Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-1)

Oddi ar Wicidestun
Rhai o'r Cynghorwyr Boreuaf (tud-32) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-2)

PENOD XI.

HOWELL HARRIS
(1743—44).

Gwaeledd iechyd Harris yn ei dueddu i roddi i fynu y gwaith cyhoeddus—Ymosodiad Edmund Jones ar y Methodistiaid—Dechreu codi capelau—Capelau Maesgwyn a'r Groeswen—Prawf Morgan Hughes—Dadl ag Esgob Tyddew—Pumed ymweliad Harris a Llundain—Y Gymdeithasfa Saesnig—Glynu wrth yr Eglwys Sefydledig—Whitefield yn tybio y cai ei wneyd yn esgob—Dadl a Richard Jenkins gyda golwg ar y Gair—Ystorm yn Nghymdeithasfa Glanyrafonddu—Cymdeithasfa Watford, 1744—Y Methodistiaid a'r gyfraith wladol Llythyr aelodau Mynyddislwyn—Chweched ymweliad Harris a Llundain—Amryw Gymdeithasfaoedd Chwarterol a Misol.

YR ydym yn barod wedi olrhain hanes Howell Harris hyd tua chanol y flwyddyn 1743. Gwelsom ei fod yn teithio yn ddidor, ac yn llafurio yn hwyr ac yn foreu, mewn cynghori pechaduriaid, cadarnhau y saint, trefnu y seiadau, ac arolygu pob peth cysylltiedig a'r symudiad grymus oedd yr Arglwydd wedi gychwyn trwyddo ef a Rowland. O Gymdeithasfa gyntaf Watford, a gynhaliwyd ddechreu Ionawr, hyd ganol Awst, pan yr aeth am ychydig amser i Lundain, prin y gellir dweyd iddo gael diwrnod o orphwys. Yn ychwanegol, yr oedd ei ohebiaeth yn ddirfawr. Ysgrifenid ato gan bersonau na welodd mo honynt erioed, a hyny ar bob math o faterion; ac yr oedd yntau mor gydwybodol a gofalus, fel na adawai lythyr heb ei ateb. Dan yr holl bwys hyn, nid rhyfedd i'w iechyd fethu. Nid gormod dweyd iddo amharu ei gyfansoddiad i'r fath raddau, fel na bu mor gryf a chynt byth. Fel rheol, pan yn croniclo helynt pob diwrnod yn ei ddydd—lyfr, dechreua trwy gofnodi fod ei gorph yn sâl ac yn friw. Pan ar daith yn Sir Benfro, mis Mehefin, cwyna fod poen annyoddefol yn ei wddf, ac yn saethu trwy ei ben, a bod lygaid, ei glustiau, a'i dafod yn y cyfryw stad, fel nas gallent gyflawni eu swyddau priodol. Parodd hyn iddo feddwl am roddi y cynghori i fynu, ac ymroddi yn gyfangwbl i'r gwaith o arolygu y cymdeithasau. Mewn llythyr at gyfaill yn Llundain, dyddiedig Mehefin 4, 1743, dywed: "Y mae yn yn gwasgu yn drwm ar fy meddwl cael fy ngalw oddiwrth y gwaith cyhoeddus at yr hyn sydd yn fwy preifat. Rhoddaf fy rhesymau i chwi, a gwn y gwnewch chwithau eu lledu gerbron yr Arglwydd, ynghyd a'r credinwyr gweddïgar o'ch cydnabod. (1) Ymddengys fel pe bai Duw yn gosod hyn yn fwy ar fy nghalon na'r llall. (2) Y mae fy natur wedi ei hamharu a'i threulio allan i'r fath raddau, a'm corph wedi myned mor egwan, fel nad oes genyf nerth digonol; ac ni fu y cyfryw genyf er ys amser maith, ond pan ei cawn yn wyrthiol trwy ffydd. (3) Yr wyf yn gyson yn colli fy llais, fel na fedraf wneyd i gynulleidfa fawr glywed, o leiaf heb boen dirfawr. (4) Trwy gyfres o dreialon anarferol o bob cyfeiriad, oddiwrth ddynion, oddiwrth Satan, ac oddiwrth fy natur felldigedig fy hun, y mae yr Arglwydd fel pe yn fy nghymwyso yn neillduol at waith oddifewn. (5) Darfu iddo gyfranu doniau cyhoeddus i alw, argyhoeddi, ac i ddal Crist gerbron yr annychweledig, yn helaethach ar amryw o'r brodyr nag arnaf fi, a chredaf eu bod yn cael eu bendithio yn fwy yn y gwaith. (6) Ymddengys angenrheidrwydd am rywun at y gwaith hwn, ac y mae digon o wahaniaeth rhyngddo a'r gwaith cyhoeddus. (7) Trwy hyn, gallwn roddi mwy o amser at ddarllen, ysgrifenu llythyrau, ac, efallai, gwneyd a derbyn mwy o ddaioni yn breifat. Y rhesymau hyn, yn neillduol fy nghrygni a'm gwaeledd, sydd yn eu gwneyd yn anmhosibl i mi ddod i Lundain



Nodiadau[golygu]