Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Griffith Jones, Llanddowror (tud-4)

Oddi ar Wicidestun
Griffith Jones, Llanddowror (tud-3) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Griffith Jones, Llanddowror (tud-5)

unig ei adrodd, ond hefyd trwy eglurhad deallus a duwiol ei ddeall; ac hefyd fel y byddont yn alluog i ddarllen y Beibl a'r Llyfr Gweddi Cyffredin yn eglur; ac os gellir, eu hyfforddi ryw gymaint mewn ysgrifenu a rhifo." Gadawodd yr un swm o gan punt i'r unrhyw bwrpas i blwyfi Cyffyn, Aber, a Bangor, oll yn Sir Gaernarfon. I blwyfì Llanddecwyn, a Llanfihangel-y-Traethau, yn Sir Feirionydd, gadawodd y Deon cymwynasgar y swm o haner can' punt yr un at yr amcan a nodwyd. Dyma yr unig ymgais gwybyddus i ni, yn flaenorol i ddyddiau Griffith Jones, i ddysgu Cymraeg yn yr ysgolion dyddiol. Ond nid yw yn ymddangos mai canlyn y Deon a wnaeth Griffìth Jones; yn wir, nid oes genym un prawf y gwyddai am ei ymgais; yn hytrach, cynllun a ddaeth yn raddol i'w feddwl ef ei hun oedd yr Ysgolion Cylchynol, er cyfarfod yr anwybodaeth dirfawr a ffynai yn y wlad ar y pryd.

Yr hanes a rydd Mr. Charles am ddechreuad yr ysgolion hyn yw a ganlyn: — "Byddai Mr.Griffith Jones, y Sadwrn o flaen gweinyddiad yr ordinhad o swper yr Arglwydd, yn cadw math o gyfarfod paratoad. Darllenai y gwasanaeth a'r Llithiau priodol; yna gofynai a oedd rhywun yn y gynulleidfa wedi dal sylw neillduol ar ryw adnod. Os enwid adnod neu adnodau, eglurai yntau hwy mewn modd deallus, cyfaddas i amgyffredion y bobl." Ond caffai fod y rhai ag yr oedd mwyaf o eisiau y cyfryw addysg arnynt yn sefyll yn ol, yn enwedig dynion wedi tyfu i fynu, ac wedi heneiddio mewn anwybodaeth. Er meddyginiaethu hyn, cyhoeddai fod bara yn cael ei gyfranu i'r tlodion ar y Sadyrnau misol yma, wedi ei brynu a'r arian a offrymid yn y cymun. Pan ddeuent yn mlaen i dderbyn y bara, gosodai hwy yn rhes, a gofynai ychydig o gwestiynau hawdd iddynt, ond mewn dull caredig, rhag eu dyrysu na'u cywilyddio. Ond er ei holl diriondeb, yr oedd llawer o gallineb y sarff yn Griffith Jones, ac fel na adewid ei ofyniadau heb atebiad gofalai am hyfforddi rhywrai yn dda yn flaenorol, fel y byddent yn foddion i dynu y lleill yn mlaen. Trwy hyn daeth yn gydnabyddus a'r anwybodaeth dirfawr am bethau yr efengyl, hyd yn nod am ei hegwyddorion elfenol, oedd yn y wlad, a deallodd nad oedd yn bosibl dyrchafu y genedl heb gael rhyw drefniant i ddysgu y bobl i ddarllen Gair Duw. Sefydlodd ysgol ddyddiol yn ei bentref ei hun i ddysgu plant a phobl mewn oed i ddarllen Cymraeg; a chynhelid yr ysgol mewn rhan ag arian y cymun, ond sicr yw y deuai rhan fawr o'r arian o'i logell ef ei hun. Llwyddodd yr ysgol, nid yn unig y tu hwnt i'w ddisgwyliad, ond yn mhell y tu hwnt i'w obeithion. Heblaw plant, deuai dynion mewn oed, a hen bobl iddi, y rhai a wylent yn uchel, mewn rhan o alar oblegyd eu hanwybodaeth, ac mewn rhan o lawenydd oblegyd mawredd y fraint oedd yn cael ei hestyn iddynt. Gwelid hyd yn nod y deillion yn cyniwair yno, er mwyn clywed Gair Duw yn cael ei ddarllen, ac er mwyn ei ddysgu ar eu cof. Arweiniodd hyn i sefydliad ysgolion eraill mewn gwahanol ranau o'r wlad. Agorwyd yr ysgol gyntaf yn mhentref Llanddowror, tua'r flwyddyn 1730, ryw chwech mlynedd cyn cychwyniad Methodistiaeth; ac yn y flwyddyn 1737, cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o Welsh Piety, yn rhoddi crynodeb o'r amgylchiadau ddarfu arwain i blaniad yr ysgolion, rhesymau drostynt, ac atebion i wrth-ddadleuon yn eu herbyn. Yn mhen pymtheg mlynedd, cawn fod rhif yr ysgolion wedi cynyddu i 116, a bod ynddynt 5685 o ysgolheigion yn derbyn addysg. Nid oedd moddion bydol Griffith Jones, na'r cynorthwy a dderbyniai oddiwrth ei ffrynd, Madam Bevan, yn ddigonol i gynal y nifer mawr yma o ysgolion; ond cafodd gymorth effeithiol oddiwrth wyr parchus, yn benaf o Loegr, fel na bu prinder arian at y gwaith.

Cynllun Griffith Jones oedd cyflogi nifer o ysgolfeistriaid effeithiol, a'u gwasgar trwy wahanol ranau y wlad, fel y byddai y galw am danynt. Dymunol ganddo oedd fod yr alwad yn dyfod oddiwrth offeiriad y plwyf; ond oni ysgogai ef, anfonid yr ysgolfeistr ar ddymuniad yr ardalwyr. Fel rheol, yr oedd yr ysgol i barhau mewn ardal neu blwyf am chwarter blwyddyn; ystyrid y gallai plentyn neu ddyn o alluoedd cyffredin ddysgu darllen y Beibl yn weddol dda yn hyny o amser, a symudid yr ysgol i gymydogaeth arall ar gylch; ond weithiau, dan amgylchiadau neillduol, cedwid hi yn yr un lle am haner blwyddyn neu flwyddyn, Yn yr ysgolion hyn dysgid yr ysgolheigion i ddarllen y Beibl yn yr iaith Gymraeg; hyfforddid hwy yn egwyddorion Cristionogaeth yn ol Catecism Eglwys Loegr, dysgid hwy i ganu Salmau, a defnyddid pob moddion i'w diwyllio a'u crefyddoli. Nid plant yn unig a addysgid, fel yr awgrymwyd, ond dynion mewn oed a hen bobl, ac ar gyfartaledd yr oedd dwy



Nodiadau[golygu]