntau yn y fynwent, gyda chofadail un o'r meirw yn bwlpud tan ei draed, a'r nefoedd yn dô uwch ei ben. Nis gallwn wrthsefyll y brofedigaeth o ddifynu marwnad Williams eto: —

"Allan 'i aetli yn llawn o ddoniau,
I bregethu 'r 'fengyl wir,
Ac i daenu iachawdwriaeth
Olau, helaeth 'r hyd y tir;
Myrdd yn cludo idd ei wrando,
Llenwi'r llanau mawr, yn llawn,
Gwneyd eglwysydd o'r mynwentydd
Cyn ei glywed ef yn iawn."

Heblaw bychander yr eglwysi yr oedd rheswm arall paham y pregethai yn aml yn y mynwentydd, sef eiddigedd a dig lliaws o'r clerigwyr. Cynhyrfent drwyddynt oblegyd ei fod yn meiddio dyfod i'w plwyfi heb eu caniatâd; yr oeddynt ar dori ar eu traws gan genfigen ato oblegyd ei dalent a'i boblogrwydd; felly cloent yr eglwysi rhagddo, a chymerent yr agoriadau adref gyda hwynt yn eu llogellau. Ond nis gallent trwy hyn gau genau Griffith Jones. Yr oedd ef yn dyheu am bregethu, a'r bobl yn dyheu am wrando; felly, fel y dywed Williams, gwnai eglwys o'r fynwent.

Yn raddol ymestynodd ei deithiau i'r siroedd cyfagos, ac yn wir, i'r oll o'r Deheudir. Ar daith bregethwrol yr oedd pan yr argyhoeddwyd Daniel Rowland trwy ei weinidogaeth, yn eglwys Llanddewi-brefi; a phe na wnaethai ddim yn ystod ei oes ond bod yn offeryn troedigaeth Rowland, buasai wedi gwneyd gwasanaeth ardderchog i grefydd. Gan mai ar wythnosau y Pasg a'r Sulgwyn yr arferai Cymry yr oes hono gynal yn benaf eu cyfarfodydd gloddestgar, a'u campau annuwiol, trefnai ef ei deithiau ar yr adegau hyny, er mwyn pregethu y cyfryw lygredigaethau i lawr, a dywedir na fyddai nemawr bregeth yn myned heibio heb fod rhywrai yn cael eu hachub. Byddai ei gynulleidfa yn aml yn cael eu gwneyd i fynu o oferwyr a dihyrod penaf y wlad, wedi ymgasglu oblegyd cywreinrwydd; ond ni phetrusai ddynoethi eu drwg arferion. Darlunia Mr. Charles eu hagwedd pan yn gwrando. Ar y cyntaf ymddangosent yn wyllt ac anifeilaidd; ond yn raddol, fel y pregethai Mr. Jones, gwelid hwy yn sobri ac yn difrifoli; dechreuai y dagrau lifo yn nentydd dros eu gruddiau; yn y man y maent yn wylo yn uchel, ac yn gwaeddu, "Pa beth a wnawn i fod yn gadwedig." Ai yntau yn ei flaen i egluro trefn yr iachawdwriaeth iddynt, a phregethai weithiau dros dair awr o amser.

Ond er enwoced oedd Griffith Jones fel efengylwr, braidd nad yw ei glod yn fwy fel addysgydd, a thrwy yr Ysgolion Elusengar Cylchynol a sefydlwyd ganddo gwawriodd cyfnod newydd ar Gymru. Dywedir, ac ail-ddywedir ddarfod iddo gael y syniad am danynt oddiwrth ysgolion Thomas Gouge. Ond nid oedd unrhyw debygolrwydd rhyngddynt. Ysgolion Saesneg oedd eiddo Thomas Gouge; ysgolion Cymraeg oedd eiddo Griffith Jones, a ddysgu Cymraeg yn unig a wneyd ynddynt. Yr hyn, yn ol a wyddom, a ddygai fwyaf o debygolrwydd i ysgolion Griffith Jones, oedd elusen John Jones, Deon Bangor,[1] ond ei bod ar raddfa lai. Yn ei ewyllys, dyddiedig Mawrth 10, 1719, gadawodd y Deon y swm o haner can' punt i beriglor Llandegfan, Môn, ac i'w olynwyr hyd byth, at wasanaeth y tlodion; fel ag y byddai i'r llôg oddiwrth yr arian gael ei ddefnyddio "i ddysgu deg o blant tlodion y plwyf i ddarllen y Beibl a'r Llyfr Gweddi Cyffredin yn Gymraeg, mewn modd eglur; ac hefyd i'w haddysgu yn egwyddorion y grefydd Gristionogol yn ol Catecism Eglwys Loegr. "Gadawodd y Deon Jones y cyffelyb swm at yr un amcan i blwyfi Llanfair-yn-Neubwll, Llanffinau, Llanfihangel-yn-Nhywyn, Llanfihangel Ysgeifiog, Rhoscolyn, a Phentraeth, oll yn Môn. Cawn yr un gŵr yn yr unrhyw ewyllys yn gadael y swm o gan' punt i reithor Llanllechid, Arfon, fel ag y byddai i'r llôg gael ei ddefnyddio hyd byth i addysgu deuddeg o blant tlodion y plwyf "i ddarllen Cymraeg yn berffaith, ac i'w hyfforddi yn Ngatecism Eglwys Loegr yn Gymraeg, fel y gallent nid yn



Nodiadau[golygu]

  1. The Charity Commissioners' Report Relating to Wales vol i