Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-7)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (1743—44) (tud-6) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-8)

PHOTOGRAPH O DUDALEN DDYDD-LYFR HOWELL HARRIS

wneyd casgliadau at amcanion crefyddol yr ochr arall i'r môr, ond telais hwy bob ceiniog i Mr. Whitefield, fel y dengys ei lyfr, a thalodd yntau hwy at yr amcan mewn golwg. Parthed fy mod yn dal perffeithrwydd dibechod, ni chredais ac ni chyhoeddais hynny erioed. Eithr wedi bod yn nghymdeithas Mr. Wesley, tua thair blynedd yn ôl, yr wyf yn addef i mi arfer ymadroddion heb fod yn glir; ond wedi deall ei fod ef yn dal y cyfryw gred, mi a ysgrifennais lythyr maith ato, ac a ysgerais fy hun oddiwrtho ar bwnc o athrawiaeth. Er hynny, yr wyf eto yn credu ei fod yn ddyn gonest, yn ymdreulio mewn gwneyd daioni, ac fel y cyfryw, yr wyf yn ei garu ac yn ei anrhydeddu. Credaf y byddai ei arglwyddiaeth yn fwy ffafriol i ni pe na chredai yr oll y mae yn glywed. Cyhuddir fi o ddweyd nad yw y naill le yn fwy sanctaidd na'r llall. Yr wyf yn gobeithio eich bod chwithau yn credu felly, nad oes yr un gwahaniaeth, dan yr efengyl, rhwng un lle a lle arall, ond gwahaniaeth cyfleustra; ac na cheir unrhyw addewid yn yr Ysgrythyr am bresenoldeb Duw mewn un man rhagor man arall, oddigerth gyda golwg ar deml



Nodiadau[golygu]