Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-14)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (1743—44) (tud-13) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-15)

awydd am ogoneddu Duw; yr oedd fy enaid ar dân gan fawl i Dduw. Llefwn: 'O Dduw, yr wyf yn dy garu ac yn dy fendithio am Grist. Yr wyf yn dy fendithio am ei fywyd, fy nheitl perffaith i'r nef; yr wyf yn dy fendithio am ei farwolaeth, fy ngwaredigaeth rhag y felldith; yr wyf yn dy fendithio am ei adgyfodiad, am orchfygu marwolaeth, a phechod, a'r diafol; yr wyf yn dy fendithio am ei fod yn awr mewn gogoniant, a phob awdurdod ganddo.' O, y rhyddid hwn! Cryfhawyd fy ffydd yn fawr wrth ddarllen Mat. i. 21, y gellid fy ngwaredu oddiwrth fy mhechodau. Cefais lawer o nerth i weddïo dros y sir hon, yn enwedig ar i Dduw aros yma, a'm bendithio inau iddi."

Blwyddyn ryfedd yn hanes Methodistiaeth Cymru yw y flwyddyn 1743. Ynddi y cymerodd cyfansoddiad y Cyfundeb ffurf arosol, ac y darostyngwyd y seiadau a'r cynghorwyr i drefn. Bu yn gyfnod o ddirfawr bryder, o ymdrechion arwrol, ac o ymweliadau grymus. A chawn Howell Harris ar ei therfyn mewn yspryd bendigedig, yn bendithio ac yn molianu Duw.

Y dydd Mercher cyntaf yn y flwyddyn 1744, cyfarfyddai y Gymdeithasfa Chwarterol yn Watford. Y mae profiad Harris ar ei ffordd yno yn haeddu ei groniclo:

"Llefais mewn dwfn ddarostyngiad: O Arglwydd, oni bai am y gras sydd ynot ti, O Iesu, nis gallwn fyned yn y blaen; dychrynid fi gan y treialon a'r croesau; ynot ti ac ar dy ras yr wyf yn pwyso.' Cefais olwg hyfryd ar ogoniant, cariad, a melusder Duw; gorweddais yn gysurus arno, gan lefain: Gyda golwg ar fyned i Lundain, dangos i mi, Arglwydd, a ydwyt yn fy anfon. Yr un peth i mi yw myned neu beidio myned. Yn unig bydded i mi dy gael di, yna danfon fi i uffern, os wyt yn ewyllysio, i bregethu i'r gethr sydd yno. Yr wyt ti yn frenin arnynt hwy, ac y maent yn rhan o dy deyrnas." Gwelais hyn mor amlwg fel yr oeddwn yn barod i fyned neu beidio myned. Yna yn ddisymwth cododd cri ynof: O Arglwydd, anfon fi i Lundain; anfon genadwri gyda mi er bendith i'r wyn.' Teimlwn gariad dwfn, a dymuniad am gael fy anfon i'w mysg. Gyda golwg ar y mawrion yr wyf i ymddangos ger eu bron, sef esgobion, &c., gwnaed i fy enaid lefain: O Arglwydd, yr wyt ti yn y nefoedd; ar y gras sydd ynot ti yr wyf yn pwyso." . . . Y ddoe oedd y dydd yr ymddangosai yr wyn perthynol i Sir Drefaldwyn, gerbron y gelynion yn Bangor; teimlais gymundeb dwfn â hwy yn eu dyoddefaint, a hyder y byddai i Dduw fod gyda hwy. Am danaf fy hun, teimlwn yn barod i fyned i ganol y werinos, a marwolaethau o bob ffurf, gan fy mod. yn gweled Crist uwchlaw pob peth."

Gyda golwg ar Fethodistiaid Sir Drefaldwyn yn cael eu gwysio i Bangor, teifl y difyniad canlynol o lythyr Howell Harris at yr Hybarch Griffith Jones, ryw gymaint o oleuni: "Oddiar pan welais chwi bum yn Sir Drefaldwyn. Y ddoe aethant (y Methodistiaid) i Bangor; ac yn ol eich cyfarwyddyd chwi ymgynghorais â rhai personau deallus yn y gyfraith. Ymddengys mai yr unig ffordd trwy ba un y gellir symud achosion o'r llys hwnw i'r Court of Arches yw trwy writ oddiwrth yr Arglwydd Brif Ynad, a elwir nolle prosequi. Dydd Sadwrn nesaf, yn Nhrefecca, yr wyf yn dysgwyl cael hysbysrwydd am y gweithrediadau yn eu herbyn, a pha un a fydd i hyny, a materion eraill, fy ngalw ar unwaith i Lundain. Neithiwr, cyfarfyddais a Mr. Whitefield yma; y mae efe am i mi fyned, ac am gario yr achos yn mlaen. Ond gan mai achos yr Arglwydd ydyw, nid amheuaf y bydd iddo dueddu meddyliau pawb ydynt dan lywodraeth deddf ei gariad i uno, galon a llaw, i'w gario yn mlaen. Bendigedig a fyddo Duw, y mae y gwaith ar gynydd yn mhob man, a drysau newyddion yn agor." Ysgrifenwyd y llythyr hwn o Watford, Ionawr, 1744. Gwelwn fod Griffith Jones, er na ymunai yn ffurfiol â'r Methodistiaid, yn calonog gydymdeimlo â'r diwygiad, a'i fod yn wr o gynghor i'r Diwygwyr ar bob achos dyrys. Sut yr aeth pethau yn mlaen yn Mrawdlys Bangor, nis gwyddom, ond gallwn fod yn sicr ddarfod i'r Arglwydd, yn ol ei arfer, i'r rhai a garant ei enw, ofalu am ei eiddo. Y "materion eraill" y cyfeiria Harris atynt, fel yn debyg o'i alw i Lundain, oedd y cynghaws cyfreithiol a ddygid yn mlaen yn erbyn y rhai ddarfu ymosod ar y Methodistiaid yn Hampton, gan derfysgu eu cyfarfodydd. Yr oedd canlyniad y cynghaws o'r pwys mwyaf i'r Methodistiaid, am y penderfynai eu hawl i gael llonyddwch i addoli Duw yn ol argyhoeddiad eu cydwybod.

Cymdeithasfa fechan ydoedd yn Watford. oedd Daniel Rowland, Williams, Pantycelyn, a Howell Davies, yn absenol; dywed cofnodau Trefecca mai gerwinder yr hin a'u rhwystrodd, ac i'w ceffylau fethu. Ond daethai Whitefield yno yn



Nodiadau[golygu]