Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Davies (tud-4)

Oddi ar Wicidestun
Howell Davies (tud-3) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Davies
gan John Morgan Jones

Howell Davies
Howell Davies (tud-5)

llythyr at ei frawd yn Llundain o Fishgate, yn Mhenfro, dywed:[1] "Rhyfeddol yw yr hanes wyf yn glywed am y gallu sydd yn cydfyned â gweinidogaeth y brawd Howell Davies; yn fwyaf neillduol yn mysg y Saeson (y mae haner y wlad hon yn Saesnig). Y mae nerth anarferol hefyd yn y cymdeithasau yma, fel yn aml pan fyddont yn myned i geisio bendith ar eu pryd bwyd, disgyna yspryd gweddi ar amryw o honynt yn olynol, fel y cedwir hwy wrth orsedd gras am agos i dair awr. Y mae llawer yn cael eu swyno gymaint gan gariad Crist wrth ganu, nes y maent yn llewygu."[2] Yn mis Mawrth, 1743, ysgrifena at eglwys y Tabernacl, yn Llundain: "Bum y Sul diweddaf mewn un arall o eglwysydd y brawd Davies yn y sir hon, a gwnaed ef yn ddiwrnod o ogoniant mwy na'r Sul blaenorol. Credaf fod y gynulleidfa o ddeg i ddeuddeg mil. Nis gall iaith fynegu fel y mae yn bendithio y brawd Rowland yn Sir Aberteifi, a'r brawd Howell Davies yn y sir hon." Gallem ddifynu lliaws o ymadroddion cyffelyb, a frithant lythyrau Howell. Harris, yn dangos mor aruchel oedd gweinidogaeth Apostol Penfro, a'r modd y bendithiai Duw ei weinidogaeth.

CAPEL WOODSTOCK, SIR BENFRO.

Nid oedd yn bresenol yn Nghymdeithasfa gyntaf Watford. llai mai y rheswm oedd, ddarfod iddo fynegu ei holl feddwl ar y gwahanol bethau i Harris, fel nad ystyriai fod eisiau iddo yn ganlynol gymeryd taith mor bell. Ond yr oedd hefyd yn wanllyd o ran corff, a chyfrifa hyny am ei absenoldeb o amryw o'r Cymdeithasfaoedd, ac am fod ei lafur yn gyfyngedig i gylch cymharol fychan. Yn y trefniadau a wnaed gyda golwg ar y gwahanol siroedd yn y Gymdeithasfa, rhoddwyd Penfro oll dan ofal Howell Davies, ac efe, os yn bresenol, oedd i fod yn gadeirydd y Gymdeithasfa Fisol. Ar yr un pryd, yr ydym yn ei gael mewn amryw o'r Cymdeithasfaoedd a'r Cyfarfodydd Misol cyntaf. Yr oedd yn Nghymdeithasfa fisol Gelliglyd, Mai 1, 1743; yn Nghymdeithasfa Fisol Longhouse, Mehefin 8, 1743; ac yn Nghymdeithasfa. Trefecca, Mehefin 29, 30, 1743.



Nodiadau[golygu]

  1. Weekly History.
  2. Ibid.