Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-10)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (1743—44) (tud-9) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-11)

am gael ei ordeinio gael cymeradwyaeth y sawl sydd yn ei adwaen, gan y rhaid cyhoeddi ei fwriad o gynyg ei hun, yn eglwys y plwyf, dri Sul yn mlaen llaw; (3) rhaid iddo gael cymeriad oddiwrth dri offeiriad sydd yn ei adnabod; (4) rhaid iddo gael ei arholi gan yr esgob. Dywedais nad aethum allan ar y cyntaf i ffurfio plaid, ond i ddiwygio y wlad, ac mai dyna wyf yn wneyd yn awr.

"Cydunwyd nad yw y brawd Humphreys i gymeryd ei ordeinio (yn ol ffurf yr Anghydffurfwyr). Sonia ef am ymuno â'r Ymneillduwyr, a chymeryd y gynulleidfa gydag ef. Cefais ryddid i ddweyd am iddo yn hyn ateb i'w gydwybod; ond pe bawn i yn ei gefnogi gyda golwg ar ordeiniad, y byddwn yn dyfod yn un ag ef yn yr act, ac yn ei gwneyd yn eiddo i mi fy hun. A chan nas gallwn gymeryd fy ordeinio fy hunan yn y cyfryw fodd, nas gallwn ei gefnogi yntau. Eithr y byddai i mi wedi hyny ddal cymundeb ag ef fel brawd Ymneillduol, ond nid fel un o'r Methodistiaid, y rhai ydynt yn briodol yn perthyn i Eglwys Loegr, oni yrir hwy allan. Cydunwyd gyda golwg ar y cyfryw Ymneillduwyr ag sydd yn ymuno â ni, fod i rai gweinidogion Ymneillduol a wnant hyny, gael cyfranu yr ordinhad; ac yn mysg y gweddill, y rhai na fedrant gael y cymun yn yr Eglwys, rhai o'n hoffeiriaid ni a fyddant yn rhydd. Y mae hyn yn groes i'r canonau; eithr yr ydym yn gwadu awdurdod y rhai hyny."

Teifl yr ymdrafodaeth ffrwd o oleuni ar agwedd meddwl y Methodistiaid yr adeg hon. Yr oedd y pwnc o barhau yn nghymundeb yr Eglwys wedi dyfod yn gwestiwn llosgawl. Whitefield, a Howell Harris, oedd y mwyaf awyddus am aros i mewn. Am Whitefield y mae yn sicr ei fod yn credu y caffai ei wneyd yn esgob; yr oedd ei gyfeillgarwch a'r Iarlles Huntington, ac a phendefigion a boneddigesau urddasol eraill yn ei gefnogi yn ei dyb; ceir amryw gyfeiriadau yn nydd-lyfr Harris at y gobaith y byddai iddynt gael esgob mewn cydymdeimlad a'r diwygiad; a diau fod a fynai hyn a'i ymlyniad penderfynol wrth y Sefydliad. Nid ydym am awgrymu fod Whitefield yn wageddus ei feddwl, ac yn awyddus am y swydd er dyrchafiad personol. Tebygol y credai mai modd i beri i grefydd efengylaidd wreiddio yn y deyrnas oedd trwy efengyleiddio yr Eglwys Wladol; a phe bai y Methodistiaid yn cefnu arni, ac yn ymffurfio yn blaid ar wahan, y byddai i'r amcan gael ei oedi, os nad ei wneyd yn amhosibl. Ac eto, efallai nad oedd urddas y swydd heb feddu rhyw gymaint o ddylanwad arno. Pwy sydd yn hollol rydd oddiwrth awydd am ddyrchafiad? Ám Howell Harris, nid hawdd deall grym ei ymlyniad. Ar y naill law yr ydym yn ei gael yn ddyn rhyddfrydig, yn dibrisio traddodiadau a defodau yr Eglwys Wladol, yn tori ar draws ffurfiau a ystyrid yn awdurdodol, ac yn meiddio dweyd yn ngwyneb yr Esgob nad oedd gwahaniaeth o gwbl rhwng tŷ wedi ei gysegru, a thy heb ei gysegru. O'r ochr arall, ni fynai son am adael ei chymundeb, oddigerth cael ei yru allan. Modd bynag, yr ydym yn sicr ei fod yn gwbl anhunangar yn y mater. Nid oedd ei lygaid yn cael eu dallu gan swydd, ac nid oedd yn awyddus am gael ei ddyrchafu. Os oedd yn dymuno cael ei ordeinio, awyddai am hyny er cael mantais helaethach i wneyd daioni.

Ond i fyned yn mlaen gyda phenderfyniadau y Gymdeithasfa. Cydunwyd mai cyfreithlon erlyn â chyfraith y werinos a derfysgent y cyfarfodydd, ac a ymosodent ar y crefyddwyr. "Ar hyn," meddai Howell Harris, "llanwyd fy enaid a thosturi at y terfysgwyr; cefais y fath olwg ar eu trueni, a'r fath gariad atynt, fel yr oedd fy nghalon ar dori." Wrth benderfynu gosod yr achos yn llaw cyfreithiwr, yr oedd gofal i gael ei gymeryd nad oedd y personau a erlynid i gael eu niweidio; gyru ofn arnynt yn unig oedd yr amcan. Yna aed i giniawa i dy un Mr. Richardson. O gwmpas y bwrdd bu cryn ymddiddan gyda golwg ar y Morafiaid, a'u cyfeiliornadau; a gwnaeth Howell Harris ymdrech i leihau chwerwder teimlad rhai o'r brodyr atynt. Yn yr hwyr yr oedd seiat. "Ac er fy mod trwy y dydd," meddai Harris, "yn mhell o'r goleuni, ac heb feddu cymundeb yspryd â Duw, yn y canu daeth y dylanwad dwyfol arnaf, fel y cefais fy nhynu yn agos at yr Arglwydd, ac y perwyd i mi lefain am gael peidio dychwelyd i'r creadur."

Ymgynullai y Gymdeithasfa ychydig wedi saith dydd Iau drachefn. Teimlai Howell Harris ei hun yn dywyll ac yn dra digysur; yr oedd y ddadl y dydd blaenorol wedi dolurio ei yspryd. "Yr oedd cryn betrusder yn fy meddwl," meddai, "pa un a barhawn i fod yn gysylltiedig a'r Gymdeithasfa hon. Er y gallwn aros i ddysgwyl am dano, nis gallaf deimlo yr un undeb brawdol atynt ag at y brodyr yn Nghymru. Ychydig wedi saith aethum



Nodiadau[golygu]