Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1749-50) (tud-04)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (1747-48) (tud-03) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (1749-50) (tud-05)

yn nghyd hyd wyth; yr oeddwn wedi bod yn y gwaith am ddeuddeg awr, heb gael dim i fwyta nac i yfed."

Cyfarfod rhyfedd oedd hwn, yn ddiau. Ceir yma gryn gadarnhad i'r traddodiad mai ar anogaeth Daniel Rowland yr ordeiniwyd rhai i weinyddu y sacramentau gyntaf yn y Groeswen; y mae cwyn Harris, na ddylasent gymeryd y fath ryddid heb ymgynghori â hwy oll, yn awgrymu yn bur gryf ddarfod iddynt ymgynghori a rhywun, neu rywrai. Ac â phwy y gwnaethent, ond â Daniel Rowland? Dengys yn amlwg, hefyd, fod y peth yn gwbl groes i farn a theimlad Howell Harris; efe a lynai dynaf wrth yr Eglwys o bawb. Y mae ei fod yn cael rhyddid i ddyfod yno, i bwyntio allan iddynt eu dyledswyddau, ac hyd yn nod i'w ceryddu am yr hyn a dybiai oedd allan o le ynddynt, yn brawf diymwad fod cynulleidfa y Groeswen lawn mor Fethodistaidd gwedi yr ordeiniad a chyn hyny. Dranoeth, yn Watford, cafodd ymddiddan nodedig o ddyddorol a'r brawd Thomas Price. "Dangosais iddo natur ein lle," meddai, "fod y fath gorph o bobl yn dibynu arnom, ac yn dal perthynas plant â ni; y dylem, er eu mwyn, fod yn rhyw gymaint o gyfreithwyr, ac o feddygon, yn gystal ag o dduwinyddion, ac o dadau; ac y dylem ddarllen llyfrau cyfreithiol a


meddygol, yn ogystal a duwinyddiaeth, hanesiaeth eglwysig, a dadleuon athrawiaethol. Siaredais yn rhydd ag ef am natur y gwaith, y modd y mae yn myned yn ei flaen gyda nerth, a'r modd y dylem ddefnyddio rhyw foddion er diwyllio y pregethwyr, a chael coleg, er dwyn i fynu ddynion ieuainc blaenllaw i'r weinidogaeth. Yr oeddwn hefyd yn credu fod Mr. Whitefield yn rhy benderfynol, pan yr honai fod gwybodaeth o Ladin yn hanfodol." Dyma yr hedyn a blanodd Richard Tibbot, yn ei lythyr at y Gymdeithasfa, parthed addysgu y cynghorwyr, yn awr yn ffrwytho yn meddwl Howell Harris. Gwelir y fath goleg a fwriadai, sef sefydliad lle y byddai elfenau meddyginiaeth, ac egwyddorion y gyfraith wladol, yn ogystal a gwahanol adranau duwinyddiaeth, yn cael eu dysgu. Rhoddai bwys ar y pethau blaenaf, am fod llawer o'r dychweledigion yn dra anwybodus ynddynt, ac yn dibynu yn gyfangwbl am oleuni ac arweiniad ar y rhai a ystyrient yn dadau crefyddol. Teithiodd trwy Fair Oak a Redwick; daeth galwad sydyn arno i ddychwelyd i Drefecca; eithr yr oedd yn ei ol yn y Goetre, dydd Mawrth, Ionawr y 24, wedi teithio trwy gydol y nos. "Cyrhaeddais yma am dri o'r gloch y boreu," meddai, "gorphwysais am ddwy awr yn fy nillad; yr oedd yn rhaid i mi fyned yn y blaen i gyfarfod Mr. Whitefield



Nodiadau[golygu]