Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-11)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-10) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-12)

tlodion oeddynt yn aelodau yn eglwys Annibynol Penmain. Ni chawsai nemawr fanteision addysgol; nid ymddengys ychwaith ei fod o ddoniau mawr, ond yr oedd yn llawn o zêl a_ gweithgarwch. Llwyddasai i gasglu cynulleidfa ac eglwys fechan yn nghymydogaeth Pontypŵl; eithr gwanaidd a dilewyrch iawn oedd yr achos; nid oedd ganddynt addoldy o gwbl; ond ymgynullent mewn gwahanol dai anedd ar gylch. Yr oedd yr holl gwm, ynghyd a'r cwm nesaf, o Flaenau Gwent i lawr, yn ddigrefydd ac annuwiol. Penderfynodd Mr. Jones y gwnai ymgais i gael Howell Harris yno i bregethu; ddechreu gwanwyn 1738, aeth yn un swydd ar ei draed i Dre- fecca i'w gyrchu; ac ni ddychwelodd heb ddwyn Mr. Harris gydag ef.. Cynyrchodd ymweliad y Diwygiwr gyffro dirfawr yn yspryd offeiriad Mynyddislwyn a Bedwellty, ac yn ei lid, anfonodd ato y llythyr canlynol :—

"MR. HARRIS.— Yr wyf. yn synu at eich hyfdra yn dyfod i fy mhlwyfydd i, sef Mynyddislwyn a Bedwellty. Rhaid i chwi gilio yn ol; onide bydd i chwi, a'r person neu y personau a'ch gwahoddodd ac a anfonodd am danoch, dderbyn y dialedd cyfiawn sydd yn ddyledus am y fath ymddygiadau anghyfreithlon.— Yr eiddoch, DAVID PERROT.

Y mae y llythyr hwn wedi ei ddyddio Mawrth 17,1738. Ni thalodd Howell Harris un sylw i fygythion Mr. Perrot; aeth yn ei flaen gan daranu yn erbyn drwg arferion y trigolion gyda nerth, nes y syrthiodd braw a dychryn arnynt. Nid oes genym restr o'r lleoedd a pha rai yr ymwelodd, ond ymddengys fod dylanwadau rhyfedd yn cydfyned a'i weinidogaeth, a bod y fath awdurdod yn ei leferydd fel y dychrynid y mwyaf rhyfygus, ac y siglid teyrnas y tywyllwch hyd ei sail. 'Cynyrchodd chwildroad hollol yn sefyllfa foesol y wlad. Cymerer yr hyn a gymerodd le yn nghymydogaeth Mynyddislwyn fel enghraifft. Ger eglwys y plwyf yr oedd twmpath uchel a elwid "Towyn Tudur," a thaenid hen chwedl yn yr ardal yr elai yn ystorm o fellt a tharanau pe y ceisiai neb ei symud. Ar y twmpath hwn y safai Harris, ynghanol y canoedd campwyr oedd wedi ymgynull i wrando. Ychydig, meddir, oeddynt yn ddirnad am faterion y bregeth, ond deallent fod y llefarwr yn cyhoeddi melldithion ofnadwy yn erbyn eu drygfoes, a'i fod yn bygwth y llyn o dân ar y rhai a fynychent y gwylmabsantau a'r campau. Effeithiai ei ddull yn ofnadwy ar y gwrandawyr. Tybient fod y ddaear yn crynu dan eu traed, a bod uffern yn myned i agor ei safn i'w llyncu yn fyw. Nid annhebyg fod a fynai yr hen chwedl ofergoelus a mwyhau eu dychryn. Darfu i'r un bregeth hon fwrw diflasdod ar hen arferion bryntion yr ardal, a gwneyd y chwareuon yn anmhoblogaidd. Dywedai hen ŵr wrth y diweddar Barch. Thomas Evans, Risca: "Ni chefais flas byth mwy gyda'r bêl droed, er fy mod yn flaenorol yn un o benaethiaid y gamp. Pan aem i chwareu, dychymygwn, yn arbenig os byddai wedi machlud haul, fod y diafol yn bersonol yn ein mysg." Y dyb gyffredin gan drigolion y fro oedd fod y gŵr a fu yn pregethu ar Dowyn Tudur wedi rheibio y chwareu. Cyffelyb a fu yr effeithiau mewn ardaloedd eraill, er nad oes genym hanes mor fanwl am danynt. Dywed Edmund Jones [1] ddarfod i lawer gael eu hachub y pryd hwn yn Mlaenau Gwent, ac Ebbwy Fawr; ymunodd rhai o honynt ag Eglwys Loegr, eraill a'r Bedyddwyr, ac eraill a'r Annibynwyr. Dylid cofio mai ardaloedd amaethyddol oedd y rhai hyn y pryd hwnw, mai ffermwyr a'u llafurwyr a drigianai yma, a bod y wlad o ganlyniad yn anaml ei thrigolion. Meddai E. Jones: " Adeg ddedwydd oedd hon yn Ebbwy Fawr, y fath na welwyd, yr wyf yn credu, na chynt na chwedi hyn. Gallai un feddwl fod yr holl ddyffryn yn troi at Dduw. O ddau-ar-bymtheg-ar- hugain o dai, nid oedd ond saith, os oedd cynifer, i ba rai nad oedd Gair yr Arglwydd wedi treiddio. Yr oedd y bobl a dueddent at grefydd yn llawer amlach na'r lleill."

Bendithiwyd gweinidogaeth Harris y tro hwn er argyhoeddiad i amryw a ddaethant yn ganlynol yn bregethwyr, megys Phylip Dafydd, yr hwn a fu yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Mhenmain am agos i haner can' mlynedd; Thomas Lewis, yr hwn a gafodd ei benodi yn arolygwr yr achosion Methodistaidd yn y rhan agosaf i Loegr o Fynwy; John Powel, yr hwn oedd frodor o Frycheiniog, ac a ddygasid i fynu mewn tafarndy; ynghyd a Morgan John Lewis, gweinidog cyntaf eglwys y New Inn, am yr hwn y cawn son eto. Yn bur fuan, cawn seiadau wedi cael ei sefydlu yn y Goetre, Glascoed, Mynyddislwyn, Llangattwg, Trefethin, Llansantffraid, Llangattwg-ger-Caerlleon-ar- Wysg, Llanfihangel,



Nodiadau[golygu]

  1. History of the Parish of Aberystruth