Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-14)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-13) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-15)

fyned ar daith trwy ranau helaeth o Forganwg a Mynwy Awst neu Medi, 1738, ac i'w weinidogaeth brofi yn nodedig o fendithiol. Ysgrifena y Parch. David Williams ato, Hydref 17, 1738, fel y canlyn: "Bu y dygiedydd yn bur wyllt, ond y mae wedi diwygio yn fawr. Oddiar pan y gwrandawodd chwi ddiweddaf yn ein plwyf ni, â i bob cyfarfod sydd o gwmpas, nosweithiau gwaith yn gystal a'r Sul. Y cyfarfodydd yma ydynt yn orlawn. Y mae un-ar-bymtheg wedi anfon cais am ddyfod i'r cymundeb nesaf yn Nghaerdydd. Y mae genym ysgol Gymraeg yma yn myned ar gynydd." Yn mhen y mis ysgrifena drachefn: "Y mae genym ysgol Gymraeg fawr, yn yr hon y mae gweddïo wedi dyfod yn ffasiynol, a theimlwn awydd sefydlu un arall. Sefydlir cyfarfodydd gweddi yn mhob man. Derbyniwyd dau-ar-bymtheg i gymundeb y Sul diweddaf, ac y mae rhagor wedi cael eu cynyg. Gwelir gwedd gysurus ar bethau yma yn bresenol." Diwedda Mr. Williams trwy ddymuno am ymweliad arall o gwmpas y Nadolig, er na ellid disgwyl iddo bregethu yn yr awyr agored yr adeg hono o'r flwyddyn. Yr ydym yn difynu y ddau lythyr diweddaf, nid yn unig oblegyd eu dyddordeb, ond hefyd fel prawf ddarfod i Howell Harris ymweled a rhanau helaeth o Fynwy a Morganwg, Awst neu Medi, 1738, ac i'w daith fod yn dra bendithfawr. Pe na fuasai Mr. Harris wedi medru cydsynio a'r gwahoddiadau taer blaenorol, y mae yn mron yn sicr mai tôn siomedig fuasai yn rhedeg trwy y llythyrau hyn. Yn lle hyny, mawl oblegyd llwyddiant sydd yn eu llenwi. Fel ffrwyth ei lafur sefydlwyd amryw eglwysi yn Morganwg cyn diwedd 1738, yn mysg pa rai yr oedd Caerdydd, St. Ffagan, Eglwysnewydd, Pentyrch, Aberthyn, Llantrisant, Tonyrefail, a. Llanwono. Enillwyd amryw deuluoedd hefyd at Fethodistiaeth a_ ystyrid fel yn perthyn i fonedd y tir. Cawsai yr Yswain Jones, o Gastell Ffonmon, ei argyhoeddi wrth wrando Howell Harris yn pregethu yn Aberddawen. Aethai Mr. Jones tuag yno, gyda nifer o foneddigion, a'i gleddyf noeth yn ei law, er rhwystro y cyfarfod. Ni ddarfu i'r olwg arno ddychrynu y llefarwr o gwbl; yn hytrach ceisiodd gan y bobl ymwahanu a rhoddi ffordd, a throdd i bregethu yn yr iaith Saesneg, fel y gallai y boneddwyr ddeall. Aeth ceffyl yr yswain yn sicr yn y llaid fel nas gallai symud; gorfodwyd y marchogwr felly i wrando gwirionedd Duw o'i anfodd; ond aeth saeth i'w galon; tynodd ei het mewn parchedigaeth, agorodd ei galon i dderbyn yr efengyl, ac aeth yn ei ol i'w gastell a'r pregethwr gydag ef. Cyfododd bwlpud yn ei dŷ at wasanaeth y llefarwyr; daeth ei balas ar unwaith yn gartref y Diwygwyr pan ar eu teithiau, ac ymddengys y cynhelid pregethu rheolaidd yno trwy ystod oes y boneddwr, ac am flynyddoedd gwedi. Yma y lletyai Whitefield pan ar ei daith trwy y wlad. Boneddwr arall a gafodd ei argyhoeddi y pryd hwn oedd Mr. Howell Griffith, o Drefeurig, palasdy rhwng Llantrisant a Thonyrefail, yr hwn, fel y mae yn amlwg oddiwrth ei lythyrau at y Diwygwyr Saesneg, a gawsai addysg dda. Daeth ef yn bregethwr, a'i dŷ yn gartref Methodistiaeth. Un arall eto a gafodd ei enill yr adeg hon oedd Thomas Price, o Watford, ger Caerphili, yr hwn a elwir gan Williams, Pantycelyn, yn ei farwnad i Grace Price yn "Price y justice." Daeth yntau hefyd yn bregethwr. Cawn amryw eraill, yn cael eu dwyn tan ddylanwad yr efengyl, a ddaethant yn bregethwyr, neu, fel eu gelwid y pryd hwnw, "cynghorwyr." Yn mysg y rhai hyn yr oedd Thomas Williams; William Edwards, adeiladydd pont enwog Pontypridd; a John Belcher. O'r rhai hyn, John Belcher oedd y dysgleiriaf ei ddoniau; cafodd ef ei anfon yn un i'r Gogledd er mwyn ceisio efengyleiddio y wlad, a dywedai yr hen John Evans, o'r Bala, am dano "ei fod yn ddyn gwrol, o gyneddfau cryfion, ac yn bregethwr da."

Fel y darfu i ni sylwi, nid oedd Howell Harris wedi tori allan unrhyw gynllun iddo ei hun ar y cychwyn; ni thybiasai ei fod wedi cael ei alw i fod yn bregethwr, credai yn benderfynol nad oedd; rhyw reidrwydd mewnol a'i gorfodai i rybuddio dynion am eu trueni ysprydol. Ond wrth weled y dylanwadau rhyfeddol oedd yn cydfyned a'i ymdrechion, a'r arddeliad oedd ar yr anerchiadau a draddodai, daeth i deimlo yn raddol mai cyhoeddi Crist yn Geidwad oedd gorchwyl mawr ei fywyd i fod. Ail-adnewyddodd hyn ynddo y duedd am ordeiniad. Yn ei ddydd-lyfr am fis Hydref, 1737, ceir a ganlyn: "Bedw (Aberdw?) Sul, y 30. Sacrament. Codi gwedi saith. Marwaidd fel arfer. Dymuniadau heddyw am gael fy argyhoeddi o'm camsyniadau. Gwedi wyth, myned tua



Nodiadau[golygu]