Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-4)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (1743—44) (tud-3) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-5)

nag a'r Annibynwyr. Ond ni buont ar un adeg o'u hanes yn Felhodistaidd hollol; a chamgymeriad yw haeru mai gan y Methodistiaid yr adeiladwyd ef, oblegyd yr oedd wedi ei adeiladu cyn i'r Methodistiaid ymffurfio yn gorph. Ffurfiwyd yma gymdeithas eglwysig yn ol cynllun Howell Harris, a bu am dymor yn cael ei hystyried yn gymdeithas Fethodistaidd, yn ol yr ystyr a roddid i Fethodistiaeth ar y pryd."

Y mae y difyniad hwn nid yn unig yn dywyll a chymysglyd, gyda ei wahanol adranau yn gwrthddweyd eu gilydd, ond y mae yn ogystal yn gwbl gamarweiniol. Nid eglwys Watford yn lledu ei therfynau, ac yn bwrw ei gwraidd i lawr mewn tir newydd, a roddodd fod i gymdeithas y Groeswen, ond y Methodistiaid, gwedi blino dadleu yn erbyn David Wiliams a'i heresi, a chwilient am gartref heddychol. Thomas Price, o'r Watford, cynghorwr gyda'r Methodistiaid, oedd y prif ysgogydd yn y symudiad, a'i enw ef yw y blaenaf o'r ymddiriedolwyr ar weithred trosglwyddiad tir y capel. Cymerai seiat y Groeswen ei llywodraethu gan y Gymdeithasfa fel y seiadau eraill, a cheir ei hadroddiadau, a anfonwyd i'r Gymdeithasfa, yn mysg yr adroddiadau sydd yn awr yn Nhrefecca. Yn mhellach, datgana cynghorwyr y Groeswen yn bendant, yn eu llythyr hanesyddol at Gymdeithasfa Cayo, mai trwy y Methodistiaid y cawsent eu hargyhoeddi a'u dwyn at grefydd, ac mai hwy a gydnabyddent fel eu tadau yn Nghrist. Yn ngwyneb y ffeithiau hyn ofer dweyd na fu eglwys y Groeswen erioed yn Fethodistaidd. Yr oedd mor Fethodistaidd a'r gymdeithas a ffurfiwyd yn ei ysgubor gan Daniel Rowland, yn Llangeitho, ac nid yw fod y capel wedi cael ei adeiladu ychydig fisoedd cyn ffurfiad y Gymdeithasfa, os mai felly y bu, yn newid dim ar y cwestiwn.

Fel y dywedasom, tua'r blynyddoedd 1742-43, yr oedd adeiladu capelau wedi dod yn gwestiwn pwysig yn mysg y Methodistiaid, a thueddwn i feddwl fod amryw wedi cael eu gosod i fynu yn ngwahanol ranau y wlad. Yn mis Mawrth, 1743, ysgrifena y Parch. Benjamin Thomas, y gweinidog Ymneillduol a ymunodd a'r Methodistiaid, at Howell Harris : "Darfu i'r Eglwyswyr gloi un o'r tai cyrddau yn fy erbyn, a phregethais inau gyda fy nghefn ar y drws. Tybia rhai ddarfod iddynt ysgrifenu i Lundain gyda golwg ar hyn. Byddwch mor garedig a rhoddi gwybod i ni beth a allant wneyd. Yr wyf yn foddlon rhoddi fy nghorph a fy enaid i ddyoddef drosto, os rhydd efe i mi nerth." Anhawdd genym feddwl fod Mr, Thomas yn cyfeirio at un o'r capelau Ymneillduol; gwyddai efe, a gwyddai yr holl wlad erbyn hyn, fod Deddf Goddefiad yn gysgod i'r cyfryw, ac nad oedd gan neb, hyd yn nod Archesgob Caergaint, hawl i ymyraeth â hwy; y mae tebygolrwydd cryf mai at dai cyrddau perthynol i'r Methodistiaid y cyfeiria, y rhai oeddynt yn ddiamddiffyn, gan nad oeddynt wedi eu trwyddedu yn ol y gyfraith. Yn Nghymdeithasfa Porthyrhyd, a gynhalwyd Hyd. 3, 1744, penderfynwyd, yn mysg pethau eraill, fod tŷ at ddybenion crefyddol yn cael ei adeiladu yn Llansawel. Nid oes un rheswm dros amheu ddarfod i hyn gael ei gario allan, ac nid yw geiriad y penderfyniad yn awgrymu ei fod yn symudiad newydd.

Teimlai Howell Harris ddyddordeb arbenig yn y dyddiau o'r flwyddyn a fyddent yn cyfateb i'r adegau pwysig yn ei fywyd ysprydol. Cawn ef yn ysgrifenu Ebrill 6, 1743: "Ar y dydd hwn, wyth mlynedd yn ol, yn ol dyddiau y mis, Sul y Pasg y flwyddyn hono, y derbyniais y sacrament am y tro cyntaf. Yr oeddwn wedi cael fy argyhoeddi gyda golwg ar yr angenrheidrwydd am hyn y Sul blaenorol, sef Mawrth 30. Y pryd hwn cynyrchwyd y fath argraff ar fy yspryd na adawodd fi am bythefnos gwedi. Yna cefais Holl ddyledswydd dyn, trwy yr hwn y daethum yn raddol i ganfod fy nhrueni, yr hyn a derfynodd mewn argyhoeddiad." Ebrill 20, 1743, ysgrifena: "Heddyw yw dyddgylch yr wythfed flwyddyn oddiar fy argyhoeddiad cyntaf, trwy ddarllen Holl ddyledswydd dyn. Sulgwyn yr un flwyddyn cawn ef yn ysgrifenu: "Dyma gylchwyl yr wyth fed flwyddyn er pan y cefais olwg gyntaf—trwy ffydd—ar Grist yn marw trosof, ac y teimlais heddwch a llawenydd. O gwmpas yr amser hwn, wyth mlynedd yn ol, y bwriwyd Satan allan o honof. Yn awr, gwnaed i fy enaid lefain, nid mewn teimlad yn unig ond gyda gradd o oleuni, 'Satan, ti a wyddost dy fod wedi dy fwrw allan o honof, trwy allu Duw; fod Duw yn awr ynof. Ti a wyddost, Satan, mai plentyn Duw ydwyf yn awr, a llestr etholedig iddo. Ti a wyddost mai fi yw dy arglwydd, na chefaist lywodraethu arnaf byth oddiar hyny, ac na chai di ddim llywodraethu arnaf fi. Ti a wyddost fy mod yn eiddo'r



Nodiadau[golygu]