Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1743—44) (tud-8)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (1743—44) (tud-7) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)
Howell Harris (1743—44)
gan John Morgan Jones

Howell Harris (1743—44)
Howell Harris (1743—44) (tud-9)

Solomon. Nid oedd hyny ychwaith ond fel yr oedd yn gysgod o'r eglwys Gristionogol, ac i barhau yn unig hyd nes y sefydlid addoliad ysprydol, pan y darfyddai yr holl gysgodau. Yn awr, pa le bynag yr ymgynull dau neu dri yn enw yr Iesu, ac mewn ffydd, yno y mae presenoldeb Duw. Ar yr un pryd, er mwyn trefn allanol, dymunwn na fyddai un rheswm yn erbyn, a'i fod yn bosibl i ni oll ymgynull yn yr un lle. Am y cyhuddiad ddarfod i mi lefaru ar adeg y gwasanaeth dwyfol yn Felin-newydd, credaf ddarfod i chwi gael eich camhysbysu; mewn anwybodaeth y gwnaethum, os gwnaethum hefyd; yr oedd yn ymyl machlud haul arnaf yn cyrhaedd yno, mor bell ag yr wyf yn cofio. Os troir fi allan o gymun- deb, pan na ellir dwyn unrhyw achwyn yn erbyn fy ymarweddiad, tra y mae eraill yn cael derbyniad, er byw mewn pechodau ysgeler, dan rith tynerwch cydwybod, daw yn amlwg ryw ddydd, os nad yw felly yn awr, a ydyw hyn yn ymddygiad cydwybodol. Gwyddoch os nad oes ymwared i'w gael oddiwrth hyn, ac oddi- wrth y cyffelyb weithredoedd direswm ac anghariadus, yn y llysoedd eglwysig, fod y gyfraith wladol i'w chael. Os troir aelodau allan o eglwys yn unig am fyned i wrando lle y medrant ddeall yr hyn a wrandawant yn well nag yn eu heglwysydd plwyfol, a lle cânt fwy o les, ac teimlant fwy o'r Presenoldeb Dwyfol, nis gwn pa fodd y gall y cyfryw Eglwys gael ei rhyddhau oddiwrth yspryd erledigaeth, na honi ei bod yn meddu y cariad catholig, na'r tynerwch, y rhai y tybiwn ydynt brif nodweddion eglwys."

Llythyr teilwng o apostol. Hawdd gweled ei fod yn ysgrifenu gyda phob gonestrwydd, ac yn hollol ddiofn, er ei fod yn awyddus am dalu i'r Esgob a'i Gaplan bob parch gweddus. Yn ngoleuni y llythyr yma gallwn weled natur y cyhuddiadau a ddygid yn erbyn Howell Harris, sef (1) Ei fod yn dal nad yw gweithredoedd da yn amod cyfiawnhad, a'i fod yn pregethu athrawiaeth John Wesley gyda golwg ar berffeithrwydd dibechod y credadyn. (2) Ei fod yn casglu arian yn y cyfarfodydd crefyddol a gynhelid ganddo, gan ddefnyddio y cyfryw at ei wasanaeth ei hun." (3) Y pregethai nad oedd cysegriad esgobol yn gwneyd adeilad yn fwy sanctaidd, ond y gellid defnyddio unrhyw le, pa un bynag ai wedi ei gysegru neu ynte heb ei gysegru, at ddybenion crefyddol. (4) Ei fod yn cynal ei gyfarfodydd ar yr un adeg ag yr oedd yr offeiriaid yn cynal gwasanaeth dwyfol yn y llanau. Profa yntau ei fod yn ddieuog o rai o'r pethau a osodid i'w erbyn; ac am y pethau eraill, fod ei syniadau yn fwy Ysgrythyrol nag eiddo ei wrthwynebwyr. Gyda golwg ar wrthod y cymun bendigaid iddo ef, a'r Methodistiaid, tra yn derbyn i'r ordinhad sanctaidd ddynion o fucheddau annuwiol cyhoeddus, ysgrifena gyda grym anwrthwynebol, ac anhawdd genym feddwl nad oedd y gwrid yn dyrchafu i ruddiau Esgob Tyddewi wrth ddarllen ei eiriau llosgedig. Da genym weled nad oedd eglwysyddiaeth Harris yn myned mor bell ag y tybir weithiau, ac mai dibwys iawn yr edrychai ar gysegriad esgob. Yr ydym yn parchu ei ddewrder, a'i onestrwydd, ynghyd a'i gydwybodolrwydd i wirionedd ac i Grist.

Dydd Mercher, Awst 3, 1743, y mae Howell Harris yn cychwyn ar gefn ei geffyl tua Llundain, sef ei bumed ymweliad a'r brif-ddinas. Amcan ei ymweliad oedd cael cyfarfod a'r brodyr Saesnig yn eu Cymdeithasfa Gyffredinol. Eithr nid ai y ffordd unionaf; yn hytrach cymerai dro ar draws y Deheudir, mewn rhan er defnyddio pob mantais i bregethu yr efengyl, ac mewn rhan er cael cydymgynghori a'i frodyr, fel y byddai yn alluog yn y Gymdeithasfa i roddi mynegiant i syniadau yr arweinwyr yn Nghymru, yn gystal a'i syniad ei hun. Aeth y diwrnod cyntaf i Beiliau, lle y pregethodd oddiar y geiriau: "Myfi yw y ffordd." Yr oedd yn odfa dda, a theimlai yntau ryddid mawr. Tranoeth, aeth i Myddfai, lle y llefarodd oddiar y geiriau: "Portha fy wyn." Nid arosodd yma nemawr, eithr teithiodd yn ei flaen i'r Parke, yn Sir Benfro, a chyfrifa fod taith y diwrnod o gwmpas haner can' milltir. Yma yr arosodd hyd brydnhawn dydd Sadwrn. Oddiyno aeth yn ei flaen trwy Lanstephan, hyd Gapel Evan. Ymddengys fod Cymdeithasfa Fisol yn cael ei chynal yma. Pregethodd Howell Davies yn mlaenaf, i gynulleidfa o saint yn benaf. Ar ei ol ef llefarodd Daniel Rowland, oddiar Gal. ii. 20: "Mi a groshoeliwyd gyda Christ." Pregeth anarferol, gyda goleuni a gwres mawr. Dangosai yn (1) Fel y mae yr enaid yn canfod ei hun yn wag o bob daioni, ac fel y mae yn canfod ei ddigonedd, am amser a thragywyddoldeb, yn Nghrist. (2) Natur y farwolaeth o ba



Nodiadau[golygu]