Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Davies (tud-3)

Oddi ar Wicidestun
Howell Davies (tud-2) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Davies
gan John Morgan Jones

Howell Davies
Howell Davies (tud-4)

EGLWYS ST. DANIEL'S, GER PENFRO

arnynt ; nid dyfod allan yn gynorthwywr i'r un o'r ddau a wnaeth ; yr oedd yn gychwynydd, a hollol briodol ei gyfenwi yn dad Methodistiaeth Sir Benfro. Anwiredd i'w gospi gan farnwyr fyddai ceisio ei osod ar safle is. Pan y cyfarfyddodd a Howell Harris yn Hwlffordd, gwanwyn 1740, y mae yn dra thebyg ei fod wedi ei ordeinio, ac wedi dechrau tynu tyrfaoedd i Lysyfran ; a chyfeiria Harris ato yn ei ddydd-lyfr gyda pharch.

Nid hir y bu Howell Davies yn gweinidogaethu yn Llysyfran; tuag wyth mis o bellaf a fu tymor ei arosiad ; aeth ei weinidogaeth danllyd, effro, yn annyoddefol i rai o'r plwyfolion cysglyd, a llwyddwyd i'w yru ymaith. Cawn ef yn cael ei ordeinio yn offeiriad gan Dr. Nicholas Claget, Esgob Tyddewi, Awst 3, 1740, a'i drwyddedu i guwradiaeth Llanddowror, a Llandeilo-Abercowin, dan yr Hybarch Griffith Jones. Ond ni chyfnewidiodd o ran natur ei weinidogaeth; ni phallodd a rhybuddio yr annuwiol ; ac ni pheidiodd y bendithion dwyfol a disgyn i lawr trwyddo. O hyn allan ystyrir ef yn perthyn i'r Methodistiaid, ac yn arweinydd yn eu mysg. Diau mai un o amcanion Howell Harris wrth ymweled a Sir Benfro, Rhagfyr, 1742, rhyw bythefnos o flaen y Gymdeithasfa yn Watford, oedd ymgynghori a'i gyfaill yn yr efengyl gyda golwg ar y trefniadau y bwriedid eu gwneyd. A chawn fod y ddau yn cydweled yn hollol. Er mai yn Sir Gaerfyrddin yr oedd cysylltiadau eglwysig Howell Davies, eto Penfro oedd prif faes ei lafur. Teithiodd y sir o gwr i gwr; pregethai yn y tai ffermydd ac ar y maes cyn adeiladu capelau, am y gwarafunid yr eglwys iddo mewn aml i fan, a sefydlodd lliaws o seiadau bychain. Er i ymweliadau Harris a Rowland beri cyffro dirfawr, a chynyrchu daioni anarferol, eto, trwy lafur Howell Davies yr efengyleiddiwyd y sir, ac y darostyngwyd hi i grefydd. Ymddengys fod ei ddoniau yn nodedjg o felus. Cyfeiria Harris ato yn ei lythyrau yn barhaus fel yn rhagori mewn nerth a swyn. Dywed, mewn llythyr at Whitefield, wedi ei ysgrifenu o Milford, tua diwedd y flwyddyn 1743,[1] "Y ddau Sul diweddaf gwrandewais efallai y ddau udgorn mwyaf croch a fedd y genedl; sef y brawd Rowland, a'r brawd Davies. Yr oedd y goleuni, y gallu, a'r ddoethineb ddwyfol i glwyfo a meddyginiaethu, ac i ddatguddio yr Arglwydd Iesu Grist, y fath, fel na fedr geiriau gyflwyno unrhyw syniad cywir gyda golwg arno." Mewn



Nodiadau[golygu]

  1. Weekly History