Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Davies (tud-13)

Oddi ar Wicidestun
Howell Davies (tud-12) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Davies
gan John Morgan Jones

Howell Davies
William Williams, Pantycelyn (tud-1)

Y mae'r olwg ar yr angladd
Wedi'm dodi'n drist fy ngwedd,
Haner Sir, i'm tyb, sy'n eisiau,
Pan mae Davies yn ei fedd
Ni alla' i ddim dyoddef edrych
Arno'n myned dan y don,
Heb fod hiraeth cryf a chariad
Yn terfysgu dan fy mron.

Gwelwch gwmni ar ol cwmni,
Yn ugeiniau ar bob llaw,
Oll yn wylo dagrau heilltion
Yn ei gwrddyd yma athraw;
Yr hears yn cerdded yn y canol,
Dyma'r arwydd pena' erioed,
Ag a welodd gwledydd Penfro
Fod rhyw ddrygau mawr i ddod.

Pwy sydd yn y coffin pygddu,
Trwm, yn nghanol y fath lu?
Medd trafaelwyr ar y gefnffordd,
Rheiny'n synu hefyd sy';
Howell Davies, ffyddlon, gywir,
Bugail pedair eglwys fawr,
Sydd yn myn'd i fonwent Prengast,
Heno i orwedd yno i lawr.

Dacw'r coffin rhwng y brodyr,
Yn ei gario idd ei gell,
Ac mae'i swn yn ngwaelod daear,
Megys swn taranau pell;
Y mae'r bobl oll yn wylo,
Ac fe ddaliodd yspryd gwan
Feibion Lefi, fel nas gallent
Ddim llefaru yn y fan.

* * * * *



Nid yn ngerddi cryno'r Parke,
Dan och'neidio yma a thraw,
Mae'r offeiriad heddyw'n rhodio,
Ond yn ngardd Paradwys draw;
Nid y lemon, nid yr orange,
Pomgranad, nw'r nectarine,
Ond pur ffrwythau Pren y Bywyd
Mae'n ei ddodi wrth ei fin.

Nid y gwinwydd sy'n rhoi ffrwythau
I ddiodi cwmni'r nef,
Ond afonydd gloew'r bywyd
Heddyw sy'n ei gwpan ef;
Mae yno amrywioldeb eang
O bob ffrwythau, heb ddim trai,
A phob dim sydd yn eu gwleddoedd
Sydd fyth fythoedd i barhau."

—————————————

—————————————

HANES Y DARLUNIAU

DARLUN Y PARCH. HOWELL DAVIES.

Y mae copi gwreiddiol o'i ddarlun. ef yn yr Amgueddfa Frutanaidd (British Museum), Llundain. Cedwir ef yn y Print Room. Hwn yw yr unig ddarlun o'r Tadau Methodistaidd ag y daethom o hyd iddo yn yr ystafell hono. I'w fframio y gwnaed ef, ac nid i'w osod mewn llyfr. Nid yw y copi hwn ond tua haner maintioli'r un gwreiddiol. Y mae o wneuthuriad tra chelfyddgar, ac y mae mewn cadwraeth dda. Fel hyn y mae yr ysgrif dano yn darllen: "The Rev. Mr. Howell Davies, late Minister of the Gospel in Pembrokeshire, and Chaplain to the Countess of Walsingham. Printed for Carrington Bowles, at his Map and Print Warehouse, No. 69, in St. Paul's Churchyard, London. Published, as the Act directs, March 30, 1773." Gwelir felly mai yn mhen tair blynedd wedi marwolaeth Howell Davies y cyhoeddwyd ef. Y mae un o'r copiau gwreiddiol yn nghadw yn Llyfrgell Athrofa Trefecca. Rhodd Cyfarfod Misol Sir Benfro i'r sefydliad ydyw.

EGLWYS LLYSYFRAN.

Nid oes gyfnewidiad o gwbl yn yr adeilad hwn er dyddiau y Diwygiwr. Y mae llawer o'r beddfeini ar y fynwent yn adeiladau diweddar.

EGLWYS ST. DANIEL, GER PENFRO.

Y mae hon hefyd fel yr ydoedd gynt. Drwy law y Parch. W. Evans, M.A., Pembroke Dock, y cawsom y darlun hwn.

EGLWYS MOUSTON, GER NARBERTH.

Adeilad fechan iawn ydyw hon, a phur ddiaddurn. Ni chynelir gwasanaeth grefyddol ynddi yn bresenol, ond yn ystod misoedd yr haf. Gynt, yr oedd y brifffordd o Benfro i Lundain yn arwain heibio iddi; ond wedi gwneyd y ffordd bresenol, y mae yr eglwys yn sefyll ar gongl neillduedig, ac nid oes dramwyfa briodol tuag ati. Y mae yn hollol fel yr ydoedd yn amser Howell Davies.

CAPEL WOODSTOCK.

Adeiladwyd y capel cyntaf yn y flwyddyn 1754. Adnewyddwyd a helaethwyd ef ddwywaith oddiar hyny. Darlun o'r capel fel y mae yn bresenol sydd yma. Nid oes darlun o'r hen adeilad ar gael. Y mae y capel presenol yn eang a hardd, yn enwedig y tu fewn iddo.

CAPEL NEWYDD.

Saif y capel hwn yn mron ar derfyn gogleddol Sir Bonfro, heb fod nemawr o filldiroecíd o dref Aberteifi. Adeiladwyd ef gyntaf gan Howell Davies yn y flwyddyn 1763, ac ail-adeiladwyd ef yn 1848. Darlun o'r capel presenol ydyw hwn.

TŶ HOWELL DAYIES YN PRENDERGAST, GER HWLFFORDD.

Nid oes gyfnewidiad o bwys yn yr adeilad er dyddiau y Diwygiwr.

EGLWYS PRENDERGAST, GER HWLFFORDD.

Mae yr eglwys hon wedi myned dan adgyweiriadau a gwelliantau lawer er dyddiau Howell Davies. Yn mynwent yr eglwys hon y claddwyd ef. Cyfeiriwn y darllenydd at gareg fedd, sydd yn gorphwys ar fur porth yr eglwys, yn y darlun. Gwelir croes fechan ar y mur uwch ei phen. Dyna'r fan y mae efe a'i deulu yn gorwedd. Careg fedd syml a diaddurn—ond careg dda iawn—sydd ar ei fedd. Gosodwyd hi gan Gyfarfod Misol Sir Benfro, mewn coffadwriaeth barchus o hono. Mae yn mhwriad Methodistiaid Sir Benfro i osod Coflech hardd i'w goffadwriaeth yn Nghapel Woodstock yn fuan. Trwy lafur y Parch. E. Meyler, y mae yr arian at ddwyn y treuliau eisioes wedi eu casglu.

Cymerwyd yr holl o'r darluniau ar gyfer y gwaith hwn yn ystod y flwyddyn hon a'r un flaenorol; ac yr ydym yn dra dyledus i'r Parch. E. Meyler, Hwlffordd, am ei garedigrwydd yn ein arwain ac yn ein cludo dros ugeiniau o filldiroedd, fel ag i'n galluogi i gymeryd darluniau o'r lleoedd dyddorol hyn.



Nodiadau[golygu]