Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Davies (tud-11)

Oddi ar Wicidestun
Howell Davies (tud-10) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Davies
gan John Morgan Jones

Howell Davies
Howell Davies (tud-12)

"Clywsom fel y gwrthwynebodd
Ef heresiau diried ryw;
Mellt a tharan oedd ei eiriau,
I elynion 'fengyl Duw;
Cywir yn ei egwyddorion,
Syml, gonest yn ei ffydd;
Elusengar yn ei fywyd,
Llwyr ddefnyddiol yn ei ddydd."

Ni ddarfu i'w boblogrwydd fel pregethwr, na'r cyfoeth a ddaeth i'w ran, gynyrchu ynddo y gradd lleiaf o falchder yspryd; yn hytrach parhaodd yn wir ostyngedig trwy yr oll. Hoffai osod ei hun yn gydradd a'r gwaelaf. Cerddai yn fynych i Woodstock, Sul y cymundeb, ffordd arw, bymtheg milldir mewn hyd. Un amcan mewn golwg ganddo oedd gosod ei hun yn hollol ar yr un safle a chorff y werin, y rhai a ddylifent yno o ugain milldir o gwmpas. Ond diau y gwnelai hyny hefyd er cael cymdeithasu ar hyd y ffordd a'r hen bererinion, y rhai yr oedd eu calonau yn llawn, gwres, a'u profiadau yn fywiog ac ysprydol. Nid oes amheuaeth fod y wledd nefol yn cael ei phrofi mewn rhan cyn cyrhaedd y capel, a bod y gymdeithas yn barotoad ardderchog i'r odfa, ac i'r sacrament. Geilw Williams ef yn " fugail pedair eglwys fawr." Yr eglwysydd hyn oeddynt Capel Newydd, Woodstock, St. Daniel, yn Nghastell Martin, a Mounton, ger Narberth.

—————————————

TŶ LLE Y PRESWYLIAI HOWELL DAVIIES, GER HWLFORDD, SIR BENFRO

—————————————

Ond dyddiau Howell Davies a nesasant i farw, a hyny pan oedd yn nghanol ei waith, ac yn nghanol ei ddefnyddioldeb. O ran oedran, nid oedd nemawr dros ganol oed; gallesid disgwyl blynyddoedd lawer o weithgarwch oddiwrtho; ond yr oedd ei lafur dirfawr wedi peri i'r ychydig nerth a feddai ei gyfansoddiad eiddil dreulio allan; a rhifwyd ef i'r bedd,



Nodiadau[golygu]