Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-10)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-9) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-11)

Un oedd cyfarfod am y tro cyntaf a Daniel Rowland yn Defynog. Er fod y ddau er ys peth amser wedi tori allan o'r llwybr cyffredin i rybuddio yr annuwiol, ni wyddent ddim am eu gilydd; a gwna hyn eu hymddygiad yn fwy beiddgar a gwronaidd. Ai Harris allan yn enw Crist i'r pentrefydd, ac i gymoedd mynyddig Brycheiniog a Maesyfed, gan dybio, fel Elias gynt, mai efe oedd yr unig dyst dros y Gwaredwr. Ond cafodd Rowland ei wahodd i Eglwys Defynog, gan ficer y plwyf; daeth Harris, trwy wahoddiad y ficer, yn ol pob tebyg, yno i'w gyfarfod; ac wrth weled y doniau seraphaidd a pha rai yr oedd wedi ei gynysgaeddu, a'r nerth gyda pha un y traddodai wirioneddau gogoneddus yr efengyl, ymglymodd ei enaid am yr apostol o Langeitho, ac aeth gydag ef i Sir Aberteifi cyn dychwelyd. Os edrychir ar Fethodistiaeth fel yn tarddu, a dywedyd yn ol dull dynol, o ddwy ffrwd wahanol ac annibynol, yn Defynog y pryd hwnw gwelir y ddwy ffrwd yn ymuno a'u gilydd, ac yn ymffurfio yn afon.

Yr amgylchiad arall oedd argyhoeddiad Mr. Marmaduke Gwynn, un o brif foneddwyr Brycheiniog, yr hwn a breswyliai yn y Garth, yn rhan uchaf y sir. Disgwylid Harris i bregethu yn y gymydogaeth. Clywsai Mr. Gwynn lawer math o ddrygair am y pregethwr, ei fod yn wrthryfelwr yn erbyn y brenin, ac yn terfysgu y bobl, gan eu hanog i godi yn erbyn yr awdurdod wladol. Teimlai mai ei ddyledswydd, fel ustus heddwch, oedd traddodi y terfysgwr i'r carchar. Ond yr oedd yn ŵr cyfiawn, ac meddai wrth ei wraig: "Mi a'i gwrandawaf cyn ei draddodi." I'r cyfarfod yr aeth, a Deddf Terfysg (the Riot Act), yn ei logell, er tori y cyfarfod i fynu, a gwasgar y gwrandawyr, pan welai duedd at wrthryfel. Ond ni soniai Harris am bethau tymhorol; bygythion Duw yn erbyn yr annuwiol a fynegai; anog y gynulleidfa i ddianc rhag y llid a fydd yr oedd, a'u ceryddu am eu pechodau gwaradwyddus, a'u bucheddau anfoesol. Ymddangosai i Mr. Gwynn fel angel Duw, fel cenad o fyd arall. Yn lle dal y pregethwr, cafodd efe ei hun ei ddal, ai ddwyn yn gaeth i Grist. Ar derfyn y cyfarfod, aeth at y pregethwr, gan gyfaddef ei ddrwg-fwriad, a gofyn ei bardwn, a'i gymhell i letya i'w dŷ. Bu aruthr gan Mrs. Gwynn, yr hon oedd yn foneddiges yn hanu o deulu uchel, weled ei phriod yn dychwelyd yn nghwmni y pregethwr terfysglyd, ac yn talu cymaint o barch iddo a phe byddai yn esgob. Braidd na chredai fod ei gŵr wedi colli ei synwyr. Eithr trodd y ferch, Miss Sarah Gwynn, gyda ei thad. Bu Mrs. Gwynn am beth amser yn elynol i'r diwygiad, ond cafodd hithau ei hargyhoeddi i fywyd, a daeth yr holl deulu yn Fethodistiaid. Priododd Miss Gwynn a Charles Wesley ar ol hyn. Taflodd Mr. Gwynn ei holl ddylanwad o blaid Harris; amddiffynodd ef yn mhob modd, a sicr yw ddarfod i'w ymddygiad effeithio yn fawr er lleihau yr erledigaeth, ac i ddwyn opiniwn y cyhoedd yn bleidiol i Fethodistiaeth.

Erbyn diwedd 1737, a gwanwyn 1738, er pob gwrthwynebiad oddiwrth yr offeiriaid a'r boneddwyr, ac er terfysg y werinos, yr oedd seiadau wedi cael eu ffurfio bron yn mhob cymydogaeth yn Sir Frycheiniog, mewn nifer mawr o leoedd yn Sir Faesyfed, ac mewn rhai manau yn Sir Henffordd. Nid oedd ardal na chwmwd perthynol iddynt nad oedd wedi ymweled a hwy droiau. Pregethai weithiau yn addoldai yr Ymneillluwyr, ond gan amlaf yn yr awyr agored. Heblaw hyn, ymwelai yn fynych a Llangeitho, nid yn unig er mwynhau gweinidogaeth seraphaidd Daniel Rlowland, ond hefyd yn ddiau er cael cydymgynghori ag ef gyda golwg ar gario y gwaith mawr yn mlaen. Bu ddwywaith o leiaf yn Llanddowror yn 1737, fel y prawf ei ddydd-lyfr, ar ymweliad a'r Parch. Griffith Jones, yr hwn a berchid ganddo megys tad. Y mae yn bur sicr ei fod yn pregethu rhyw gymaint wrth fyned a dychwelyd yn siroedd Caerfyrddin ac Aberteifi. Canlyniad hyn, ynghyd a llafur Daniel Rowland, oedd fod arwyddion o ddiwygiad i'w canfod mewn amryw siroedd; ymdyrai y bobl i leoedd o addoliad; elai y cyfarfodydd llygredig heb fod nemawr yn cyrchu iddynt, ac yr oedd anfoesoldeb yn dechreu plygu ei ben mewn cywilydd: Clywyd son am ei weinidogaeth, a'r arddeliad rhyfedd oedd yn cydfyned a hi, yn Mynwy a Morganwg; tybiodd rhai o'r gweinidogion Ymneillduol yn y siroedd hyn fod gwawr gobaith yn ymagor ynddo ar Gymru, a phenderfynasant ei wahodd i ddyfod ar daith trwy eu gwlad, gan hyderu y byddai i'w ymweliad fod yn foddion adfywiad i'r achosion gweiniaid oedd yn wywllid eu gwedd, ac yn barod i farw.

Y cyntaf i roddi gwahoddiad i Howell

Harris oedd y Parch. Edmund Jones, Pontypŵl. Yr oedd Mr. Jones yn fab i rieni

—————————————

DARLUN O ATHROFA TREFECCA,

A

CHAPEL COFFADWRIAETHOL HOWELL HARRIS.



Nodiadau[golygu]