Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)/Howell Harris (tud-16)

Oddi ar Wicidestun
Howell Harris (tud-15) Y Tadau Methodistaidd Cyfrol I (tudalenol)

gan John Morgan Jones

Howell Harris (tud-17)

yn fuan, yn rhoddi byr hanes am y diwygiad yn Nghymru. Gwedi ei dderbyn dywedai Whiteheld: " Y mae Mr. Howell Harris a minau yn gohebu; bendigedig fyddo Duw! Bydded i mi ei ganlyn fel y mae efe yn canlyn Iesu Grist. Gymaint yn mlaen yw efe arnaf!" Dyma ddechreuad ymgyfathrach a ddaeth yn gyfeillgarwch o'r fath fwyaf anwyl, ac a barhaodd tra y buont byw ill deuoedd. Tawelodd llythyr Mr. Whitefield amheuon ei feddwl i raddau mawr; ond dywed na chafodd lwyr ymwared oddiwrthynt nes iddo gael ei wysio i wydd person o urddas i roddi cyfrif am ei ymddygiad, pan y daeth gyda nerth i'w enaid y geiriau sydd yn Datguddiad iii. 7, 8: "Wele, rhoddais ger dy fron ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau." Cwbl gredodd ddarfod i'r geiriau gael eu hanfon i'w feddwl fel cenadwri uniongyrchol oddiwrth yr Yspryd Glân, ac nid amheuodd drachefn.

Nid oedd derfyn ar yni a gweithgarwch Howell Harris, a chawn ef ddechreu y flwyddyn 1739 ar daith eto yn Morganwg a Mynwy. Ceir hanes rhan o'r daith mewn dalenau o'i ddydd-lyfr, o ba un y gwnawn ychydig ddifyniadau. Y mae difynu yr oll allan o'r cwestiwn, ni fyddai pen draw ar y cyfrolau a lenwid, oblegyd ysgrifenai y Diwygiwr yn ddiderfyn; croniclai nid yn unig y digwyddiadau ai cyfarfyddai, ond hefyd ei fyfyrdodau, a theimladau ei galon.

"COLLENE, GER. TREFEURIG, Sul (lonawr 9, 1789). Deffro yn foreu. Codi gwedi wyth. Yn farwaidd mewn dyledswydd, ond yn teimlo dymuniad am fod ar ben fy hun, yn dal cymdeithas a fy Nuw. Marwaidd hefyd yn y weddi deuluaidd. Oddeutu deg, myned tuag eglwys Llanharry; ac ar y ffordd meddwl am yr hyn a draethwn; ond gwedi hyny cefais ystyriaethau ddarfod i Dduw fy ngwneyd er ei ogoniant ei hun. Teimlwn ddiofalwch pa beth a ddeuai o honof, a pha beth a ddywedid am danaf, ond i mi gael fy ngynorthwyo i ogoneddu Duw. O Arglwydd, ai ni wnei ganiatau hyni mi? Nid wyf yn gofyn am ddim arall mewn bywyd. Pe ei caniateid byddwn y dyn dedwyddaf o fewn y byd. Dwfn ddymuniad fy enaid yw bod yn ddim yn fy ngolwg fy hun, a byw i Dduw. Ond och ! pan fyddwyf yn ymadroddi, fynychaf nis gallaf ganfod o ba le y mae yr ymadrodd yn tarddu; a yw yn tarddu oddiar ras, a chariad at Dduw, ynte oddiar yr arferiad o siarad. Myned i eglwys Llanharry gwedi un-ar-ddeg (yn agos i ddeuddeg). "Teimlo ar y cyntaf yn gysglyd; gwedi hyny llanwyd fi oddimewn a thosturi at yr eneidiau oedd o'm cwmpas. Gwedi tri, myned allan, a gweled pobl ddeillion yn mhob man yn halogi Dydd yr Arglwydd mewn anwybodaeth, a chael fy llanw a thosturi atynt. Yna tynwyd fi allan i weddïo: "O Arglwydd, anfon ddynion ffyddlon i'th winllan! O Arglwydd, ai nid ydwyt yn Dduw trugaredd ? O, ai nid dy gariad a ddanfonodd dy Fab i' byd ar y cyntaf? O, ai nid ydwyt eto yn parhau yn Dduw y cariad? O, ai nid ydwyt yn canfod dy greaduriaid tlawd mewn anwybodaeth o honot ti yn mhob man? Anfon weithwyr!" Wedi hyn, gorchfygwyd fi gan deimlad anniddig ac anfoddog, nes y darostyngwyd fi, wrth ganfod mor lleied or ddwyfol natur ynof. Ofnwn fyned i lefaru heno, gan fy mod wedi fy llenwi a meddyliau angharedig am gyfeillion anwyl, yn enwedig Mr. Edmund Jones. Daeth hunan i mewn, i holi beth a ddywedwn heno, gan ei fod ef (Edmund Jones, yn ddiau) wedi dyfod i'm gwrando. Myned i fysg y bobl o gwmpas chwech, pan oedd Mr. Henry Davies yn gweddïo, pan y dygwyd fi i deimlo mwy o'm hanneilyngdod, ac i ddymuno ar i rywun arall gymeryd y gwaith mewn llaw. O, yr wyf wedi fforffetio pob ffafr; delir fì i fynu yn unig gan hyn, y gall Duw fy nghynal, ac nad yw yn rhoddi cymorth er fy mwyn i, ond er mwyn ei Fab. Y mae dau beth, y rhai, pe y caem olwg arnynt, a'n cyfnewidiai yn fawr; golwg arnom ein hunain, a golwg ar Dduw yn ei holl briodoleddau. Cynorthwywyd fi i orchfygu y teimlad slafaidd, hunangeisiol, o geisio boddhau dynion. Yn y man cefais ddrws agored, (dangosais) yn y modd mwyaf arswydus a chryf fel y caiff y duwiol fwynhau Duw mewn cariad, a'r annuwiol mewn dychryn, a hyny yn fwy argyhoeddiadol nag erioed, ac heb dderbyn wyneb. (Dangosais) o ba beth y mae uffern wedi cael ei gwneyd, a'r modd y mae rhieni yn dwyn eu plant i fynu." Wedi myned dros lawer o'r pethau a draethwyd ganddo, ychwanega: "Cefais ryddid. ymadrodd mawr mewn gweddi ar y diwedd. Yr oeddwn yn wan iawn o ran fy nghorff o eisiau bwyta, ond gweddïais am nerth, A CHYNORTHWYWYD FI. Yn ganlynol, wedi mwynhau cymdeithas cyfeillion, i gyflawni fy awenydd, derbyniais lythyr oddiwrth Mr. Whitefield. Ac wrth weled ei fod yn



Nodiadau[golygu]