Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-12)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (1743—44) (tud-11) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-13)

ond nas gallwn weled Duw ei hun heb i'r Yspryd ei ddatguddio i'n heneidiau; fod yr Yspryd ar wahan oddiwrth y Gair, ac nad yw wedi rhwymo ei hun wrtho, er ei fod wedi ein rhwymo ni; a bod dal ei fod yn wastad ynddo, pe byddai ein grasusau ni yn weithgar i'w ganfod, yr un peth, yn ol fy meddwl i, a dweyd fod yr Yspryd yn wastad yn y dwfr bedydd, neu yn yr elfenau yn Swper yr Arglwydd; a'i fod yn wadiad ar benarglwyddiaeth yr Yspryd, yr hwn sydd yn tywynu fel y rhynga bodd iddo yn y Gair, ac yn ein heneidiau ni. Ein bod yn deall ei fod yn fynych yn bresenol yn y Gair i eraill pan nad yw i ni, ac i ni heb fod i eraill. Fy mod yn cael am y llyfr, a elwir y Beibl, ei fod yn unig am amser, tra y byddom yn y cnawd, ac na fydd ei angen yn y byd ysprydol, am y gall Duw lefaru yno yn ddigyfrwng wrth ein heneidiau. Pan y mae yr Arglwydd yn llefaru trwy y Beibl, fod y llais a'r nerth yn bethau ar wahan oddiwrth y Beibl, a'i fod yn farw hyd yn nod y pryd hwnw, er fod bywyd yn dyfod i ni trwyddo, ac nad yw ond cyfrwng."

Prawf y difyniad hwn fod Harris yn dduwinydd ardderchog, ac y meddai graffder dirfawr i adnabod pethau sydd a gwahaniaeth rhyngddynt. Gwelir hefyd fod y gwahanfur rhyngddo a'r Ymneillduwyr yn ymddyrchafu yn raddol, a bod y naill wedi myned yn ddrwgdybus o'r llall. Dau ddiwrnod o orphwys, os gellir ei alw yn orphwys, a gafodd wedi dychwelyd o Lundain, cyn cychwyn drachefn ar ei deithiau. Nos Sul y cyrhaeddodd adref; dydd Mercher canlynol wyneba ar Glanyrafonddu, yn yr hwn le y cynhelid Cymdeithasfa Chwarterol. Ar y ffordd goddiweddodd rai o'r ŵyn, cymdeithas pa rai a fu foddion i danio ei enaid. Pan y clywais," meddai, "am y gweinidogion Ymneillduol yn troi yn ein herbyn, ac yn bwrw rhai allan am ymuno â ni, galerais. Pan y clywais drachefn fod y gwaith yn myned yn mlaen yn ogoneddus trwy y brodyr Rowland, Williams, a Davies, llawer yn dyfod tan argyhoeddiadau, a chanoedd lawer yn dyfod i'r ordinhad, fflamiodd fy enaid ynof, a thynwyd fi allan i fendithio yr Arglwydd." Yn Llwynyberllan cyfarfyddodd a'r tri offeiriad y clywsai am eu llwyddiant, sef Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, a thaniwyd ei yspryd yn eu cwmni. Teimlai amddifadrwydd o rym i fyned i Ogledd Cymru, ond meddai, "teimlwn y gallai fy enaid apelio at Dduw, gan lefain:, O Arglwydd, ti a wyddost fy mod yn foddlon myned yno i farw, ac yna i ddod atat ti." Pregethodd Howell Davies yn Llwynyberllan, oddiar Esaiah i. 6, a chafodd odfa nerthol. Dranoeth cyrhaeddodd cenhadau Crist Glanyrafonddu, a chafodd Herbert Jenkins afael ryfedd ar weddi wrth agor y Gymdeithasfa. I gychwyn, llefarodd Harris hyd nes tua haner awr wedi dau wrth yr holl frodyr cynulledig, am fawredd y gwaith, am drefn a darostyngiad, am ddarllen yr Ysgrythyr, a llyfrau da eraill er diwyllio eu meddyliau; a'i fod yn gweled mai ei le ef oedd cynorthwyo y gweinidogion ordeiniedig.

Ond chwythodd ystorm ar y Gymdeithasfa. Meddai Howell Harris: "Cyfododd dadl yn ein mysg gyda golwg ar y Morafiaid; yr oedd y brawd Rowland yn rhagfarnllyd o'u plaid; safais inau yn erbyn eu cyfeiliornadau. A'r gelyn a lywodraethodd fy yspryd. Drachefn, y brawd Morgan John Lewis a ddatganodd ei argyhoeddiad gyda golwg ar adael yr Eglwys Sefydledig, fod ei sail yn Iuddewaidd, ei chanonau yn anysgrythyrol, ei hoffeiriaid yn elynion Duw, a'i haddoliad yn ffurfiol, gyda llawer o goelgrefydd Babyddol, a'i fod yn meddwl y dylem ei gadael yn awr; mai yn awr yw yr amser i adael cyfeiliornadau, pan yr ydym yn argyhoeddedig o honynt. (Datganodd yn mhellach): Ein bod yn awr yn eglwys, ac y dylem ymwahanu; i'r eglwys Iuddewig gael ei sefydlu yn gyntaf yn yr Aipht, yn ganlynol iddi gael ei dwyn i'r anialwch, ac ymwahanu; fod yr eglwys Gristionogol am beth amser yn yr eglwys Iuddewig, ac yna iddi ymwahanu. Yna yr holl frodyr a gytunasant yn erbyn hyn, nad oeddem yn cael ein galw i ymneillduo; na ddarfu i ddisgyblion Crist adael yr eglwys Iuddewaidd nes iddynt gael eu gwthio allan; ac nad ydym ni yn euog am ddim o'r drygau sydd yn yr Eglwys, gan ein bod wedi codi ein llais yn eu herbyn. Datgenais i fy ffydd a'm rhesymau y bydd i'r gwaith hwn (sef y diwygiad) lanw yr Eglwys a'r deyrnas." Y mae yn dra sicr i'r ddadl fod yn frwd, ac i Howell Harris gyffroi yn enbyd. Y mae yr ymad fod y gelyn yn llywodraethu ei yspryd, yn dra arwyddocaol, ond yn dangos gonestrwydd na cheir yn gyffredin ei gyffelyb. Ai parch i deimladau Howell Harris a barodd i'r brodyr benderfynu yn unfryd na wnaent ymwahanu, ynte argyhoeddiad gwirioneddol mai aros yn yr Eglwys oedd eu



Nodiadau[golygu]