Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-3)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (1743—44) (tud-2) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-4)

lleygwyr lefaru, gan fod y tai anedd yn myned yn rhy fychain i'r cynulleidfaoedd, ac hefyd er mwyn cynal y seiadau ynddynt. Yn ol pob tebyg, y capel cyntaf perthynol i'r Methodistiaid ag y mae genym hanes am dano, yw capel Maesgwyn, yn Sir Faesyfed. Nid yr un Maesgwyn yw a'r lle o'r un enw cyfagos i'r Gelli, yn mha un y gweinyddai y gweinidog Ymneillduol enwog, Vavasor Griffiths; y mae yn fwy i'r gogledd, ac yn gorwedd rhwng y Rhaiadr a Llanybister. Ysgrifena James Beaumont at Howell Harris, yr hwn oedd yn Llundain, Awst 2, 1742: "Y mae yr Ustus V___n yn bygwth tynu tŷ cwrdd Maesgwyn i lawr." Pe capel Ymneillduol fyddai, buasai wedi ei drwyddedu yn ol y gyfraith, a buasai gymaint allan o gyrhaedd unrhyw ustus i'w dynu i'r llawr ag eglwys gadeiriol Tyddewi ei hun. Anhawdd meddwl na wyddai Beaumont hyn yn dda. Ond gan nad oedd y Methodistiaid gynt yn codi trwydded ar eu haddoldai, am nad ystyrient eu hunain yn Ymneillduwyr, yr oedd yr adeiladau a osodent i fynu i raddau mawr at drugaredd yr erlidwyr. Y tebygolrwydd yw mai capel Methodistaidd oedd Maesgwyn. Yr oedd Howell Harris yn fyw gan awydd

codi addoldai yn y flwyddyn 1742. O fewn corph y flwyddyn hono ysgrifena at foneddiges gyfoethog, nad oedd yn ddiberygl o gael ei pherswadio i gyfranu ei heiddo at bethau diraid, gan ddynodi amryw achosion teilwng oeddynt yn galw am gymhorth, ac yn mysg pethau eraill dywed: "Y mae llyfrau i'w hargraffu a'u gwasgar, a thai seiat i'w hadeiladu." Sefydliad neillduol i'r Methodistiaid oedd y seiat, a rhaid mai ar adeiladu addoldai iddynt hwy yr oedd bryd Howell Harris, pan y cyfeiria at dai seiat.

Ymddengys i gapel y Groeswen gael ei adeiladu yn y flwyddyn 1742. Dyddiad gweithred y tir, ar ba un y saif, yw Mehefin 2, 1742. Yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, ceisir gwadu mai y Methodistiaid a'i hadeiladodd, a dywedir yn bendant na fu erioed yn perthyn iddynt. F'el hyn yr ysgrifenir: "Yn 1742, adeiladwyd capel bychan ar ben y Groeswen, ar gwr cae, a elwid y Waunfach, fel cangen o'r Watford, y mae yn dra thebyg, Ond yn mhen ychydig amser, aeth y bobl a ymgynullent yno yn rhy Fethodistaidd i bobl y Watford a'u gweinidog allu cyd-dynu a hwy; ac felly buont am flynyddau yn ymgyfeillachu mwy a'r Methodistiaid



Nodiadau[golygu]