Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Davies (tud-10)

Oddi ar Wicidestun
Howell Davies (tud-9) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Davies
gan John Morgan Jones

Howell Davies
Howell Davies (tud-11)

yn ei wawdio ef a'i ganlynwyr; teimlodd y Gair fel "picell yn trywanu ei afu;" ei bechodau bellach a'i llethent; aethant dros ei ben, yr oeddynt yn faich rhy drwm iddo eu dwyn. Bu am fìs o amser cyn cael heddwch i'w enaid. Eithr gwedi hyny bu yn fendithiol i lawer yn Nghymru ac yn Llundain.

Y mae yn ddiau fod Howell Davies yn bregethwr nerthol dros ben. Nid oedd, yn nghyfrif yr hen bobl, yn ail i neb ond i Rowland ei hun. Pa le bynag y pregethai, ai mewn tŷ anedd, neu ysgubor, ynte mewn addoidy eang yn Mhryste neu Lundain, enillai sylw ei wrandawyr ar unwaith. Darllenai neu adroddai benill neu emyn; yna arweiniai y canu ei hun gyda y llais clir, llawn peroriaeth, a feddai; a chydunai y gynulleidfa mewn mawl i Arglwydd yr holl ddaear. Yn y weddi arweiniol byddai yn nodedig o afaelgar; medrai ymddyrchafu hyd at y Presenoldeb Dwyfol, a thynu y nefoedd i'r lle; yn ei daerni gerbron yr orsedd ail-adroddai yr un dymuniad drosodd a throsodd, fel pe yn methu gollwng ei afael arno. Yr oedd y gynulleidfa wedi ei nawseiddio yn hyfryd ganddo, erbyn ei fod yn myned i bregethu; ac yr oedd rhyw nefoleidd-dra yn ei ymddangosiad yn tueddu i'w ffafr, ac fel yn cynyrchu cariad ac ofn ar yr un pryd. Darllenai ei destun yn hyglyw, a chyda melodedd sain o'r fath fwyaf dymunol. Am ychydig llefara yn araf, gan esbonio yr adnod a'u chysylltiadau. Ond yn fuan, dyna ei yspryd yn gwresogi o'i fewn; y mae yn dyrchafu ei lais fel udgorn arian, nes y mae cyrau pellaf y dorf yn gwladeiddio ger ei fron. Anela saethau llymion at ei wrandawyr, ac y mae pob brawddeg yn clwyfo. Erbyn hyn y mae yno le difrifol mewn gwirionedd. Clywir canoedd yn ocheneidio ac yn gruddfan; aeth y graig gallestr yn llyn dwfr; gwelir y dagrau yn llifo yn hidl ac yn gyffredinol; nid oes yr un rudd sych yn y gynulleidfa. Ond yn fuan newidia y pregethwr ei gywair; rhydd heibio daranu, a chyfeiria y gwrandawyr yn eu dagrau megys a'i fys at y Gwaredwr a ddichon achub hyd yr eithaf. Diflana yr ocheneidiau, a pheidia y gruddfan; yn eu lle clywir bloeddiadau "Gogoniant!" a " Diolch iddo!" Erbyn hyn y mae yn orfoledd cyffredinol o gwr i gwr i'r dorf. Llifa y dagrau eto, ond dagrau llawenydd ydynt yn bresenol; a gorphena y pregethwr, gan adael y gynulleidfa mewn hwyl sanctaidd.

" Fel hyny y rhodiai y penaf areithydd,
Dros nef yr athrawiaeth, y bwa o waed,
A roed i rychwantu y bythol wybrenydd,
Yr eigion rhwng daear a nefoedd a gaed."

Heblaw ymddangosiad personol urddasol, ac areithyddiaeth wych, dywedai un o'i hen wrandawyr fod ganddo ryw symudiad neillduoI iddo ei hun ar ei law ddehau, yr hon a ddygai i gyffyrddiad a'i law aswy mewn modd effeithiol dros ben. Yn ei bregethau tynai ddarluniau nodedig o fyw; ac yn arbenig, pan y desgrifiai groeshoeliad y Gwaredwr, yr oedd ei ddarluniad mor rymus ac effeithiol, fel yr oedd pob llygad wedi ei hoelio arno. Dywedir pan y pregethai ar foreu Sabbath yn Llechryd, yr arosai y gynulleidfa ar ol weithiau, yn moli ac yn gorfoleddu hyd y nos. Ai ef ymaith yn y prydnhawn, ond wedi cyrhaedd bryn a elwir Craig Cilfowyr, safai am enyd, ac edrychai yn ol ar y dyrfa orfoleddus gyda syndod a diolchgarwch. Un tro, cyd-bregethai Howell Harris ac yntau yn Llechryd. Pregethai Howell Davies y tu fewn i'r fynwent, a'r Howell arall y tu allan. Yr oedd un o honynt wedi bod dan law yr esgob, a'r llall heb fod; nid oedd caniatad, gan hyny, i Howell Harris ddiurddau i bregethu yr efengyl ar dir cysegredig,

Yn yr ymraniad gofidus rhwng Rowland a Harris, glynodd Howell Davies, yr un fath a WiIIiams, Pantycelyn, a'r rhan fwyaf o'r offeiriaid, wrth Rowland. I'w fawr ddylanwad ef, yn ddiau, y rhaid priodoli ddarfod i'r corwynt hwn chwythu drosodd heb wneyd cymaint o niwed yn Sir Benfro ag a wnaeth mewn rhanau eraill o'r wlad. Gan fod Siroedd Aberteifi a Phenfro yn ffinio am filldiroedd lawer, yr oedd Rowland a Howell Davies a therfynau eu meusydd llafur yn cyffwrdd a'u gilydd; a diau y byddai y ddau yn dal gafael ar bob cyfleustra a gaent i gyd-ymgynghori ac i gyd-gynllunio. Yr oeddynt yn hollol o'r un syniadau gyda golwg ar athrawiaethau crefydd. Nid yw yn ymddangos ychwaith ddarfod i unrhyw eiddigedd, nac unrhyw oerfelgarwch, gyfodi rhyngddynt o gwbl. Er fod Howell Davies yn ddyn mwynaidd a thra charedig a rhyddfrydig, eto, medrai wrthwynebu pob ymadawiad oddiwrth y ffydd, a phob afreolaeth mewn buchedd, gyda hyfdra. Cawn Williams yn cyfeirio at hyn yn ei farwnad:—



Nodiadau[golygu]