Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Davies (tud-7)

Oddi ar Wicidestun
Howell Davies (tud-6) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Davies
gan John Morgan Jones

Howell Davies
Howell Davies (tud-8)

Gwynion, lle heb fod yn nepell; yn raddol, ymranodd hon er mwyn cyfleustra, un adran yn ymgyfarfod yn Llechryd, a'r adran arall mewn ffermdy yn mhlwyf Clydau, a elwid Hen Barciau. Pregethai Howell Davies yn fynych yn y ddau le. Gan ei fod yn offeiriad urddedig, cai bregethu yn eglwys Llechryd; ond gan lluosoced y gynulleidfa, byddai raid iddo fynychaf lefaru yn y fynwent. Am ysbaid methid cael tir i adeiladu addoldy arno yn yr Hen Barciau, er fod y ffermdai wedi myned yn rhy fychain i'r cyfarfodydd; o'r diwedd cafwyd tir gan Stephen Colby, Ysw., cadben yn y llynges, gwraig yr hwn a deimlai yn garedig at y Methodistiaid. Howell Davies a benderfynodd yr ysmotyn. Wrth deithio dros y bryn o Lechryd i'r Hen Barciau, taflodd ei chwip i ganol yr eithin mân, a dywedodd wrth ei gyfeillion: "Dyma y fan i'r capel." Cafodd y capel hwn ei agor yn y flwyddyn 1763; pregethodd Mr. Davies ar yr achlysur oddiar y geiriau: "Gad, llu a'i gorfydd, ac yntau a orfydd o'r diwedd."

—————————————

EGLWYS MOUNTON, GER NARBERTH, SIR BENFRO

—————————————

Dechreuwyd gweinyddu yr ordinhadau yn Capel Newydd ar unwaith, a bu yn enwog fel yr unig le yn yr ardaloedd hyny ag yr oedd y sacramentau yn cael eu harfer yn mysg y Methodistiaid; cyrchai tyrfaoedd mawrion iddo, ac fel Woodstock, parhaodd i fod yn lle i gymuno hyd nes y neillduwyd gweinidogion. Howell Davies fyddai yn gweinyddu amlaf; yn ei absenoldeb ef cyfrenid gan Daniel Rowland, neu ei fab, Nathaniel Rowland; neu ynte, Davies, Castellnedd; Jones, Llangan; neu Williams, Lledrod. Dywedir ddarfod i Howell Harris, gwedi i archollion yr ymraniad iachau i raddau, bregethu yma amryw weithiau. Yn Capel Newydd y pregethai Daniel Rowland yn y flwyddyn 1773, oddiar Heb iv. 15, pan y cynyrchwyd y fath argraffiadau dyfnion ar feddwl Mr. Charles o'r Bala; argraffiadau na ddilewyd mo honynt byth. Yma hefyd y pregethodd Jones, Llangan, am y tro diweddaf, wrth ddychwelyd o Langeitho.

Efallai na chafodd Mr. Davies gymaint o'i erlid a rhai o'r Tadau; yr oedd ei



Nodiadau[golygu]