Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-2)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-1) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-3)

I am now 73 years old. My strength would yet be pretty good, were it not for the affliction my Heavenly Father has laid upon me. I have been preaching for the last forty-three years, and have travelled on an average between forty and fifty miles every week during that time. I had four or five long journeys last spring through the counties of South Wales. Each was about a fortnight's space, and I travelled each time about two hundred miles. I intended going through North Wales, but these long journeys have, together with my complaint, so weakened me, that I have no hope of mending.'' Hyn yw hyd a lled " Hunan-gofiant Williams," ac y mae yn nodweddiadol iawn. Gwelir ei fod yn cyfeirio yn unig at ei lafur fel efengylydd, heb wneyd yr awgrym lleiaf at ei orchestion llenyddol

—————————————

LLWYNLLWYD, GER Y GELLI, SIR FRYCHEINIOG

Preswylfod y Parch. David Price, Gweinidog Maesyronen, lle y lletyai Williams, tra yn yr Athrofa

—————————————

Ac nid hyn yn unig. Ychydig iawn a ysgrifenwyd yn ei gylch gan y rhai oedd yn cydoesi ag ef. Dichon fod y sefyllfa ail-raddol a lanwai yn cyfrif i fesur am hyn. Cynorthwywr Daniel Rowland ydoedd. I hyn yma yr apwyntiwyd ef yn Sasiwn Watford, a sicr yw na chafodd neb erioed well cynorthwywr nag a gafodd Daniel Rowland ynddo ef. Dywediad awgrymiadol iawn oedd hwnw o eiddo y Parch. D. Griffith, Nevern, onide? "Gallai Rowland lywodraethu yr holl fyd, ond iddo gael Williams o Bantycelyn wrth ei benelin." Diau mai Rowland a Harris oedd arwyr yr oes hono, am danynt hwy y byddai pawb yn siarad ac yn ysgrifenu, ac yr oedd Williams o Bantycelyn, fel pawb eraill, yn cael ei gysgodi ganddynt, yn enwedig yn nghychwyniad y diwygiad.

Yn mhen dwy-flynedd-ar-hugain wedi ei farwolaeth y gwnaed yr ymgais cyntaf i ysgrifenu hanes ei fywyd, ac nid neb llai na'r Parch. T. Charles o'r Bala a ymgymerodd a'r gorchwyl Meddai Mr. Charles bob cymhwysder at y gwaith, o herwydd yr oedd yn bersonol gydnabyddus ag ef, yn hysbys o'i lafur dirfawr fel efengylydd, ac yn edmygwr mawr o'i weithiau llenyddol. Ymddangosodd y cofiant hwn nid mewn cyfrol ar ei phen



Nodiadau[golygu]