Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/William Williams, Pantycelyn (tud-3)

Oddi ar Wicidestun
William Williams, Pantycelyn (tud-2) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
William Williams, Pantycelyn
gan John Morgan Jones

William Williams, Pantycelyn
William Williams, Pantycelyn (tud-4)

ei hun, ond yn y cylchgrawn a olygid ganddo ar y pryd, sef yr Hen Drysorfa. Cyhoeddwyd ef yn Ionawr, 1813. Nid oes neb, hyd y gwyddom, yn nodi y ffaith mai ar gymhelliad y Parch. John Williams, mab y bardd, yr hwn oedd yn byw ar y pryd yn Mhantycelyn, yr ysgrifenwyd y cofiant hwn. Ond dyna'r gwirionedd.[1] Mewn llythyr o eiddo y Parch. John Williams, at ei frawd, y Parch. William Williams, cuwrad Truro, Cornwall, gwna gyfeiriad at farwolaeth Mr. Charles o'r Bala, gan ddweyd: "Mawr y golled a gafodd Cymru oll, yn enwedig corff y Methodistiaid. Yr oedd efe yn hynod o ddefnyddiol mewn llawer ffordd. Cyhoeddodd lawer o lyfrau rhagorol, Efe a gyhoeddodd, ar fy nymuniad i, hanes bywyd ein tad; myfi a roddais yr ysgerbwd iddo, ac yntau a'i gwisgodd a chroen; myfi a ddanfonais y defnyddiau, ac yntau a gododd yr adeilad." Y mae hyn yn dangos fod Mr. Charles mewn pob mantais i gyflawni yr hyn yr ymgymerodd ag ef. Ysgrif fer ydyw cofiant y Drysorfa, dim ond tua dwsin o dudalennau. Eto, cynwysa mewn ffordd fer a chryno, yr oll a dybiai gŵr defosiynol fel efe, yn weddus i'w groniclo yn nghylch Williams. Gadawodd allan o'i ysgrif yr holl ysträeon difyr am dano. Ö leiaf, gadawodd allan yr oll ond un, a chafodd hono le, nid am ei doniolrwydd, debygid, ond am ei bod yn dangos tynerwch cydwybod y bardd. Diau fod Mr. Charles yn gwybod degau o honynt; ond gan nad oeddynt yn fuddiol i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, ac i hyfforddi mewn cyfiawnder, gosododd hwy o'r neilldu, gan ymgadw at yr hyn sydd sylweddol a gweddus. Y mae haneswyr diweddarach wedi bod ar eu heithaf yn casglu y difyr-hanesion hyn at eu gilydd, a chan fod ystori dda yn byw yn hir, yr ydys wedi dyfod o hyd i lawer o honynt, pa rhai erbyn hyn a ystyrir yn rhanau hanfodol o hanes Williams. Y maent yn flasus fwyd, y fath a gâr yr oes nwyfus yr ydym ni yn byw ynddi.

Ganwyd Williams yn y flwyddyn 1717, mewn amaethdy, o'r enw Cefncoed, yn mhlwyf Llanfair-ar-y-bryn, yn agos i dref Llanymddyfri. Yn yr amaethdy hwn y bu yn preswylio hyd iddo briodi. Enw ei dad oedd John Williams, amaethwr gonest a chyfrifol, a diacon yn eglwys Annibynol Cefnarthen, oedd gerllaw. Efe oedd perchenog yr amaethdy y trigai ynddo. Dorothy Lewis ydoedd enw morwynig mam Williams, a'i thad hithau oedd perchenog amaethdy Pantycelyn. Y mae y ddau dŷ o fewn milldir i'w gilydd; ac fe ddaeth Williams i feddiant o'r cyntaf trwy ei dad, ac i'r olaf drwy ei fam. Yr oedd ei serch at ei fam yn ddiarebol. Dywedir iddo ysgrifenu ar ffenestr anedd-dy, lle yr arhosai ar un o'i deithiau, benill o glod i eneth fechan yno oedd yr un enw a hi:"

Dorothea yw dy enw,
Ystyr hyn yw ' Rhodd dy Dduw,'
Ac yn ol yr enw hyfryd
Yn y bywyd b'o it' fyw;
Rhodd yw'th ddysg, a rhodd yw'th ddoniau,
A rhodd yw'th fod yn ferch fach lân;
Rhodd y rhoddion ydyw hyny
I'th gadw di rhag uffern dân."

Yr oedd gwahaniaeth oedran anarferol rhwng tad a mam Williams, gymaint a 33 o flynyddau. Adroddir y chwedl ganlynol am ddechreuad eu carwriaeth.[2] "Dywedir fod John Williaras yn cyfeillachu a dynes oedd yn byw yn mhell o'i gartref, i ymweled a pha un y byddai yn rhaid iddo fyned heibio i Bantycelyn. Pan ar ei daith i dalu un o'r ymweliadau hapus hyny, ac yn myned drwy gyntedd Pantycelyn, cyfarfu yno a merch y tŷ, sef Dorothy Lewis. Meddyliodd y ferch ieuanc fod hwn yn gyfle rhagorol iddi gael tipyn o ddifyrwch ar draul yr ' hen fab.' 'Yr ydych yn myned yn mhell iawn i ymofyn gwraig, F'ewythr Sion,' ebe hi; ' y mae yn ymddangos i mi y gallech gael un yn nês gartref.' 'Fe allai mai fel hyny y bydd hi yn y diwedd,' oedd yr ateb; ac yn sicr ddigon, fel hyny y trodd pethau allan." Dywedir yn aml ddarfod i John Williams farw pan yr oedd y mab yn bur ieuanc, ac o ganlyniad ddarfod i'r gofal o'i ddygiad i fynu ddisgyn ar y fam. Y mae hwn yn gamgymeriad dybryd; ac y mae yn anhawdd cyfrif sut y darfu i neb syrthio iddo. Ar y 1af o Ebrill, 1742, y bu John Williams farw, ac yr oedd Williams y pryd hwnw yn 25 mlwydd oed. Bu y tad fyw bedair blynedd wedi argyhoeddiad ei fab athrylithgar dan weinidogaeth Howell Harris, yr oedd yn fyw am y ddwy flynedd y bu yn parotoi ar gyfer yr Eglwys Wladol; ac am ddwy



Nodiadau[golygu]

  1. Cofiant y Parch. J. Williams, Pantycelyn, gan y Parch. Maurice Davies, Llanfair-yn-Muallt, tudal. 24.
  2. Y Parch. W. Williams, Abertawe, yn Nhrysorfa 1865 tudal. 123.