Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Davies (tud-5)

Oddi ar Wicidestun
Howell Davies (tud-4) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Davies
gan John Morgan Jones

Howell Davies
Howell Davies (tud-6)

Bu mewn Cymdeithasfa Chwarterol yn yr un lle hefyd yn 1744. Cawn ef yn llywyddu yn Nghymdeithasfa Fisol Llangwg, neu yn hytrach Llangwm, yn Sir Benfro, pan yr oedd John Sparks, George Gambold, a William Gambold, yn ymgeiswyr am y swydd o gynghorwyr. Yr oedd y ddau Gambold yn frodorion o Gasmal, er ar y pryd yn trigianu yn Hwlffordd, ac yn berthynasau agos i John Gambold, yr esgob Morafaidd, ac un o Fethodistiaid Rhydychain. Yn nghofnodau y Gymdeithasfa Fisol uchod ceir a ganlyn : "Ein bod yn cymeradwyo ac yn derbyn George Gambold fel cynghorwr, a'i fod i fyned oddiamgylch gymaint ag a all, gyda chymeryd gofal am ei nain." Ceir yma hefyd enw yr enwog William Edwards, Rhydygele, a gosodir ef dan ofal Mr. Howell Davies, y cymedrolwr, i gael ei dderbyn i gymundeb, ac i fyned dan arholiad, cyn y caffai ei ystyried yn gynghorwr. Rhoddir caniatad hefyd i John Sparks arfer ei ddawn dan arolygiaeth Howell Davies. Efe a lywyddai yn Nghymdeithasfa Fisol Hwlffordd, Ionawr 28, 1745, er fod Howell Harris yn bresenol fel arolygydd cyffredinol. Daethai. amryw gynghorwyr anghyoedd yno, a thri o rai cyhoedd, sef John Harris, am yr hwn y cawn son eto, William Richard, a Thomas Meyler. Gwelir, felly, fod Howell Davies yn gwneyd gwaith pwysig ynglyn a threfniadau y diwygiad yn Sir Benfro.

Tref Hwlffordd oedd canolbwynt ei lafur, ac eglwys Prendergast, neu fel ei gelwir gan y trigolion, Prengast, oedd un o'r lleoedd yn mha rai y gweinidogaethai. Anhawdd deall natur ei gysylltiad a'r eglwys hon. Gelwir ef weithiau yn "Rheithor Prengast;" ond nid yw yn ymddangos iddo fod yma, nac fel rheithor na chuwrad. [1] Y mae llyfr cofrestriad yr eglwys ar gael yn awr yn gyfan, ac yn cyrhaedd mor bell yn ol a dyddiau Oliver Cromwell, ond ni cheir ynddo ddim i ddangos ddarfod i Howell Davies fod mewn cysylltiad a'r lle o gwbl. Ond y mae yn sicr iddo fod yma yn gweinidogaethu, ac yn gweinyddu y cymun am flynyddoedd, a hyny gyda chysondeb, cyn fod gan y Methodistiaid un capel yn y rhan hon o'r wlad. Tref Hwlffordd yw canolbwynt Penfro; yma y cyrchai y bobl i'r marchnadoedd ac i'r ffeiriau o'r ardaloedd amaethyddol; yr oedd pobl Llysyfran yn neillduol a'u ffordd trwy Prengast; felly daeth yr eglwys, trwy swyn a nerth gweinidogaeth yr hwn a efengylai yno, yn gyrchfa pobloedd. Ymgynullai tyrfaoedd aruthrol i wrando. Prengast oedd y nesaf at Langeitho parthed lluosogrwydd cynulleidfaoedd, ac nid annhebyg oedd y dylanwadau nerthol a ddisgynent yn y ddau le. Pregethai hefyd, a gweinyddai y sacrament, yn St. Daniel, yn Nghastell Martin, ac yn Mounton, ger Narberth, lleoedd a berthynant i'r rhan Saesnig o'r sir. Rhwng y tri lle rhifai ei gymunwyr dros ddwy fil; llenwid yr eglwysydd drosodd a throsodd gan ddynion awchus am gofio angau'r groes.

Tua'r flwyddyn 1744 yr ydym yn ei gael yn myned i'r ystâd briodasol. Nid heb bryder y darfu iddo newid ei sefyllfa; bu yn gofyn cyngor ar y mater i Howell Harris, ac y mae ei lythyr ef mewn atebiad wedi ei argraffu. Yr oedd Harris mewn ystâd meddwl addas i gydymdeimlo ag ef, gan ei fod yntau ei hun ar fedr priodi. Y mae y llythyr yn un tra difrifol; dywed fod enw Mr. Davies mor gyhoeddus, a'r achos o gymaint pwys, fel yr oedd perygl iddo gamgymeryd serchiadau yn lle datguddiad oddiwrth Dduw. Nid oes ganddo ddim yn erbyn y ferch ieuanc; geilw hi "yr anwyl chwaer C—— ," yr hyn a brawf yr adwaenai hi fel dynes ieuanc dduwiol, a diwedda trwy geisio ganddi ddyfod i Gapel Ifan i'w gyfarfod, fel y caffai wybod ystâd ei meddwl yn fanylach. Trodd yr ymddiddan allan yn ffafriol, a phriododd Howell Davies. Haedda ei gymhares ychydig o sylw. Ei henw morwynol oedd Catherine Poyer, ac yr oedd yn ferch i John Poyer, Ysw., yr hwn oedd o haniad Normanaidd, ac yn perthyn i un o'r teuluoedd mwyaf pendefigaidd yn Sir Benfro. Un o'r teulu hwn, John Poyer wrth ei enw, a lywodraethai gastell Penfro yn amser Oliver Cromwell, ac ymddengys iddo amddiffyn y lle yn erbyn lluoedd Oliver gyda dewrder a medr arbenig. Dygasid Catherine Poyer i fynu mewn palasdy tlws, a pha un y mae stâd yn gysylltiedig, o'r enw Parke, ar aelwyd ei thaid a'i nain o du ei mam, sef Griffìth a Catherine Twyning. Yma y daeth tan argraffiadau crefyddol, a hyny, yn ol pob tebyg, wrth wrando ar Howell Davies. Ond yr oedd crefydd, o ryw fath, beth bynag, yn nheulu Twyning. Yr oedd offeiriad o'r enw Griífith Twyning yn ficer



Nodiadau[golygu]

  1. Ysgrif y Parch. E. Meyler.