Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Griffith Jones, Llanddowror (tud-5)

Oddi ar Wicidestun
Griffith Jones, Llanddowror (tud-4) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Griffith Jones, Llanddowror (tud-6)

ran o dair o'r ysgolheigion yn rhai wedi tyfu i oedran. Fel ag i roddi mantais i bawb, cynhelid yr ysgolion y nos yn gystal a'r dydd; ac os byddai rhywrai yn methu, oblegyd amgylchiadau, dyfod i'r ysgol na'r nos na'r dydd, disgwylid i'r athrawon ymweled a hwy yn eu cartrefi, a rhoddi gwersi iddynt yno. Mewn gwirionedd, ni fu erioed drefniant ystwythach a mwy hylaw nag ysgolion Griffìth Jones; cyfaddasid hwy at bob math o oedran ac at bob math o amgylchiadau; a rhaid fod pwy bynag na fedrai ddarllen yr Ysgrythyr lân yn gwbl ddiesgus. Yn mhen blynyddoedd, yr oedd yr ysgolfeistri i ddychwelyd i'r lleoedd y buasent ynddynt gyntaf, er addysgu yr ieuenctyd oeddynt wedi cyfodi yn ystod eu habsenoldeb. A ganlyn sydd grynodeb o reolau yr ysgolion, fel eu ceir yn y Welsh Piety.

1. Rhaid i'r ysgol feistriaid fod yn sobr, yn caru duwioldeb, yn aelodau o Eglwys Loegr, ac yn ffyddlawn i'r brenin ac i'r llywodraeth.

2. Rhaid iddynt, heblaw dysgu yr ysgolheigion i sbelian, ac i ddarllen y cyfryw lyfrau ag a bwyntir iddynt, eu hyfforddi hefyd ddwy waith yn y dydd yn Nghatecism Eglwys Loegr; a'u dysgu i ateb yr offeiriad yn barchus, yn fedrus, ac yn ddefosiynol yn ngwasanaeth yr Eglwys.

3. Rhaid i'r Meistri a'r ysgolheigion roddi eu presenoldeb yn foreu yn yr ysgol, a dyfod gyda chysondeb bob Sabbath i'r addoliad cyhoeddus; ac yna ar y Llun canlynol, fod yr ysgolheigion i gael eu holi yn fanwl ynghylch y penodau a ddarllenwyd, y testun, a phenau y bregeth a glywsant yn yr Eglwys y dydd blaenorol.

4. Rhaid i'r meistriaid roddi i mewn, yn mhen y chwarter, gyfrif manwl o'r ysgolheigion, eu henwau, a'u hoedran, a'r amser y bu pob un o honynt yn yr ysgol.

Er sicrwydd.fod y rheolau hyn yn cael eu cario allan, a bod y meistriaid yn cyflawni eu dyledswydd yn ffyddlawn, gosodid yr ysgol yn mhob cymydogaeth, hyd ag oedd bosibl, dan reolaeth yr offeiriad, yr hwn oedd i anfon i mewn adroddiad am ymddygiad yr ysgolfeistr, a'r llwyddiant oedd wedi bod ar ei ymdrechion yn ystod y tymor. Cawn yn y Welsh Piety nifer dirfawr o'r cyfryw adroddiadau, a dygant oll dystiolaeth uchel i ddiwydrwydd a duwioldeb y meistriaid, ynghyd a'r cyfnewidiad dirfawr a gawsai ei effeithio drwyddynt yn moesau yr ieuenctyd, a'u dull o ymddwyn yn nhŷ Dduw. Cafodd Griffith Jones gryn anhawsder i gael ysgolfeistri priodol, y rhai a gyfunent grefyddolrwydd yspryd, a bywyd diargyhoedd, gyda medr i addysgu. Dywed Dr. Rees ddarfod iddo gael ei orfodi i gymeryd y nifer fwyaf o honynt o fysg yr Ymneillduwyr, gan nad oedd nemawr yn yr Eglwys Wladol yn meddu y cymhwysderau priodol. I hyn nid oes rhith o sail. Noda rheolau yr ysgolion yn bendant y rhaid i bob ysgolfeistr fod yn aelod o Eglwys Loegr; a dywed Griffith Jones ei hun yn y Welsh Piety am 1745, sef yn mhen pymtheg mlynedd gwedi cychwyniad yr ysgolion, ddarfod i'r rheol ynglyn a hyn gael ei chadw yn ddigoll. Cyn y cai unrhyw Ymneillduwr ei gyflogi i fod yn ysgolfeistr dan Griffith Jones, rhaid iddo yn gyntaf lwyr-ymwrthod a'i Anghydffurfiaeth, a dyfod yn gymunwr yn yr Eglwys. Gorchfygodd Griffith Jones yr anhawsder gyda golwg ar athrawon drwy sefydlu math o Goleg Normalaidd yn Llanddowror, dan ei arolygiaeth ei hun, yn yr hwn y parotoid athrawon; ac hefyd yr addysgid personau ar gyfer y weinidogaeth.

Ni chafodd y gwaith da hwn fyned yn ei flaen heb wrthwynebiadau. Nid oedd yr esgobion yn cydymdeimlo o gwbl a'r ysgolion, er na feiddient eu gwarafun yn hollol. Efallai mai y prif reswm am eu gwrthwynebiad oedd fod yr ysgolion yn Gymraeg. Saeson oedd yr esgobion; ni feddent unrhyw gydymdeimlad a dim Cymreig; nid oeddynt yn deall Cymraeg eu hunain; credent mai goreu po gyntaf yr ysgubid yr iaith oddiar wyneb y ddaear, ac felly nid rhyfedd eu bod yn casau yr ysgolion a amcanent [1] ddysgu y werin bobl i' w darllen. Y mae amddiffyniad Griffìth Jones yn ngwyneb y teimlad hwn yn hyawdl ac anatebadwy. Dywed y byddai sefydlu ysgolion elusengar Saesneg i bobl nad oeddynt yn deall dim ond Cymraeg, mor ynfyd a phregethu pregeth Saesnig i gynulleidfa o Gymry nad oeddynt yn gynefin ag unrhyw iaith ond iaith eu mam. "A fyddwn ni," meddai, " yn fwy awyddus am ledaeniad yr iaith Saesneg nag am iachawdwriaeth ein pobl? " Dadleua ei fod yn amhosibl i liaws o'r tlodion, yn arbenig rhai mewn oedran, a hen bobl, ddysgu Saesneg; ond nad iawn o herwydd hyny eu gadael i syrthio i ddinystr tragywyddol. Dywed y byddai sefydlu ysgolion Saesneg iddynt yr un peth a chychwyn ysgol elusengar yn y Ffrancaeg i dlodion Lloegr. "Ffolineb," meddai, "yn ol rheswm a natur pethau yw ceisio



Nodiadau[golygu]

  1. History of Protestant Nonconformity in Wales p. 318 2ed