Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-2)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (1743—44) (tud-1) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-3)

oni ddaw rhyw frawd gyda mi at y gwaith cyhoeddus." Pa fodd bynag, dywed i'w selni ddysgu gwersi gwerthfawr iddo, sef ei ddyledswydd i gydymdeimlo a'r rhai ydynt mewn poen; deall y fath gydymdeimlad sydd rhwng y naill ran o'r corph a'r llall, a'r parodrwydd sydd yn y naill aelod i gynorthwyo y llall, yr hyn sydd yn ddrych o'r undeb dirgel ac ysprydol a fodola rhwng y saint; a theimlai yn sicr fod y cystudd wedi ei fwriadu er lles iddo, er ei wneyd yn fwy gostyngedig, ac felly ei barotoi i dderbyn rhyw ddawn oedd Duw ar fedr ei gyfranu iddo.

Ymddengys i'r rhwyg oedd wedi dechreu eisioes rhwng y Diwygwyr a'r Ymneillduwyr ymledu yn ddirfawr tua'r cyfnod hwn. Mai 30, 1743, cawn Howell Harris yn ysgrifenu yn ei ddydd-lyfr: " Clywais trwy y brawd H. am broclamasiwn cyhoeddus yn ein herbyn gan yr anwyl frawd Edmund Jones, a'r rhai a ymlynant wrtho yn mysg gweinidogion yr Annibynwyr. (Condemniant ni): Yn gyntaf, am ein bod yn cymuno gydag offeiriaid cnawdol; ac yn ail, am nad ydym wedi ein hordeinio," "Y brawd H.," yn ol pob tebyg, oedd Herbert Jenkins, yr hwn ar y pryd oedd ar ymweled a Threfecca. Math o alw i'r gâd oedd y proclamasiwn, yn ddiau, mewn canlyniad i waith Cymdeithasfa Watford yn cynghori yr aelodau a arferent gymuno yn yr Eglwys i barhau, hyd nes yr agorai yr Arglwydd ddrws i adael ei chymundeb. Ymddengys ei fod yn benderfyniad cymanfa, ac yn cael ei anfon at yr egiwysi yn ei chylchlythyr. Y mae cyfeiriad yr ail adran o'r cyhuddiad, sef pregethu heb feddu ordeiniad, yn uniongyrchol at Howell Harris. A dweyd y lleiaf, yr oedd hyn yn anniolchgarwch mawr ar ran Edmund Jones a'i frodyr. Wedi i'r Diwygiwr ymweled a'u hardaloedd ar eu cais, a bod yn foddion yn llaw Duw i argyhoeddi lliaws o eneidiau, o ba rai y darfu i nifer mawr ymuno a'u heglwysi, peth tra annheilwng oedd troi arno, gan ddanod mewn proclamasiwn cyhoeddus, a ddeuai, yn ol pob tebyg, yn swyddogol o'u cymanfa, nad oedd wedi ei ordeinio. Eithr ni chythruddwyd yspryd Howell Harris. Meddai: " Darfu i'r Yspryd Glân, fy anwyl Arweinydd, fy nghadw rhag fy yspryd fy hun, gan fy narostwng, a'm danfon at Dduw, a rhoddi i mi gariad at bawb sydd yn ymwahanu oddiwrthym. Galluogwyd fi i lefain yn y dirgel: 'O Dad, dangos i mi dy lais mewn perthynas i hyn; gwel fel yr ymosodir arnom o bob cyfeiriad. O arwain ni, a threfna ni fel y mynost, a sancteiddia yr oll i ni. Bendithia y rhai sydd yn ein herbyn. Pa hyd y caifF dy blant di ymryson ar y ffordd, a bod yn rhanedig? (Yma rhüddwyd i mi yspryd galar oblegyd hyn). O cadw ni rhag eu niweidio, na gwanhau eu dwylaw mewn un modd. Bendithia a llwydda hwy i gasglu eneidiau atat ti, a bydd yn eu mysg.'"Os bu gweddi anhunangar erioed, yn anadlu yspryd Iesu Grist, yr oedd y weddi hon o eiddo Howell Harris ar ran Edmund Jones, a gweinidogion yr Annibynwyr, felly. Teimla ei hun ddarfod iddo gael ei ddyrchafu uwchlaw ei natur lygredig, oblegyd sylwa rhwng cromfachau: " Y mae hyn yn mhell oddiwrth yr hen ddyn."

Darfu i broclamasiwn Edmund Jones ddwyn ffrwyth, a pheri i nifer o weinidogion yr Ymneillduwyr, oeddynt hyd yn hyn wedi bod yn cynorthwyo gyda'r diwygiad, droi eu cefnau. Yn mhen ychydig ddyddiau cawn Howell Harris yn ysgrifenu fel y canlyn yn ei ddydd-lyfr: " Clywais eto fod nifer o frodyr anwyl, gweinidogion, yn bwriadu ein gadael, oblegyd rhagfarn atom. Yr oedd yn dra phoenus. Ond darfu i Yspryd Duw, trwy yr hwn y gallaf wneyd a dyoddef pob peth, fy nghadw rhag fy hunan. Darostyngwyd fì yn isel, a gwnaed i mi garu Duw o'r herwydd; gan fy mod yn ei weled yn gadwraeth rhag hunan, a rhag ymuno yn gnawdol. Ni theimlwn na llid na dig atynt; gallwn olchi eu traed; ac anfonais genadwri atynt, os gadawent hwy ni, nas gallem ni eu gadael hwy." Byddai yn anmhosibl cyfarfod ag yspryd mwy rhyddfrydig. Efallai fod yr ymadrodd "ymuno yn gnawdol" yn cyfeirio at y perygl y bu Harris unwaith yn ei ofni, sef iddo ef a'i gyd-ddiwygwyr gael eu gyru gan amgylchiadau i ymuno a'r Ymneillduwyr, heb fod yr undeb rhyngddynt yn undeb yspryd a chalon. O hyn allan, ychydig o gymhorth a gafodd Harris oddiwrth weinidogion yr Ymneillduwyr; yr oedd ei fod yn myned o gwmpas i gynghori, heb gael ei ordeinio gan esgob, na'i urddo gan weinidog, yn faen tramgwydd iddynt nas gallent gamu drosto.

Yr oedd cyffro wedi enyn yn mysg y Methodistiaid erbyn hyn am adeiladu capelau; nid mewn gwrthwynebiad i'r eglwysydd plwyfol, ond er cyfleustra i'r



Nodiadau[golygu]