Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-13)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (1743—44) (tud-12) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-14)

dyledswydd, nis gwyddom. Ond hyfryd cofnodi ddarfod i'r ystorm dawelu, ac i dangnefedd lanw y gynhadledd. Meddai y dydd-lyfr: "Yna, wedi cyduno i aros fel yr ydym, a chwedi ateb rhyw bethau i'r rhai a betrusent, gweddïasom a chanasom, a daeth nerth a thân i'n mysg.'

O hyn hyd y diwedd aeth y Gymdeithasfa yn mlaen yn hyfryd. Dygai yr arolygwyr eu hadroddiadau i mewn, y rhai oeddynt yn nodedig o galonogol, a phenderfynwyd llawer o bethau. Yn yr ymdrafodaeth, cafwyd goleuni arbenig trwy y brodyr Morgan John Lewis, a William Richard. Gosodwyd y brawd John Richard, Llansamlet, yn ol yn ei le, wedi iddo fod dan ychydig gerydd. "Wedi penderfynu pob peth," meddai Harris, "a chael fod arolygwyr Siroedd Mynwy, a Threfaldwyn, yn glauar, agorodd yr Arglwydd fy ngenau, a chyda dwyfol ddoethineb, gallu, awdurdod, cariad, a melusder, mi a hyderaf, anerchais y cynghorwyr gyda golwg ar eu gwaith; y pwys iddynt iawn ymddwyn yn mysg yr wyn; am ein hanghymwysder, bawb o honom, i'r gorchwyl; am y pwys o ymroddi i ddarllen; am adeiladu y saint fel meini bywiol, am gymeryd y gwaith yn uniongyrchol o law Duw, ac am garu ein gilydd. Yr oedd bywyd a gallu yn cydfyned a'r ymadroddion, yn dangos pa mor fawr yw y pethau a wna Duw yn fuan trwy y gymdeithas hon." Boreu dranoeth, sef dydd Iau, ysgrifena drachefn: "Yr oedd swn canu a gweddio i'w glywed trwy gydol y nos. Yr oedd cwmwl cyfan o dystion yr Oen wedi ymgynull, sef tri offeiriad, dau frawd Ymneillduol, deuddeg arolygwr, a nifer mawr o gynghorwyr. Teimlwn agosrwydd mawr at Dduw. Treuliais y boreu mewn ffarwelio a'r brodyr, ac yn trefnu fy nheithiau, yr hyn wyf yn wneyd bob amser gyda mawr ofal a gweddi." Arosodd yn Glanyrafonddu hyd dydd Sadwrn, ac yna cychwynodd ,am Langeitho. Y Sul, cafodd flas mawr ar wasanaeth yr Eglwys, a phregethodd Rowland yn rhyfedd oddiar Hosea i. 10. Yr oedd mewn agosrwydd mawr at yr Arglwydd hefyd ar y cymundeb. Dywed fod y gynulleidfa fawr a ddaethai yn ughyd yn dyfod o wyth o wahanol siroedd. Yn y prydnhawn, am bump, pregethodd Harris oddiar y geiriau: "Aroswch yn fy nghariad," a chafodd ryddid ymadrodd dirfawr. Boreu dydd Llun, cyfid am bump, teimla gariad angerddol at Rowland a Williams, Pantycelyn, fel nad hawdd ffarwelio â hwy, ac am chwech cychwyna tua Llanbrynmair. Tramwyodd trwy ranau helaeth o Siroedd Tref- aldwyn, Maesyfed, a Brycheiniog cyn dychwelyd.

Yn mis Tachwedd cawn ef yn bresenol mewn Cymdeithasfa Fisol yn Llanddeusant. Ni fu yno na digter na dadl, ond pob peth yn myned yn mlaen yn hyfryd. Rhoddodd Harris siars ddifrifol iawn i'r cynghorwyr, gyda golwg ar eu hymddygiad, eu gwisg, a'u darllen; dangosai fawredd y gwaith, gwerth yr ŵyn, a pha fodd y dylent eu caru, a bod yn dyner o honynt, er mwyn Crist. "Yr oeddwn yn fanwl," meddai, "wrth ddangos sut y mae hunan a balchder yn dyfod i mewn, dan wahanol liwiau, megys gwisgoedd, &c. Yna agorwyd fy ngenau, gan Dduw, yr wyf yn credu, i geryddu brawd am fod yn anffyddlawn i'w ymddiriedaeth. Tra yr oeddwn yn ei geryddu aethum i lawr i'r llwch, yr oeddwn yn cael fy nhrywanu gan gariad ato, a dangosais ganlyniadau niweidiol anffyddlondeb i ymddiriedaeth i bawb o honom, ei fod yn ddirmyg ar awdurdod Duw yn ein mysg." Nid oedd Harris yn fwy dirmygus a gwael yn ei olwg ei hun un amser, na phan yn gweini cerydd i arall, a chawn ef y tro hwn yn llefain ar y canol: "O Arglwydd! Pwy wyf fi i fod yn y fath le o ymddiried! Yr wyf yn ei deimlo i'r byw, ei fod yn fy ngosod fwy- fwy yn lle tad, ac y mae hyn yn fy ngyru i'r llwch."

Diorphwys y teithiai Howell Harris misoedd Tachwedd a Rhagfyr, 1743. Yr ydym yn ei gael yn barhaus naill ai yn Llangeitho, neu ynte yn nghymdeithas Daniel Rowland a Williams, Pantycelyn, mewn rhanau eraill o'r wlad, yr hyn a arwydda fod materion pwysig cysylltiedig â'r diwygiad yn peri dirfawr bryder, ac yn gofyn am aml a dwys gydymgynghoriad. Eithr yr oedd yspryd Harris ar uchelfanau y maes. Dydd Nadolig ysgrifena: "Yr wyf yn awr yn dychwelyd o daith am bedair wythnos trwy Siroedd Aberteifi, Penfro, a Chaerfyrddin, lle y mae y gwaith yn myned yn mlaen yn rhyfedd. Ni welais erioed o'r blaen yn y nifer amlaf o leoedd y fath dân, bywyd, nerth, a rhyddid ffydd. Bydded i Grist gadw mewn cof yn ein mysg ryfeddol waith yr Yspryd Glan. Yn sicr, y mae yr Arglwydd wedi dychwelyd i'w deml. Neithiwr, yn y dirgel, yr oedd fy enaid yn llosgi gan



Nodiadau[golygu]