Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (1749-50) (tud-05)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (1747-48) (tud-04) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (1749-50) (tud-06)

yn Nghaerloyw; gan fod gwaith y Brenhin yn galw am frys a phenderfyniad."

Nid oes genym hamdden i adrodd hanes Cymdeithasfa y brodyr Saesnig yn Nghaerloyw; ond y mae yn amlwg fod Harris yn edmygydd diderfyn o Whitefield, ac yn ei garu yn angerddol. "Cefais y fath olwg ar Mr. Whitefield," meddai, "ag a wresogodd fy nghalon ato yn fawr, gan fod yr Arglwydd, a'i gariad, yn trigo ynddo. Yr oeddwn yn ei garu yn ddirfawr, ac yn llawenychu fod y fath ddyn wedi ei eni.' Ar y chwechfed o Chwefror, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, yr hon a agorwyd gan Howell Harris gyda phregeth rymus, oddiar y geiriau: "Y rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd a fyddant fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir." Nid yw yn cofio ddarfod iddo gael y fath odfa o'r blaen, yr oedd yr Arglwydd mewn gwirionedd yn eu mysg. Yn nghyfarfod neillduol y Gymdeithasfa trefnwyd teithiau y brodyr, lleoedd y Cyfarfod Misol, a goruchwylwyr ar y gwahanol seiadau. Anogodd y brodyr ieuainc, hefyd, i ddod unwaith yr wythnos, yn awr ac yn y man, i Drefecca, i gael gwersi. Pwy oedd i'w haddysgu, ni ddywedir, ac nid ydym yn gwybod i ba raddau y rhoddwyd yr anogaeth mewn gweithrediad. Cofnoda, hefyd, fod y brawd William Griffiths, o Sir Gaernarfon, yn bresenol.

Dydd Llun, Chwefror 14, cawn ef yn cychwyn am daith i Siroedd Maesyfed a Threfaldwyn. Pregethodd yn Erwd y nos gyntaf ar natur ffydd. Dranoeth, yn Llanfair-muallt, ei destun ydoedd: "Ys truan o ddyn ydwyf fi." Yn y seiat breifat a ddilynai, yr oedd amryw gynghorwyr yn bresenol, a chymerodd yntau fantais ar y cyfleustra i ddangos y fath anrhydedd iddynt oedd cael gwasanaethu yr Arglwydd. "Dywedais wrthynt," meddai, "am y cynyg a gefais ar le gwerth can' punt yn y flwyddyn, lle y gallaswn wisgo coler hardd, gyda lace aur; nad oedd dim yn fy rhwystro ond cydwybod. Gyda gwaith yr efengyl yr wyf yn aml yn wlyb hyd y croen, ac yn oer. A ydwyf yn grwgnach? A ydwyf yn ei theimlo yn galed? Na, na; yr wyf yn synu fy mod yn cael fy anrhydeddu mor fawr." Yna, cyfeiriodd at y casgliad wythnosol, y dylent roddi, nid pob un geiniog, ond pob un yn ol ei allu; ac anogodd y gweithwyr, pan yn gwneyd cytundeb a'u meistriaid, ar iddynt gadw amser at waith Duw. Yn Llansantffraid, ei destun ydoedd:

"Byddwch lawen yn wastadol." Yn y seiat breifat, dangosodd fod rheol Gair Duw, ac esiampl yr Arglwydd Iesu, yr un. Fod dadleu am y gwahaniaeth rhyngddynt yn debyg i ddadleu ar y gwahaniaeth rhwng fod un a dau yn gwneyd tri; neu ynte fod dau ac un yn gwneyd tri. Anogodd hwy i fod yn rhydd oddiwrth bartïaeth, ac am dderbyn yr holl bregethwyr, beth bynag a fyddai eu doniau, yr un fath. Yn Dolswydd, yr oedd Beaumont yn gwrando arno, ac aeth y ddau yn nghyd i Lwynhelyth. Ei destun yn Mochdref oedd: "O Israel, ti a'th ddinystriaist dy hun," a chafodd odfa dyner. Mynegodd ei fod wedi gadael dau cant o bunoedd y flwyddyn er mwyn y gwaith; ac y gwnelai hyny eto. Dangosodd y fath waith oedd Duw yn gario yn mlaen, ac nad oedd ond dechreu yn awr; mai yr hyn a wnelai yn benaf yn bresenol oedd symud y drain a'r mieri o'r ffordd; fod uffern wedi ymgynhyrfu yn ofnadwy yn erbyn y gwaith hwn ar ei gychwyniad, ond nas gallai ei ddinystrio; mai eiddo yr Arglwydd oedd yr oll a feddent; pan y rhoisant eu hunain i Dduw iddynt roddi eu meddianau yn ogystal; nas gallent ei alw yn ol mwy, ac nad oeddynt am hyny. Cawn ef yn Berriw dydd Gwener; pwnc y bregeth oedd, y mab afradlon. Yn Llanllugan, pregethai yn nhŷ un Richard Thomas; "Gwir yw y gair," oedd ei destun; ac ar y terfyn cafodd ymddiddan tra dyddorol â Lewis Evan, yr hwn a gawsai ei ollwng yn rhydd o garchar Dolgellau, am natur balchder. Dydd Sadwrn, cawn ef yn Llanfair-careinion; Eph. ii. 8, oedd ei destun; a chyhoeddai i'r bobl nad oedd un gwahaniaeth rhyngddynt hwy a'r damnedigion ond a wnelai gras Duw, ac eto, mor anniolchgar ac anffrwythlawn oeddynt hwy wedi bod. Yr oedd awdurdod a nerth yn cydfyned a'i genadwri. Yn Blaen Carno, pregethai ar : "Chwi a ddaethoch i fynydd Seion;" odfa sych, braidd, ac eto cafodd fesur o oleuni wrth gymhwyso y gwirionedd.

Yn Llanbrynmair yr oedd nos Sadwrn, a phregethodd oddiar y geiriau: "Adda, pa le yr wyt ti?" Boreu y Sul, cafodd seiat breifat yn yr un lle; deuddeg oedd yn bresenol. Dangosodd, i gychwyn, fod y seiadau yn debyg i glafdai, lle yr oedd pawb yn sâl, ac yn rhaid iddynt wrth gymhwysiad beunyddiol o waed Crist hyd ddyfnder y galon; fod yn bosibl i'r deall gael ei oleuo, a'r teimladau eu cyffwrdd,



Nodiadau[golygu]