Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Davies (tud-8)

Oddi ar Wicidestun
Howell Davies (tud-7) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Davies
gan John Morgan Jones

Howell Davies
Howell Davies (tud-9)

—————————————

CAPEL NEWYDD, SIR BENFRO.

—————————————

sefyllfa fydol barchus, ynghyd a nodded yr Hybarch Griffith Jones, yn gryn gysgod iddo. Ond ni ddiangodd yntau heb i'r ystorm ruthro arno. Mewn llythyr o eiddo Howell Harris ato, dyddiedig Medi 7, 1743, ceir a ganlyn: "Byddai yn dda genyf gael gwybod pa fodd yr ymdarawsoch yn Nghwrt yr Esgob; efallai y gallwn ymddiddan a rhywrai yma (Llundain) er cael cyfarwyddyd pa fodd i weithredu. Ond credaf na wnant ddim. Yn arbenig, os deallant eich bod chwi yn gwybod nad oes gan eu llys ddim gallu, a'ch bod chwithau yn benderfynol o appelio at y gyfraith wladol, a dwyn cwrs eu hymddygiadau duon i oleuni. Hyn, mi a gredaf, yw ein dyledswydd; ond cadw ar yr amddiffynol; ac os cawn ein rhyddid, bydded i ni yn ostyngedig a diolchgar ei ddefnyddio." Nis gwyddom beth a ddaeth o helynt Cwrt yr Esgob, ond sicr yw mai yn ei flaen, heb droi ar y ddehau na'r aswy, yr aeth gweinidog Crist, gan deimlo yr erlid yn fraint, am mai dros ei Waredwr y dyoddefai.

Apostol Penfro yn benaf oedd Howell Davies; yr oedd ei apostoliaeth yn gyfeiriedig yn llawn cymaint at yr adran Saesnig o'r sir a'r adran Gymraeg; a phregethai yn y naill iaith neu y llall fel y byddai galwad. Gwnaed ef yn gwmwl dyfradwy i Benfro; disgynodd y gwlaw graslawn yn drwm ar yr holl wlad trwy ei weinidogaeth; cafodd weled y ddaear yn blaendarddu ac yn dwyn ffrwyth mewn canlyniad, a'r holl fro wedi ei darostwng i raddau mawr i efengyl Crist. Ond er ei fod yn fwy cartrefol na rhai o'i gyd-ddiwygwyr, eto, teithiodd lawer ar hyd Dê a Gogledd Cymru, ac hefyd yn nhrefydd Lloegr. Bu yn Llundain droiau; ymwelai yn ei dro a Bryste, ac a Bath, ynghyd a threfydd eraill, yn mha rai y pregethai y Methodistiaid Saesnig, a dywedir ei fod yn un o hoff bregethwyr Iarlles Huntington. Yr oedd ef yn un o'r rhai a gyfarfu a'r Iarlles yn Mryste, ac a ffurfìent osgorddlu iddi pan yr ymwelodd a'r Dywysogaeth yn y fwyddyn 1748. Dywedai yr Hybarch John Evans, o'r Bala, iddo fod amryw weithiau yn y dref hono. "Gŵr tirion a mwynaidd oedd efe, a phregethwr enillgar iawn," meddai Mr. Evans gyda golwg arno. Yr oedd Howell Davies yn bresenol yn y Gymdeithasfa gyntaf a gynhaliwyd yn y Bala. Cawn ef yn ysgrifenu at Howell Harris: "Er y pryd yr ymadawsom o'r Gymanfa, rhoddais dro trwy Sir Forganwg, a bu i rai yn amser hyfryd iawn. Am danaf fy



Nodiadau[golygu]