Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Davies (tud-2)

Oddi ar Wicidestun
Howell Davies (tud-1) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Davies
gan John Morgan Jones

Howell Davies
Howell Davies (tud-3)

esgobaeth Tyddewi. Bu y Parch. E. Meyler yn chwilio yn fanwl, a chafodd fod cofrestriad yr ordeiniad wedi cael ei esgeuluso yn hollol. Dengys hyn mor ddiofal ac afler y cedwid cofnodau eglwysig yr adeg hono, ac nas gellir tynu unrhyw gasgliad diamheuol oddiwrth eu dystawrwydd parthed unrhyw amgylchiad. Nid oes unrhyw gyfeiriad ato ychwaith ar lyfr cofrestriad Llysyfran; cafodd Mr. Meyler fod dalen o'r llyfr a berthyn i'r adeg hon wedi ei rhwygo allan. Nid anhebyg mai un o'r clerigwyr dilynol a wnaeth hyny,—fel na chaffai dim perthynol i'r Methodist enwog aros ar gof a chadw mewn llyfr. mor gysegredig.—Ond iddo fod yn guwrad Llysyfran sydd sicr; profir y ffaith gan dystiolaeth lliaws ai clybu yno yn efengylu, ac a dderbyniasant les ysprydol trwyddo. Rywbryd tua dechreu y flwyddyn 1740 y cychwynodd ar ei waith gweinidogaethol, a dechreuodd yn ddioed i daranu yn ofnadwy yn erbyn annuwioldeb y wlad, nes yr oedd gweithredwyr anwiredd yn arswydo yn ei bresenoldeb. Daeth y llanerch dawel, a orwedda fel yn mreichiau cwsg yn nghanolbarth Penfro, ar

—————————————

EGLWYS LLYS-BRAN (NEU LLYSYFRAN), SIR BENFRO.

(Fel yr ymddangosai yn amser Howell Davies.)

—————————————

unwaith yn gyrchfa cynulleidfaoedd aruthrol; aeth yr eglwys yn rhy fechan i ddal y gwrandawyr; ymdywalltai y gwlaw nefol i lawr yn gawodydd bendigedig, fel yn Llangeitho; a chafodd llawer eu troi at yr Arglwydd. Gan mai yn 1740 y cychwynodd, nid cywir y sylw yn Methodistiaeth Cymru, ei fod yn mysg y rhai blaenaf yn y diwygiad Methodistaidd yn Nghymru, o ran amser yn gystal ag o ran enwogrwydd. Yr oedd Daniel Rowland a Howell Harris ar y maes agos i bum' mlynedd o'i flaen.

Gwir nad yw pum mlynedd yn amser mawr; ond ar adeg o gyffro fel oedd yn berwi Cymru y pryd hwnw, pan y bydd digwyddiadau yn canlyn eu gilydd yn gyflym, ac effeithiau dwfn ac arosol yn cael eu cynyrchu mewn cyfnod byr, y mae pum mlynedd yn gryn amser. Yr oedd Rowland a Harris wedi teithio rhanau helaeth o'r Deheudir, a rhyw gymaint o'r Gogledd, cyn iddo ef ddyfod a'i gryman i'r maes. Ond yr oedd agos ysgwydd yn ysgwydd a'r ddau Ddiwygiwr mewn enwogrwydd, a gallu gweinidogaethol. Ac y mae yn sicr iddo ddechreu ar ei lafur yn annibynol



Nodiadau[golygu]