Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-11)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (1743—44) (tud-10) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-12)

at y brodyr, ac eisteddasom hyd wedi dau, yn trefnu achosion y Tabernacl, gan ddewis yn (1) ymwelydd a'r cleifion, (2) athraw ysgol, (3) llyfrwerthydd, (4) un yn ben ar bob dosparth, er ceisio eu dwyn i drefn. Yna cafwyd ymddiddan maith am y priodoldeb o bregethu y ddeddf fel rheol bywyd i gredinwyr. Yr oedd y brawd Cennick yn erbyn hyn, eithr pregethu Crist, hyd nes y byddem yn dyfod yn debyg iddo, a phechod yn cael ei ddystrywio. Minau a ddywedais nad oeddwn yn cyduno ag ef, a bod ei syniadau yn Antinomaidd. Fy mod yn meddwl fel mai trwy adnabyddiaeth o Dduw yn Nghrist y mae y creadur newydd yn cael ei borthi, felly mai trwy sancteiddrwydd Duw yn y gyfraith y mae gweled drwg pechod, ac y dinystrir yr hen ddyn, sef y natur lygredig. Mai nid hyd nes y byddom yn credu yr ydym dan y ddeddf, ond hyd nes na byddo dim o'r hen natur yn aros; a bod y ddeddf i barhau yn athraw i ni hyd nes y dygir ni i lwyr ddarostyngiad i'r Iesu. Gwelwn ei fod ef (Cennick) y tuhwnt i mi yn mhell mewn rhyddid, ond nis gallwn uno ag ef yn hyn. Cefais nerth i ddweyd sut yr oedd arnaf, fy mod yn methu teimlo undeb â hwynt, y modd yr oeddwn yn teimlo petrusder gyda golwg ar ddyfod i Lundain gwedi hyn, a datgenais fy mwriad i beidio dyfod. Yr oeddwn yn farw, a dwl, a thywyll, a sych, yn mhell oddiwrth Dduw, ac nis gallwn deimlo cymundeb â Duw nac â hwy. Darostyngwyd fi; gwelais nad oeddwn yn deilwng i ddyfod i'w mysg, ac eto yr oeddwn yn llawn cariad atynt. Yna ymddiddanasom am lawer o bethau. Yna, gwedi trefnu ymwelwyr mewn cys- ylltiad a'r Tabernacl, ynghyd a'r tŷ newydd, ciniawsom yn nghyd; yr oeddwn yn afiach o ran corph, ac yn flinedig yn fy yspryd. Ymneillduais, a cheisiais weddïo thynu yn agos at fy Arglwydd, ond nis gallwn. Ychydig o Dduw a welwn yn fy neall, yn fy ewyllys, ac yn fy serchiadau; ond llawer o'r diafol, ynghyd a'r natur hono sydd yn barod i gyneu mewn unrhyw brofedigaeth. Myfi yw yr eiddilaf, y dallaf, y mwyaf llygredig, a'r llawnaf o hunan o bawb; a thra yn dymuno am i undeb mewnol i gael ei ffurfio, yr wyf yn ewyllysgar i fod mewn undeb allanol â hwy. Yr oedd yn boenus arnaf heddyw; ac eto yr wyf yn drwyadl ddedwydd, o herwydd fy mod trwy ffydd yn gorwedd ar ffyddlondeb Crist." Felly yr ysgrifena Howell Harris, a therfynodd y Gymdeithasfa trwy iddo ef bregethu oddiar Heb. x. 19, 20.

Dyma y ddadl frwd gyntaf, yn cynyrchu teimladau dolurus, a gymerodd le yn Nghymdeithasfaoedd Methodistiaid. Hawdd gweled ddarfod i Howell Harris golli ei dymer. Cydnebydd yntau hyny mewn gofid, gan achwyn yn dost ar ei natur lygredig, yr hon sydd yn barod i danio ar y brofedigaeth leiaf. Cawn gipolwg am y tro cyntaf ar y dymher gyffrous, a'r yspryd na oddefai gymeryd ei wrthwynebu, a andwyodd ei ddefnyddioldeb gwedi hyn, ac a barodd iddo droi ei gefn ar ei frodyr. Y mae yn sicr fod a fynai ei iechyd, canlyniad naturiol gor-lafur, a'r ysprydiaeth oedd yn dechreu ei feddianu. Dychwelodd i Lundain ddechreu mis Hydref. Y peth cyntaf a gofnoda wedi dychwelyd adref yw ymddiddan ag un Richard Jenkins, yr hwn oedd wedi gadael y Methodistiaid, ac wedi ymuno a'r Ymneillduwyr. "Gwelais," meddai, "ei fod yn synio yn gyfeiliornus am danaf, sef fy mod wedi newid fy marn gyda golwg ar y Gair ysgrifenedig a bywiol; fy mod yn derbyn ac yn coleddu chwedlau anwireddus am danynt, gan edrych arnynt fel plaid wedi ymuno yn ein herbyn, a'm bod wedi gosod gorfodaeth ar bobl i gadw i ffwrdd oddiwrthynt. Atebais inau fod y goleuni a ganlynent yn digwydd gwanhau ein dwylaw; am danaf fy hun, fy mod wedi cael fy ngalw i aros yn yr Eglwys Sefydledig; a'u bod yn pregethu yn ein herbyn. Ond gyda golwg ar Mr. Edmund Jones, fy mod yn credu am dano ei fod yn blentyn i Dduw, yn wir weinidog i Grist, ac yn gwneyd pob peth a wnelai yn gydwybodol; ond fy mod inau yn aros yn yr Eglwys o herwydd cydwybod, ac nid o herwydd rhagfarn. Yna mynegais fy syniadau gyda golwg ar y Gair ysgrifenedig, nad yw Duw ynddo yn hanfodol, nac yn barhaus, nac yn gweithio ynddo yn wastad, ond fel y mae yn ewyllysio; mai offeryn ydyw y Gair, trwy yr hwn y mae yr Arglwydd yn gweithio i alw pechaduriaid ato ei hunan, ac i ddatguddio iddynt yr Arglwydd Iesu. Ond ynddo ei hun, ac ar wahan oddiwrth Dduw, nad yw ond llythyren farw, a'i fod yn amddifad o oleuni, a bywyd; mai yn Nuw yn unig y mae y bywyd. Ei fod (y Gair) yn dest- ament ysgrifenedig, yn cynwys cymun- roddion i blant Duw, ac yn ddarlun o Dduw, yn ei gynrychioli gerbron y byd;



Nodiadau[golygu]