Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-15)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-14) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-16)

chapel Dyffryn Honddu; ar y ffordd myfyrio ar y sacrament, gan deimlo yn orlwythog o ofnau. Yn y capel am enyd yn farwaidd; gwedi hyny dymuno am gael bod yn oleuni i'r byd, gan fod mewn trallod tumewnol mawr gyda golwg ar beth i'w wneyd, gan yr ofnwn gymeryd fy ordeinio rhag i mi gael fy rhwystro i fyned o gwmpas. Ond goleuwyd fi i ganfod, os yw Duw yn fy ngalw y byddai iddo gadw y drws yn agored i mi, gan osod yn nghalonau rhai i ganiatau i mi ddyfod i'w heglwysydd." Teifl y difyniad hwn ffrwd o oleuni ar agwedd meddwl Howell Harris. Gwelir iddo, wedi cryn bryder a therfysg meddwl, ddyfod i benderfyniad i wneyd cais am ordeiniad; mai ei amcan wrth wneyd y cyfryw gais oedd, nid cael bywioliaeth fras, na chael cyfleustra i efengylu o fewn cylch cyfyng plwyf, ond symud ymaith yr afreoleidd-dra a berthynai i'w waith, fel na byddai mwy yn myned o gwmpas i bregethu heb awdurdod ac ordeiniad esgobol; ac mai yn yr hyder y teflid eglwysydd y wlad yn agored iddo mewn canlyniad y daeth i'r cyfryw benderfyniad. Y mae y weddi, "dymuno am gael bod yn oleuni i'r byd," yn dra arwyddocaol, ac yn profi na dderbyniai ordeiniad ar yr amod iddo roddi y teithio i fynu. Y mae yn sicr ddarfod iddo gario ei benderfyniad allan, ac appelio am ordeiniad at yr esgob; dywed Whitefield iddo appelio ddwy waith, a chawn iddo wneyd hyny y drydedd waith. Ond yr oedd afreoleidd-dra ei ymddygiad, a'r ffaith ei fod yn un o'r Methodistiaid dirmygus, yn rhwystr anorfod ar ei ffordd i gael urddau. Trodd yr esgob ef heibio ar y tir ei fod yn rhy ieuanc, "er," meddai Whitefield, "ei fod ar y pryd rhwng dwy a thair-ar-hugain mlwydd oed, ac yn meddu pob cymhwysder ar gyfer urddau sanctaidd. "Eithr er cael ei wrthod yn ei gais, ni roddodd Harris i fynu fyned o amgylch a chynghori. Ar yr un pryd, ymddengys ei fod mewn pryder dirfawr gyda golwg ar ei ymddygiad; edrychai arno ei hun fel un hollol afreolaidd. Ar y naill law, gwelai dân y diwygiad yn ymledu trwy ei offerynoliaeth, eneidiau gwerthfawr yn cael eu hachub, y meusydd yn wynion i'r cynhauaf, anfoesoldeb y werin yn toddi ymaith tan ddylanwad yr efengyl, a rhagluniaeth yn agor drysau newyddion iddo yn barhaus. O'r tu arall, ni wyddai am neb diurddau yn myned o gwmpas i gynghori ond ei hunan. Yr oedd yr Ymneillduwyr lawn mor wrthwynebol i weinidogaeth leygol a'r Eglwyswyr. Cawn hyd yn nod John Wesley, a hyny mor ddiweddar a'r flwyddyn 1742, tua saith mlynedd gwedi i Howell Harris ddechreu ar ei waith, yn cyffroi trwyddo pan y clywodd fod Thomas Maxfield, y lleygwr, wedi ymgymeryd a phregethu, ac yn rhuthro i fynu i Lundain mewn nwyd er mwyn ei rwystro. Ond lliniarwyd llid Wesley gan ei fam. "Cymerwch ofal pa beth a wnewch, John," meddai wrtho; "y mae y dyn ieuanc yna wedi cael ei alw gan Dduw i bregethu mor wir a chwithau."

Ni fynai Howell Harris ychwaith ymuno a'r Ymneillduwyr, er mwyn dwyn ei weithrediadau o'r tu fewn i derfynau rheoleidd-dra; yr oedd eu deddfoldeb, eu dadleuon, eu rhagfarnau, ac yn arbenig eu hoerni crefyddol yn annyoddefol iddo, er fod ganddo barch mawr i'w gweinidogion efengylaidd, a'i fod yn cydweithredu yn galonog â hwy. Rhwng pob peth yr oedd ei feddwl yn gythryblus ynddo, a gwnai aml gyhuddiadau yr offeiriaid a'r gweinidogion Ymneillduol anefengylaidd y cythrwfl yn fwy. Ond penderfynu myned yn mlaen a'i waith a wnaeth er pob peth. A diwedd y flwyddyn 1738, derbyniodd lythyr calonogol oddiwrth Whitefield. Ewch yn mlaen, anwyl frawd," medd y Diwygiwr Seisnig, "ewch yn mlaen; ymgryfhewch yn yr Arglwydd, ac yn nghadernid ei allu ef. Y mae, a bydd, llawer o wrthwynebwyr, ond nac ofnwch. Bydd i'r hwn a'ch anfonodd eich cynorthwyo, eich cysuro, a'ch dyogelu, a'ch gwneyd yn fwy na choncwerwr trwy ei fawr gariad. Fy anwyl frawd, yr wyf yn eich caru yn ymysgaroedd yr Arglwydd Iesu, ac yn dymuno i chwi fod yn dad ysprydol miloedd, a llewyrchu fel yr haul yn y ffurfafen yn nheyrnas ein Tad Nefol. Fy serch calonog at Mr. Jones (Griffith Jones, Llanddowror). O! fel y llawenychaf eich cyfarfod gerbron mainc Crist." Y mae y llythyr hwn yn ddyddorol ar gyfrif mai dyma yr ymgyfathrach cyntaf rhwng y Diwygwyr Cymreig a Methodistiaid Lloegr. Llonodd ei gynwys yspryd Howell Harris yn fawr; yr oedd iddo fel dyfroedd oerion i enaid sychedig; cadarnhawyd ef yn ei gred ei fod tan arweiniad yr Yspryd Glân. A diau fod ei ddylanwad yn fwy, gan mai gŵr wedi derbyn urddau esgobol, ac o enwogrwydd gweinidogaethol digyffelyb, oedd wedi ei ysgrifenu. Ysgrifenodd yntau lythyr caruaidd yn ol



Nodiadau[golygu]