Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-6)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (1743—44) (tud-5) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-7)

fod yr Arglwydd yn ei fendithio. Wedi cyrhaedd Aberteifi, y peth cyntaf oedd ymweled a Morgan Hughes, y brawd oedd yn y carchar. "Pan ei gwelais," meddai Howell Harris, "aeth fy nghalon yn fflam; tynwyd fi allan mewn nerth ffydd, a chariad, a gwres, fel y diflanodd pob ofn ac iselder yspryd, a dychryn ymddangos gerbron y fainc; gallwn eu gwynebu oll yn wrol, a dyoddef gyda fy mrawd. Yn ngrym y nerth hwn gallwn, yn wir, fyned i'r fflamau; tynwyd ofn y werinos i ffwrdd oddiwrthyf; yr oedd ynof ddigon o ddewr- der i arddel fy Arglwydd. Daethum at Morgan Hughes pan oedd yn isel ei yspryd, ac yn gweled pob peth yn ei erbyn, heb wybod am neb a gymerai ei achos mewn llaw. Ond cefais ddigon o nerth ffydd i ddweyd a dangos fod Duw uwchlaw iddynt oll, nad oes arnom eisiau cymhorth braich o gnawd, gan fod Duw yn chwerthin ar ben y diafol, a phob ymgais o'i eiddo, ac y byddai iddo ddwyn da o hyn oll. Cysurais fy mrawd, a theimlais fy hun yn llawn cariad a thosturi at ein gwrthwynebwyr."

Addawsai Harris i Mr. Llwyd na byddai i'r Methodistiaid osod cyfraith ar eu herlynwyr, ond iddynt dalu holl gostau y prawf. Felly, nid oedd gan y barnwr ddim i'w wneyd ond rhyddhau Morgan Hughes, heb ei osod ar ei brawf, ac wrth wneyd hyny dangosodd barch mawr at y rhai a erlynid heb ddim yn eu herbyn ond eu crefydd. "O Arglwydd," meddai Harris, "y mae hyn oll yn dyfod oddiwrthyt ti." Felly y terfynodd y prawf yn Mrawdlys Aberteifi, ac y mae yn sicr i'r amgylchiad feddu dylanwad mawr er gyru ofn ar y gwrthwynebwyr, a chalonogi y rhai a geisient addoli Duw yn ol argyhoeddiad eu cydwybodau. Manyla Howell Harris ar eu hanes yn Aberteifi, lle y buont o nos Lun hyd brydnawn dydd Iau. Dywed fod ei gorph yn wan, ond am ei enaid yr oedd yn byw yn mhell uwchlaw y creadur, ac yn bendithio Duw am edrych ar ei fath. Daethai llawer o'r brodyr crefyddol yn nghyd, fel nad oedd prinder cydymdeimlad nac arian; ac yn nghanol eu pryder cadwent gyfarfodydd i weddïo, a chanu, a molianu, y fath na chlywyd y cyffelyb o'r blaen mewn brawdlys. Ymddengys mai un W. Llwyd oedd blaenor yr uchel reithwyr; dangosodd hwn ei fod yn gyfaill i'r diwygiad; ac meddai Harris: "Teimlwn fy enaid yn ymlenwi o gariad ato, cyffelyb i eiddo yr angelion." Buont yn ymgynghori a chyfreithiwr, a dadleuydd, ac yn egluro yr holl achos. Arweiniodd Mr. Llwyd Harris i'r coffee room yn y prif westy, i ganol yr uchelreithwyr a'r mawrion, ac ymddengys i argraff ffafriol gael ei gynyrchu. Dydd Iau y daeth y prawf yn mlaen. Yn nghyntaf oll gosodwyd gerbron bump o ddrwgweithredwyr; tri am ladrata caseg, a buwch, a rhyw gymaint o arian; a dau am dori tŷ. Wedi gorphen â'r lladron, a'r tŷ-dorwyr, dygwyd Morgan Hughes gerbron. Ond yr oedd yn ddealledig erbyn hyn fod yr uchel-reithwyr wedi taflu yr achos allan, trwy ddylanwad Mr. Llwyd yn benaf, ac yr oedd ei wraig, boneddiges ieuanc dyner, wedi dylanwadu arno yntau. Yn ystod y flwyddyn 1743, hefyd, bu Howell Harris mewn gohebiaeth ag Esgob Tyddewi, gyda golwg ar waith y clerigwyr yn gwrthod y cymundeb iddo, ac i'r rhai oeddynt wedi eu hachub trwyddo. Nid oes un o lythyrau yr Esgob ar gael, ond y mae yn Nhrefecca gopi o lythyr a anfonodd Howell Harris at Ysgrifenydd yr Esgob. Ei ddyddiad yw Awst 1, 1743. Gellir casglu oddiwrtho fod achwynion trymion wedi cael eu dwyn yn erbyn Harris, parthed athrawiaeth ac ymddygiad; a chawn yntau wrth ateb yn dweyd ei feddwl yn ddifloesgni, heb ofni awgrymu nad yw yr Esgob yn hollol iach yn y ffydd. Difynwn ranau o hono: "Yr wyf eto yn amheus a ydyw ei arglwyddiaeth yn cyduno gyda golwg ar gyfiawnhad, mai unig achos am gyfiawnhad gerbron Duw yw ufudd-dod gweithredol a dyoddefol Iesu Grist, heb unrhyw waith o eiddom ein hunain; a bod yr haeddiant hwn yn cael ei drosglwyddo yn rhad i ni gan Dduw, ac yn cael ei ddirnad yn y gydwybod fel yn eiddo i ni trwy y gras o ffydd, yr hwn hefyd sydd yn cael ei roddi i ni. Y mae y ffydd hon yn profi ei hun i ni y wir ffydd, trwy fod yr Yspryd Glân yn tystiolaethu yn ein calonau; ac i'r byd trwy fywyd ac ymarweddiad uniawn. Yn yr ystyr hwn yr wyf yn credu fod sancteiddrwydd tumewnol ac allanol yn angenrheidiol; sef yn angenrheidiol i rodio ynddynt tua'n cartref tragywyddol; a phob amser yn angenrheidiol fel y ffrwyth sydd yn canlyn cyfiawnhad. Gyda golwg ar y cyhuddiadau amgauedig yn eich llythyr, yr wyf yn addef rhai, ac yn gwadu rhai. Ond chwi a addefwch eu bod yn llawn chwerwder, a theimlad cas. Gyda golwg ar y lleoedd y bum yn llefaru ynddynt, cydnabyddaf ddarfod i mi



Nodiadau[golygu]