Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-1)

Oddi ar Wicidestun
Howell Davies (tud-13) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-2)

PENOD VII

——————:o:———————

WILLIAM WILLIAMS, PANTYCELYN

Sylwadau arweiniol—Cofiant Mr. Charles iddo—Sefyllfa barchus ei rieni—Ymchwiliad i hanes ei ieuenctyd—Sefyllfa foesol a chrefyddol yr ardal y magwyd ef—Desgrifiad Ficer Pritchard ohoni—Eglwysi Ymneilldnol yr ardal—Eu dadleuon a'u hymrysonau—Desgrifiad tebygol o'r eglwysi hyn yn "Theomemphus"—Ei fymdiad i Athrofa Llwynllwyd—Ei droedigaeth ar ei ddychweliad adref, dan weinidogaeth Howell Harriis—Yn ymuno a'r Eglwys Wladol, ac yn ymadael a hi yn fuan—Ei apwyntiad yn gynorthwywr i Daniel Roitdand—Ei lafur fel efengylydd, a'i safle fel pregethwr—Ar gymhelliad ei frodyr yn dechreu cyfansoddi hymnau—Hymnau ei ieuenctyd—Yn cyhoeddi ei Aleluia"—Yn ymgymeryd a llafur llenyddol o bob math - Rhagoroldeb ei brif gyfansoddiadau barddonol—Ei "Olwg ar Deyrnas Crist " a'i "Theomemphus"—Poblogrwydd anarferol ei gyfansoddiadau—Barn llenorion Cymru am ei safle fel llenor, emynydd, a bardd.

WILLIAMS, o Bantycelyn, ydyw llenor cyntaf y Cyfundeb Methodistaidd yn Nghymru, ac hwyrach mai efe ydyw ei addurn penaf. Gwnaeth yn ei ddydd fwy er cyfoethogi llenyddiaeth ei wlad a'i genedl, na neb o'i gydoeswyr. Ac mewn un ganghen bwysig o lenyddiaeth, sef barddoniaeth gysegredig ac emynawl, cydnebydd pawb ei fod yn sefyll yn hollol ar ei ben ei hun. Y mae yn anhawdd synied am anrhydedd uwch ar ddyn, na chael bod yn brif gyfrwng mawl y Goruchaf i genedl gyfan. Y mae Williams heddyw yn dâl yr anrhydedd hon, ac y mae yn debyg o'i chadw tra y bydd y genedl Gymreig yn addoli yn iaith eu tadau. Yr oedd Williams yn gymeriad hynod, ac yn meddu cymhwysderau arbenig at gyflawni ei waith ei hun. Cymerodd ran fawr yn ngwaith cyffredinol y diwygiad, a llafuriodd mor galed a chyson i ddwyn y cyffroad yn mlaen a'r un. Gwir nad oedd efe yn un o'r ychydig nifer a gododd ar y fore wawr. Daniel Rowland a Howell Harris ddarfu wneyd hyny. Ond cododd yntau gyda chodiad haul, yr oedd yn gweithio yn y winllan yn gynar yn y dydd, a pharhaodd hyd yr hwyr, gan ddal pwys y dydd a'r gwres. Bu fyw i weled y tri chedyrn cyntaf wedi croesi yr Iorddonen. Goroesodd hwy, a gwnaeth hyny mewn mwy nag un ystyr. Yr ydym yn gorfod cyfaddef, yr edrychir gan yr oes bresenol hyd yn nod ar gewri fel Daniel Rowland, Howell Harris, a Howell Davies, yn hytrach fel nerthoedd a fu—spent forces. Cydnabyddir, bid sicr, eu bod yn parhau i fyw hyd y dydd hwn, yn y sefydìiad crefyddol a adeiladwyd ganddynt, yn eu hanes, ac yn eu hesiampl. Ond y mae Williams yn parhau i fod yn ddylanwad presenol ac arhosol yn ein mysg, ac fel pe wedi dianc heb i law oer angau erioed gyffwrdd ag ef. Y bardd sydd yn byw hwyaf o bawb; y mae efe yn anfarwol.

Hyd y mae ynom gwnawn geisio gosod y cymeriad aml-ochrog hwn ger bron ein darllenwyr. Ceisiwn ei ddangos fel diwygiwr, llenor, a bardd, ond rhaid i ni yn gyntaf gael bras-olwg ar brif ffeithiau ei fywyd.

Er cymaint a ysgifenodd Williams yn ei ddydd, gadawodd ei gydwladwyr mewn tywyllwch hollol yn nghylch ei helyntion personol ef ei hun. Tybir, ac y mae hyny yn ddigon tebygol, fod amryw gyfeiriadau at amgylchiadau ei fywyd yn ei weithiau llenyddol, yn enwedig yn Theomemphus a'r Marwnadau; ond nid ydynt yn ddigon eglur a phendant i fod o nemawr gwerth hanesyddol. Ceir ynddynt ychydig gyfeiriadau amlwg, ac y mae y rhai hyny yn bwysig. Hyd y gwyddom, yr unig linellau a ysgrifenodd Williams ar lun hanes am dano ei hun, sydd wedi disgyn i lawr at yr oes hon, ydyw y paragraph byr hwn a osododd efe yn nghanol llythyr maith at y Parch. Thomas Charles o'r Bala, o fewn tair blynedd i'w farwolaeth. Ysgrifenwyd ef yn yr iaith Saesnig, ac y mae yn darllen fel hyn: "My days are drawing to an end, my course is nearly run: I have had a long life.



Nodiadau[golygu]